Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CORWEN. I

Cymdeithas Amaethyddol Edeyrnion.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymdeithas Amaethyddol Edeyrnion. Cynaliwyd cyfarfod blynyddol o'r uchod dydd Gwener, tan lywyddiaeth John Owen, Ysw. Gwerclas, pryd yr oedd 35 o'r aelodau yn bresenol. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blynydd- ol blaenorol a'r cyfarfod olaf o'r flwyddyn gan yr ysgrifenydd Mr R. H. Morris. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr Lloyd, Rhagatt, yn ei waeledd. Cyflwynwyd y cyfrif-leni blynyddol, nid oedd y swm mewn Haw yn dyfod i fyny a"r flwyddyn flaeoorol a cyfrifid hyn i'r ffaith nad oedd y derbyniadau am fynediad i mewn yn gymaint. Cafwyd adroddiad yr Archwilwyr a rhodd- asant ganmoliaeth aruchel i'r modd yr oedd y llyfrau, etc. yn cael eu cario ymlaen gan yr ysgrifenydd medrus—Mr R H Morris. Penodwyd fod yr Arddangosfa i'w chynal ar y lOfed o Fedi. Dewiswyd Mr Moseley, Bryntirion, yn llywydd-ac os gwrthoda fod y cais nesaf i'w wneud at Mr Tate, Pool Park MrfaE P Jones, Cileurych, yn is-lywydd Mr Davies, Bank house, yn drysorydd Mri W E Williams a R J Chapman, yn archwilwyr; Mr R H Morris, yn ysgrifenydd. Diolchodd Mr Morris am yr anrhydedd, a dywedodd fod yr unfed-tro-ar-hugain iddo er pan y penodwyd ef gyntaf yn ysgrifenydd. Ychwanegwyd y rhai canlynol at y Pwyll. gor Gweithiol—Meistri Tottenham, Carrog T Ellis, Penyfed W Jones, Tainrhoa, a J Hughes, Clegir Isaf.

Advertising