Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

I -Cyngor Tref Pwllheli.

[ _Tafarnau Pwllheli.

Llythyrau Oddiwrth ein Milwyr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llythyrau Oddiwrth ein Mil- wyr. Derbyniodd y Parch. J Rhydderch y llythyr canlyuol oddiwrth Private Griffith John Thomas, o'r dref hon Gwlad yr Addewid, lonawr gfed, 1918 Anwyl Mr Rhydderch,— Yr wyf yn cymeryd y pleser mawr o ysgrifenu ychydig linellau atoch i ddiolch i chwi am P.O., yr hwn a dderbyniais yn ddiogel. Daeth i law prydnawn Sul pan oeddwn mewn pentref sydd a hanes dydd- orol iddo yn y Beibl-sef Bethel-y fan He y cafodd Jacob y breuddwyd rhytedd hwnw. Yr ydym yn gweled golygfeydd rhyfedd yn y wlad hon. Mae'n debyg y buasai llawer iawn y ffordd yna yn falch o'u gweled. Bum am dro dydd Nadolig drwy Jerusalem, a chawsom y fraint o weled y fan lie cafodd Iesu Grist ei d'eial gerbron Pilat, a'r fan lie cafodd ei fflan- gellu. Buom hefyd ar hyd y ffordd I!e y cariodd ei Groes i Galfaria. Mae y manau hyn wedi eu nodweddu yn Rhuteinig. Bu- om hefyd i Church of the Holy Scnlpture, oddimewn i'r hon y mae bedd newydd Joseph. Buom oddimewn i'r Oruwch- ystafell ac yn Nghardd Gethsemane. Yr oeddym yn gwersyllu tua'r gwyliau heb fod yn mhell o Fynydd yr Olewydd. Yr ydym wedi cael brwydrau caled iawn yn y fan yma, ac wedi colli tipyn o ddynion— ond dim yn agos i'r hyn gollodd y gelyn. Mae tri o fechgyn Pwllheli wedi eu lladd, a rhy w bedwar wedi eu clwyfo. Fe ddaeth- um i yn ddianaf drwy y cwbl diolch i'r Brenin Mawr am hyny. Nid oes genyf rhyw lawer mwy o newyddion i'w dweyd, heblaw fod y tywydd wedi troi -ma hi yn eira mawr yma heddyw ac yn oer dros ben-yr ydym b on a starvio." Mae hyn yn sudden change i ni ar ol y tywydd hafaidd yn yr Aifft. Dywedwch with eglwys Penlan fy mod yn dra diolchgar iddynt am eu caredigrwydd, a dymunaf Flwyddyn Newydd Dda i chwi i gyd, gan obeithio y daw y flwyddyn hon a heddwch i bob gwlad —Ydwyf, GRIFFITH JOHN THOMAS.

Advertising

PWLLIIELI.

Advertising