Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
AT EIN GOE EBWYR. Aufoimr erbyn BUR I'17 SAIAVKN y fan hwlftf P-11 d'ch^hion th ^liA<iuo am S r UDOORS t'w hmnfon i'r GORDOHWYLIWR, 74, High iStrfet, 1'wliheli Pob gobebiaeth i'w cyfeirio— YB UDGORK OFFICE, PWLLHBU. Bydd mi dda gfit<yo» ilderkiyri Qoheb- ilae.tbau cddiwrtb ohebwyr ar fatuiiou ileoi o ddyddordeb eyhoeddti8
NODION A HANESION.
NODION A HANESION. Talr BIynedd o Garchar. Ym Mrawdlys Stafford, yr wythnos ddiwedcuf cyhuddwyd William Rich- ardson, cyfreithiwr, o gam-ddetnyddio arian p rthynol i tach I yr oedd yn gweithr du drostynt yn Burton-on- Trent. Dywedai y carcharor nad oedd yn ei fwriad o gwbl i dwyllo. Dedfryd- odd y Barnwr ef i benyd-wasanaeth am dair blyuedd. Wedi Blino ar ei Wraig Gyntaf. Y dydd o'r blaen yn Mrawdlys Man- ceinion, cyhuddwyd labrwr o'r enw Thomas Colbeck, 2hin oed, o aml- wreiciaeth. Tystiwyd i'r cyhuddedig briodi gyda dynes o'r enw Mary Jane Wood, yn Ebrill, igi i. a phriododd ddynes arall o'r enw Margaret Rother- ham, yn mis Rhagfyr diweddaf. Dy- wedodd y cyhuddedig iddo briodi dynes 4oain oed, y waith gyntaf, ac ei fod wedi blino ami am ei bod yn rhy hen. Anfonwyd ef i garchar am naw mis. Gwartheg o'r Iwerddon. Glanivvyd yn y wlad hon 135,061 o wartheg o'r Iwerddon, o Ionawr iat hyd y Isfed o Chwefror, neu ar gyfar- taledd dros 3,otto y dydd. Yn ystod yr un amser y llynedd glaniwyd 70,510 Felly gwelir fod mwy o 64,551 o wartheg wedi eu hanfon i'r wlad hon eleni na'r fiwyddyn ddiweddat mewn chwech wythnos o amser. Marw o Oernj. Ddydd Mawrth diweddaf canfyddwyd Mr. G. B. M. Coore. un o ysgritenydd- ion cynorthwyol y Bwrdd Addysg, yn anymwybodol yn St. James' Park, Llundain, a bu farw gynted ag y cyr- haeddodd ysbytty St. George. Bernir iddo gael ei daraw yn wael yn sydyn tra ar ei ffordd i'r swyddfa trwy effaith yr oerfel ar ei galon. Ei Ddedfrydu i Farwolaeth. Yn mrawdlys Bristol, ddydd Mer- cher, dedfrydwyd dyn o'r enw Edward Henry Palmer, 23ain oed. i farwolaeth am lotruddio Ada Louisa James. Cer- ddodd y ddau allan gyda'u gilydd ar y 27»in o Ionawr, a chanfyddwyd y ddyn- es gydag archoll yn ei gwddf. Cyn ei marwolaeth y boreu dilynol gwnaeth ddatganiad mai y carcharor gyflawnodd yr anfadwaith, a desgrifiai effet ei gwr. Pan gymerwyd Palmer i'r ddalta dy- wedodd ei fod yn wael ar ol cymeryd gwenwyn, ond daeth ato ei hun. Tra yn y carchar ysgrifenodd lythyrau yn dweyd ddarfod iddynt briodi yn gyfrin- achol. Yn ei dystiolaeth dywedodd Palmer nad oeddynt wedi priodi, ac iddo wneud y datganiad cyntaf er cadw cymenad y ddynes. -I<- Cyflog Bycban Athrawes. Ym Mhwyllgor Addysg Waltham Abbey, yr wythnos ddiweddaf. gwran- dawyd ar gais an: godir.d cyflog wnaed ar ran moinhess, genetli 27am oed, yr hon sydd yn addysgu yn ysgol elfenol High Ue-:ch er y J 3eg mlynedd diwedd- af, am gyflog o top. y fiwyddyn. Dy- wedid ua dderbyniodd godiad yn ei chyftog er pan y derbvniwyd hi drosodd i;)da r athrawon ereill oedd yn yr ) gan Bivyllgor Addysg Essex yn 1903. Yr oedd yn hynod o fedrus yn ei gwaith. Dywedodd y Parch. A. Woodward tod yr eneth yn cynorthwyo i gynal ei mham weddw, ac yn ystod ei horiau hamdden- 01 a'r gwyliau byddai raid aroi Jyned allan i v/eithio fel waitress. Os gallai Pwyllgor Addysg