Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
IByrion. "- I
I Byrion. I IVlae Gymdeithas Gymraeg gref newydd ei sefydlu yng Ngholeg yr Athrofa Bangor Syr John Morris Jones' yw'r Llywydd, a chcrir y gweithrediadau ymlaen i gyd yn Gynv- raeg. Beth am Gaerdydd? Mae tal doctoriaid yn y rhan fwyaf o leoedd ym Mhrydain wedi codi 56 y cant. Yn wyncb pris uchel llaeth dywedlr y gadewir tlodion yng N ghaerfyrddin f.vnd i'r farchnad ar ddydd Mercher, a godt-c'r gwartheg a fo yno. Dirwywyd dau ddyn ym Mhontv-I .I pridd yr wvthnos ddiweddaf atti ychwanegu dwr at v llaeth a werthant. —I Daeth diwedd ar "rations" -eig. -——— Yn yr Agricultural Hall yn Llundam yr wythnos ddiw-eddaf, gwelid fterm- | wyr o Siroedd Lloegr yn dod yn eu motor cars esmwyth. Gyda top hats, morning coats, a spats! Awgrym 1 ftermwyr cefnog Siroedd gwledig Cvmru wrth fynd i'r mart a'r ffair. Mae Sir Benfro yn mynd i ail adel-ladu Ysbyty'r Sir, dan' draul o ^20,000 er cof a ii-i y mil o fechgyn Penfro a laddwyd yn y Rhyfel. Bwriedir adeiladu gorsaf newydd yn Aberystwyth.
i . Yr ysgol Gymraeg.
Yr ysgol Gymraeg. ATEB I "MUSICUS, CRAIG- Un o'r pethau cyntaf sy raid i ni ddysgu ynglyn a ieithoeckl yw na ellir evlieithu'n llythrennol o un iaith i'r iial! heb wneuthur camwri mawr a'r iaith y cyfieithir ohoni a'r iaith y cyfieithir iddi. A cholli golwg ar hyn a barodd i Mus- icus." gyfieithu 'canu'r organ a'r piano' 'n llythrennol i'r Saesneg (nid Saesonig) fel hyn: 'Singing the or- gan and the piano." Dylid cofio bod gan iaith ei hymadroddion ai liidion-i- au priod, ac na ellir eu cyfieithu air am air, a dywed P.W Joyce, Ll.D., &c., yn ei "Grammar of the Irish Language" am idiom: "An expres- sion that has acquired by usage a cer- tain meaning which becomes lost in a word-for-word trans- lation into another language so that in order to convey the true meaning in that other language, the form of the expression must be changed. Gadewcli i mi roi ychydig enghreifftiau i geisio., argyhoeddi "Musicus" nad wrth. y aesneg nac unrhyw iaith arall y dylid barnu cywir-" deb a swyn ymadroddion persain y Gymraeg, e.e., Y mae llyfr gan y dyn, neu y mae gan y dyn lyfr (There is a book with the man). Ond pa Gymro deallgar a'i cyfieithiai felly? Yn hytrach dywed: "The man has a book. Yr idiom yn y Wyddelig o'i chyfieithu'n llythrennol i'r Saesneg fyddai "The book is at the man," ac yn y Lladin a'r Roeg hithau, "There is to be a book." Y mae'r dyn yn sefyli ar ei ben ei hun (The man is standing on his own head); Y mae ei draed yn dyner dros ben (His feet are tender over head?); Yr wyf yn mynd dros fy mam i'r shop (I am going over my mother to the shop);Y mae'r dyn yn sefyll wrth dalcen y ty (The man is standing over against the forehead of the house). Bore heddyw clywais ddau o ymadroddion a Mdelnyddir yn ami iawn ar y Graig, e.e., Yr wyt tithe'n cwnnu dy gloch, wyt ti (Thou art raising thy bell, art thou?). Y mae'r gloch yn canu, (The bell is singing). Gellid rhoddi