Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

25 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

I Y DDIRPRWYAETH AR YR EGLWYS…

STREIC Y MEDDYGON YN NGWRECSAM.

PROFFESWR NEWYDD I GOLEG Y…

[No title]

HELYNT Y FFYRDD HAIARN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HELYNT Y FFYRDD HAIARN. TEA yr ydys yn ysgrifenu nid oes dim cyf- newidiad o bwys wedi cymmeryd Ile yn Myd y Ffyrdd Haiarn.' Yr oedd pen- derfyniad yr amrywiol ddosbarthiadau o weithwyr i ymuno mewn cydweithrediad yn yr argyfwng yn cael edrych arno gan lawer fel yn taflu y gobaith am heddweh yn mhellach draw. Ond, nid dyma y golygiad a gymmerir yn gyffredinol. Yn ninas Llun- dain ddechreu yr wythnos hon cododd prisiau rhai railv,ay stocks, ac mewn un yn unig llinell Brighton y bu unrhyw ostyngiad; a'r gostyngiad hwnw i'w briodoli nid i anhunedd rhwng y cwmni a'i wasan- aethyddion, ond i adroddiad eithriadol o anffafriol am y drafnidiaeth. Effaith y gynnadledd a fu yn Manchester fu gwneyd i'r dynion deimlo i fesur yn fwy hyderus ac os a yr holl weithwyr a gynnrychiolid yn y gynnadledd hono allan ar streic, nid ydyw yn hawdd gweled pa fodd y gellir cario gwasanaeth ein ffyrdd haiarn yn mlaen o gwbl. Cred cyfarwyddwyr y ewmniau, neu o leiaf dyna a ddywed y rhai a broffesant eu bod yn gwybod eu meddyliau ydyw, na bydd i'w gweithwyr eu gadael. Er y gall y mwyafrif mawr o honynt ddadgan eu hunain yn y bleidlais yn barod i streicio, etto, tybiant mai nifer fechan iawn o hon- ynt a wnant hyny yn weithredol, eithr dal at eu gorchwylion. Pa sail sydd gan y cyfarwyddwyr a'u cyfeillion dros goleddu y syniad hwn, nid ydym yn gwybod ac nid oes neb. gyda'r eithriad, o bossibl, o Lywydd y Bwrdd Masnach, yn debyg o gael gwybod. Rhaid rhoddi prawf gweithredol ar y peth cyn y caiff y cyhoedd wybodaeth sicr yn ei gylch. Pan y daw Mr. Lloyd George wyneb-yn-wyneb a'r cyfarwyddwyr, nid cwestiynau ynghylch cydnabod nac ail drefnu cymdeithas y dynion yn unig a fydd ganddo i'w gofyn. Yn mysg amryw bethau eraill, y mae efe yn Weinidog y Eheilffyrdd neu, o'r hyn lleiaf, y peth agosaf i Weinidog y Rheilffyrdd, a feddwn ni yn y wlad hon ac am hyny bydd efe heddyw yn rhwym o ofyn cwestiynau i'r amrywiol gyfarwyddwyr ynghylch y modd y bwr- iadant hwy gario eu gwaith yn mlaen ar hyd eu llinellau, os digwydd streic yn mysg eu gweithwyr. Teimla pawb, ar wahan i bob syniadau politicaidd yr ymddiried llwyraf yn Mr. Lloyd George i ymgymmeryd a'r dasg o wneuthur cymmod rhwng y meistriaid a'u gweithwyr. Hyderus obeithir y llwydda yn ei amcan. Yr ydym yn sicr y defnyddia efe ei holl ddoethirieb, a phob awdurdod a fedd, i gadw llinellau ein ffyrdd haiarn rhag myned dan deyrnasiad streic.

. YNYSOEDD Y 'COCOA.'

. MR. MORLEY AR YR INDIA,

. RHY HEN I

Y DDAMWAIN YN YR AMWYTHIG.

---'--------------.-4 NYES…

TEULU YN NEWYNU.

I : 'SARDINES' YN ACHOS 0…

YR EGLWYSWYR A CHYFRAITH PRIODAS.'

[No title]

[No title]