Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CORWEN. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CORWEN. I Y Nadolig. Dydd Nadolig, yn Tylotty Corwen, rhoddwyd y Wledd arferol i'r pres- wylwyr, a mwynhawyd hi yn fawr.—Dydd Mawrth, y 30ain o Ragfyr, talodd y Bohem- ians Llangollen, eu trydydd ymweliad a'r Tlotty, a chynaliasant dau Gyngherdd. Yn y prydnawn, llywyddwyd gan Mr David Davies, U.H., Bank House. Yn yr hwyr, llywyddwyd gan Dr Walker. Yr oedd y Bohemians yn rhoddi eu gwasanaeth yn rhad, a mwynhawyd y rhaglen yn fawr gan y preswylwyr a'r cyfeillion o Gorwen oedd yn bresenol. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r Bohemians," Mrs Wilson, London Road, am fenthyg y berdoneg yn rhad, ac i Mri. Foulkes Jones a'i Gwmni, am fenthyg coed i wneud y llwyfan, ar pynygiad Mr Lemuel Williams (Y Meistr), a chefnogiad Mr Derby- shire. Cydrwng y ddau gyngherdd cyflwynwyd teganau i'r plant; te, siwgr, myglys a pbib- ellau i'r rhai mewn oed, gan Mr D P Davies, yr hwn oedd wedi ymwisgo fel Father Christmas." Yr oedd y rhai hyn yn rbodd- edig gan Mrs Walker, Miss Walker a Dr Walker. Gwnaed y darpariadau ynglyn a'r cyngherddau gan y Meistr a Mr D L Jones.— Nos Iau, cynhaliwyd Xmas Tree, yr hon a anfonwyd o Rug. Rhoddwyd teganau gan Mrs Wynn, Rug, i'r plant, ac hefyd gan Mr W H Parry, Llangollen, ac afalau ac aurafalau gan Mrs H 0 Richard, Dolafon, a Mrs Hubbard.

Advertising