ugeiniau o ymadroddion eraill cvffelyb, ond dyma ddigon, mi gredaf, i argyhoeddi 'Musicus" nad felly y carai ef gyfieithu'r ymadrodd- ion hyn.. Ac os gall y gloch ganu, ni welaf i yn fy myw paham na all piano, organ, telyn, crwth hwythau ganu. A yw ef mor sicr yn ei farn erbyn hyn mai dim ond "dyn ac aderyn yn unig sydd yn medru canu" ? Y mae canu telyn, a chanu crwth, etc., yn hÍ1 ymadroddion, ac yn sicr o fod yn fwy persain i glust y Cymro na chwarae telyn, crwth, piano, etc., er bod Ceir- iog yn dywedyd "Canu'r wyf gan chwarae'm crwth I'r ffynnoh fach sydd ger fy mwth." Gadewch i ni lynu wrth yr hen ymadroddion swynol hyn, ac os bydd raid i ni eu eyfieithu, na chyiieithwn hwy air am air fel y gwna "Musicus, ac yna ni byddant "yn swnio yn lled-chwith." Yr eioooch, N SAM YR HALIER. I m. s i) r T .rr* ''rri
[No title]
Rhondda Fach. Gwasanaeth Coffa: Nos Sul,' Rhagfyr 7, yn Penuel (M.C.), cynhaliwyd gwasanaeth,coffa i'r diweddar Miss C. E. Davies, Terrace House, Fern- dak;, ocdd yn ysgolfeistres yn Mardy. Gwasanaethwyd gan y Parch. B. Wat- kins, a'i destun oedd, "Eithr y ddoeth- irieb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddvchlawn, boneddig- aidd, hawdd ei thrin, ilawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd a diragrith." Yr oedd y gwirionedd hwn yn ddisgrifiad byW o'n hannwyl chwaer. Boneddiges Grist- nogol ydoedd hi yn ystyr oreu'r gair. cymrodorion.—Rhagfyr 12, yn Festri Capel, Wesley, Fermdale, cafwyd papur cyfoethog ar Ben Bowep gan Mr. D. T. Davies, ysgolfeistr, Po-iltygwaith. Cyd- ynideimlwn a ef ar farw'i chwaer, sef y "foneddiges a goifeir uchod. Llywyddodd Mr. David Williams, ysgolfeistr, Maerdy. Drama. — Rhag. 5ed, yn N euadd y Gweithwyr, Ferhdale, cliwaraewyd "Fel fi dy un," drama Mr E. J. Jones, M.A., Fei-;i,da,le. fl, i y Neuadd gan dros fii o bobl. Y mae eto anrhydedd i IHoffwycl vn ei wlad ei hun.
Advertising
I - Byddin y Merched...
I Byddin y Merched. I YMCHWILIAD I GVVYNION MISS DOUGLAS-PENNANT. Yr wythnos ddiweddaf cyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor a benodwyd gan Dy'r Arglwydi i wneuthur ymchwiliad i gyhuddiadau Miss Douglas-Pennant ynglyn ag adran o'r fyddin a adna- byddir wrth y llythrennau W.R.A.F. Cofir ddarfod i Miss Douglas-Pen- nant ddwyn cyhuddiadau amrywiol yn erbyn gwyr a gwragedd tra adna- byddus. Yr oedd Arglwydd Weir wedi ei throi hi allan o'i swydd yn bur ddiseremoni, ac yna ceisiodd hithau gan y Llyworaeth wneuthur ymchwil- iad i'r mater. Gwrthodwyd ei chais, ond ymhen llawer o amser penderfyn- odd Ty'r Arglwyddi gynnal ychwiliad, a hynny a fu. Dug Miss Douglas-Pennant gyhudd- iad yn erbyn rhai eu bod wedi cyn- llwyno i'w throi o'i swydd, ac ynglyn a hyn emvid pobl enwog, megis Ar- glwydd Weir, Syr Auckland Geddes, Lady Rhondda, ac ereill. Bellach dyma adroddiad y pwyllgor wedi ei gyhoeddi, a cheir fod pob cy- huddiad o.eiddo Miss Douglas-Pen- nant yn ddi-sail. Dywcd y pwyllgor fod Miss Doug- las-Pennant yn wraig lawn o