Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mesur Gorfodaeth. Yn Nhy y Cyffredin dydd Mercher, cyfiwynodd Mr Asqaith Fesur y Llyw odraeth er gorfodi dynion ieuainc o oed ran milwrol i ymrestru. Dywedai fod y cynllun yn gyflawniad 0 i addewid i ddynion priod. Dan amgylchiadau cyffelyb ni fuasai yn pryderu gwneud addewid tebyg eta. Yr hyn a gynhygiai y Llywodraeth yn y mesur oedd fod dynion ieuainc :)n¡;¡i a dynion gweddw di-blant oood- ran milwrol, i gael cyfle arall i ymuno dan y gwahanol adrannau yn ol cynllun Arglwydd Derby. Ar 01 hynny deuai gorfodaeth arnynt. Rhwng dyddiad pasio y mesur hwn a'r dyddiau y deuai i rym, byddai cyfnod o bum wythnos i'r dynion a nodwyd ymrestru o'u gwirfodd. Os deuai y dynion ymlaen yn awr o'u gwirfodd, byddai y mesur yn llythyren farw. Cyfyngid y mesur i Brydain Fawr, a thros dymor y rhyfel. Daw y Ddeddf i rym ar ddyddiad a nodir gan Broclamasiwn o fewn pedwar diwrnod ar ddeg ar ol iddo dderbyn y Cydsyniad Brenhinol. Ni bydd y Ddeddf yn gymhwysiadol at (l), ddynion nad ydynt yn drigolion parhaus o'r deyrnas hon (2), clerigwyr a gweinidogion rheolaidd yr enwadau crefyddol; (3), dynion sydd wedi eu gwrthod er Awst 15fed. Gall y dynion wneaci apel at y Pwyll- gorau Lleol (Tribunals) unrhyw amser cyn y dydd penodedig' i'r ddeddf ddyfod i werthrediad. Yn mysg y rhai a feddant hawl i gael rhyddhad o'r gwasanaeth milwrol ceir dynion yn gweithio mewn gwaith cenedlaethol angenrheidiol, dynion ieu- anc sydd yn cadw a chynnal eu perth- ynasau; rhai yn afiach ac analluog, a rhai yn meddu gwrthwynebiad cydwyb- odol i ymgymeryd a gwasanaeth rhyfel- gar. A siarad drosto ei hun, dywedai Mr Asquitb ei fod o'r farn nad oedd neb wedi ameanu dangos y dylai cael gorfod- aeth gyffredinol, yn wyneb ffigyrau cynllun Arglwydd Derby. Paham y rhoed yr addewid i ddynion priod ? Rhoed hynny am fod tystiolaethau aruthrol wedi eu cyflwyno iddo yn dangos fod dynion priod parod ae awyddus i ymrestru yn dal yn ol mewn rhifedi lliosog. Da iawn ganddo fuasai gallu gwneud heb y mesur hwn ond er ei fod yn gefnogydd aiddgar i'r cynllun gwirfodd- ol, ystyriai fod angen am y mesur. Apeliai at y dynion ieuainc i ddyfod ymlaen yn awr o'u gwirfodd.

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL.

[No title]

[No title]