Essex oddet peth fel hyn dylai fod ganddynt gywilydd o honynt eu hunain. Dywedodd aelod arall nad oedd y cyflog dderbyniai yn ddigon i'w chadw yn drwsiadus. Pas- iwyd per-derfynia&yn arg),nihell Pwyll- gor Add sg Essex i godi y cyilog i sop. « Marw ivvelnidog. Ddydo Sadwrn, bu farw'r Parch. David Griffith, Bethel, ger Caernarfon, yn 90am mlivydd oed. Efe oedd yr hynaf o weinidogion Ymneillduol yn Ngh) mru. a threuliodd 64am o flynydd- au yn y weinidogaeth. Yr oedd yn awdwr o gryn allu, ac y tnae ei walth ar bancs crefydd yn Nghymru yn lied hysbys. Y Divvygiad. Y mae y diwygiad yn L)ut-ddu yn nghymydogaeth Llandrindod. Cyuhelir cylarfodydd diwygiad il gan y Mri. Stephen a George Jeffreys yu nghapel Penybont, ac y mae y bob! yn tyrru i'w gwrando 0 bob man. Damwain Angeuol yn NylTryn Clwyd. Tra yr oedd Mr John Wyr ie, College Farm, Trefna -it, Sir Dinbycli, yn dych- welyd gartref o Ddinbych nos Fawrth diweddaf, cyfarfyddodd a damwain angeuol. Yr oedd y trancedig yn dreifio ceffyl bywiog ar y pryd, a bernir i'r anit3il gael ei ddychrynu, a rhedodd i lawr y rhiw yn orwyllt. Ar ganol y pentref aeth yn erbyn mur un o'r tai ne lladd y ceffyl yn y fan, a thaflwyd Mr Wynne i'r ffordd, a bu farw ymhen ychydig amser. < Cynhebrwng Hynod. Ddydd Mercher diweddaf claddwyd Elizabeth Richards, Graig ddu, Traws- ] fynydd, yn mynwent Llanbedr. Yr oedd wedi dadgan y dymunai gael ei hebrwng i'r lie ar hyd y Llwvbr Rhut- einig, a chan fod y llwybr mor gul fel nas gallai dau gerdded ochr yn ocht hyd-ddo, dygwyd yt arch ar bolyn yn cael ei gario gan bedwar o ddynion, y naill o flaen y llall. Buwyd am dros bedair awr yn gwneud y daith. it oM. Canfod CorfT Mam i Ddau ar Hugain o Blant. Codwyd corff dynes briod o'r enw Hannah Johnson o'r aton Blyth, yr wythnos ddweddaf. Yr oedd yn 46ain oed, ac yn fam i 22Min o blant, 17 o ba I rai sydd yn fyw heddyw, a'r plentyn ieuengat ond pedwar mis oed. Yn y trengholiad dywedodd ei gwr iddo adael ei gartref i fyned i weithio i Barrow-in-Furness, yr wythnos flaen- Iorol. Cyfaddefodd iddo ei tharaw gan ei gwaedu. ond rhocdai fel rheswm mai am iddi hi fygwyth ei daro heto phrocer y gwnaeth hyn. Dychwelodd y rheithwyr reithfarn agored. Ymgrogi o Hiraeth. Ddydd Sadwrn diweddaf cafwyd hen wr o'r enw Ring wedi ymgrogi yn Reading gertydd y gwely ar yr hwn y gorweddai corff ei wraig, yr hon a fu farw ychydig yn flaenorol i hyny. Yr ( oedd yr hen wr yn hiraethus iawn ar ei hol. Bwyta Gormod. Yn sydyn iawn nos lau diweddaf bu farw dyn yn Rawtenstall, a dywedai ei wraig yn y trengholiad ei tod wedi bwyta swper lied helaeth cyn myned i'w wely. Rywbryd. ganol nos cwynai fod ei galon yn sal, a bu farw ymhen chwarter awr. Dywedai y meddyg hefyd mai y swper trwm a fu'r achos o'i farwolaeth. Dadorchuddio Cernun o Tom Ellis Yn Mrymbo, ddydd Mawrth diwedd- af dadorchuddiwyd cerflun o'r diweddar Tom Ellis, A S., wnaed gan Syr Gorscombe John, a'r hwn sydd wedi ei osod yn YSKol y Cyngor, gan Mrs Eltis ei briod. Adgofiodd hwy mai mewn ysgol elfenol y cychwynodd Tom Ellis ei yrfa, ac na tuasai dim a roddai twy o lawenydd i'w phriod, pe y byddai fyw yn awr, na gwelcd ysgolion heirdd trwy Gymru oil. Dywedodd y Parch E. K Jones, yr hwn lywyddai, y gobeithiai y byddai canol neuadd yr ysgolion