Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Pwyllgor Heddlu Meirion.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pwyllgor Heddlu Meirion. I Ionawr 6ed, cynhaliwyd yr uchod yn Nol- gellau, tan lywyddiaeth Syr Osmond Williams Adroddiad y Prifgwnstabl. Adroddai y Prifgwnstabl R. Jones, fod yr heddlu yn cynwys 1 Prifgwnstabl, Dirprwy, 2 Arolygydd, 5 Rhingyll, a 25 o Gwnstabliaid. Gwnaed yr ychwanegiadau a ganlyn yn y cyflogau yn ol y raddfa —Arol. Ben Evans, o 105p i 110p y flwyddyn Rhingyll D Jones, o 33s 10c i 35s yr wythnos; Rhingyll J Evans o 32s8c i 33sl0c; heddwas 0 C Davies a Morgan Davies o 25s i 26s yr un. Ar y 13 o Ragfyr, bu farw y cyn-Arolygydd Hugh Williams, Corwen, oedd wedi ymneillduo dan flwydd-dal. Y Clafr. Tystiwyd fod naw o achosion o glafr yn y Sir, y toriad mewn wyth achos yn bur ysgafn yr afiechyd ond newydd ddechreu. Yn yr achos arall yr oedd yn bod ers ychydig wyth- nosau. Yn heddlys diweddaf y Penrhyn, erlynwyd gofalwr y defaid am esgeulujo hysbysu'r clafr, a dirwywyd ef i 2s6c a'r costau. Wrth ystyried fod cynifer a 400,000 o dde- faid yn y Sir, a nodwedd agored a mynyddig y wlad a'r tywydd gwlyb diweddar, sydd yn naturiol wanychu'r defaid i wrthsefyll yr afiechyd yma gellir dweyd fod y Sir mewn safle boddhaol. Afiechyd ar Wartheg. Fe roddwyd gorchymyn i ladd chwech o wartheg, a tbalwyd 38p 15s gan y Sir fel iawn i'r perchenogion ceir haner y swm hwn gan y Bwrdd Amaethyddol yn ol. Man-Werthwyr. Yn ystod y fI. wyddyn caniatawyd 68 o drwyddedau i 'pedlars,' a chaed 17p oddi wrthynt. Archwiliad. Gwnaed archwiliad ar gyfrifon y ch we' dosbarth ynadol am y oh warter yn terfyim Medi, a chaed Abermaw, Bala, Dolgellau, a Towyn a Ffestiniog yn gywir. Talwyd 3p i gronfa y sir yn nos barth Corwen yn lie i gronfa'r lfwydd-dal. Dirwyon. Swm y dirwyon dalwyd oedd :-Abermaw 24p6s; Dolgellau, 7pl7s8c; Bala, 5p0s6c; Corwen, 20p5s; Towyn, 31p8s9c; Blaenau, 61p5s6c cyflogau 150p3s3c. Rhanwyd hwy fel y canlyn :—Cronfa'r Sir 70p4s Blwydd- dal 25pl5s9c. Cymeradwywyd yr Adroddiad.

Advertising