Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
! I CORWEN.
CORWEN. Cantawd.-Nos Sabboth diweddaf am 8 o'r gloch, yn Eglwys y Plwyf, rhoddwyd per- fiormiad o'r gantawd cysegredig The Nativity" gan gor yr Eglwys, yn cael eu cyn- orthwyo gan amryw gerddorion o fri, o dan arweinyddiaeth Mr J Davies Hughes. Gwas- anaethwyd wrth yr Organ gan Mr W J Kington, A.R.C.O. Yr oedd y rhaglen fel y canlyn-Emyn, God from on high hath heard;" unawd, "In the beginning was the word," Mr Robert Davies, Melin Rug; cyd- gan, And the word was God cydgan, "Thus saith the Lord;" unawd, "And the Angel Gabriel," Mrs Stansfield, R.A.M. deuawd, To a virgin espoused," Mrs Stans- field a Mrs Jones, Cafe unawd, Then said Mary unto the angel," Mr J Davies Hughes, G. & L. unawd, The Holy Ghost shall come," Mr Robert Davies cydgan, And the angel departed emyn, 0 come, Re- deemer of mankind unawd, And Joseph went from Galilee," Mr J Davies Hughes; unawd, And there were shepherds," Mrs Stansfield unawd, Fear not," Mr J Davies Hughes; cydgan, For unto you is born this day;" unawd, And suddenly there was with the angel," Mr J Davies Hughes cyd- gan, Glory to God carol, I sing the birth was born to-night;" cydgan, And there was given Him diweddwyd trwy ganu yr emyn— 0, Lord, the Virgin born to Thee Eternal praise and glory be, Whom with the Father we adore And Holy Ghost for ever more. Mwynhawyd y canu yn rhagorol gan y cynulliad lluosog oedd yn bresenol. Gwnaeth yr unawdwyr eu rhan yn ganmoladwy iawn. Y Bel Droed.-Fel y gwelir oddi wrth y posters sydd wedi ei taenu o gwmpas y dref, bydd ymdrechfa (1st round y Rhos-y- medre Cup) yn cymeryd lie ar y Dee Park, prydnawn dydd Sadwrn nesaf, Ionawr lOfed, am 2-45 o'r gloch, cyd-rhwng aelodau Clwb Bel Droed Corwen a Penycae United. Dis- gwylir y ceir gweled ymdrechfa gwir dda, a buddiol fuasai pe gallasai pawb sydd yn cymeryd dyddordeb yriglyn a'r uchod roddi eu presenoldeb y diwrnod hwn yn arbenig. Prisiau am fynediad i'w gweled fydd 4c a 2c. Deued pawb yno Dilynwch y dorf! Ymdrechfa Hockey. Dydd Sadwrn, di. weddaf, cymerodd ymdrechfa o'r uchod le ar y Dee Park, Corwen, cyd-rhwng rai o fon- eddigesau a boneddigion y dref. Fodd bynag, ar ol ymdrech galed, cafodd y boneddigesau eu curo 4—3.- Gwledd i BlantCorwen.—Cynaliwyd hon dydd Sadwrn diweddaf, y £ L Xstaf^ll y) Eglwys, ar draul yr elw o 30ia waaed oddi- wrth y Gantaw d a dd44 yng Nghap,, ?Ln?wyd ?'ng" Ngha]?9I.- y Rug. At y swm h;vn cyfranodd Miss Wynn, Rug, y swm angenrheidiol. Rhodd- wyd te, soup, a plum pudding, i gynifer a 51 o blant. Yn ddilynol caed games a Christ- mas Crackers, a hefyd te a buns. Wrth ymadael rhanwyd aurafalau a melusion i'r plant. Cynorthwywyd Miss Wynn, gyda'r wledd, gan Miss Dorothy Wynn, Miss Bassett, Mr Wynn, Miss Parry. West bourne House, Misses Derbyshire, Miss Annie Rowlands, Miss Morton, Mrs D L Jones, ar Rheithor. Rhoddwyd benthyg y llestri gan Feistres y Tlotty ac eraill. Pasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch i Miss Wynn a Boneddigesau Corwen, ar gynygiad y Rheithor, a rhoddodd y plant cheers iddynt. Gwnaed y darpariadau ar gyfer y wledd gan Meistri David Davies, Bryn Teg, a D L Jones, Liverpool Terrace. —
I GWYDDELWERN.-
I GWYDDELWERN. Gwella.-Bydd yn dda gan yr holl ardal ddeall fod Maldwyn bach, Maerdy, yr hwn a damwain ddifrifol beth amser yn ol, yn gwella yn dda iawn tan ofal y Meddygon Edwards a Walker. 0 ————-—
Family Notices
BU FARW. BU FARW. Ion. 3ydd, 1914, yn 36ain mlwydd oed, Miss Mary Elizabeth Evans, Lion Hotel, Cyn- wyd. Cleddir am ddau o'r gloch yfory (Mercher) yn Mynwent Cynwyd. Ionawr laf, yn 64ain mlwydd oed, Mrs Ann Roberts, Bryn Cocb, Glanrafon. —————— ——————
Agoriad y Senedd.
