Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

THE OMNIBUS. I

- -IInvestiture Day.I

Army Council's Thanks to to…

[No title]

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

[No title]

[No title]

GLANAMAN.

I ENGLYN I WY. I

[No title]

I ER COF I

FFARWELIAD Y MILWR. j

I CYFARCHIAD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I CYFARCHIAD Dydd pen-blwydd cyntaf Benni, plentyn Mr. L. J. Evans, B.A., a I briod, Chetwynd Road, Llundain. Mae Benni heddyw yn flwydd oed, A'j lond o fywiog arnan Y plentyn dewraf fu erioed Yn trigo ym Mrynaman. Daeth yma'n faban egwan, bach, Am nodded rhag y German; Rhag marwol fwriad erchyll wrach Ca'dd gysgod ym Mrynaman. Dan ofal didwyll goreu'r wlad, Ac ymdrech teulu cyfan, I' w wylio cafodd gariad mad Yn Station Road, Brynaman. Yn ddiogel yma rhag un cam Y treuliodd flwyddyn gyfan, 0 gyrraedd gelyn creulon, am Fod noddfa ym Mrynaman. Ymwreiddio wnaeth y bychan cu I serch ein teulu diddan; Cynhyddodd ef, er rhwystrau lu, Yn awyr iach Brynaman. Mae'n cerdded heddyw hyd y tY. Fel boss gwna hawlio i gyfran; Siarada'n groew ac yn hy' Fel Cymro o Frynaman. Efe yw eilun ei famgu Nad oes ei fath yn unman I Un cadarn fel y Mynydd Du, A champion plant Brynaman. Mae'n awr yn drech na'r Caiser cas Fu'n llunio'r erch gyflafan; Yn bur ei fron, mae'n byw yn fras Ar rations ym Mrynaman. Mae W' I o Berlin heddyw'n brudd, A'i wlad dan feichiau'n griddfan; Ond Benni sydd yn frenin rydd, A i orsedd ym Mrynaman. Ha! Ha! yr olwyn fawr a drodd, Mae r Hun ar ffo ei hunan, Tra Benni n chwerthin wrth ei fodd Tra'n aros ym Mrynaman. O! coned am ei gyntaf flwydd | Lie bynnag byddo'l drigfan; Mewn dyled bydd, er ffawd a llwydd, i I rhywrai ym Mrynaman. 1 j Gobeithiwn y caiff fyw yn hir, A gras i faddeu I r German, Gan wneud daioni yn y tir, A chofio am Brynaman. j d erwn y bydd icido fyw Hyderwn y bydd iddo fyw Ax hyd ei einioes wiwlan Yn lan ei foes, a pharch i'r Duw I Fu' n cynnal ym Mrynaman. Ar ddydd ei Ecsodus bydd claer Fanerau hedd yn chwifian I Ion roesawi Ben a'i chwaer I Lundain o Frynaman. EDWARD PHILLIPS (Talfrynydd) Brynaman. (Ei Dadcu), I

M r Y TORRWR CERRIG -

- - _- _ - - -BRYNAMAN.

I PENYGROES.

IRHYDAMAN.

-_- - - - -Ammanford Police…