Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODION A HANESION.

Advertising

- - - - - - -- - - - -Nil"…

IAthraw Ysgol Amaethyddol…

Mam yn Canfod ei Phlant I…

[No title]

Cymanfa Ddirwestol Gwynedd.\…

Ein Cyfeiilion yn Nghasrnarfon.…

-I Undeb Ysgolion Annibynv,…

Rhai ffeithiau yriglyn a tlechreuad…

- _.- - - - - - - Y TRYCHINEB…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TRYCHINEB YN Y PEGWN. Ychydig o oleuni pellach sydd wedi ei gae! ar ddiwedd trychinebus C-.tpten Scott a'i bedwar cymrawd wedi cyraedd y Pegwn Deheuol. Hysbyswyd unwaith o New Zealand fod un o'r fintai wedi myned yn or- phwyHog, ond dywed Commander Evans nad yw hyny'n ffaith, ac mai diffyg defnydd tan a fu'n un achos o'r trychineb. Hysbysir hefyd yn awr mai Capten Scott oedd yr olaf i farw o'r parti Trengodd ar y 27am o Fawrth. I Y FANER GYMREIG. Mewn brysneges i'r Western Mail o Lvttleton, dywed y Commander Evans fod y faner Gymreig wedi ci chodi ar ben luvylbren y Terra Nova ar Ddydd Gwyl Dewi pan oedd y llestr yn agos i Cape Evans. CAEL Y CYRFF. Dywed Commander Evans i'r parti a aeth i chwilio am eu cyfeiilion dd'od o hyd i'w pabell ar Tachwedd ioted, 1912, a'r eira bron wedi eu gorchuddio. Yr oedd y sled a'r celfi wedi eu gorgh- uddio'n llwyr. Adnabuasant y cyrff, rhoed y babell drostynt, a chodwyd carnedd o eira arni. Rhoed croes ar gopa'r garnedd, ac arni gofnodiad o'r trancedigion a'u hymdtech Iwyddianus i gyraedd y pegwn. Gwnaeth saer y Terra Nova groes fawr o goed Jarrah, yr hwn a bery am oesau yn hinsawdd y pegwn, ac fe'i cariwyd i'w gosod i fyny mor agos ag y gel lid i'r tan y trengasant. Paent- iwyd y groes yn wen, a gwnaed y llyth- renau a dorwyd arni yn dduon. GWASANAETH COFFA. Yn Eglwys St. Paul, Llundain, ddydd Gwener, cynhaliwyd gwasanaeth er cof am Capten Scott a'i gyfeillion a gollas- ant eu bywydau. Yr oedd pob sedd yn yr adeilad eang yn llawn ddwyawr cyn amser dechreu y gwasanaeth. Yr oedd y Brenin, y Prit Weinidog, ac amryw swyddogion o'r Weinyddiaeth yn bres- enol hetyd berthynasau a chyfeillion i Capten Scott a'r rhai drengasant gyd ag e t. DYDDLYFR CADBEN SCOTT. Cafwyd y manylion canlynol yn nydd- lytr Cadben Scott, dyddiedig y 25ain o Fawrth, 1912 Nid wyf yn meddwi i fodau dynol erioed fyned trwy y fath fis ag yr aeth- om ni drwyddo, ond buasem wedi dod trwyddo onibae i Oates fyned yn wael, a phrinder tanwydd. Pan gyrhaeddasom o fewn un milltir ar ddeg i One Ton Camp yr oedd gen- ym ddigon o danwydd i wneud un pryd o fwyd cynhes a digon o fwyd am ddau ddiwrnod. Buom yn analluog am bed- war diwrnod i adael y babell gan mor arw oedd yr ystorm. Yr ydym yn wan iawn, ac anhawdd yw ysgrifenu, ond o'm rhan fy hun nid wyf yn editarhau i mi tyned ar y daith hon, yr hon sydd wedi dangos y gall Prydeinwyr ddi- oddef ca!edi, hetpu y naill a'r llall, a chyfartod angcu yn wrol. Dar fu i ni fentro llawer, onJ y mac pethau wedi troi yn ein herbyn. Nid oes genytn illy le i gwyno, ond plygwn i ewyllys R-iagluniaeth gan benderfynu gwneud ein goreu i'r diwedd. Ond os y bum ni yn barod i roi ein bywydau i'r anturiacth hon, sydd er mwyn anrhydedd ein gwhtd, apeli wn at ein cyd-wladwyr i sicrhau tod y rhai sydd yn dibynu arnom yn cael gofalu am danynt yn briodol. Pe buasem wedi cael byw buasai genyf i'w adrodd hanes am wydnwch a dewrder fy nghymdeithion, hanes a gynhyrfai galon pob Prydeiniwr. Rhaid i'r nodiadau byr yma a'n cyrff marw ddweyd yr hanes, ond yn sicr te fydd i wlad fawr gyfoethog fel yr eidd- om ni edrych fod y rhai sydd yn dibynu arnom yn cael gofalu am danynt yn briodol. TORI'R NEWYDD I MRS. SCOTT. Y mae Mrs. Scott ar ei ffordd i New Zealand i gytarfod ei gwr. Torwyd y newydd alaethus iddi ar fwrdd yr ager- long y teithiai trwy gyfrwng- y pallebyr diwefr.

Y Trengholiad ar Gorff Trevanion.