Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN. Cynaliwyd yr uchod ddydd Gwener, yn Ystafell y Bwrdd, o tan lywyddiaeth Mr. Thomas Thomas, U.H.; Mr. D. W. Roberts, Blaen Ial, Bryneglwys, yr is-gadeirydd; yr oedd hefyd yn bresenol Meistri R. James Jones, Primavera, Corwen; Robert Owen Roberts, Bryn; William Williams, Pandy; William Roberts, Gwnodl Bach; Thomas Jones, Tyncelyn; John Jones, Llan T. W. Edwards; R. Meyrick Roberts, Gwylfa; Geo. Evans, Bryneglwys David E. Davies, Garthiaen; John 0. Davies, Maesyrychain E. H. Ellis, Branas Miss Walker, Corwen W. H. Parry, Bridge ;End J. Wynne, Gro E. M. Edwards, Brynhowell; E. E. Jones, Bodtegir; John Wm. Jones, Pentrellawen R. E. Pugh, Penybryn E. Derbyshire, (clerc), a Lemuel Williams, (meistr). Agorwyd y gweithrediadau trwy i'r Cadeir- ydd ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i'r aelodau. Yn Haw y Trysorydd, 1028p. 17s. Ie. Tlodion yn y Tlotty. Nifer y Tlodion yn y Tlotty yn ystod y bythefnos ddiweddaf :-Yr wythnos gyntaf, 77, ail wythnos, 75. Crwydriaid. Nifer y crwydriaid gynorthwywyd yn ystod y bythefnos ddiweddaf :—Yr wythnos gyntaf, 21; yr ail wythnos, 24. Y Rheidweinyddion. Pasiwyd i ganiatau y symiau canlynol i'r Rheidweinyddion i'w cyfranu i'r tlodion yn ystod y bythefnos ddyfodol:—Mr. D. L. Jones, Corwen, £ 25 Mr. R. 0. Davies, Llan- gollen, 138. Gohebiaeth. Derbyniwyd llythyr o Fwrdd Llywodraeth Leol yn cadarnbau penodiad Mr. a Mrs. Lemuel Williams, fel Meistr a Meistres i'r Tlotty. Hefyd, llythyr i'r un perwyl ynglyn a pen- odiad. Nyrs Jenkins. Ymddengys fod Miss Jenkins yn dal y swydd er y 7fed Gorphenaf, 1899, ond trwy rhyw amryfusedd neu gilydd. ni ddaeth y cadarnhad i law hyd yn hyn. Archeb Newydd. Penodwyd Mrs. Richards, Meistri W. H. Parry, R. James Jones, D. W, Roberts, a'r Cadeirydd i gyflwyno adroddiad i'r Bwrdd nesaf o berthynas i'r archeb newydd yr hon sydd yn ymwneud a gweithrediadau y Ty. Ychwaneg o Gyflog. Derbyniwyd cais oddiwrth Mr R 0 Davies, rheidweinydd Llangollen, am godiad yn ei gyflog, gan ei fod yn dal y swydd er y 4ydd o Awst, 1911. Pasiwyd i'w drosglwyddo i'r Pwyllgor Ar- ianol i'w ystyried, a bod eu hadroddiad i gael ei gyflwyno yn y Bwrdd nesaf. Mamaeth. Derbyniwyd cais oddiwrth Gymdeithas Famaethol Corwen trwy law Mr. L. Lloyd John yn gofyn am i'r tanysgrifiad tuagat y Nyrs yn Nghorwen gael ei godi o chwe gini i lOp. i' Hysbyswyd mai chwe gini ydyw y swm a ganiateir i'r holl ddosbarthiadau eraill trwy yr Und3b. Ar gynygiad Mr J. 0. Davies a cht fnogiad Mr. E. H. Ellis pasiwyd i anfon at Mr. Lloyd John i'w hysbysu nas gall y Bwrdd weled eu ffordd yn glir i newid yr hyn benderfynwyd arno flwyddyn yn ol, sef, chwe gini i bob dosbarth. Gofidus ydoedd ganddynt ddeall trwy lythyr Mr. John mai cefnogaeth wael a roddir gan Gyhoedd Corwen i achos mor deilwna a