frwd- frydedd ac yni, ond yn' bwysig iawn yn ei meddwl ei hun, yn bur anystyriol pan fyddai'n dwyn cyhuddiadau yn er- byn ereill, ac yn annhebyg o gael y goreu allan o'r rhai sy'n cydweithio a hi neu o dan ei hawdurdod. Daeth y pwyllgor i'r penderfyniad mai yn ei syniad anghywir hi am ffeithiau a dig- wyddiadau y tarddodd y stori am y cynliwyn, a'i bod yn analluog i weled pethau yn eu goleu priodol. Mae yng nghof ein darTIenwyr ddar- fod i Lady Rhondda, pan glywodd hi am gyhuddiadau Miss Douglas-Pen- nant brysuro adref o Canada i'w gwrthbrofi. Gohiriwyd cau'r ym- chwiliad nes y glaniodd hi ym Mhryd- ain, ac yn ei thystiolaeth gerbron y pwyllgor gwadodd yn bendant gy- huddiadau Miss Douglas-Pennant yn ei herbyn a dug ffeithiau i'w gwrrth- brofi. Dywed y pwyllgor yn awr fod Lady Rhondda wedi cyflawni ei dyledswydd yn ddiffuant ac wedi estyn cymorth gwerthfawr i Syr Auckland Geddes pan oedd efe'n wynebu sefyllfa bur an- foddhaol. Ni bu dim cynllwyn na chyd-weithrediad o du'r cyhuddedig i dro2i 'fi-gs Dou droi Miss Douglas-Pennant o'i swydd na'i chymell i vmddiswyddo. 0 berthynas i gyhuddiadau a ddyg- wyd yn erbyn ereill, sef bod anfoes- oldeb ,cyffredinol yn ffynnu yng ngwersyllfa y W.R.A.F. yn Hurst Park, a bod rhai swyddogion yn dy- muno iddo barhau, dywed y pwyllgor fod hwn eto'n ddisail ac na chafwyd dim tystiolaeth i gadarnhau'r un cy- huddiad o'r fath a ddyg"vvyd gerbron gan Miss Douglas-Pennant. Gyda golwg ar ei haeriad fod swyddogion neilltuol yn effeithiol, dywed y pwyllgor fod y tystiolaethau" yn ei wrthbrofi, a dyfynnir yn helaetb ohonynt i gadarnhau'r gosodiad. Yna rhydd y pwyllgor sylw i waith Arglwydd Weir yn diswyddo Miss DouglasrPennant. Beirniedir y weith- red gyda golwg ar yr adeg a ddewis- wyd i'w chyflawni a'r modd y'l cyilawnwyd a'r rhesymau a roddwyd drosti, eithr addefir nad oedd Ar- glwydd Weir o dan unrhyw ddylan- wad amhriodol. Yn ei swydd f,1 Gweinidog y Got on efe'n unig oedd 1 benderfynu ai doeth fai diswyddo Miss Douglas-Pennant. Ynmarn y pwyll- gor gwnaeth Arglwydd Weir ei waith yn onest, a diswyddodd Miss Douglas- Pennant am ei fod yn credu bod hynny er lies y gwasanaeth cyhoeddus. Wrth ddiweddu dywed y pwyllgor eu bod yn gobeithio na chaniateir byth eto ymchwiliad o, dan amgylch- iadau cyffelyb i'r rhai a grybwyllwyd yn yr achos hwn. Mae yn angenrheid- iol fod gan Weinidog y Goron hawl ddiswyddo'r rhai sydd o dan ei awdur- dod os tei'mla efe mai hynny sydd oreu. Mewn achos felly ni ddylid rhoi dim ystyriaeth i deimladau personol v swyddog a ddarostyngir. Mae'n ddrwg gan y pwyllgor nad oes gan ddynt hawl i orfodi neb i dalu treul- iau'r ymchwiliad. Hysbyswyd yn ddiweddarach fod yr ymchwiliad wedi costio naw mil o bunnoedd. Wrth reswm, dygir y draul hon gan y trethdalwyr. Y ng nghynffon adroddiad y pwyll- gor ymddengys llythyr gan Arglwydd Stanhope yn mynegi ei fod yn bwriadu ymddiheuro yn Nhy'r Arglwyddi am j rai pethau a ddywedodd efe ynglyn a'r achos hwn. -■ ■
j Nodion o Wlad Myrddin.