hyny yn cael eu llenwi a cherf- luniau a choffadwriaeihau eraill o arwyr Cyimeig. Bugail Cyfoethog. Y mae hugail yn yr Ysgotland, o'r enw Donald Gordon, wedi gadael eiddo ar ei ol yn iverth 8,135p. Yr oedd yn hyw yn isel iawn ei amgylchiadau. Bu yn berchen defaid ei hun un tra, ond er's amser maith nid oedd ond yn der- byn cyflog cyffredin bugail Gadawyd rhai canoedJ o bunau iddo gan frawd a fu farw yn Awstralia, ond yr oedd wedi casglu y gweddill o'i ffortun ei hun. Tosturio wrth Sipsiwn. Dygwyd hen wraig o Sipsiwn o flaen ynadon Baschurch, y dydd o'r blaen, am wersyllu ar y briffordo. Dywedai mewn amddiffyniad fod ei gwr wedi marw er's \vhydig, ac na gallai symud y cerbyd ei hun gun nad oedd ganddi ond un mul, a neb i'w chynorthwyo. Yr oedd dros ddeg a thriugain oed ac yn cael y blwydd-dal. Ni bu erioed yn byw mewn ty o falh yn y byd. Tost- urioJd yr ynadon wrth yr hen wreigan pan glywsant ei stori. Yr oedd yn rhaiJ arnynt ei dirwyo am ei throsedd, iond rhoesant yr arian iddi'n ol. < Marw'n y Tren. Pan gyrhaeddodd y hen i Ferthyr o Abergafeni, y dydd l\r blaen, cafwyd John Davies, y ?MW?. yn gorwedd yn farw yn y v(tn. Dywedai meddyg yn y trengholiad mai diffyg y galon oedd acbos ei farwolaeth. Tren yn mynd iros Blentyn. Yr oedd bachgcn bychan yn chware toliir blatforni gorsaf* St. Helens ddydd Sadwrn, a syrthiodd ci dop trosodd i'r rhciliau. Aeth y bychan i lawr i'w gei.,Io a rhedodd tren tresto gan ei ladd yn ddisyniwth. Codwyd ei gorff i h y gaii ei dad, yr hwn a alwyd yno gan rai o'r plant llcdd yo cyd-chware a'r bachgen. + Dywedir fod Nit- Marconi, wedi cym- I eryd Glyn Avon. ger y Waenfawr, i fyw ynddo yn yr hut.
Yr Anthem Genedlae tholI Gymreig.
Yr Anthem Genedlae thol I Gymreig. V mae pwyllgor, o ba un y mae Arglwydd Pontypridd yn llyw Id, yn gwneud ymgais i anfarwoli coffad- wriaeth awdwr geiriau Hen Wlad fy Nhadau," ac hefyd ei fabyr hwn gyfan- soddodd y gerddoriaeth. Y mae y stori ramantus o gyfansoddi yr anthem gan James James, yr hwn gysylltodd y gerddoriaeth i'r geiriau gyfansoddwyd gan ei dad, Evan J ames, yn hynod adnabyddus, ac er pan y canwyd hi y waith gyntaf mewn Eisteddfod leol 56ain mlynedd yn ol, y mae wedi cael ei chanu filoedd o weithiau mewn cyn- ulliadau Cymreig trwy y byd. Ceisia y pwyllgor godi cronfa o 3,ooop. er nieithrin cerddoriaeth offerynol ymysg Cymry. ac i godi cofgolofn i'r cyfan- soddwyr. I
Darluniau Symudol mewnI Capel.…
Darluniau Symudol mewn I Capel. Un o'r capelau mwyaf gan y Bedydd- wyr yn Nottingham, yw y Tabernacl yn Mansfield Road. Y mae ynddo dros 2,000 o eisteddleoedd, ond y mae y dyled sydd arno yn 4.oooP. Er ceisio tynu y ddyled i lawr, penderfynodd y diaconiaid i'w osod i gwmni er arddang- os darluniau symudol (cinema pictures) yn ystod dyddiau yr wythnos, ond eu bod hwy, y diaconiaid, yn dal yr hawl i gynal eu moddianau ar y Sabboth fel arfer. Galwyd cyfarfod mawr o'r aelodau at eu gilydd i ystyried y mater hwn a chadarnhawyd y cwrs gymerwyd gan y diaconiaid. Rydd yr arddangos- iadau yn cychwyn gynted ag y bydd y cyfnewidiadau anghenrheidiol wedi eu cwblhau. Y mae y symudiad anghyff- redin hwn wedi creu cyffro mawr yn nghylchoedd crefyddol y lie, a dywed rhai y bydd yn sicr o arwain i ddinystr yn arianol ac ysprydol.
