Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Trengholiad ar gorff Baban…

CORWEN.I1

Y diweddar Mr. William B.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y diweddar Mr. William B. Parry. Colled i Gymry a Chymreigiaeth dinas Utica oedd marwolaeth Mr William B. Parry, un o'i masnachwyr mwyaf adnabyddus ac an- rhydeddus, yr hyn a gymerodd le ddydd Sadwrn olaf o Ionawr, yn ei gartref yn Sey- more Ave. Brodor ydoedd o ardal Bontddu ger Dolgellau, mab i'r diweddar Mr a Mrs Parry, Shop, a brawd i Mrs Parry Jones, Graigfawr, ac i'r Parch Jonathan Parry, Burnley, ac i'r diweddar Mr John Parry, Bala (o flSrm J Parry & Co.), ac Inspector Parry, Portmadog. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1848. Ymfudodd i'r America yn 1867. Masnachwr mewn nwyddau haiarn ydoedd. Claddwyd ef y dydd Mawrth dilynol. Gedy weddw a pedwar o feibion ac un ferch i alaru ar ei ol.

Advertising