Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Oldest Drapery Establishment in the Vale of Conway. L. WILLIAMS & SONS, Gwydyr House, LLANRWST. I Stock replete with all requisites for the FURNISHING SEASON. CARPETS & CARPET SQUARES, HEARTHRUGS, MATS, LINOLEUMS AND OILCLOTHS, WINDOW CURTAINS & BLIND MATERIALS. A Splendid Assortment of TABLE COVER WHITE & COLORED COUNTERPANES. HOUSEHOLD LINEN. Agents for Messrs. Pullar and Sons and Messrs. Achille Serre. 2760 Good Cheer for Christmas! may be ensured by patronising WILLIAM HARRIES, whose excellent stock of Groceries, including Christmas Dainties, are well selected, and are offered at exceptionally low prices. A trial will convince you that THE TALIESIN TEA MART (OPPOSITE THE BAPTIST CHAPEL), ABERGELE ROAD, COLWYN BAY, is truly a reliable and cheap shop. 2074 W. HARRIES, Proprietor. 907. of HEADACHES are caused by Eyestrain. CURED PERMANENTLY BY GLASSES. EYE REST FOR TIRED EYES is obtained from our SCIENTIFICALLY FITTED LENSES. R. G. OWEN, F.S.M.C. Ophthalmic Optician, LLANRWST. T CONWAY FIRST FRIDAY IN EVERY MONTH. ^— 2866 E LLOYD JONES, 49ricultural Implement Dealer p FURNISHING IRONMONGER, Ac., ^ber, Gasfitter, and Hot Water Engineer, WATLING STREET, L LAN R W ST. 16 1860 J. ROBERTS & SONS, Winters & Paperhangers, n.# DEALEBS IN U«s, Paints, Colours, Varnishes, Brushes, Paperhangings, &c. lists' Colours and Materials, R°°m and Picture Mouldings, frames, Mounts, Glass, &c. "NWAY TERRACE, LLANRWST. To Economical Honsekeepers. (JK1° Ghina Shops and buy Crockery-Wan { Cft Cracks, and Breakt, and Falls, and £ >* Smashes, when you can get from 9. BHVAN & COMPANY, The Big Ironmongers, EOAD, COLWYN BAY BEAUTIFUL ENAMELLED IRONWARE Comeatio Purposes, which is Durabli and Lasting. nUnortal 'till its work is dona." 1556 ^ARLINGTON'S HANDBOOKS. •<ls8ilfe- n Henry Ponsonby is commanded by the I* e,etl to thank Mr. Darlington for a copy of .>thitohifilandb°ok-" •i iA briii;, could be wished for.—British Weekly ^ostbook. the Times. artic)ii„i ally tops them all.—Daily Graphic. 'SlTfm sood-academy. URS TO LONDON SHOULD USE I a ARLINGTON'S "NDON 3rded"V°fvi«d,5„ AVj. New Maps and Plans By E. C. COOK and 24 Maps E. T. COOK, M.A. and Plans. IRONS. t'onf™- Valwri0lton' Eastbourne, Hastings, Bournemouth. tr"' Severn Valley, Bath, Weston-super-Mare, Llan nn^i i Worcester, Gloucester, Uandrindod ispu11 aerim»i,„.ena> Llandudno, Colwyn Bay, Conway, Haw Vs-y-0<wi r,Llanfaii'fechan, Bangor, Carnarvon, the %0llth fv; Snpwdon, Bhyl, Dolgelly, Aberystwyth Islo otfol'if 'CCleth, Phllheli, Norwich, Yarmouth', and shoui^r^ggS' W'ght, and Channel A ti'" I>NGTON'S HANDBOOKS, IS. each. tr ^booi tnSP™Ls. OP THE WORLD, I/- Leading Hotels throughout the World Np'tP4blington & Co- LONDON SIMPKIN'S & Pakis BRENTANO'S. Bookstalls, and all Booksellers. etc? ~Beautiful Photographs of Scenery Q' 6enmn,.L. v, Greece, Turkey, Russia, Norway' n'ls-> IS M f^estine and Egypt, also North Co., Liångi 2s. List Post Free. DÅRLIGTON 139011eia.