Pan gyntaf gyrhaeddodd y i…
Pan gyntaf gyrhaeddodd y Newydd Da Bwllheli Creodd gryn gyffro. Ond fel yr elai wythnos ar ol wythnos heibio, ac i lawer o bobl adnabyddus a pharchus Pwllheli siarad allan yn rhydd, ac i'w hadroddiadau gael eu cyhoeddi yn y wasg gyhoeddus, nid oedd mwyach le i ameu. Dywedai pobt Pwllheli,—"Mliaid fod hyn yn wir." Wei, dyma adroddiad arall tebyg, ac y mae yn dod o Bwllheli. Dywed Mr. E. Roberts, 2, Mitre terr- ace, ger y Railway Station, Pwllhell Pan oeddwn yn gweithio yn y Gas Works, oddeutu dwy flynedd yn 01, teimlais boen mawr yn cymeryd lie yn ngwaelod fy nghefn. Yr oaddwn ar y pryd bron methu gorphen fy ngwaith. Gorfodwyd fi ruddi fyny amryw weith- iau oherwydd y boen. Nid oecd achos i ameu nad oedd fy elwlod allan o drefn, gan i mi sylwi nad oedd y dwfr yn nat- uriol-yr oedd yn gymysglyd ac yn gwaelodi. Darfu i gydweithiwr fy nghynghori i roddi prawf ar Doan's Backache Kid- ney Pills, yr hyn a wnaethum. Gwnaeth- ant lawer o les i mi o'r cychwyn, ac ni bu yn hir cyn i mi ddyfod yn berffaith I rydd oddiwrth boenau. Nid wyf wedi dioddef dim er hyny. Cretlaf fod Doan's Pills yn feddyginiaeth ardderchog, am iddynt wneuthur mwy o les i mi na dim meddyginiaeth y gwn am dani. A bydd i mi yn sicr ou cymeradwyo. (Arwydd- wyd) Evan Roberts." flris 2s. gc. bocs, c hwc' bocs am 13-4. 9c.; gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McClellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn eglur am Doan's Backache Kid- j ney Pills, yr un math ag a gafodd Mr. Roberts. j
I Etholiad Chorley. I -I
Etholiad Chorley. TYNU I LAWR Y NIWYAFRIFii TORIAIDD. Dydd Mercher diweddaf bu etholwyr Chorley yn pleidleisio i latuv sedd wnaed yn wag trwy ddyrchafiad Lord Balcarres i Dy'r Arglwyddi. Yr ymgeiswyr oeddynt Mr J. P. T. Jackson, yr Rhyddfrydw r, a Syr H. F. Hibbert, Tori. Gwnaed y canlyniad yn hysbys i1 ddydd lau fel a ganlyn j Syr H. F. Hibbert (T.) 7,573 I' Mr J. P. T. Jackson (T.). 5,606 I 1\1 wyafrif Toriaid 1,967 Yr oedd y mwyafrif Toriaidd yn yr etholiad cyffred;nol diweddat yo 2,536. Beth ddywed Mr Bonar Law am y lleihad hwn, tybed, yn ngwyneb y llythyr anfonodd at Syr Hibbert cyn yr etholiad ? Yn ei lythyr dywedai Er nad oes genyf amheuaeth na bydd i chwi ddal y sedd, caf ty siomi yn fawr os na bydd i chwi ei dal gyda mwyafrif mor fawr ag a roed i Arglwydd Bal- carres yn yr etholiad ddiweddaf." --0--
Trychineb ar y BrifFordd.…
Trychineb ar y BrifFordd. I Y mae heddlu Neat! vn gwneud ym- chwiliad i at-ngylchi- '11 marwolaeth Daniel Evans, glowr, iiiyn coch, Neath. Gadawodd Neath ychydig wedi un-ar- ddeg o'r gloch nos Sadwrn, a chych- wynodd gerdded am adrcf, pellder o tua dwy filldir. Ymhen tua dwy awr wedi hyny cafwyd ef yn gorwedd yn y iTos a'r gwaed yn llifo o'i ben. Dywed dyn sy'u byw yn agos i'r tan iddo glywed ffrwgwd gerllaw ei dy, a rhyw- un yn gwaeddi ar Dan am iddo godi a dod yn ei flaen. Pan aeth allan gwel- odd Evans ar y ffordd a dau ddyn yn dianc oddiwrtho. Bu Evans farw ddydd Sul,
Dryllio Ty Mr Lloyd George.I
Dryllio Ty Mr Lloyd George. I GWAITH MERCHED Y BLEID- LAIS. Yn gynar loreu Mercher diweddaf canfyddwyd ty newydd oedd yn cael ei adeiladu i Ganghellor y Trysorlys ar dan yn Walton-on-the-Hill, Surrey. Y mae yr adeilad yn sefyll yn agos i golf littles adnabyddus Walton Heath. Adeiladir ef gan Syr George Riddill, yr hwn sydd yn perchen 11-Awer o eiddo yn y gymydogaeth. Nid o.dJ Mr L oyd George wedi cymeryd y ty trosodd, :'nd yr oedd yn ei fwriad i arwyddo y b -yd- les ar ei ddythweliad o'r cyfandir. Gosodwyd dau ffrwydrydd yn yr adeiliad, ond ni thaniodd ond un ohonynt, ac ni lwyddodd hono i c dln- ystrio y ty yn Ilwyr. Bernir fod y golled yn agos i 7oop. Yr oedd y ffrwyd-belenau wedi eu gosod yn llofft y morwynion, ac yn gynwysedig a bylor, &c. Pe buasid wedi eu rhoddi yn y llawr buasai y difrod yn fwy o lawer. Yn ffodus nid oedd neb yn agos i'r ty pan gymerodd y ffrwydriad le neu buasai y canlyniadau yn fwy difrifol. Yr oedd y gweithwyr i fod yno hanei awr yn hwyrach. Clywyd y trwst gan wyliedydd y lie, ac ar unwaith aeth yno gyda heddwas. Yr oedd yr olygfa yn un ofnadwy,—amryw o ffenestri wedi eu chwythu i ffwrdd, mur y cefn wedi ei hollti, a rhan o'r tô. Hefyd chwyth- wyd y drws yn glir i ffwrdd. Bydd rhaid adeiladu rhan helaeth o'r ty, Bernir mai gwaith y suffragettes yw hwn. Dywed rhai o drigolion y lie iddynt weled cerbyd modur a'i lond o ferched yn y gymydogaeth yn hwyr y nos flaenorol, a chlywodd eraill swn cerbyd modur oddeutu pedwar o'r gloch foreu'r digwyddiad. Y mae y mater yn awr yn nwylaw yr heddlu. --0--
Galanastra'r Suffragettes.
