Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Y mae trefniant wedi ei wneud rhwng Arglwydd Faer Birmingham a Chymdeith as y Gwerthwyr Glo yn y rhanbarth, o dan ba un y gosodlr yr uchaf bris am-lo o 24s i 30s y dunnell. Y mae'r gwerthwyr hefyd wedi penderfynu boicotio y man-werth- wyr sydd yn gwasgu ar y tlodion. Gof- ynnir i'r Gymdeithas wrthod cyflenwi un- rhyw werthwr a gyfyd mwy na 1/5 i 1/7 y cant am dano. Gwnaeth Dr Lloyd Edwards, Abertawe, flwgrym y dylai ysbyty i forwyr gael ei gwneud ar gyfer y dref. Ar hyn o bryd arifonir y morwyr i Ysbyty y Tloty.
IY GONGL DDIRWESTOL.'
I Y GONGL DDIRWESTOL. I PREGETHAU DIRWESTOL" BILLY SUNDAY." I (Gan J. B. R.) I (Parhad o Rifyn Blaenorol). I Gair dros yr Amaethwr. Ond," meddai'r gwr saif dros y ddiod, "fe gollwn mewn masnach; ddaw y ffarmwr ddim i lawr i'r dref i fasnachu." Yr ydych yn dweyd anwiredd; cefais fy ngeni a'm magu ar ffarm, ac y mae sawr yr ysgubor arnaf hyd heddyw. le, Sir, a phan doywedwch beth fel yna yr ydych yn diraddio y dosbarth goreu o bobl ar bridd Duw. Dywedwch, pan godwch y cri os na chedwch y tafarnau na wna'r ffermwyr fasnachu. Dywedwch, Mr Whiskey Man, pa'm yr ydych yn gwario arian ar bolitics, ac yn gwthio deddfwr- iaethau i'r gornel, ac yn ymladd i'r ffos olaf er rhwystro pasio deddf dewisiad lleol ? Gwyddoch pe cae y ffarm wr gyfle y buasent yn curo y fasnach chwisgi i Uffern y tafliad cyntaf. Mae gyda'ch chwi ofn. Mae genych draed oer ar y cynygiad. Mae gennych ofn i'r amaethwr gael eyfle. Maent wedi dychryn i farwolaeth o'ch ofn ffermwyr. Clywais fy nghyfaill, Governor Hanly, o Indiana, yn defnyddio'r eglurebau hyn:- Ie," meddant, Governor, ond mae per ygl arall i ddewisiad ileol, am ei fod yn golygu colled yn y farchnad i'r amaethwr yr ydym yn defnyddio swm mawr o yd i gynnyrchu y ddiod.' Os gyrwch chwi ni allan o fusnes byddwch yn tynnu y farch- nad yna i lawr, ac fe gynnyrcha y fath banic ariannol yn y wlad hon na welwyd ei debyg erioed, os gwnewch hyn." Gall- wn ateb drwy ddweyd mai llai na dau y cant o yd godir yn y wlad hon ddefnyddir i'r pwipas yna, ond af heibio i hynny. Mae arnaf eisiau dadleu gwerth y gosodiad ei hun, yr wyf yn meddwl y gallaf ddangos, mewn deng munud, i unrhyw ddyn medd- ylgar, i unryw ifarmwr, nad yw y ddarlla- wr sydd yn darparu marchnad i lestriad o yd o'i eiddo ddim yn cymwynaswr iddo nac yn gymwynaswr i neb dyn, o saf- bwynt cynildeb. Gadewch weled. Daw'r amaethwr a llestriad o yd i'r darllawr. Gofala yntau am farchnad iddo. Caiff hanner can cent am dano, ac aiff i'w ffordd, a sylw'r darllawr yn atsain ar ei glust fod y darllawr yn gymwynaswr iddo. Ond, Mr Darllawr, nid ydych wedi cael y factors i gyd sydd yn y broblem, ac ellwch chwi ddim cael esboniad cywir ar unrhyw broblem heb ystyried y factors. Chwi gymrweh, Mr Darllawr, llestriad yd yr amaethwr ac yn darllaw ohonno bedwar galwyn a hanner o wirod un pint ar bymtheg ar hugain, ydym ddim am olrain yr un ar bymtheg ar hugain; fe gymrai ormod o amser, ond fe wnawn olrain tri o honynt,.ac nid hanesion dych- mygol; cynnyrch ymyredd areithydd brwd roddaf i chwi. Cymraf engreifftiau o adroddiad y Sup- reme Court a'r Circuit Court judges yn Indiana ac Illinois i brofi fy mhwnc. Dwy flynead yn ol yn Ninas Chicago, gwelir dyn ieuanc o rieni parchus, ac o gymeriad da, ar brydnawn Sabboth yn