----------Lith Ned Llwyd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Lith Ned Llwyd. Y MAE un brawd yn anfon ataf i gwyno fod merched rhyw le yn mlieli iawn o Golwyn yn dweyd, os nad yn gwneud, ystraeon am ddyn ieuane sydd yn meddwl priodi. Dywedant fod y llanc yn dilyn merched eraill o G-. Y mae yn gofyn a ydynt hwy yn gallu profi hyny am dano. Os y gallant, y mae yn eu cymhell i wneud hyny yn y "Pioneer." Doethach fyddai myned at yr un sydd yn euog, a siarad a hi. An- hawdd iawn ydyw llywodraethu tafodau merch- ed-a dynion hefyd, o ran hyny. Mi fydd llawer yn chwilio tir a mor, ac yn wir tu drSSw i'r mor, am gael rhywbeth i ddweyd am lawer, os bydd hyny yn ateb eu pwrpas hwy. Nid ydyw addaw cyhoeddi eu henwau yn cael fawr Go effaith ar cyhoeddi eu henwau yn cael fawr o effaith ar gors" a minau dr-eio rhyw gynllun arall. LLYTHYR TOM BRIAN. Fe gofir imi addaw cyhoeddi llythyr caru don- iol y brawd hwn. A ydyw ef yn frawd i "Will Bryan, tybed, ynte mab i hwnw ydyw? Un o'r llythyrau anfonwyd i'r gystadleuaeth ydyw, ac fel y gwelir y mae yn ddoniol iawn, ond wn i ddim a fuasai yn ddydgel iddo gyfarfod "Mary Jane" tasa to wedi anfon y llythyr hwn ati. Ond dyma fo — Glan-y-Mor, T.lanfair y Medd, December 7, 1901. Fy Anwyl Mary Jane,—Bydd rhywbeth rhyf- edd yn myned drwy fy hoil gyfansoddiad bob tro y clywaf eich henw. Mae rhyw fiwsig rhyfedd iawn ynddo. Wel, mi dderbyniais eich llythyr, a chefais fy meddianu gan y fath lawenydd fel ag y bu'm agos iawn i bedair awr heb dd'od ataf fy hun, a sylweddoli mai ar ganol godro'r fuwch yma yr oeddwn. Peth rhyfedd iawn ydyw buwch, ynte? Mae yn ddefnyddiol iawn i lawer 00 bethau, a byddaf yn meddwl am dani rywfodd bob tro y gwelaf chwi. Wel, mi ddarllenais eich. llythyr i gyd drosto, o'r dechreu i'r diwedd. Bu'm yn cusanu yr envelope am amser hir iawn, ac mi 'roeddwn yn clywed eich bias arno o hyd. 'Rwyf yn nabod1 y bias yn iawn rwan, fyddai i byth yn clywed yr un Mall yr un flas rywsut. Tro iawn wnaethoch hefo Wil Morris os daw o yna i gynyg i hun eto, deudwch wrtho fod 00 yn wirion iawn, ac y dyla fod yn ddiolchigar am i fod o yn rhydd. Yr wyf yn methu yn lan a gwei'd yr amser yn myned heibio yn ddigon buan er mwyn i mi gael d'od i edrych am dan- och y Nadolig yma. Mi gawn hwyl iawn; mae genyf lot 0 bres wedi cadw, agos i bedwar a chwech. Cawn fyn'd i 'steddfod Bron y Gwynt, ond y chwi sydd yn fy meddwl o hyd. Fel y byddaf yn eich gwasgu, a'ch cusanu. Felly y buasai pawb yn gwneud pe buasent yn eich gwei'd mor glws a fi. Mae harddweh eich Ily- gaid a'ch trwyn mor anghyffredin rywsut fel na fyddaf byth yn eu hanghofio. Anhawdd iawn ydyw anghofio pet'hau mawr rywsut. Mi welais y Wyddfa unwaith, a byddaf yn meddwl am dani bob tro y gwelaf ryw fryw bychan am ei bod hi Igymaint yn fwy, ac felly am eich llygaid a'ch trwyn chwithau. Does dim cydmariaeth rhyngddynt a rhyw ferched eraill y byddaf yn edrych arnynt, ond waeth i mi heb siarad. Wel- ais "i neb tebyg i chwi yn lle'n byd. Rhaid fy mod wedi bod yn lwcus iawn i dd'od ar eich traws. Noson. dywyll iawn oedd hi pan ddois i os ydych yn cofio. Mae yn dda iawn genyf eich bod yn son am briodi; buasai yn dda iawn genyf gael gwneud. Mi brynais ornament neis iawn yn sale Ty Mawr; bu agos iawn i mi brynu gwely hefyd, ond nid oedd genyf ddigon o. bres, ond yr oeddwn yn meddwl fod yn well dechreu prynu rhywbeth bellach. Mi fydd yn barod er- byn y daw yr amser pan fyddaf i a chwithau yn wr a gwraig i rywun. Yr wyf wedi cael llythyr o Danyfron eisiau i ni dd'.od yno i swper. Y maent yn myn'd i ladd yr hen geiliogwydd gwyn hwny 