hwn. Claddfa Llangollen. Pasiwyd i beidio agor llythyr Mr. George, clerc claddfa newydd Llangollen, hyd nes y ceid clywed oddiwrth Rheitbor Llangollen o berthynas i le i gladdu y Tlodion yn Llan- on nfn bw-. Y Crwydriaid, Pasiwyd fod y rhybudd canlynol i gael eu gwasgaru ar hyd a lied yr Undeb, a hefyd i'w gosod i fynu ar bob gorsaf heddgeidwadol:- Pwyllgor Cyssylltiedig a 'r Crwydriaid Gogledd Cymru. Rhybudd Cyhoeddus. CRWYDRIAID. Er Sefydliad Gorsafoedd Bara a Chyfun- drefn y Tocyn Teithiol yn y dosbarth hwn y mae pob esgusawd am Gardotta wedi cael ei symud ymaith. Rhoddir Bwyd a Llety i unrhyw Grwydryn gwir anghenus yn y Tlottai, hefyd caniateir iddynt Fara neu Fara a Caws fel Pryd Canol-dydd tra ar eu taith o un man i fan arall. Er mwyn eich amddiffyniad, ac er lies cyffredinol, taer erfynir arnoch i beidio rhoddi cynorthwy iddynt, ac i rhoddi rhybudd i'r Heddlu o unrhyw un a fyddo yn cardota. I Pwyllgor Ymweliadol. Cafwyd adroddiad y pwyllgor uchod gan Mr R Meyrick Roberts, a dywedai mai hwn oedd eu hymweliad cyntaf er penodiad y Meistr a'r Feistres newydd, yr oedd y Tlotty a phobpeth yn cael eu cario ymlaen yn briodol a threfnus. Adroddiad y Meistr. Rhoddwyd cyngherdd uwchraddol i bres- wylwyr y Tlotty gan gwmni y 'Bohemians' o Langollen, nos Fawrth, Rhagfyr 30ain. Yn ystod y cyfarfod anrhegwyd y dynion gyda pibell a myglys, a teganau i'r plant gan Dr. Walker. Anrhegwyd te i'r merched gan Mrs Walker a siwgr gan Miss Walker. Anrhegodd Mr W. H. Parry, Llangollen, y dynion a pibell a myglys, y merched a the a siwgr, a'r plant a theganau. Anrhegodd yr Anrhydeddus Mrs. Wynn, Rug, y plant a theganau, ac anfonodd Goeden Nadolig hardd. Rhanwyd y teganau gan Miss Walker. Anrhegwyd afalau ac aurafalau gan Mrs. Richard, Dolafon, a Mrs. Hubbard, Minffordd Shop, pa rai a ranwyd gan Mrs Derbyshire. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch iddynt oil ar gynygiad yr Is-gadeirydd.
Advertising
F. HYSBYSIAD PWYSIG. I HYSBYIA PWYSIG. Stoc Helaeth 0 ESGIDIAU A BOTASAU Bargeinion Digyffelyb DYMUNA HUGH HUGHESJ leirion Boot Stores, Corwen HYSBYSU Cedwir mewn Stoc bob amser y Shooting K" Boots, a'r Country K" Boots, Holdfast a'r New Welsh Adamant Brand ac Esgidiau Cryfion eraill i Feibion, Merched a Phlant at tymor y Gauaf. LEGGINGS o bob math i Ddynion a Phlant am .brisiau gwir rhesymol. Trwsir yn daclus a chvda'r lledr goreu gan weithwyr profiadol. Hefyd mewn Stoc pob math o ddefnyddiau goreu at glanhau Esgidiau, a'r oil am y prisiau iselaf bosibl, pa rai a ellir eu cydmaru yn foddhaol gydag unrhyw eraill. Cofiwch y Cyfeiriad- Bridge Street, Corwen. Latest Fashions for Winter. R. DAVIES, Gent's, Clerical and Ladies' Tailor "Madfa'r Bobl," (Opposite the Station), CORWEN. NEW PATTERNS JUST ARRIVED. GENTS' SUITS (BEST LONDON MAKE) TO MEASURE FROM 226 fiU SUPERIOR VALUE SEtOss.