croesi'r heol ac yn mynd i mewn i dafarn, oedd yn iagored yn groes i'r gyfraith. Canfu yno gymdeithion lawer, yr oedd yno gellwair, chwerthin a chanu, ac yfed mawr, ymhen ennyd, yn feddw, yn wallgof feddw, a'i arian wedi mynd, fe'i ciciwyd ef allan i'r heol. Darganfu ei ffordd yn ol i dy ei fam. Gofynodd iddi am arian i brynnu rhagor o ddiod.' Gwrthododd roddi dim iddo. Neidiodd i lawdryll o'r cwpwrdd a rhedodd allan i'r heol gyda phenderfyniad didroi yn ol o fyud i mewn i'r dafarn a chael rhagor o ddiod, arian neu ddim arian. Aeth ei fam allan ar ei ol i'r heol. Ceisiodd ei ddarbwyllo yn dyner, ond gwthiodd hi othiwrtho mewn digof- aint yna daeth ei chwaer i geisio ei ddar- bwyllo, ond yn ofer yna daeth cymydog adnabyddus iddo, a pharchus yn ei olwg pan yn sobr, a gosododd ei law arno yn garedig a cheisiodd ei beiswadio, ond yn ngwallgofrwydd y 'ddiod'. saethodd ei gyfaill yn farw yn ei waed ar yr heol. Bu prawf a chafwyd ef yn euog o lof- ruddiaeth. Dedfrydwyd ef i benyd wasan- aeth am ei oes, a phan glywodd ei fam y ddedfryd—dynes eiddil oedd,-cododd ei dwylaw i fyny a syrthiodd mewn llewyg. Bu farw ymhen y teirawr. Daeth dyn ieuanc yn Freeport, Ill., o deulu da, i gweryla a dynes anllad o'r dref. Aeth adref i dy ei dad yng nghynddaredd y ddiod cymrodd afael mewn arf marwol, ac aeth allan yn ol i'r ddmas i chwilio am y wraig y bu yn cweryla a hi. Y cyntaf gyfarfyddodd ar un o brif heolydd y dref, yn y dydd goleu, mewn lie yr oedd ganddi bob hawl i fod yno, oedd un lb'r merched mwyaf llednais a diwylliedig ýft Freeport, a'i phlentyn bach ar ei braich. Mam a baban, ar brif heol yn Freeport liw dydd, lie 'roedd ganddynt bob hawl i fod ond yr oedd y ddiod feddwol wedi gwneud meddwl y dyn ieuanc hwn mor frwsg fel y camgymerodd hi am yr un a geisiau, fel y saethodd hi yn farw ar yr heol a'i baban yn ei breichiau. Ac wrth ei ddedfrydu i garchar am ei oes, meddai y Barnwr Fer- ands, Chwi yw y seithfed mewn dwy flynedd ddedfrydwyd am lofruddiaeth pan dan ddylanwad diod." Chwi gofiwch am y gyflafan ofnadwy yn Ninas Anderson y gwanwyn diweddaf. Daeth dyn ieuanc gartref yn feddw, myn- nai gael arian gan ei fam, gwrthododd hithau roddi dim iddo. Cymrodd afael yn y fwyell a lladdodd hi, ac ysbeiliodd hi o'r arian. Dihangodd i ffwrdd, ond erlidiwyd ef gan swyddogion y gyfraith, a daliwyd ef. Cyhuddwyd ef o lofrnddio ei fam aeth i lawr i lyn cysgod angeu er rhoddi bywyd iddo. fu ya ei fagu a'i feithrin, ac yn diolch i Dduw am dano. Dywedodd, Yr wyf yn euog, myfi wnaeth y weithred." Dedfrydwyd ef gan y Barnwr McClure i oes o benyd wasanaeth. Yn awr, mae'n debig fy mod wedi olrain tri o'r un pint ar bymtheg ar hugain o gynnyrch llestriad yd yr amaethwr, ac mae tri ohonynt wedi dinistrio saith o fywydau y tri dyn ieuanc gyflawnodd y llofruddiaethau, y tri a laddwyd, a'r fam fu farw o dorr calon. Ac yn awr mi gawn wybod, fy nghyfaill yr amaethwr, a fu hyn yn drafnidaeth fasnachol lwyddiannus i chwi ? Gwerthasoch lestriad o yd i'r darllawr, cawsoch hanner can cent am dano ond fe ddinistriodd rhan o hwn saith o fywydau, y rhai fuasai yn prynnu eich yd, ac yn byw arno ar hyd eu hoes. A feiddiwch chwi ddweyd fod hon yn fargen fasnachol dda. Gwna hyn i ffwrdd a chwestiwn y farch- nach hyd nes atebir ef, hyd hynny na ddadleued neb ymhellach ar y mater hwn o safbwynt y farchnad.