'leni, hwnw oedd yn rhedeg ar eich hoi pan oeddych yn hogan bach. Mae'n siwr y cawn ni hwyl iawn. Mae o wedi cael amser i fatu sa'im bellach. Mae dwfr yn d'od o fy nan- edd wrth feddwl mor flasus fydd. Drwg genyf glywed eich bod yn methu cysgu tan y boreu. Go oer ydyw, mae'n debyg, ond daw yn well cyn bo hir. Gwell dau nag un ynte? Peth iawn fu- asa priodi yn y gwylia yma. Biti na chawn i fwy o gyflog. Pe cawswn i chwecheiniog yn yr wyth- nos at gael te mi fuaswn yn mentro wed'yn. Mae fy mhapur yn darfod; buaswn yn debyg 0 ddal i ysgrifenu am dridiau pe buasa fo'n dal. Peth rhyfedd ydi cariad; mae yn dal heb flino, dal i fyn'd yn ei flaen o hyd; rhyw "felly yn y blaen" fydda i yn glywed gin y cariadau yma o hyd. Yr wyf yn falch dros ben eich bod am aros am danaf, ac yr wyf yn teimlo fy hun fel brenin wrth feddwl am danoch. Fydd neb mor ddedwydd a fi ar ol priodi. vVel yr wyf yn an- fon tair ar ddeg a chwaneg o gusanau i chwi, rhyw gysgod bycilan o'r rhai fydd genyf i chwi y Nadolig yma. Cofiwch anfon eto i ddyweud lie byddweh yn fy nghyfarfod rhag i mi anghofio eich bod yn disgwyl am danaf. x x x x x x x x x x x x x x, a nos dawch. 'Rwyf yn cpfiq atoch yn arw iawn y tro yma eto. Hyn oddiwrth eich cariad, TOM BRIAN. Y mae cael llythyr caru yn gwneud llawer o ddaioni weithiau. Yr oeddwn yn clywed y dydd o'r blaen am eneth oedd mewn poenau mawr, ond daeth y postman a llythyr iddi a mi fend- iodd yn y fan. Dylai y rhai sydd yn anfon yn nno peth fel hyn; Y mae rhai merched nas gallant aros ond yc'hydig heb glywed neu wreled eu cariadau. Y mae merch sydd heb fod yn mhell o Golwyn Bay y mae yn rhaid iddi hi gael myned i'r shop at ei chariad bob dydd tua'r adeg ciniaw, ac er hyny mi gewch eu gweled gyda'u gilydd y Sabboth wed'yn. Mi gewch we-ed ei llun yn fuan i edrych fyddwch yn ei hadnabod. PRYNU Y "PIONEER." Nid ydyw ei bris ond ceiniog, ac nid ydyw hyny yn llawer i neb, ond yr wyf wedi clywed fel y mae ambell un yn cael arbed eu ceiniog. Mi gewch eu gweled yn cymeryd arnynt fod ar- nynt eisiau y papyr i rai sydd yn ei brynu yn rheolaidd. Y mae y dosbarthwr, wrth gwrs, yn eu credu. Yna wedi iddynt hwy weled "LIIth Ned Llwyd" a phris y tatws yn Llanrwst neu rhywle arall ant ag ef i'r un sydd yn talu am dano. Tro go wael ydyw peth fel hyn. Mi 'rwyf wedi clywed am rai yn gwneud yn ami Tawn, ac yr wyf yn gofyn am i'r enwau oil gael eu hanfon i mi a chyhoeddi list gyflawn o hon- ynt. Os ydyw yn werth ei ddarllen ganddynt fe ddylai fod yn werth talu am dano. a gobeithiaf y gwnant felly o hyn allan. Y mae rhagor i ddweyd ar y mater hwn, a phethau eraill, ond rhaid gadael ar hyn y tro hwn. COR LLYSFAEN. Yr wyf yn ddiolchgar am y ddau lythyr anfon- wyd ac a gyhoeddwyd yr wythnos ddiweddaf. Yr wyf yn mawr gymeradwyo y syniad o roddi cofadail ar feddrod y diweddar Mr Henry Hughes. Ni wneir yn fuan, mae yn debyg, a chan fod yr amgylchiad mor eithriadol beth pe byddai i un o bwyllgorau y cyfarfodydd llenydd- 01 sydd mor fynych yn y cylchoedd roddi gwobr am gael englyn teilwng i'w roddi ar y golofn. Os nad oes hyny, tybed nad oes rhyw nifer o gyfeillion yn barod i gyfranu rhyw swm at wneud i fyny haner gini o wobr? Os oes, anfoner hwy i fyny haner gini o wobr? Os oes, anfoner hwy i mi i'r swyddfa a chyhoeddir yr enwau a'r swm a gyfrenir. Yr wyf yn sicr y gallwn gael gan y ddau frawd teilwng, Penllyn a Liew Tegid, 1 farnu y cyfansodaiadau. l.'wy anfona gyntaf? Nis gallwn wrth feddwl am hyn beidio crybwyll fy mod wedi gweled yn "Papur P.awb" am yr wythnos hon ddarlun da o Mr E. T. Davies, Col- wyn, ac ychydig o hanes ei yrfa fel