Galanastra'r Suffragettes. Boreu lau, dinystriwyd pafiliwn Kew Gardens, gan ferched y bleidlais. Er pob ymgais o eiddo y tan frigad i geisio diffodd y fflamau, llosgwyd y lie i fyny'n llwyr, a chytrifir tod y golled oddeutu mil o bunau. Canfyddwyd y tAn gan heddwas, yr hwn tra ar ei ffordd i'r lie fu yn ffcdus i ddal dwy dynes yn ceisio dianc ar draws y caeau, a chymerodd bwynt i'r ddalfa. Rhoddasant eu henwau fel Lillian Lenton (22ain oed), a Joyce Locks (23ain oed), ond gwrthodasant roddi eu cyteiriad. Yn hwyrach y dydd cyhuddwyd hwy o flaen yr ynadon o roddi y He ar dan. Tystiodd heddwas am y modd iddo ddod ar draws y merched, y rhai cedd yn cario bag boh un, y rhai gynwysai arfau, petrol, a darnau o bapur. Ceis- iodd un o'r merched wrth dd-anc guddio electric lamp mewn cornel yn ymyl giat, ond canfyddwyd hi yn gwneud hyn gan y swyddog, a chymer- odd feddiant o honi. Pan godwyd y cwestiwn o feichni; eth gan y merched, ac i'r ynad gyfeiric at natur ddifrifol y cyhuddiad, cydiodt: un o'r merched mewn bwndel o lytrau a phapurau, a lluchiodd hwy at yr yuad, yn ffodus methodd a'i daraw. Syn.ud- wyd y ddwy ar unwaith i'r carchar, BETH WNEIR IDDYNT? Y mae y wlad yn awr yn deel reu cyffroi o ddifrif yn wyneb y galana. tra a'r difrod a wneir gan v suffrageLes, ac y mae yn hynod y goddefwyd idl ynt gyhyd i ymarfer eu hystranciau yn yd. Gan eu bod yn peryglu bywydau t wy osod chwareudai ac adeiladau ereil ar dan, tybitt llawer eu bod yn cael t in- iaeth rhy dyner o lawer yn y carchar au, a dywed un gohebydd Seisnig, gan eu bod yn lleddtu eu cosp trwy wrt lod bwyta, y dylid ar bob cyfrif adael idcynt newynu. Beth bynag am degwch neu anheg- wch eu hachos, y mae yn hen bryd cymeryd rhyw toddion i rwystro i'r merched hyn aflonyddu ar heddweh y wlad. Yr hyn sy'n rhytedd yw eu bod yn achosi cymaint o niwed i'w cyfeiliion a'r rhai sy'n wrthwynebol iddynt; ac yn ddiddadl nid ydynt yn gwneud dim lies iddynt hwy eu hunain na'u hachos drwy eu hymddygiadau. Os y parhant i aflonyddu collatft fTafr a nawdd y hai sydd yn awr yn lied bleidiol idd -it. Mewn gwirionedd, y maent wedi irynd yn anioddefol. o
Llyfrgell Gymreig Enwog ar…
Llyfrgell Gymreig Enwog ar Werth. Ymhen rhyw dair wythnos bydd y Mri Sotheby, Llundain, yn rhoi ar werth y llyfrgell odidog a gasgl wyd ynghyd gan Thomas Pennant, y natur- iaethwr a'r awdwr enwog o Dreffytion. Y mae yn y llyfrgell hon amryw greiriau gwerthtawr a phrin iawn, yn eu mysg I gopiau gwreiddiol o weithiau George Harvey ac eraill, a'r cyhoeddiadau cyn- taf o weithiau Ben Johnson, Thcnas Coryat, Thomas Dekker, ac eraill. --o
Digwyddiad Adfydus. - - &…
Digwyddiad Adfydus. & Cymerodd digwyddiad adtydus le yn Radcliffe, nos Sadwrn diweddaf, mewn cysylltiad a gwledd ocdd yn cael ei rhoddi i hen drigolion y lie. Llywydd- wyd gan y Cyngborydd James Ctin- cliffe, yr hwn sylwodd fod cyfarfodydd o'r natur hwn yn adgofio y byddent hwythau cyn hir yn mynwent Duw sydd gyfagos. Ar derfyn ei sylwadau cwynai nad oedd yn teimlo yn ddn, a symudwyd ef i ystafell arall. Eistedd- odd i lawr ar y fainc, rhoddodd uu ochenaid, a syrthiodd yn farw.