j Nodion o Wlad Myrddin. f GAN CE. Mae Pwyllgor Addysg Sir Gaer- fyrddin wedi penderfynu adeiladu Y sgol Ganol-radd newydd yng Nghwm Gwendraeth—rywbryd—yn j rhywle. I Aeth dirprwyaeth o ddirwestwyr y Sir, yn cynnwys y Parch Hugh Jones, Llanelli,y Parch. D. G. Thomas, Llan- stephan, Miss Rosina Davies, Ferry- side, ac eraill, i gyfarfod Pwyllgor Addysg y Sir i geisio ganddynt roddi gwersi ar ddirwest yn yr Ysgolion. Cytunwyd i wneud hynny o phenod- wyd pwyllgor i wneud y trefniadau angenrheidiol. Mae'r Pwyllgor Addysg hefyd yn mynd i roddi y "Choice of Employ ment Act" mewn grym yn y Sir. Amcah y Ddeddf hon ydyw rhoddi cynghorion i rieni a phlant yng nghylch y grefft neu'r gwaith cym- hwysaf i'r plant pan fyddont yn gad- ael yr ysgolion. Bydd y Llywodraeth drwy Swyddfa Llafur Llanelli, a'i changhennau yn Burry Port, Kid- welly, Caerfyrddin, Garnant, Amman- ¡ ford, Llandilo, a Llanymddyfri, yn cydweithredu a'r Cyngor Sir yn y gwaith hwn. rvlael gobaith am dai newydd yn Llanelli o'r diwedd. Bu Mr. Lloyd Thomas, y dirprwywr dros Gymru, yma yr wythnos ddiweddaf yn ceisio hyrwyddo tipyn ar bethau. Bu amryw 0 fasnachwyr Llanelli (gydag eraill o Abertawe a Phort Tal- bot) yn gweled Mr., Lloyd George ddydd Gwener diwTeddaf yng nghy'ch annibendod trafnidiaeth ar reilffyrdd y cylch. Dywedwyd pethau hallt wrtho. Gobeithio y ceir gwelliant ar bethau.
0 Gwm Gwendraeth. I
0 Gwm Gwendraeth. I Dydd Sadwrn, Rhag. 6, cynhaliwyd Eis- teddfod Plant fawreddog yng Nghapel Seion, a bu llwyddiant mawr—tyrfa luosog a llu o gystadleuwyr ymhob adran. Dyma un o'r Eisteddfodau Plant goreu a welwyd erioed yn yr ardaloedd hyn. Mae clod nid bychan y11 ddyledus i gefn- ogwyr y mudiad yn y lie. Gresyn na fu- asai rhagor o Eisteddfodau Plant yng Nghwm Gwendraeth. Gwnaed trefniadau ar gyfer cystadleu- aethau Chwarae Drama yn y Tumble a'r Cefneithyn yn gynnar yn 1820. Dylai pob Cwmni Drama drwy'r Sir ddal man- tais ar y cyfle hwn. Pob llwydd i'r mud- iad yp y ddau le. Dydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, cynhaliwyd cynhadledd ym Mhontyberem dan nawdd Adran Ddwyreiniol Dyfed o Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg. Daeth nifer luosog o Gymry'r Cwm ynghyd a chafwyd amser da. Lly- wyddwyd gan Mr. J. M. Jones, ysgol- feistr, Pum Heol, a thraddodwyd anerch- iadau gan y Dr. G. P. Williams, M.A., Arolygydd Ysgolion Ei Fawrhydi, Llan- elli, ar "Y Gymraeg a'r Ysgolion," a'r I Pareh. D. Hopkin, B.A., Llwynhendy, ar "Lenyddiaeth Cymru," a dymimwyd ar y ddau siaradwr gyhoeddi eu