arweinydd. Y mae y darlun yn rhagorol iawn, ac yn werth i'w gadw. Y mae Catrin yn meddwl am ei roddi mewn ffram o dderw. CONWY. Llawer o ddiolch i'r brawd sydd wedi anfon gwahoddiad i ni ein dau i fyned i'r "coffee sup- per" sydd i fod yn y Town Hall ar y 2gaill o'r mis hwn, ond yr wyf yn ofni na fydd troed Catrin wedi gwella yn ddigon da mor fuan a hyny. Tybed a fyddai yn ddiofal i ni ddwad? Pwy oedd un o'r ddau oedd yn ymyi y Castell y noson o'r blaen yn dweyd y buasai "yn taraw Ned Llwyd a bricsan pe y delai yn agos iddo fo byth." Yn ara deg, machgen i, byddai'n llawer gwell i chwi fod gartref ac yn elch gwely ar haner nos na bod yn wel, mi wyddoch chi, a gwn inau hefyd. "Tasa fatar am hyny, wel tase." JUNCTION. Yr wyf yn cael cwyn fod yma niter o lanciau yn ,smocio ar eu ffordd i'r addoldai ar y Sul, ac yn aros wrth y drysau i orphen smocio eu "cig- arettes" cyn myned i mewn, a'u bod drachefn yn chwilio am. rai eraill i'w llosgi y foment y byddent wedi codi o'u seti ac yn cychwyn allan. Y mae enwaU rhai o'r euogion mewn llaw. Mi fyddai yn ddigon cas ganddynt, 'rwy'n siwr, imi eu cyhoeddi. Y mae digon o. amser i ysmocio, gyfeillion, heb fyned mor eithafol a hyn. Y mae yn arferiad wrthun iawn. A gwnewch beidio rhag bod yn achos cwyno i'r hen ffyddloniaid sydd yna. Newch chi ddim eto, reit siwr? O'r goreu. Da iawn. AT OHEBWYR. J. P. R. (Colwyn Bay).—Gwell genyf beidio ymgeisio am y sedd wag, ond yr wyf yn h,ollol yr un farn a chwi y dylid rhoddi gweithiwr i fewn. Diolch i chwi am addaw eich cefnogaeth pe deuwn allan. Cyfaill.-Y.chydig wyf yn ei wybod am y gyf- raith, ond buasai yn well genyf ddioddef colli ugain o. ieir na myned i gyfraith am un. W. -Fel yr ydych yn dweyd, nid oes un rheswm o gwbl fod gweithwyr, beth bynag, yn colli eu hamser i fyned yn rheithwyr, pan y mae hyny yn golygu ar iddynt golli dyddiau o'u ham- ser a thalu eu costau teithio. Yr wyf yn synu na byddai hyn wedi ei ddwyngerbron y Senedd er's blynyddau, a chael diwygiad. Cymraes.—Cymerwch gynghor. Peidiwch a meddwl am roddi cam mor bwysig heb ymgyng- hori a'ch rhieni, ac yr wyf yn sicr na fydd yn edifar genych. Dolwenydd.—Yr wyf yn ofni fod y cyfeiriadau wneir genych at yr injan ddyrnu yn rhy beryglus i'w cyhoeddi. Bydd yn dda genyf glywed oddi- wrthych eto. Rhaid gadael y gweddill a'r clywedion .hyd yr wythnos nesaf. Yr eiddoch fel arfer, NED LLWYD. "Pioneer" Office, Colwyn Bay. (o) Buddugol yn Horeb, Llanfairfechan, Nadolig, 1901. Goleuni'r byd ydwyt, 0 Iesu hawddgarol, A'th belydr wasgarant y t'wyllwch caddugol; Tra' n hwylio dros donau cynhyrfus mewn pryd- er, Goleu-dwr yw'r Iesu yn nghanol cyfyngder; Bu ami i ganwyll yn goleu trwy'r oesau Gwan gys'god o Haul y Cyfiawnder yn ddiau; O'r dwyrain y cyfyd yr haul mewn ysblander, O'r dwyrain cyfododd Haul Mawr y Cyfiawnder, Yn mhreseb yr asyn yn belydr bychan Y gwelwyd "Goleuni y Byd" yn wan faban; I wel'd' y Goleuni y doethion a ddaethant, A myrdd o angylion ganasant Ei foliant; Gan faint y tywyllwch nis galIent Ei weled, Nis gallodd tywyllwch y doethion amgyffred Fod sylwedd cysgodau yr oesau aeth heibio Mewn cnawd wedi dyfod at ddynion i drigo. Fob canwyll fu'n gysgod o Haul y Cyfiawnder Ddiffoddwyd gan anadl ddrwg pechod ysgeler; Ar gopa Calfaria megiriau annuwiol Fu'n ceisio diffoddi yr Haul mawr tragwyddol; Ond ofer fu ym'gais a dyfais y diafol, Goleuni'r Byd ydwyt a thraidd dy belydron; Ar unwaith i gelloedd dirgelaf y galon ^Dinoetha bechodau a thwyll annuwiolion; Ond goleu hoff ddyru ar Iwybr y Cristion,- A dyma'r Goleuni r'odd olwg i'r deillion, Iachad i rai clwyfus, a bywyd