Rhal ffeithiau ynglyn a deohreuad…
Rhal ffeithiau ynglyn a deohreuad yr aohos Methodistaidd yn nhref Pwllheli a'r Cylch. [Papur a ddarllenwyd mewn cyfarfod ym Mhenlan, yn rhoddi hanes dech- reuad Ymneillduaeth ym Mhwllheli a'r Cylch, gan y Parch. T. Williams, The Elms, Pwllheli J. Parhad o'r rhifyn diweddaf. I U 11 aral1 o'r arch-erlidwyr yn Lleyn oedd Henry Roberts, neu Harri Deneu fel y llysenwid ef. Cariai chwedlau am y Pengryniaid (fel y gelwid y Methud- istiaid gan eu gelynion) i'r boneddigion yn y wlad, y rhai oedd yn ei logi i erlid y saint. Bu yn y Gwynfryn gyda gwys i ddal y Parch. Lewis Rees, Lianbryn- mair, ond trwy i'r ferch ei daflu ar y palmant cafodd Mr. Rees gyfle i ddianc. Ceisiodd y dyhiryn hwn ddal ei frawd ei hun er mwyn ei alltudio o'i wlad, sef Evan Roberts, yr hwn oedd yn bregeth- wr yn Lleyn. Ond yn Rhydyclafdy y cyfarfyddodd a'i drech Yr oedd pre- gethwr (ni wyddis ei enw) wedi dod i Rhydyclafdy un prydnawn Sabboth. Wedi deal) hyny, anfonodd boneddwr oedd yn y Wern Fawr, Harri, yr hwn oedd yn ei wasanaeth, i aflonyddu ac i erlid y pregethwr. Yr oedd yn byw yn y pentref ymladdwr oedd yn creu ar- swyd trwy'r wlad. Pan y gwclodd hwn Harri yn dod llefai: "Caiff bregethu yn ymyl y das dywyrch yn ymyl fy nhy i, er gwaethaf pawb, ac mi edrychai i am chware teg iddo hefyd." Hon oedd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn y pentret hwn. Bu y pregethwr yn lletya y noson hono yn nhy yr ymladd- wr. (Ei swper oedd bara ceirch a thatws oerion, a'i toreufwyd oedd sican gwyn a bara ceirch). Yn ei dy ef, meddir, y bu yr eglwys yn cyfarfod hyd nes yr adeiladwyd capel yn y gymydog- aeth oddeutu I soain mlynedd yn ol. Bu Harri farw yn druenus mewn lie o'r enw y Betris, ger Pal-is Nanhoron. Cafodd Daniel Rowlands a Williams Pantycelyn hefyd eu rhwystro i bregethu yn Gellidara, amaethdy rhwng Pwllheli a Rhydyclafdy. Daeth haid o erlidwyr yno gyda drum i foddi Ilais y pregethwr, fel y bu cor yr Eglwysyn canu yn Ilan Nefyn er eu rhwystro i fod yn glywad- wy. Mae erlid yn bod eto, ond ei fod wedi newid ei ffurt. 44 Ie, a phwy bynag sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol a erlidir. Carwn cyn terfynu ddyweyd gair am Michael Roberts, un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy a dylanwadol a god- odd yn Nghymru erioed. Dadleua rhai ei fod yn fwy pregethwr na John Elias. Treuliodd ei oes ddefnyddiol yn y dref hon. Ganwyd ef via LlanJlyfni yn y flwyddyti 1780. Gweinidog parchus gyda'r Methodistiaid oedd ei dad, sef y Parch. John Roberts, Llangwm, fel