Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

AT EIN GOHEBWYR

CORWEN.J

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CORWEN. Pregethwr Enwog- Y Sabboth nesaf pre- gethir yn Nghapel Annibynwyr Cymreig, Corwen, y bore a'r hwyr, gan y Parch Towyn Jones, A.S., Sir Gaerfyrddin. Cymdeithas Seion.-Nos Wener, traddod- wyd darlith ddyddorol ac adloniadol gan y Parch Berwyn Roberts, ar yr luddew Cym- reig." Yr Illddew oedd Dic Aberdaron, un o gymeriadau rhyfeddaf Oymru ar lawer ystyr Cafodd y rhai oedd yn bresenol ami i wers a llawer o hwyl tra yr oedd Mr Roberts yn dde- heuig yn adrodd ei hanes.—Nos Wener nesaf ceir Mock Parliament," y Hefarydd fydd Mr Davies, Bane; arweinydd yr wrlhblaid, Mr J S Roberts; a'r prif weinidog fydd Mr Dudley Morgan. Marwolaeth- Bore Gwener diweddaf, yn flwydd a phum mis oed, bu farw Eric, anwyl blentyn Mr a Mrs Hugh Edwards, Hill-street, Corwen. Cymerodd yr angladd le ddoe yn mynwent Eglwys Corwen. .Anrheg-Prydnawn Sul diweddaf cyflwyn- wyd anrheg o bendant tlws i Mr J E Thomas, Brynawen, gan aelodau ei ddosbarth Ysgol Sul (W.) fel gwerthfawrogiad o'i wasanl-Jeth iddynt fel athraw. Capel y Bedyddwyr.—Nos Fercher cynal- iwyd y Gymdeithas Ddiwylliadol tan lywydd- I iaeth Mr Dudley Morgan. Darllenwyd papyr I gwir dda ar Elias y Thesbiad gan Miss Annie Roberts, y Stores. Canwyd gan Miss j M. H. Jones a'i pharti Miss E Evans, a Miss i Ceridwen Williams. Adroddwyd gan Miss Evans. Enillwyd am' gyfieithu gan Mr T. | Edwards, a gwobrwywyd Mr Meirion Lewis am ei Iwyddiant rnewn cyfarfod blaenorol. Diolchwyd yn wresog i'r Cadeirydd ar gynyg- iad y Parch H C Williams, eiliad Mr Salisbury Roberts, a chefnogiad Mr D M Davies. Gramophone.-Second-hand-four 10-inch and two 12-inch double-sided records. 21s. the lot, G. M. Wilson, London-road, Corwen.

♦..iBWRDD Y GWARCHEIDWAID,…

Advertising