i feirwon Ar Saul yr erlidiwr tywynodd belydrau Rhy danbaid a disglaer i'w gnawdol synwyrau, Goleuni, er hyny, a drodd mor fendithiol, Wnaeth Saul yr erlidiwr yn Paul yr Apostol, Yn llusern ddewisol i gludo'r goleuni I wiedydd pellenig yn llawn o drueni. Oleuni anwyl, 0 bydded i'th wenau Ar dannau y galon dywynu y goleu Nes dwyn pechadur o'i ddu bechodau Yn nes, nes i'r Nefoedd o'i hir-nos nwyfau 0, arwain fy enaid o'i ddu-oer fannau Da Dy ddwyfol aden i'th dwym belydrau; 0, dos, dos ar gynydd gyda'th lwys genad Ar bob pentewyn, O boed i'th dywyniad Ei arwain ef adref o.'i ofer frwydrau I gael "meddyginiaeth o'th es'gyll" yn ddiau. O ail enyn Dy oleuni Disglaer ar fy llwybrau du Er fy nwyn i at yr Iesu, Hwnw yw'r Goleuni cu; lesu anwyl, paid a gadael I anobaith guddio'th wedd; Dyro'th wenau yn fwy disglaer Tra bu'r ochr hon i'r bedd. JOHN ROBERTS. Milton Villa, Llanfairfechan.
Helynt Arianol Rhwng Perthynasau…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Helynt Arianol Rhwng Perthynasau yn Llysfaen. YN Llys y Manddyledion yn Llandudno, dydd Iau diweddaf, erlynodd Sarah Pierce, Llysfaen, John Hughes a'i wraig, Elizabeth M. Hughes, Craigydon, am y swm o £30 a fenthycwyd gan- ddynt oddiwrth Sarah Pierce. Ymddangosodd Mr James Amphlett dros yr er- lynydd, yr hon a ddywedodd ei bod yn chwaer i John Hughes. Yr oedd y d.ffynydd a'i wraig yn byw yn y Junction Stores, ^xysfaen, a chan fod angen arian arnynt i gychwyn busnes yn y lie, cawsant fenthyg arian gan chwaer y diffyuydd. Dywedodd y chwaer,y gwnelai roddi benthyg i'r ddau o honynt. Daethpwyd i delerau, ac ar- wyddwyd papur rhyngddynt, Tohn Hughes yn addaw talu Hog o 30s ar Y 30 ). Dywedodd Richard Jone. i. Mrs Hughes ar- wyddo'r papur nid fel tyst, ond fel cyd-fenthyc- iwr a'i 'gwr. I Gwnaeth Mr Crabbe, twrne, Abergele, gan- iatau yr hawl yn erbyn y gwr, ond gwrthwyneb- odd hyny yn erbyn y wraig. Rhoddodd ei Anrhydedd ei ddyfarniad 0 blaid Elizabeth M. Hughes, ac yn erbyn John Hughes.
--,-------__-------- ------_.---------------_-Barddonaeth.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Barddonaeth. Cyfansoddwyd y ddau benill a ganlyn gan y diweddar Mr Thomas Williams, Dol y Crwm, hen ttaenor parchus yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Seion, Roewen:- Wel dyma fiwyddyn newydd. 'Rol llu flynyddoedd maith, Bob un sydd yn ein carlo. Yn nes i ben ein taith 0, .Dduw, rho fodd i'w threulio Yn deilwng er dy g'od, Cyn myn'd i dragwyddoldeb, I Lie byddwn byth yn bod. 0, Arglwydd, gwna fi'n barod, Cyn myn'd i'r beddrod du Gwir undeb ar wmwydden I ffrwytho, yn Dy dy. Ac yna pan ddel angau Yn mlaen yn llym ei gledd, Mewn undeb llawn a'r Iesu Y dof i'r lan o'r bedd. WEN-ROE. (o) Y penillion canlynol a gyfansoddwyd i Henry Hughes, yr hwn a gyfarfyddodd mor sydyn a'i farwolaeth yn Mhafilion Colwyn Bay, tra yn arwain cor i ganu:- Ton: "Ebenezer." Tra fu'n arwain cor i ganu, Tra 'roedd ef a chalon brudd, Angau 'nghanol gorfoleddu Ddaeth fel cwmwl ganol dydd. Tra fu'n arwain cor i ganu, 'Roedd yn nesu at y bedd; Pan 'roedd angau ar derfynu Ei holl ymdrech am y Nef. Tra bu'r tonau yn ei guro, Ca'dd ei ddwyn i'r dawel lan Lie 'roedd ffrindiau wedi glanio, Lie 'roedd coron ar ei ran. Pan mae dyn ond megis blodyn, Ileddyw'n farw, ddoe yn fyw, Heddyw, oerllyd fedd i'w dderbyn, Ddoe yn lion folianu Duw. Canu 'roedd yn myd helbulon, I blith cerddorion trodd ei wedd I ganu 'gyda'r glan angylion Ar delynau aur y Nef. Na bawn ninau'n medru canu Pan yn myd gofidiau'n byw; Pan mae gorthrwm yn ein llethu Canwn am drugaredd Duw. Hen Golwyn. GWII.YM TKYGAN.