yr j adnabyddid ef yn gyffredin, a brawd i'r seraph bregethwr, Robert Roberts, Clynnog. Pan yn bymtheg oed daeth i Pentreuchaf i gadw ysgol. Bu hefyd yn cadw ysgol yn Clynnog a Phenmorfa. Vo y flwyddyn 18031 ary (4eg 0 Fawrth, I daeth i Penmourit i gadw ysgol, ac yma y treuliodd weddill ei oes. Dech- reuodd bregethu pan yn 17eg oed. Nid I oes sicrwydd yn mha le, ond dywed rhai mai yn y Dinas. Catodd ei ordeinio yn y flwyddyn 1813. Dyn bychan ac eiddil o gorpholaeth ydoedd yn cael ei flino gan asthma, ond yn hynod o foneddig- aidd yn ei holl ymddygiadau Gwisgai glos du a 'sanau o'r un brethyn. Yr oedd ei wisg yn debyg i un o'r uchelwyr Eglwysig. Yr oedd ynddo gyfuniad o dynerwch a gwroldeb. Gweithiodd yn egniol gyda'r Ysgol Sabbothol. Efe a'i gyd frawd-yn-nghyfraith, sef y diwedd- ar john Jones, Tremadog, fu yn offer- ynau i sefydlu y Cyfarfod Ysgol yn y Sir, a hwy oeddynt yr arholwyr cyntaf. Yn Mhentreuchaf y cynhaliwydy cyfar- fod cyntaf, a'r ail yn Nefyn. Yr ysgrif- enydd oedd Mr. D. Williams, Nefyn. Yr oedd Michael Roberts wedi darilen ei Feibl 42ajo o weithiau cyn bod yn 6oain oed, yr hyn oedd yn ei gymwyso i bregethu ac i fod yn arholwr y Cyfar ( tod Ysgolion. Yn ol Dr. Owen Thomas efe oedd y prif offeryn yn ffurfiad y Cyffas Ffydd yn ei ffurf bresenol, Ilyfr na cheir ei ragorach fel crynhodeb o athrawiaethu yr efengyl yn ol fel y maent yn cael eu dysgu yn syml yn y I Beibl. Adeiladwyd y capel presenol yn Pen- mount yn y flwyddyn 1841, saith mlyn- edd cyn marwolaeth Michael Roberts, yr hyn gymerodd le ar yr 28ain o Ion- awr, 1849, yn 68ain mlwydd oed. Trefn y daith ar y cyntaf oedd Rhyd- yclafdy a Phentreuchaf am fo a 2, a Phenmount am 6. Nid oedd achosion wedi eu sefydlu yn Abererch, Fourcrosses, ac Efail- newydd, hyd y fiwyddyn 1839, yr un adeg ag y daeth y Bedyddwyr a'r Wes- leyaid i'r dref. Pan oedd y tywysog a'r gwr mawr hwn yn Israel, sef Michael Roberts, yn myned oddiwrth ei lafur at ei wobr, tystiolaethai iddo gyfarfod a llawer o frodyr gau yn ystod ei oes, ond meddai, "Yr wyf yn maddeu iddynt oil, fel y maddeundd Crist i minau." Ei eiriau olaf oeddynt: "Arghvydd dcrbyn fy ysbryd," &c. Felly hunodd inewn tang- nefedd gyda gwen siriol ar ei wyneb.
[No title]
--o Caed corff dynes o'r enw Charlotte Thompson yn un o ddociau Lerpwl. Bernir mai mynd a'i swper i'w gwr a weithiai yn un o'r agerlongau yr oedd y ddynes druan, ac i'w throed lithro nes y syrthiodd i'r dwr a boddi. Cafodd hen wraig ei tharo i lawr gan fodur yn Abertawe ddydd Sadwrn, a bu farw.
Cyngor Dosbarth Lleyn.