hanerchiad- au. Clywsom fod ym mwiiad Myfyr Hefin ddanfon adroddiad Hawn o'r gweithred- iadau i'r Darian. Yn ddiweddar sefydlwyd Cymdeithas Gymraeg ym Mhonthyberem, ac y mae argoelion llwyddiant mawr. Cynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf nos Wener, Rhag. 5ed, dan lywyddiaeth Mr. Morgan Thomas, ysgolfeistr, Pontyberem. IVa- ,ddodnvyd anerchiad ineistrolga-r a choeth, yn llawn gwirioneddau pwysig ac amser- ol dros ben, gan y Parch. D. Rhydderch, B.A., Capel Seion, ar y testun, "I'eitlau Cymru." Dylai pob Cymdeithas Gym- raeg glywed y ddarlith odidog non; mae ynddi neges bwysig i Gymry'r oes hon. Cafwyd gair hefyd gan y eadeirydd, y Parchn. Huw Edwards, a R. J. Jones, B.A., 13.D., Mri, Thos. Hewitt, Awelfryn; D. Jones, Bryn Terrace, a T. M. Thomas, Bancffosfelen. Yr un noson, dewiswyd y personau can- lynol i Surno pwyllgor y Gymdeith Y Parchn. R. -J. Jones, B.A.. B.D. HTT.V Edwards, Mri. Morgan Thomas, ysgol- feistr; Thomas Hewitt, J. R. Daniels, T. M. Thomas, Bancffosfelen; Misses M. Davies, B. Greville ac E. Beynon. Gwnaed trefniadau ar gyfer gWeddill y tymhor, a dewiswyd y swyddogion can- lynol:—Llywydd: Mr. Mbrgan Thomas; islywydd, Mr. T. M. Thomas; trysor- yddes, Miss E. Beynon; ysgrifenyddes, Miss B. Greville. MALLTEG. •
Advertising
MEDD YGiNlAETH Oiim YR OJEJSL iNFFLlWENSA. QUININE BITTERS GWILYSVf Y TONIC LLYSLEUGL. Fel Atulydâ ni wyddom am ddim hafsi QUININE BITTERS GWILYM EVÅN rofodd ychydig ddogna II oryfion & gv- merwyd mewn pryd yn effeithiol iN.wt<t gwaith i atal ymosodiadau o'r clef yd hwr.1, U, vyddodd bob tro i ddoh eu Uymdr* pÍ<\ fyddai'r claf dan eu heffeithiau. QUININE BITTERS G WIL YM EYANb Y"R FEDDYGINIAETIJ OREU AT LNFFLJWENSA. Berkeley Road, Bristol, Mehefin 18fe<i. Fonp.ddigion,-Bum yn wael iawn .o.$1i Inffliwensa, yn cael ei ddilyn gen Exiy* lad yr Ysgyfaint. Dair wythnos yn oi yr oedd fy nghyfiwr yn beryglus, ac wedi iJ, pengi fynd heibio, teimiwn yn iael te yn wan iawn. Bythefnog yn ol d.w..d. odd y doctor fod yn rhaid i mi gysxsryft Tonic. Awgrymais Quinine Bitters Gwilym Evans. "Y peth," ebe wt, "cymrwch ef dair gwaith y dydd." (Meliar hynny cymeraf ef yn rheSiaidd. theimlaf fy mod yn derbyn lies rhyfrd-d ol. Daeth a chryfder yn ol i'm haelwi au, a gwellhaodd fy holl gyfansoddiad Yr eiddoch yn wir, B. P. CHICK. AR OL INFFLlWENSA. Addefa cleition yn gyffredinol eu hod fwy isel eu hysbryd ar ol cael Infillweziw na phan oeddent dan ei ddylanwad, 4ac y?; fwy nag ar ol ymosodiad o unrhyw glefyts arall. Y MAE'R GWAITH LLEIAF YN