Trefriw.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Trefriw. Nos Iau, Ionawr i6eg, gwahoddwyd parti Mr R. Williams, Church-square, i swper yn Craf- nant House. Eisteddodd tua pedwar ar hugain wrth y byrddau, y rhai oedd wedi eu hulio a phob math o ddanteithion er gvasaiiaeth y corph. Ar ol clirio- y byrddau cafwyd cyfarfod adloniadol, dan lywyddiaeth Mr D. Bibby, pan y cafwyd caneuon, adroddiadau, etc., gan y rhai canlynol :-Mr R. Roberts, Forge; Mr Johnnie Williams,, Miss Lizzie Jones, Min Afon; Miss E. Jones, Crafnant House; Mr R. Williams, Mr R. Evans, Cratnant House Mr Pierce Evans, Mr Edward Williams, Llys Derwen, etc. Y Llyw- ydd a ddywedodd fod yn bleser o'r mwyaf gan- ddo ef gyflwyno diolchgarwch gwresocaf y parti i Mr a Mrs Evans am y modd yr oeddynt wedi darparu ar eu cyfer y noson hono, ac hefyd am yr adeiladaeth i'r meddwl oeddynt wedi ei gael yn y cyfarfod. Dymunai ddatgan ei ofid eu bod yiicolli o'u plith Mr P. Evans, cigydd, yr hwn oedd ar ymfudo i'r Gorllewin pell. Dymunai, ar ran y parti, iddo gael mordai-th. lwyddianus, ac y byddai i'w symudiad fod yn fendith iddo yn mhob ystyr, ac y byddai iddo barhau yn y dyf- odol i roddi ei wasanaeth yn y da, y pur, a'r dyrchafedig, ac y byddai ei fywyd yn y Gorllew- in yn nodweddiadol am fod yn mysg y rhai sydd yn teimlo mai braint a dyledswydd ydyw arnynt wneud yr oil a allont er dyrchafu eu cyd-ddyn- ion mewn rhinwedd a moes. Eiliwyd gan Mr G. Williams, Canol Pentref. Dymunai yn galon- og Dduw yn rhwydd i Mr Evans ar ei ymadaw- iad a'r hen wlad. Dywedodd fod yn dda ganddo et gael gwneud yr oil a allai er gwneud y byd yn well er bod ynddo.. Teimlai yn ddiolchgar am y cariad brawdol oedd yn nodweddu y cyn- ulliad, a gwnaeth sylw fod canu yn rhan gysegr- edilg o addoliad, ac mai nid enill elw bydol oedd y nod uchaf mewn canu. Dylem ddysgu canu er mwyn yr hyn wna er ein dyrchafu mewn syn- iadau am ein Creawdwr a'n Cynhaliwr, ac hefyd er mwyn dwyn ein cyd-ddynion i awyr bur ac iach addoliad ac edmygedd. Iaith y Nefoedd yw canu. Gwnawn ein goreu i'w feithrin a'i ddyrchafu yn y cysegr ac allan o hono. Diolch- odd y llywydd i'r oil a gymerasant ran er dwyn y cyfarfod yn mlaen ac i Mrs Evan Williams, Bryn Neuadd, am gyfeilio, yn ol ei harfer, mor feis- trolgar. Dygwyd y cyfarfod i derfyniad drwy i Miss Jones, Cornel Crafnant, ganu alaw o'r don "Ebenezer" ar y geiriau "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," a'r parti yn uno- yr ail waith. Buan y caffom gyfarfod cyffelyb eto.
