Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

LLANBEDR-PONT-STEPHAN.

CORRIS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CORRIS. Chwarelyddol.- Y mae yn dda genym allu dyweyd fod olwynion masnach yn dal i droi ychydig o liyd yn yr ardal hon. Y mae yma bedair o dhwarelau yn dal i weithio yn gys- son, sef, Llwyngwern, Ralltgoed, Abercorris, ac Aberllefeni; er nadyw yr olaf yn gweith- io ond pum' diwrnod yr wythnos, ac y imae yma nifer lied dda o ddynion labechgyn ieu- aingc yn gweitliio yn mliob un o honynt. Hefyd, y mae yma ddau waith enamelio yn gweithio yn gysson, ac ychydig yn cael gwaith yn mliob un o honynt. Ond yr hyn sydd wedi creu llawenydd cyffredinol yma yn ddnveddar oedd clywed a gweled cynnhwrf yn chwarel y Braichgoch, yr hon sydd wedi bod yn sefyll aim ddwy flynedd o amser. Disgwjdiwn weled nifer dda o weithwyr yn ymlwybro at eu gwaith yn hon yn fuan, gan fod parotoadau wedi eu gweled eisoes tuag at ail agor y chwarel gan gwmni newydd. Hwyddfant.—Da genym allu hysbysu am lwyddiant Miss C. M. Roberts, merch Mr. H. S. Roberts, Ysgol y Cynghor, yn pasio arholiad y Bwrdd Oalonog Cymreig am y dystysgrif uchaf, gyda rhagoriaeth mewn 'mathematics.' Hefyd, wedi bod yn Uwydd- iannus yn arholiad diweddaf y Matricula- tion Cymreig i basio yn y Dosbarth cyntaf. Un o ddysgyblion Ysgol Sirol Towyn ydyw hi. Y mae, hefycl, wedi ei phennodi yn ath- rawes gynnorthwyol yn Ysgol y Cynghor, yn Aberllefeni. Eidclunwn iddi bob llwyddiant etto yn y dyfodol.

SEION, GER TREFFYNNON.

ELLIS WYNNE 0 LASYNYS.

GYMMERWCH HWN HEDDYW AT EICH…

Advertising

I TG CYNGHOR GWLEDIG CONWY.I…

CYFARFOD RHYDDFRYDIC YN SHOTTON.

[No title]