FLTN- DER. Y MAE'R PETB OEDD YN BLESEH WEDI TROI YN LLUDDED. Y MAE'R ARCHWAETH I GYD WED; MYND. A DIGALONDID bron yn annioddefol. I SYMIO 1. FYNY-—" MAE BYWYD £ N FAICH i ddynion na theimlasent or blaen am un diwrnod y fath Brudd-dei Liethol. BETH YW'R FDDYGINIAETHP Y fiordd oreu i alltudio'r teimladau prudd hyn yw cymryd Bwyd Maethlon, ar Ymarferiad Cymedrol, Osgoi Unigrwydd ac ymgymysgu at Chwmni Siriol, a chyrs ryd QUININE BITTERS GWILYM EVAN DOES DIM SIRIOLDEB. Y MAE ISELDER YSBRYD. Y MAE'R TEIMLAD 0 BRUDD-DEH Nid gwin meddygol yw, ond y Tonic gonm i rai ar lawr ar ol Inffliwensa. Rhydd dognau cyntaf wared o'r teimlad eich bM yn wan a d:.umddiffyn a geir ar ol pw drwg. Os ymerir tri neu bedwar dog& mewn pryd gyrr hyn ymaith ymosodiad. lieddfa bob amser ei lymdra. Mae 'DOES DIM MYND. QUININE BITTERS GWILYM EVAJflfc yn donic gwerthfawt- ac yn aroeumg &? Inffliwensa, ac y mae yn amhrishxlwy at Wendid, Iselder Ysbryd, Doluriau'r Frest, Methii Cysgu, Diffyg Traul, Gwendid brie^o;. QUININE SITTERS CWILYM EVANS" Gwyliwch eich twyilc. Gwelwch enw "Gwilym Evans ar y label a'r botel, hh y rhai hyn, nid yw'r Feddyginiaeth yr un iawn. GWERTHIR YM MHOBMAN. Mewn poteli 3s. a 5s. yr un, neu danfomi hwy wedi talu'r cludiad ar dderbyniad llythyrnodau yn uniongyrchol oddiwrth vt unig berchnogioa— THE QUININE BITTERS MANUFAC- TURING COMPANY, LIMITED, Llanelly, South Wales.
I DYDDIADUR EISTEDDFODAU,…
I DYDDIADUR EISTEDDFODAU, ete. Llangennech.—Rhag. 20. Pisca, Cilffriw.—Rhag. 25. Blaenau Ffestiniog.—Rhag. 25. Bo d i,in-al It Bodringallt, Ystrad Rhondda,-Rhag. 25 Llanelli, Market Hall.—Rhag. 25. Treforus, Tabernacl.—Rhag. 26 a 27. Libanus, Graig Be rtlilwyd.-Rhag. 26. Abertridwr.—Rhag. 26, 1919. Penbont-ar-Ogwv.—Rhag. 26. Ynysddu.—Bhag. 26, 1919. Pentrebach Hal1.-Iouawr 1, 1920. Cilfynydd.—Ionawr 1, 1920. Llwynypia.. -Iona wr 3, 1920. Bethel, Llansamlet.—Ionawr 24, 1920. Llansamlet.—Ion. 24, 1920. Eisteddfod Drama Ton Penti,e. -Iona wr 26—31. Treforus.—Chwef. 21, 1920. Gwyn Hall, Neath.—Clwef. 28. Aborewmboi.-Mawrth 1, 1920 Ferndale—Ebrill 3. Treforus-Soar, Ebrill 3. Briton Ferry.—Ebrill 17, 1920. Llanerchymedd, Mon.—Lhm a Mawrth- gwyn, 1920. JBlaengwynif.;—Ebrill 24. Cefneithin, Cross Hands.-Mal 22, 1920 Llynllechowain, ger Gorsla-Moh. 19. o Bancffosfelen.—Mehefin 19, 1920. Pontargotli.i.-Gorff. 24, 1920. Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Barri —Awst 2, 3, 4, 5, 6 a 7, 1920. Caerfyrddin—Awst 3. Aberaeron—Awst 11, 1920. Aberystwyth. Cystadleuaeth Drama.— Awst, 1920.