Marchnadoedd yr Wythnos Yd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Marchnadoedd yr Wythnos Yd. LEEDS, Dydd Mawrth, Ionawr 21.—Yr oedd y melinwyr lleol yn rhoddi eu eirchion am wenith Seisnig a thramor yn ofalus iawn, oherwydd eu bod o dan yr argraffiad mae mewn ychydig wythnosau bydd y prisiau yn eu ffafrio i raddau uchel. Maize wedi troi yn esmwythach. Ffa, pys, ceirch, haidd, a blawd yn anghyfnewidiol. GLASGOW, Dydd Llun, Ionawr 20.—Gwenith a blawd yn sefydlog, ond ychydig o fasnach yn z, pasic Pob nwyddau eraill yn dawel, a'r prisiau yn anewidiol. LERPWL, Dydd Mawrth, Ionawr 21.—Yr oedd y fasnach gwenith yn ddistaw, a tua Ic i ic yn rhatach na'r wythnos ddiweddar; Boston, newydd, 6s ic i 6s rJc; Manitoba, 6s 2ic; Kansas, 6s ic i 6s ijc; ffa, Saidi, 335 i 33s 3c; pys, 6s ice. Ceirch 2 yn sefydlog; gwyn newydd, 3s i 3s 3c; melyn, 2s 9c i 2s ice. Maize, busnes prydweddol, a thua tc yn ddrutach na'r wythnos ddiweddar; newydd, cymysg, 5s 7c; eto hen, 5s 7ie i 5s 8c. Blawd 6c yn rhatach. CAERLLEON, Dydd Sad ivrii.-Cyfleii ivad ter- fynedig o wenith cartrefol, ac ychydig o siamplau a gynygiwyd ar y prisiau llawn diweddar. Ceirch, haidd, a ffa yn sefydlog, a'r prisiau yn anewidiol. Maize Americanaidd ac yd tramor yn ffafrio y prynwyr ar y prisiau llawn diweddar. Gwenith gwyn newydd, 4s 6c; eto hen, 4s 2C y 75 pwys; eto coch, newydd, 4s 3c i 4s 4c; eto hen, 4s y 75 pwys; haidd malu. 3s y 64 pwys; ceirch newydd", 2s 8c i 3s; eto hen, 3s y 46 pwys ffa newydd, 5s 6c; eto hen, 6s y 80 pwys eto Aiphtaidd, 36s y 240 pwys indrawn, newydd, 14s ic eto, hen, 15s y 240 pwys.
Anifeiliaid.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Anifeiliaid. SALFORD, Dydd Mawrth, Ionawr 21.—Yn y farehnad :-Gwartheg 3,056, masnach yn ddistaw; defaid 8,693, y gal wad yn farwaid; lloi 156, galwad prydweddol am y mathau goreu. Cafwyd y prisiau I canlynol:—Biff, 412C i 6^c; mutton,6c i 8jc; cig-lloi, 4 5c i 8c y pwys. LLUNDAIN,Dydd Llun.—Y cyflenwad o ani. feiliaid yn llai na'r wythnos ddiweddaf, ac yn cynwys 90 Ysgotaidd, 30 Dyfnaint, 570 y Siroedd Dwyreiniol, 627 y Siroedd Canolog, Cartrefol, a Gorllewinol, ac 123 Gwyddelig. Yr oedd yr al- wad yn dawel am brisoedd diweddar, a'r fas- nach yn llywodraethu yn araf. Ys'gotaidd, 4s 8c; Dyfnaint, 4s 6c i 4s Sc Henffordd, 4s 6c; Norfolk, 4s 6c i 4s 7c runts, 4s 4c; byrgyrn Lincoln, 4s 4c i 4s 6c; Gwyddelig, 4s i 4s 4c yr wythpwys. Yr oedd yna gyflenwad da 0' ddef- aid, heb ddim gwelliant yn yr alwad, a'r fasnach yn rheoli yn araf gyda myherin a mamogau. LERPWL, Dydd Llun.—Yr oedd y cyflenwad o anifeiliaid yr un fath a'r wythnos ddiweddaf; ond yr oedd yna leihad o 288 o ddefaid. Yr alwad yn araf am bob dosbarth am y prisoedd diweddaraf. Nifer: Anifeiliaid, 1,646; defaid, 4,879. Prisoedd: Anifeiliaid goreu, 6c i 674 c; ail, 5^c i 5)4C; trydydd, Ayc i 5c. Defaid Ys- gotaidd goreu, 776c i 7%c; mathau goreu, 6c i 7c. GWRECSAM, Dydd Llun.—\n y farchnad hon heddyw, gwerthwyd eidion rhagorol yn cyn- wys nifer o dreisiaid Ysgotaidd. Yr oedd y pris- oedd yn sefydlo'g, yn enwedig vr anifeiliaid stor yn gwerthu'n dda. Prisoedd Eidion, 6c i 6¥ e y pwys; mollt, 7c i 8c; moch, 10s yr ugain pwys. CAERLLEON, Dydd Iall.- Yr oedd vma gyflen- wad bychan yn y farchnad heddyw, a'r busnes yn farwaidd. Yr oedd yr oil o'r ystoc a gynygiwyd yn ddrutach, ac oherwydd hyn a'r ansawdd gwael nid oedd fawr o ahv am danynt. Prisiau Gwartheg godro, 14P i 2ip; llydni, 13P i 2op; bar- rens, <)p i I2p heffrod, 8p i i2p stirks, 6p'i 8p- defaid, 21s i 24s yr un.
