Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

THE OMNIBUS. I

Outlines of Local Government

Successful Carnival at Cross…

[No title]

AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL.

[No title]

[No title]

Rhys J. Huws.

Llongyfarch y Parch. Ffinant…

BARDDONIAETH. - - - - I

DYDD Y WERIN. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYDD Y WERIN. I Hired bur nos yn oedi, Gan ledu ei adain ddu; Clywaf garolau Rhyddid yn awr 0 enau fy ngwerin gu. I Can sydd ar dant ei thelyn, A Salm sydd ar las y bryn A gorsedd gorthrymder dynnir lawr Yng ngoleu yr hafddydd gwyn. Hired bu'r niwl yn cuddio Egwyddor brawdgarwch glan Dengys y deffro ei ddisglair wen, A dysg y ddynoliaeth gan. Cerdda lwybrau elusen, Car roddi bara Ïr tlawd; Ei gwynfyd yw cario baich yr hen, A brawd yn adnabod brawd. Gryfed yw nerth Cyfalaf, Undeb sydd gryfach o hyd, A deil y ddynoliaeth yn y storm I ymdaith i'w hawl a'i byd. Bu beilchton brad yn twyllo, A gwaogu fy gwerin lawr; Ond son am gyfiawnder fyn hi mwy, Nid briwsion o fyrddau'r mawr. Cadwed y mawrion eu briwsion, Mae dyn yn gofyn ei hawl; Tal yn gyfiawn am dd'wrnod o waith, A bywyd yn for o faw l. Nid cardod mwy i'r werin, Ond gwaith a chyfiawnder clir; Rhyddid i gerdded ar hyd ei thaith I siarad a dweyd y gwir. Cododd yr heulwen loew, A chilia niwloedd y glyn Sychir ffenestri bythynod tlawd, A'r aelwyd ga leu fer gwyn. I Ymchwil dyn am wybodaeth, Gwinoedd dysgeidiaeth i' w blant; A thyfu wna mention ar ei rawd, Ar lwybrau y bryn a'r pant. Cenfydd fy ngwerin flodau Gwanwyn ei newydd ystad A chofia wrth gerdded Uéthrau. r bryn Fod rhan iddi hi o'r wlad. Myn y Gymanfa Ganu, Y Bregeth a'r Ysgol Sul; Ac o'u rhinweddau sugna ei nerth I ymdaith dros lwybrau cul. Cerddai yn swn gweddiau, Dan wlith bendithion y Nef; A baner cyfiawnder yn ei Haw, A chariad Crist yn ei lief. Llwydd y Nefoedd a ganlyn Ymdrechion fy ngwerin dlawd, Am fod ei hamcan yn loew wyn, A'r byd iddi'n chwaer a brawd. Cenfydd bryd,ferthwch blodau Aroglant yn her o hyd A dywed sirioldeb eu tlysni Mai meddiant i bawb yw'r byd. Teimla ei beichiau'n syrthio, A cherdd yn y goleu'n rhydd Gwel ei choron ar ben y bryn, A'r nos yn rhoi ffordd i'r dydd. Cyfyd yng ngerbyd Iawnder I gofio am lawn, yr lor; Ac anthem cariad dwyfol y groes Atseinir o for i for. Y plant mewn dillad gwynion Sy' n canu eu Salmau iach; A'r werin fu'n griddfan dan ei loes Frwydra am hedd i'r rhai bach. Poethed yw gwres y frwydr, Y werin sydd Jaw yn llaw, Yn symud rhwystrau oddiar y ffordd I dangnef y cyfnod ddaw. Saif i wynebu gormes, I A'i llygad ar wawr ei dydd Ac ni thry ei chefn ar drais yr Aifft, Ond myn hi yn Ganaan rydd. I Gwinoedd diwy lliant crefydd Odrachtia wrth deithio ymlaen A'i chalon yn gweHa bob cam o'r daith, Ac ysbryd y Nef ar daen. Cana emynau' r proffwyd Am garjad diderfyn Duw A" hysgwydd yn dyn o dan y gwaith, Hawlia i ddynion gael byw. REES D. REES (Rhydfab Hendre) Penygroes, Llandebie.

CAPEL HENDRE.I

"-!I I CAERBRVN... ,

GLANAMAN.

GARNANT.

CAERAU, TRA PP.

Ammanford Police Court.