Ein Senedd a'n Seaeddwyr.
wybod pa, le i droi. Datgenir yn groyw gau y Prif Weinidog mai Llafur yw ei elyn mawr ef ar y maes gwleidyddol. Er gwanned y blaid ar lawr y Ty caniyddir. ei nerth mawr a chynhyddol trwy'r wlad. Geilw ar bawb Ryddfrydwyr i ymuno gydag ef a'i gyfeillion i fynd ymlaen a'r gwaith angenrheidiol. Gwel bob drygioni a pherigl ynglyn a Phlaid LJafur. Prof odd yr ymchwiliad i achos Miss Douglas-Pennant yn siomiant i lawer. Gosodid cryn hyder ar y foneddiges r hon a tlieimlid ei bod wedi cael cam nid bychan. Yn ol adroddiad y gwyr a fu'ir chwilio i'r fusnes, ni cheir gronyn o sail i'w cyiiuddiadau difrif- ol. Cyhuddwyd rhai o anfoesoldeb, ac hyd yn oed o, gefnogi anfoesoldeb dybryd, rhwng gwyr a mcrched ieuanc mewn. rhai gwersylloedd. Ond aeth y cvfan gyda'r gwy..nt. Telir gwrog- aeth- i fedr Miss Douglas-Pennant a ehydnabyddir fod y gorchwyl a osod- Nx,, v d o:i blaen yn un anhosibi bron. Beiir Swyddfa'r Awyrlu am ddull apwyntiad Miss Douglas-Pennant ac am yr afreoleidd-dra ynglyn a'i throi o'i swydd. Rhaid addef mai gwaith gwael geir ar adroddi.ad y Pwyllgor. Ymddengys yn debycach i araith gwr plaid nag i ddyfarniad barnwr di- duedd. Gresyn hyn, oblegid evil y cyhoedd, ac yn wir swyddog y llywod- raeth osodir mewn cornel, ymddiried- aeth yn y Llywodraeth ac yn y dull o ddwyn gwaith gwlad a byddin ymlaen. Brwydro yn galed y iii.ae Syr John Minion yn Nvffryn y 8pen, a chynorth- wyir ei wrthwynebydd gan Mr. Mac- namara ac ereifl o aelodau y Lly- wodraeth. Yn ei areithiau etyb Syr -John araith y Prif Weinidog yn Man- chester gydag arddeliad. Cafodd y Cyrnol Fairfax, hefyd bellebryn oddi- wrth Capten Guest, Chwip Rhydd- frydol y Llywodraeth, fel y canlyn: Mewn cyfarfod a chynhiilliad da yn- ddo, o'r blaid Seneddol Ryddfrydcl heddyw prynhawn, a llawer o'r Hydd- frydwyr Anibyrmol yn bresennol, ac ar ol ymdrimaeth lawn, tynnodd Mr. France yn ol ei gynhygiad yn yr fawn, y protestiai yn erbyn cefnogaeth swyddogol a roddid i ymgeisydd Cyrnol Fairfax yn Nyffryn y Spen, a gohir- iwyd y cyfarfod yn unfrydol hyd y Senedd-dymor nesaf heb gymeryd ur.- ryw fesurail pellach." Y mae'r Anti-Dumping Bill wedi ei ohirio hyd y Senedd-dyrnor nesaf, a phar hynny i lawer o garedigion Mas- nach Rydd anadlu yn fwy,rhydd. Condemmo mawr sydd ar fethiant hollol y Llywodraeth gyda phwne y tai. Yn eu hareithiau addawant beth- au mawrion, ond wedi i'r awdurdodau Ileol brynu tir a threfnu pob cynilun- iau rliwystrir hwy i symud gan y Lly- wodraeth ei hun.