Marchnadoedd Eraill.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Marchnadoedd Eraill. DINBYCH, Dydd Mercher, lonawr 22 -Cafwyd y prisiau canlynol yn y farchnad heddyw:—Haidd 8s 6c i os yr hob gwenith, 9s 6c i 9s 9c; ceirch 7s i 7s 6c; ymenyn ffres, is 2c i is 3jc; ymenyn hallt, lie i is ille y pwys dofednod, 4s i 5s y cwpl; hwyaid, 5s i 6s y cwpl; wyau, 12 i 13 am is. Ymenyn, CORK, Dydd Mawrth, Ionawr ->i — Ail, 95s trydydd, 83s pedwerydd, 68s; tra-rhag- orol, ioos; ymenyn ffres, 95s. Yn y farchnad:—26 iTircvn. Wyau a Dofednod, CAER, Dydd Sadwrn.- Cafwyd y prisiau eanlynol yn y farchnad heddyw: Ymenyn, is 3c y pwys wyau, 8 am is cywion, 2s 3c i 2s 6c; hwyaid, 3s i 3s 6c yr un; gwyddau, 10c y pwys; turkeys, 10c i is y pwys ysgyfarno< od, 3s 6c 4s; cwningod, is i is 2c yr un." & Cig, LLUNDAIN, Dydd Llun.—Masnach araf ond cyflenwad da. Biff, Seisnig, 4s i 4s 2c; ochrau Ysgotaidd, 4s 2c i 4s 4c; byrion, 4s 4c i 4s 8c; Ameri- canaidd, 3s 8c i 4s; is-raddol, 2s 1 3s; mylit, Pryd- einig, 4s i 4s 8c eto tramor, 3s 4c i 4s; cig-lloi 4s i 5s; pore, 3s 4c i 4s 4c yr wythpwys. Pytatws, LLUNDAIN, Dydd Llua.—Yr oedd yma gyflenwad da, ond y galwad yn farwaidd ar t prisiau canlynol:-Dunbai-, 85s i"9os; eto up-to- dates, 80s i 85s; Lincoln eto, 55s i 65s; British queens, 50s i 6os; blacklands, 47s6c i 52s; gartans, 45s i 50s y dunell. Qwair a Qwellt, MANCEINION, Dydd LIun. —Gwair, 5fc i 6fc; clofer,6Jc i 7ic; eto Canadian 6Jc 1 7ic; gwellt gwenith, 6c; eto ceirch, ^ic i 64c y 14 pwys. Gwlan, BRADFORD, Dydd Llun.—Yr oedd y busnes yn y farchnad heddyw braidd wedi sefyll vn llonydd, oherwydd agorwyd v gwerthiant yn LIundain dydd Mawrth, ond ar "y cyfan y oedd gwell ton yn y farchnad. \r oedd Yna ychydi** tnwy o ofyn am wlan cartrefol, ond dim symudiad yn y prisiau.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
-¥_- Waterproof Covers MADE FROM BEST FLAX CANVAS KEPT IN STOCK. ft. long. ft. wide. £ s. d. ft. long. ft. wide. £ s. d- 8 x b 0 9 0 18 x 14 2 6 9 iai X n 0 30 0 19* x 14 2 10 6 lOi x 7 0 13 6 2] x I3f 2 12 fi 12 x 8 0 18 0 21 x u" tli 6 1? v in f 6 21 x 15 2 18 6 if-i 1? •" x 8 0 224 x 15 3 2 6 ^3x2 VI ? 3 « White Macintosh Covers 3/6 per square yard. CARRIAGE PAID, Including Tabs, Eyelet Holes, Ropes, Lettering. HOWARDS 35, Redcross Street, LIVERPOOL. Telegrams-Marquees. Liverpool. Telephone 2339 2869 Established Half=a-Century. GOLP R WILLIAM BUTLER (Late with JACK MORRIS, Hoylake, and GEOHGE rmYE, St. Annes-on-Sea), The Oldest Established and Original PRACTICAL Golf Club & Ball Maker IN WALES, Is prepared to supply Golfers generally with GOLF CLUBS AND BALLS OF HIS OWN MANUFACTURE. Only the Best Materials Used. As made for H. H. HILTON, Amateur and Irish Champion; MR. JOHN BALL, JUNR., Ex-open Champion and Mr. F. E. WOODHEAD, Welsh Champion Golfer. Highest Testimonials for successful Teaching of the Game in all Departments, having learnt the art upon a Championship Course. LESSONS GIVEN AT MODERATE CHARGES. Repairs of every kind executed. Every Requisite for the Same supplied at Low Prices ADDRESS: 3486 WILLIAM BUTLER, The Links, UPPER COLWYN BAY (Above the Pwllycrochan Woods). The Prettiest & most Sporting Links in the District.