Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

----------Lith Ned Llwyd.

Helynt Arianol Rhwng Perthynasau…

--,-------__-------- ------_.---------------_-Barddonaeth.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Barddonaeth. Cyfansoddwyd y ddau benill a ganlyn gan y diweddar Mr Thomas Williams, Dol y Crwm, hen ttaenor parchus yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Seion, Roewen:- Wel dyma fiwyddyn newydd. 'Rol llu flynyddoedd maith, Bob un sydd yn ein carlo. Yn nes i ben ein taith 0, .Dduw, rho fodd i'w threulio Yn deilwng er dy g'od, Cyn myn'd i dragwyddoldeb, I Lie byddwn byth yn bod. 0, Arglwydd, gwna fi'n barod, Cyn myn'd i'r beddrod du Gwir undeb ar wmwydden I ffrwytho, yn Dy dy. Ac yna pan ddel angau Yn mlaen yn llym ei gledd, Mewn undeb llawn a'r Iesu Y dof i'r lan o'r bedd. WEN-ROE. (o) Y penillion canlynol a gyfansoddwyd i Henry Hughes, yr hwn a gyfarfyddodd mor sydyn a'i farwolaeth yn Mhafilion Colwyn Bay, tra yn arwain cor i ganu:- Ton: "Ebenezer." Tra fu'n arwain cor i ganu, Tra 'roedd ef a chalon brudd, Angau 'nghanol gorfoleddu Ddaeth fel cwmwl ganol dydd. Tra fu'n arwain cor i ganu, 'Roedd yn nesu at y bedd; Pan 'roedd angau ar derfynu Ei holl ymdrech am y Nef. Tra bu'r tonau yn ei guro, Ca'dd ei ddwyn i'r dawel lan Lie 'roedd ffrindiau wedi glanio, Lie 'roedd coron ar ei ran. Pan mae dyn ond megis blodyn, Ileddyw'n farw, ddoe yn fyw, Heddyw, oerllyd fedd i'w dderbyn, Ddoe yn lion folianu Duw. Canu 'roedd yn myd helbulon, I blith cerddorion trodd ei wedd I ganu 'gyda'r glan angylion Ar delynau aur y Nef. Na bawn ninau'n medru canu Pan yn myd gofidiau'n byw; Pan mae gorthrwm yn ein llethu Canwn am drugaredd Duw. Hen Golwyn. GWII.YM TKYGAN.

Trefriw.

Marchnadoedd yr Wythnos Yd.

Anifeiliaid.

Marchnadoedd Eraill.

Advertising