Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

GWYDDELWERN.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWYDDELWERN. I Cymdeithas Ddiwylliadol y Wesleyaid.- Nos Fercher olaf yr hen flwyddyn 1913 daeth aelodau y Gymdeithas uchod ynghyd a Iliaws o'u cyfeillion i fwynhau swper rhagorol oedd wedi ei barotoi gan y brodyr am 7 or gloch, eisteddasant wrth fyrddau oedd wedi eu hulio a phob math o ddanteithion, ac yr oedd yr olwg yn brydferth. Wedi i'r Parch. Bervryn Roberts ofyn bendith, dechreuodd pawb ar y danteithion. Yr oedd y byrddau dan ofal y brodyr William Jones, Ty'nhos, a W.R.Jones, Station House, tra y gwasanaethai y brodyr Hughie Parry,Richard Hughes,Simon Hughes, Trevor Parry, a Trevor S. Jones fel waiters,' y brodyr R E Hughes, James Phillips a John Phillips, fel 'carvers,' a Mr Phillips, yr ysgol- feistr, yn oruchwyliwr y wledd, a gofalwyd am ddwfr berwedig gan Mr Robert Hughes, Wesley House. Ar ol gwneud cyfiawnder ar holl bethau da cynygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch gan Mrs Phillips, School House, mewn modd deheuig, ac eiliwyd mewn araeth bert gan Mrs Jones, Caenog, yr hon a dystiolaethai mai dyma y swper goreu a welcdd ac a gafwyd yn ystod 088 y Gymdeithas, ac yr oedd yn 'real treat' i gael cyfraoogi o hono, a chael 'waiters' mor siriol i weini. Ategodd Mrs. Hughes, Wesley House, y ddwy chwaer mewn araeth farddonol ddoniol. Wedi clirio y byrddau cafwyd cyf- arfod na welwyd ei well o dan arweiniad Is- lywydd y Gymdeituas (Mr W. R. Jones), caed cystadleuaeth mewn "Rhydd-ymddiddan" yn wir dda, dyfarnwyd Mrs Hughes, Wesley House, a Mrs Hughes, Wernddu, yn oreu o ddigon, y mae gan y chwiorydd ddawn i siarad, ond mae gan y ddwy chwaer yma y ddawn arbenig i rydd-ymddiddan. Yn y gystadleuaeth am ddarllen barddoniaeth ar yr olwg gyntaf dyfarnwyd Mrs Hughes, Wern- ddu, yn oretu Yn nghystadleuaeth darllen i ddynion goreu oedd Mr Hughie Parry. Dat- ganwyd yn swynol gan Miss Ada Jones, i Station House. Cafwyd hwyl anarferol gyda chystadleuaeth tynu darlun o 'Vfocliyn" ar y bwrdd du, yr oedd. pob ymgeisydd yn gwisgo mwgwd am y llygaid, goreu Mr Dd Williams. Datganwyd can Seisnig yn hynod swynol ac effeithiol gan Miss Dilys Griffiths. Cafwyd cymorth i chwerthin gyda 'r gystacUeuaeth desgrifio gweithred heb ei henwi a dyfarnw-yd Meistri Hughie Parry ag Ernest Hughes yn gydradd gyntaf gyda chymeradwyaeth mawr. Terfynwyd un o'r nosweithiau difyraf a gaed ystod y tymhor, ac edrychwn yn mlaen eto i gael noswaith gyffelyb yn fuan iawn.—AELOD.

Advertising