Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

THE OMNIBUS. I

Outlines of Local Government

Successful Carnival at Cross…

[No title]

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

[No title]

[No title]

Rhys J. Huws.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Rhys J. Huws. Er fod pedair blynedd ar hugain wedi dianc, megis cynnifer o chwedlau ysgeifn. dianc, meg cynnl I oddiar pan y gwobrwywyd Dydd y Coroniad," ac er fod y Bardd ac un o'r beimiaid wedi huno, nis gwelaf fod modd newid y dyfarniad. Gwir i nifer o feirdd arwyddo math o ddeiseb, a anfonwyd at gylch gan un o'r colledigiop. cwynfanus, fod camwri wedi ei wneud; ond erys dedfryd chwarter canrif o fywyd llenyddol y genedl o blaid y dyfamiad, ac yn barod i ategu geiriau Watcyn Wyn pan yn rhoddi ei farn ar yr amgylchiadau yr adeg honno:— Do, yn wir, fe wnaed yn iawn, Yn onest ac yn uniawn." W edi nodi hynyna, teg hefyd yw nodi fod diftygion amlwg yn y bryddest, megis an- ystwythder, a thor-mesur, ac anaeddfed- rwydd. Fe ddichon, erbyn heddyw, mai ei phrif fai yw ei bod yn cynniwair gormod hyd feysydd rhyddiaith, a bod gormod o eiriau a syniadau ysgrif a phregeth yn ymwthio iddi. Onid fel awdur ysgrifau,—fel lienor coeth, amryddawn, ac fel pregethwr cryf athron- yddol, y rhagorodd Rhys J. Huws? Ar- wyddion o hynny sydd yn y bryddest hon:— Ymdrechion daear! mintai bererinol Yn prysur deithio tua thir dymunol Hyfryd dydd y goron y'nt,-mor ddi-ildio Yw cri pob ymdrech am gael mynyd heibio; A chael ei heinioes gan yr anhawsderau Sydd yn genhadon" tranc ar hyd ei llwybraa! Dacw ysbryd anturiaeth mewn myfyr breuddwydio.1 Yn sefyll ar binacl ei fwriad pell-gyrchol, A bysedd llawenydd ar darmau ei galon Yn canu per-alaw i ddeffro'i gobeithion." Y math yma ar fyfyr a meddwl yn ei enaid fynnodd cyn hir ymadael ag odl a mydr, ac ymwthio allan yn ffrwd loew i ysgrif a phregeth. Tueddai at fod yn afrosgo ac anghelfydd yn ei farddoniaeth; ond mor gain a gorffenedig oedd ei ryddiaith, heb arafu dim ar rym ei feddwl. Erys cyfoeth meddy liau y bryddest hon o hyd, ac ar gyfrif. y cyfoeth hwnnw y gwobrwywyd hi. Er fod ynddi lawer o ryddiaith a gwibiadau i feysydd Athroniaeth a Barddoniaeth, mae ynddi ryw gyfoeth cyson o feddwl, gyda tharawiadau beiddgar o ckiychymyg yma a thraw. Er crwydro i feysydd dieithr daw'r awdur yn ol a thywysen yr Awen yn ei law. Cawsom ym- ddiddan ag ef yn ystod rhai o' r blynyddoedd diweddaf am y bryddest hon, a daliai i gredu mai hi oedd yr oreu a gyfansoddodd, er y cyfaddefai yn rhwydd fod iddi ei diffygion. Mae ei feddyliau cynaraf ynddi: mae efe ei I hunan ynddi. Mae ei bersonoliaeth fel bardd a meddyliwr ynddi. Mae hadau ei holl feddyliau ynddi. Pentwr o ddcchreuadau ydyw: mil o gangau yn dechreu glasu. Gweithio hon allan fu gwaith ei fywyd. Tyfodd i bryddestau eraiil, i ysgrifau, ac i bregethau. Mae hadau ei bryddestau a'i ysgrifau a'i bregethau yn hon. Math o weithio allan, a thyfu, ac eangu y meddyliau sydd yn hon, fu gyrfa ei enaid ar y ddaear. Daeth i'w chwarel yn gynnar, a gweithiodd ynddi hyd y terfyn. Cafodd afael yn yr had oedd ef i'w hau, yn lied fore; a daliodd i daflu'r had i ddaear Cymru hyd ei fedd. Fel y nodwyd, cafodd Has ar Gadair Meirion yn y flwyddyn 1894, ac ennillodd hi deirgwaith yn olynol: melys gamp y dyddiau difyr hynny. Cawn y testyn mawr, difrif- ddwys, Sancteiddrwydd," yn un ohonynt: testyn yn gweddu gogwydd ei feddwl ar y pryd Ir dim: testyn yn cyffwrdd y fintai, fawr o bererin-feddyliau oedd wedi deffro yn ei enaid dwfn, tanllyd, ac yn dyheu am gyrraedd broydd y goleuni a' r coroni pell. Erbyn dod at hon mae'n am lwg fod y bardd wedi derbyn gwersi miri y gystadleuaeth gyntaf, ac wedi perffeithio Ilawer ar y wisg,ond erys nodweddion ei feddwl yr un. Yr un yw'r farddoniaeth: barddoniaeth yn myned allan ar neges rhyddiaith. Mae yma gyfoeth aruthrol o feddwl,-Mae yma ddyfnderau clir, ag y gallem edrych iddynt yn synfyfyriol am ysbeidiau per, ond dyfnderau broydd athron- iaeth ydyjit, yn ddiau, wedi dod dan lygad y bardd. "—(Ben Davies, yn Y Geninen am Hydref).

Llongyfarch y Parch. Ffinant…

BARDDONIAETH. - - - - I

DYDD Y WERIN. I

CAPEL HENDRE.I

"-!I I CAERBRVN... ,

GLANAMAN.

GARNANT.

CAERAU, TRA PP.

Ammanford Police Court.