Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Nodion.I
Nodion. Gan GAIMANYDD. William Tyndale, Diwygiwr mawr Seis- nig yr unfed ganrif ar bymtheg, Cyfieith- ydd y Bibl i iaith y Saeson, ac un o Ar- dderchog lu'r Merthyron," oedd testyn darlith. y Parch. D. D. Walters ger bron Cymdeithas Camwy Fydd nos Wener yr eilfed cyfisol. Gymaintoedd ei barch a'iedmygedd o Air Duw fel yr ysgrifenodd Tyndale beth fel hyn yn ei ragymadrodd i'w gyfieithiad o'r Testament Newydd. Yr wyf yn galw Duw yn dyst pan yr ymddangosaf ger bron brawdle Crist, i roddi cyfrif olm holl weith- redoedd, nad wyf wedi newid un sill o Air Duw hyd eithaf fy ngwybodaeth, ac na wnaethwn hynny am holl anrhydedd y byd hwn pe y rhoddid ef wrth fy nhraed." -0- Beth amser yn ol mewn cyfarfod cystad- leuol yn Seion, Bryn Gwyn, yroeddcynnifer saith o feirdd (egin beirdd beth bynag) yn ymgeisio ar bennillion i'r Gwanwyn," Prysor feirniadai, a rhoddodd air canmolus i rai o honynt. -0- Digon di raen yw'r Gymraeg yn ami gen- nyin ar lafar, mewn ysgrifen neu mewn argraff, Ond yr Wchw Fawr Chwedl Mabon, o'r braidd y gwelwyd hi erioed waethed ei gwedd a'i diwyg, ag ar furleni yr hunanhysbysebwr oddeutu dyddiau yr Eth- oliad yn Gaiman. Beth feddyliech o hyn, Etholwch Inad Fledwch, Imgaesydd Anibrynol." -0- Cynhaliwyd nifer o gyfrrfodydd gwleid- yddol o fewn cylch y gorphoraeth cyn dydd yr Etholiad, ae yng nghanol graddau helaeth o frwdfrydedd ac unfrydedd y dewiswyd y Bwyr. Elias Owen a Llewelyn Griffiths i seddau ar y Cyngor, a'n cyn ynad Br. Riohard Nichols am yr Ynadaeth. Yr oedd yn amlwg er's tro ^od yr wrthblaid wrthi yn gweithio a'u holl egni, heb arbed na thraul na thrafferth. na dawn 11a dichell er cyrraedd eu hamcan o gael eu dewis- ddynion hwy i fewn- Daeth pedwar i'r maes yn chwaneg am fainc yr Ynad. Ond wrth inni ymgecru ac anghydweld ar y funud olafaciryw giwed benchwiban droi'n frad- wyr ysgeler, collwyd hi ac aeth yn eiddo arall. Ochir a thuchanir yu drwm heddyw o'r her- wydd, a chenir marwnad pob hawl a braint ym mhob maes a marchnad, acar gongl pob heoL -0- Aeth ein dau gynghorwr i fewn gyda mwyafrif anrhydeddus, sef y Bwyr. Elias Owen a Llewelyn Griffiths,-y cyntaf yn hen gynghorwr profiadol ac yn arxvr llu o frwydrau gwladfaol, a'r Llew ieuanc yn cymeryd ei sedd ar gyngor y rhanbarth am y tro cyntaf. Yn wir meddai cyfaill wrthym wedi clywed am ei lwydd, y mae eisiau am- bell lew yna. Llongyfarchwn y ddau yn galonog. -0- Awst y 1ge9. ym mynwent newydd y Gaiman, cleddid yr hyu oedd farwol o'r hen gymrawd hoff Edward Lloyd o'r Dyffryn Uchaf, yn 69 rnlwydd oed. Bu farw nos Sadwrn blaenorol wedi cystudd caled am dri diwrnod. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan y Parch. D. J. Williams, Trelew. Cyd- ymdeimlir yn ddwys a'i unig fab Alun a'r teulu. > • <
[No title]
Gyda'r llong ddiweddaf o'r Brif Ddinas daeth y personau canlynol yu ol i Ddyffryn y Camwy :—Fones Thomas E. Morgan a'i mherch y Fonesig Dinah Morgan Br. Thos. Freeman a'r Br. Arthur Hughes yr hwii sydd wedi derbyn lleshad i'w iechyd gan y meddygon yno. 0 0 0 1
.Llongau.