IY RHYFEL 0 DDYDD I DDYDD.
I Y RHYFEL 0 DDYDD I DDYDD. Dydd Llun, lonawr 10, Daeth y diwedd ar ymgyrch anffodus Gallipoli. Llwyr adawyd y lie yn ddiogel, achubwyd y gynnau mawr, ond 17 o rai a wisgwyd allan yn eu gwaith, a dinyst- riwyd y rhain cyn gadaei. Un dyn a goll- wyd ohoncm ni, a'r un Ffrancwr. Trwy ofal y Cadfridogion Birdwood a Davies, a chyda help y Llynghesydd de Roebeck, y llwyddwyd mor ragorol. Gallwn anadlu yn rhwyddach bellach, gan nad oedd fawr obaith gwneud nemor ddim yno yn yr amgylchiadau. Tarawodd y rhyfel-long Iorwerth VII. fwn tanforawl, a suddodd. Ni chollwyd by wydau, a dim ond dau ddyn a anafwyd, Dyma'r liong fwyaf a gollwyd eto. Deil Rwsia i wneud gwaith da yn Bess- arabia, a dywedir fod lladdfa fawr wedi cymeryd lie, y ddwy ochr yn dioddef coll- edion enbyd. Y mae gan Rwsia 800,000 o wyr ar y maes, a 3,500 o ynnau. Collodd yr Awstriaid yr wythnos gyntaf 100,000 o wyr. Bu ymosodiad chwyrn ar ein safle yn Ffrainc i'r de i Armentieres. Collwyd agerlong Italaidd gerllaw Al- bania. Cariai gannoedd o dunelli o ym- borth, a 425 o wyr Montenegro yn dod o'r America i ymladd dros eu gwlad. Coll wyd dau gant o'r teithwyr. Y mae prusurdeb mawr yng nghylch- oedd milwrol Rwmania. Dydd Mawrth, lonawr 11. Ceir newyddoin da o Fesopotamia, sef fod y fyddin sydd ar y ffordd i gynorth- wyo'r Cadfridog Townsend yn Kut-el Amara wedi cyfarfod y gelyn, a cymeryd dau fagnel a 700 o filwyr yn garcharorion. Oherwydd gwaeledd iechyd daw'r Cad- fridog Nixon adre a chymerir ei le gan Syr Percy Lake o'r India. Dywedir nas gall Twrci fforddip orid GO,000 o wyr i'r ymgyrch Aifftaidd oher- wydd ei cholledion. 0 ddechreu y rhyfel collasant filiwn a haner o filwyr, ac nid oes ond 400,000 yn aros yn abl i wasanaeth filwrol. Yr oedd llawenydd mawr yng Nghaer- cystenyn wedi deall am ymadawiad ein milwyr o Gallipoli. Ceisia'r Tyrciaid berswadio'r bobl mai oherwydd i ni gael ein gorchfygu mewn brwydi yr ymadaw- som. Ceisiodd y Germaniaid yn Champagne ein gyrru'n ol ar front o bum milltir, ond mor rymus oedd ein gwrthwynebiad fel y methodd pob ymgais. Y mae'r Pab ar ddechreu ei ymdrech i sefydlu heddwch yn Eurob. Aeth y Car- dinal Mercier yno o Belgium ac amrai wyr uchel eraill o Belgium. Parhaodd brwydr Czernovitz bellach am dair wythnos. Chwe milltir sy rhwng y Rwsiaid a'r dref, a chymerasant 2,000 o garcharorion yn ystod y Nadolig. Dydd Mercher, lonawr I Z. Ymddengys fod Montenegro mewn mawr berigl y dyddiau hyn, gan fod y lluoedd Awstriaidd yn ymosod yn ffyrnig ar y wlad. Condemnir gwaith y Cyd- bleidwyr yn gadael