Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

! I CORWEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CORWEN. Cantawd.-Nos Sabboth diweddaf am 8 o'r gloch, yn Eglwys y Plwyf, rhoddwyd per- fiormiad o'r gantawd cysegredig The Nativity" gan gor yr Eglwys, yn cael eu cyn- orthwyo gan amryw gerddorion o fri, o dan arweinyddiaeth Mr J Davies Hughes. Gwas- anaethwyd wrth yr Organ gan Mr W J Kington, A.R.C.O. Yr oedd y rhaglen fel y canlyn-Emyn, God from on high hath heard;" unawd, "In the beginning was the word," Mr Robert Davies, Melin Rug; cyd- gan, And the word was God cydgan, "Thus saith the Lord;" unawd, "And the Angel Gabriel," Mrs Stansfield, R.A.M. deuawd, To a virgin espoused," Mrs Stans- field a Mrs Jones, Cafe unawd, Then said Mary unto the angel," Mr J Davies Hughes, G. & L. unawd, The Holy Ghost shall come," Mr Robert Davies cydgan, And the angel departed emyn, 0 come, Re- deemer of mankind unawd, And Joseph went from Galilee," Mr J Davies Hughes; unawd, And there were shepherds," Mrs Stansfield unawd, Fear not," Mr J Davies Hughes; cydgan, For unto you is born this day;" unawd, And suddenly there was with the angel," Mr J Davies Hughes cyd- gan, Glory to God carol, I sing the birth was born to-night;" cydgan, And there was given Him diweddwyd trwy ganu yr emyn— 0, Lord, the Virgin born to Thee Eternal praise and glory be, Whom with the Father we adore And Holy Ghost for ever more. Mwynhawyd y canu yn rhagorol gan y cynulliad lluosog oedd yn bresenol. Gwnaeth yr unawdwyr eu rhan yn ganmoladwy iawn. Y Bel Droed.-Fel y gwelir oddi wrth y posters sydd wedi ei taenu o gwmpas y dref, bydd ymdrechfa (1st round y Rhos-y- medre Cup) yn cymeryd lie ar y Dee Park, prydnawn dydd Sadwrn nesaf, Ionawr lOfed, am 2-45 o'r gloch, cyd-rhwng aelodau Clwb Bel Droed Corwen a Penycae United. Dis- gwylir y ceir gweled ymdrechfa gwir dda, a buddiol fuasai pe gallasai pawb sydd yn cymeryd dyddordeb yriglyn a'r uchod roddi eu presenoldeb y diwrnod hwn yn arbenig. Prisiau am fynediad i'w gweled fydd 4c a 2c. Deued pawb yno Dilynwch y dorf! Ymdrechfa Hockey. Dydd Sadwrn, di. weddaf, cymerodd ymdrechfa o'r uchod le ar y Dee Park, Corwen, cyd-rhwng rai o fon- eddigesau a boneddigion y dref. Fodd bynag, ar ol ymdrech galed, cafodd y boneddigesau eu curo 4—3.- Gwledd i BlantCorwen.—Cynaliwyd hon dydd Sadwrn diweddaf, y £ L Xstaf^ll y) Eglwys, ar draul yr elw o 30ia waaed oddi- wrth y Gantaw d a dd44 yng Nghap,, ?Ln?wyd ?'ng" Ngha]?9I.- y Rug. At y swm h;vn cyfranodd Miss Wynn, Rug, y swm angenrheidiol. Rhodd- wyd te, soup, a plum pudding, i gynifer a 51 o blant. Yn ddilynol caed games a Christ- mas Crackers, a hefyd te a buns. Wrth ymadael rhanwyd aurafalau a melusion i'r plant. Cynorthwywyd Miss Wynn, gyda'r wledd, gan Miss Dorothy Wynn, Miss Bassett, Mr Wynn, Miss Parry. West bourne House, Misses Derbyshire, Miss Annie Rowlands, Miss Morton, Mrs D L Jones, ar Rheithor. Rhoddwyd benthyg y llestri gan Feistres y Tlotty ac eraill. Pasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch i Miss Wynn a Boneddigesau Corwen, ar gynygiad y Rheithor, a rhoddodd y plant cheers iddynt. Gwnaed y darpariadau ar gyfer y wledd gan Meistri David Davies, Bryn Teg, a D L Jones, Liverpool Terrace. —

I GWYDDELWERN.-

Family Notices

Agoriad y Senedd.

Advertising