Cyngor Dosbarth Lleyn. (rwrthod Planiau. Gwrthodwyd plan- iau tai newyddion fwriedid eu hadeiladu yn Llanbedrog, Mynytho a Chlynnog, am nad oeddynt yn dod i fyny a gofyn- ion y gyfraith. Tai Anghymwys --Ar-ymhellodd y Pwyllgor ar adroddiad yr Arolygydd lechydol, i roddi rhybudd tertynol yn gofyn am welliantau iechydol i amryw o dai yn y dosbarth. Hefyd, argym- hellwyd ar fod archeb cau yn cael ei chodi ynglyn a thri o dai yn Mynytho. Dywedwyd fod anhawsder i wybod eiddo pwy oedd y tai hyn gan nad oedd y rhai oedd yn byw ynddynt wedi talu rhent na threthi er's blynyddau. Yr oedd un o honynt heb dalu rhent er's 42ain mlynedd.-Dywedodd yr Ar- olygydd nad oedd y tai yn gymhwys i fyw ynddynt.—Pasiwyd argymhelliad y pwyllgor. Cynllltn Carthffusiad Fourcrosses.—Dy- wedodd y clerc iddo fod mewn yan- gynghoriad a Mr Yale, goruchwyliwrf yr Anrhydeddus F G. Wynn, mewn cysylltiad a chael tir ar gyfer y tanciau ynglyn a gwaith carthffosiad yn Four- crosses. Yr oedd Mr Wynn yn barod i osod lie a phrydles ar y tir gofynol at hyny am y swm o 10s. y flwyddyn am 21ain mlynedd, neu i osod prydles am ggain mlynedd am swm o 6op.—Pas- iwyd i fyned am brydles am 2iain mlynedd yn ol jos. y fiwyddyn. Carthffosiad Abcrsoch. Ysgrifenwyd gan Fwrdd y Llywodraeth Leol i gan- iatau benthyciad o 375P i gario allan y gwaith carthffosiad Abersoch. Dy- wedid os y rhoddid y gwaith allan ar gontract y golygai hyny goll amser o cbwech wythnos i ddau ps, tra y gellid arbed hyny pe byddai y Cyngor yn cymeryd y gwaith mewn lIaw o dan arolygiaith yr Arolygydd (Mr Harry Roberts).—Dywedodd Mr W. Will- iams, Puntygwair, os nad oeddid am fyned ymlaen yn ddiymdroi gyda'r gwaith ei fod ef dros ohirio myned hyd mis Medi. Yr oedd allan o le i fyned ymlaen a'r gwaith yn ystod misoedd yr haf.-Pasi,A,yd trwy fwyafrif mawr i'r cyngor ymgymeryd a'r gwaith ac fod dau gynghorydd plwyfol yr ardal yn cael eu hawdurdodi i sicrhau clerc i'r gwaith ar unwaith. Bwrdd y Llywodraeth Leol a'r Cyngar.- Ysgrifenodd Bwrdd y Llywodraeth Leol o berthynas i lythyr y cyngor parthed cyflwr tai yn nosbarth Lleyn, ac yn, ymholi yn nghylch canlyniad ystyriaeth y cyngor o lythyr y Bwrdd yn anog archwiliaeth tai o dan y ddeddf newydd.—Dywedodd y clerc nas gwyddai sut i ateb y llythyr. Ychydig fisoedd yn ol yr oedd y cyngor mewn pwyllgor wedi penderfynu ar gwrs neillduol i weithredu yn unol a dymun- iad Bwrdd y Llywodraeth Leol, ond yn nghytarfod dilynol y cyngor gwrthod- wyd y cynygiad.—Dywedodd Mr J. T. Jones ei fod i'w ofidio tod y cyngor fis yn ot wedi taflu drosodd ei gynygiad ef yn ffafr talu 3op. yn flynyddol yn ychwanegol i'r Arolygydd Iechydol, i'r pwrpas o'i alluogi i gael cynorthwy, fel ag y gallai gael mwy o amser i ddelio a'i waith fel Arolygydd.-Wedi ymdrafodaeth faith ar y mater, yn mha un y cymerwyd rban gan amryw o'r aelodau, gadawyd y mater. Sylwyd gan Mr Humphrey Griffith y byddai iddo eilio cynygiad Mr J. T. Jones yn y cyfarfod nc-at. Cais at (j!Jr Hugh Ellis Nanney. -Mewn cysylltiad a'r ffordd ddesgrifid fel toriad byr i orsaf Ynys datganai pwyllgor ei fod o'r farn ei bod yu ffordd gyhoeddus ond argymhellent i anfon at Syr Hugh J. Ellis Nanney i ddweyd os byddai y ffordd yn cael ei thaflu yn agored fel llwybr troed na fyddai i'r cyngor pwyso i'w chael yn agored fel ffordd cerbyd.— Mabwysiadwyd argymhelliad y pwyll- gor.
Advertising
OMTED TINIUEr-OONSTIPATIM. Kindly Nature always wttM yew; follow the tongue-teat your mother taiftht you. Nine times out of tea, constipation is the cause of the coating, also of the bad taste, the bad breath, the cotton wool" feeling in your mouth, and the any-how feeling in your body. Occasional constipation, if neglected, becomes habitual constipation. And habitual constipation causes poisoning of the body as surely as if an arm or leg had been bitten by a viper. Rexall Orderlies relieve constipa- tion-gently, naturally, positively. Rexall Orderlies are the Laxative Confection—small tablets which taste and are eaten like sweets—nice sweets, too. Rexall "Orderlies" never purge, gripe, cause nausea or the slightest inconvenience. They tone up the muscles, and permit the bowels to perform their natural function easily and regularly. Three sizes-7id., i/- and 2/ Rexall Orderlies are one of the famous Rexall Remedies, of which there is one for each of the common human ills, and every Rexall Remedy is sold on this guarantee: The United Drtig Co., and the Rexall Shop selling this preparation, guarantee 11 to give yon satis/action; if it does not, go back to the shop where YOle bought it and get yout money. It belongs to you and we want vou to have it." Rexall Orderlies CIO onlv be obtained from the Rexall Chemists there is one ip almost every community. The liev- Chcmiat in Pwllheli is R. O. GRIFFITH 60, BIGB STEEET, PW1