Llongau. ARCENTINO i adael Buenos Aires ar Medi 7. ASTURIANO ar ei thaith i'r De. ATLANTICO yn Buenos Aires. QUINTANA ar ei thaith o Madryn i Buenos Aires. MITRE i gadael y Brifddinas ar Medi 7. CAMARONES i adael y Brifddinas ar Medi 12. v v-
ICia. Unida de Irrigacion…
I Cia. Unida de Irrigacion del Chubut j RAMAL, A. De acuerdo al Art. 25 del Reglamente Ge- neral de los Ramales, se hace Saber que el socio que regare mas tierra que la que Ie. corresponde incurrira en una multa de$40. por hectarea, sin teuer permiso especial de la Comision Directiva del Canal. Todos los regantes que desean obtener ac- ciones podran alquilarlas. Por mas datos etc. vease el Presidente del Ramal. LA COMISION.
Advertising
CODWYD Rhwng Trelew a Rawson tyre perthynol i fodur. Trosglwyddir hi i'w pherchenog ond talu am yr hysbysiad. Am fanylion pellach, ymofyner yn Swyddfa'r DRAFOD. ENCONTRADO. Entre TRELEW y RAWSON una cubierta de automovil. Se dara al dueirio pagando los gastos del aviso. Por mas datos dirigirse á la Imprenta Y DRAFOD.
Cwmni Undebol Dyfrhaol y Camwy.…
Cwmni Undebol Dyfrhaol y Camwy. CANOBINf A. Yn unol a'r Eth. 25, o'r Trefniadau Cyff- redinol y Canghenau ni chaniateir i aelod ddyfrhau mwyo dir na'i hawliau, bydd pwy bynag droseddo yn agored i ddirwy o 40 noler yr hecterw, oni bydd iddo yn flaenorol ddyfod i gytundeb a'r Cwmni yn unol a'r Trefniadau. Rhentir cyfranau i bwy bynag ddymuno gan Bwyllgor y Ganges. Y PWYLLGOR.
V RHYFEL. I
Gorchfyg-asom ymosodiad y gelyn i'r I gogledd o Baillieul. Awst 27. PARIS. Swyddogol.—Bu brwydrau lied fywiog gyda'r cadoffer yn ystod y nos yn ranbarth Roye a Beauraugnes, a rhwng- Aillette ac Aisne. Trodd ymosodiadau y gelyn yn Vosges yn fethiani. Cymerasom garcharorion. LLUNDAIN.— Yn ol cyfrif swyddogol o golledion y Prydeinwyr rhwng 2iain a'r 25ain cyhoeddir fod y nifer yn 23,000. Yq ystod yr un cyfnod cymerasom 20,000 o Almaenwyr yn garcharorion. LLUNDAIN.-Mae'r Japaniaid wedi cwbl- hau eu cydganoliad yn Usuri. Darfu i Marmes yn cael ei gynorthwyo gan foduron arfog ymosod a gorchfygu y Bolshevikiaid yn Evgenevska. RHUFAIN. Swyddogol.-Dangosir gweith- garwch mawr gan ein cylchwilwyr yn Asiago. Cymerwyd carcharorion gan wa- hanlu o gadluoedd Ffrengig-Prydeinig yn Monte Tomba. Gwrthg.urasom ymosodiad cryf oddiwrth y gelyn. RHUFAIN.—Mae Orlando wedi myned i'r ffrynt. AMSTERDAM.—Cadarnheir fod y Checo- SIavs wedi ail gymeryd Kuzan. COPENHAGEN.—Mae'r newydduron Almaen- aidd o'r un farn fod y sefyllfa ynglyn ar ys- baen yn ansicr. Dywed y "Taeglische Rutid- schau" y byddai i wrthdarawiad rhwng y ddwy wlad gael dylanwad mawr ar Argen- tine a Mexico. Dywed y "Vorwarts" y byddai i waith Ys- baen yn rhoddi heibio anmhleidgarwch yn fuddugoliaeth boliticaidd fawr i'r Cydbleid- wyr (Entente). LLUNDAIN. Daily Mail. Hague.-Mae cyn hauaf yr Almaen yn 15 y cant yn well nag un 1917, ond y maent eisioes wedi dechreu ei ddefnyddio, Mae'rey,iihauaftatwsyiigyfartal i tin 1917,. ond mae'r cynhauaf porthiant (forage) wedi inethu. LLUNDAIN. Swyddogol.—Ymosodasom yn nosran Scarpe a symudasom yn ..mlaen ar ddwy ochr y Somme. Gorchfygasom wrthymosodiadau i'r gog- ledd a'r dde o Bapaume a chymerasom gar- charorion. Yr ydym wedi cymeryd Farreuil. Mae gwlaw trwm ar yr holl ffrynt. PARIS.