Agoriad y Senedd. Cynaliwyd cyfarfod o'r Cabinet ddydd Mawrth diweddaf, a pharhaodd o 11-30 yn y boreu hyd 1-45 y prydnawn. Dydd Gwener, cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyfrin Gynghor, pryd yr oedd y Brenin yn bresenol i arwyddo y proclamasiwn, er nodi dyddiad ail agoriad y Senedd, yr hyn fydd Chwefror lOfed,
Advertising
NOTICE TO BILL STICKERS. On and after the 1st January, 1914, anyone posting Bills on any part of the Rhagatt Estate, will be prosecuted. BY, ORDER. Os oes arnoch eisieu afgraphu ARGRAPHU iSSgaST-: ARGRAPHU, 4ysby Rhagleni, Tocynau, etc., etc. yn ddestlus a rhad, anfonweh i .}W: ;t;t' ::f" f, ASSEMBLY ROOMS, CORWEN Nos FERCHER, ION. 14eg, 1914. Perfformiad o'r Ddrama Newydd 'ENOC HUWS' (Gan Gwmni Dramayddol Gwyddelwern) Llywydd :— 0. A. LLOYD, Ysw., Waterloo House. MYNWCH EI CHLYWED. GWREIDDIOL. DYDDOROL. DONIOL. (16 o Gymeriadau). Helyntion carwriaethol Enoc Huws a barn Tomos Bartley am hyny. Drysau yn agored am 7-30, i ddechreu am 7-45 o'r gloch. Mynediad i mewn Blaen-seddau, Is Ail, 6ch. Trysorydd 1 ELLIS ROBERTS, J Caehir. Ysgrifenydd 1 IDRIS WILLIAMS. J Glandomwy. FOR SALE. INCUBATOR and FOSTER MOTHER for Sale Tamlins," only used three times. Apply- Box 20, ADSAIN OFFICE, CORWEN. YMEUDIAETH (EMIGRATION) I Canada, Awstralia, New Zealand, etc., etc. Galwad mawr am Ffermwyr, Gweision Ffermwyr, ac eraill; hefyd Morwynion. Fe sicrheir gwaith, cyn cychwyn, gyda Chymry ac eraill, a pbob help cyfeillion yr ochor draw. Hebryngir i 'r llongau ardderchog yn Liverpool gyda phob llinell. Berths campus, fares isel, assisted passages. Gofalir am luggage, insurance. Ymwelir a ffeiriau Rhuthyn a Corwen. Hefyd, ymofynwyr yn eu cartrefi. Ceir pob manylion a hysbysrwydd am y dull goraf o rhataf o fyned gan y profedig:— J. DOWNING, Denbigh. TO LET. The Fully Licensed Rose and Crown Inn," Gwyddelwern. Apply:- C. DAWSON, York Chambers, LLANDUDNO. EVERY WOMAN Should isend two stattrps for our 32 page Illustrated Book, containing Valuable Information how all Irregularities, and Obstructions may be entirely avoided or removed,.by simple means. Recommended by eminent Physrcians,as the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never Fails. Thousands of T e stimonials. Established 1862. MR. PAUL BLANCHARD, O^aremoht House. Dalston I^ne, London*