-Dywed gwifreb oddiwrth "Havas" o'r ffrynt Prydeinig fod y Prydeinwyr, i'r dde o'r Somrne, wedi cymeryd gwn mawr newydd 380 calibre (gwndwll). Awst 28. LLUNDAIN, Swyddogol.—Yr ydym wedi cymeryd Highirood ac wedi cyrraedd Lon- ghes. Yr ydym yn symud yn mlaen i gyf- eiriad Dompieraste a Suzanne. Er yr 2iain yr ydym wedi cymeryd 21,000 yn garchar- orion. PARIs.-Mae'r newydduron yn gwneud sylw o'r sefyllfa rhwng Yspaen a'r Almaen, a dywedant fod y newydduron Almaenaidd yn datgau awydd i osgoi rhwyg, yn arbenig gan fod y bygythiad Ysbaenaidd yn un lied bwysig. AMSTERDAM.—Yu ol y "Telegraff" gwrtli- ododd bataliwn Almaenaidd fyned i'r ttrynt. Wedi i lawer gael eu saethu ymostyngodd y gweddill i'r awdurdodau. Archangel. Bydd i lywydd y Llywod- raeth ddarbodol orchymyn casglu ynghyd y fyddin genedlaethol newydd. mae gwasan- aeth milwrol gorfodol wedi ei sefydlu. PARIS. SW y ddoool.-Yr ydym wedi gorch- fygu Fresnoy Lervy a Saint Mard. LLUNDAIN. Swyddogol.—Yr ydym wedi cymeryd Wancourt a Mouchy-le-Reoux, Yr ydym hefyd wedi cymeryd Cappy, Su- zanne a Faiz. THE HAGUE.—Dywed un teilwng o ymddir- iedaeth ag sydd wedi dyfod o'r Almaen fod y cwestiwn o gyflenwad bwyd yn achosi an- hawsderau mawr. Er hyn ui fydd i newyn wneud i'r Almaen roddi i fyny. Ni fydd dim yn effeithiol ond dyrnchweliad y gallu milwrol. RHUFAIN.-Bydd i rai sy'n cyfansoddi corphlu newydd awyrol ddechreu ar eu cwrs o hyfforddiant yn yr Hydref. AMSTERDAM.—Mae anhawsderau'r Wein- yddiaeth yn parhau heb eu dadrys, bydd i gais gael ei wneud i ffurfio Cyfringyngor cyf- aiisod(ledig or naill I)Iaid a'r Ilall. PARIs.-Mae'r Almaenwyr yn encilio yn gyflym oddiwrth y Somme. Mae'r byddin- oedd Ffrengig yn cadw mewn cyffyrddiad parhaus a'r gelyn, ac yn achosi colled drom iddo. RHUFAIN. Swyddogol.- Suddasom fad- modur i'r gelyn yn agos i Torbolo ar lyn Garda. Yn nyffryn Assa cymerasom rai carcharorion. Yn Alposillo ffrwydrasom stor nwyddau rhyfel y gelyn, a difodasom wahanlu fechan yn ranbarth Grappa. PARIS. Swyddogol.- Yr ydym yn parhau i symud yn mlaen ac yn cadw mewn cyff- yrddiad a blaen byddin y gelyn. Yr ydym wedi cymeryd Chaulnes, Omiencourt, Bala- trel-laialiso a Verpilliers. Er ddoe yr ydym wedi cymeryd 30 o bentrefi, ac wedi symud yn mlaen 12 kilometres mewn rhai Ileoedd. LLUNDAIN. Swyddogol.—Mae ein cadlu- oedd wedi cymeryd Faucancourt gan gym- eryd Ilawer yn garcharorion, yr oedd y lie wedi ei gadarnhau. Gwrthgurwyd ymosodiad y gelyn ar ffrynt Arras-Douai. Yn nosran Newbwrquin yr ydym wedi symud yn mlaen 4 milldir. LLUNDAI.ri.-Dywed adroddiad o Archangel fod cadluoedd cydbleidiol wedi gwasgaru afon-Iynges perthynol i'r Maximilistiaid. AMSTERDAM.—Mae cadluoedd Japanaidd wedi cyr-raedd i I-laillar 1500 o filldiroedd o Vladivostock. LLUNDAIN.-Ar ei ddychweliad o'r ffrynt dywed General Maurice yn y Daily Chronicle fod lluoedd yr Almaenwyr yn mhell o fod wedi eu hysbyddu, ond mae eu cwymp yn sicr os bydd i'r Cydbleidwyr barhau i bwyso yn mlaen arnynt. WASHINGTON.-Dywed March fod y Cyd- bleidwyr wedi cymeryd 112,000 yn garchar- orion er Gorphenaf, hefyd 1300 o ynau o wahanol faintioli (calibres). PARIS.-Dywed tiewydrlion Cnid o ffynon- ell swyddogol) fod y Cydbleidwyr wedi croesi Aillete o dan arweiniad Mangin. BERLIN. Swyddogol.—Ddoe arwyddwyd gan yr Almaen a Rwssia dri o gytundebau adychwanegol at un Brest Litovsk. ———— .t -————