y wlad fechan hon iddi ei hun yn hytrach na'u bod yn anfon adgyfnerthion iddi. Cymerodd yr Aws- triaid fynydd Lovtchen, safle bwysicaf v wlad. Saif y mynydd 5,000 o droedfeddi o uchder uwchben Bau Cattaro, a edrychir oddiar ei gopa ar ddyfroedd Gogledd yr Adriatic, yn ogystal ac ar Cetinje, prif ddinas Montenegro. Ofnir y rhaid ych- wanegu'r wlad fach honno eto at ysbail y gelyn. Y mae'r fyddin sydd ar y ffordd i rydd- hau'r Cadfridog Townshend yn Kut-el- Amara wedi cyfarfod y gelynion, a bu ymladd caled'ar lonawr 7 a'r 8 yn gyfagos i Sheikh Saad, lie oddeutu 25 milltir i lawr yr afon Tigris o Kut. Daliwyd 550 o filwyr yn cynnwys 16 o swyddogion, yn gar char orion. Curfa dda a gafodd y Germaniaid yn Champagne er iddynt ddefnyddio pob dyfais posibl i gyrraedd eu ham can. Gorchfygwyd tair adran ohonynt, a chaw- sant golledion difrifol i'r eithaf, Tynnodd John Redmond ei wrthwyneb- iad i'r Mesur Gorfodi yn ol, a diameu y cerir ef bellach gyda mwyafrif mawr. Dydd lau, lonawr 13 Dechreuwyd yr ymosodiad ar ein safie yn Salonica drwy dan-belenu ein llinell yn y cylch oddeutu Doiran. Unir yn yr ymosodiad gan y pedwar gallu sydd yn ein herbyn, y Tyrciaid wedi dod o Galli- poli. Bwriedir anfon y fyddin Serbiaidd i yny's Corfu i adgyfnerthu. Perthyn i Groeg y mae, a hynodir hi gan ei hawyr iach. Ni fwriedir meddiannu'r ynys ond dros dro. Nid oes nemor o amser er's pan feddian- nodd y Cydbleidwyr luesty'r Caesar yn Corfu, gan ei droi yn ysbyty filwrol. Y mae ymladd caled o gwmpas Cetinje ym Montenegro, a symudwyd swyddfevtid y llywodraeth a'u cynnwys oddiyno. Cydrhwng yr Argonne a'r Meuse yn Ffrainc, bu *i'r gelyn geisio ymosod trwy ollwng nwy gwenwynig i gvfeiriad ein gwarchffosydd. Bellach gallwn amddiff- yn ein hunain rhag popeth o'r fath, a buein cyflegrau yn ddigon i rwystro'r gelyn ddod o'i ffosydd tu ol i'r nwy fel y bwriadai. Gwneir gwaith distaw ond effeithiol gan ein llynges yn ddiarwybod i lawer chonom. Cyhoeddir adroddiad heddyw o waith y llynges ar draeth Belgium o Awst hyd Tachwedd. Suddwyd pedair o long- au'r gelyn, dinistriwyd 3 o factries, 13 o ynnau mawr, dau le i wneud cyfarpar, a llu o bethau eraill yn dal perthynas a'r rhyfel. Pasiwyd ail-ddarl!eniad y Mesur Gorfod trwy fwyafrif o 392. O'i blaid 431 yn erbyn 39. Wedi ymgynghori a'r Prif Weinidog, ni bydd i'r Aelodau Llafur ym- ddiswyddo o'r Weinyddiaeth ar hyn o bryd. Dydd Gwener, lonawr 14 Bu mwnwyr Prydain yn pleidleisio ar v mesur gorfodi a chafwyd fod mwvafrif 0 015,090 yn ei erbyn. Yr oedd Gogledd Cymru yn amhleidgar. Yn wyneb y tebygolrwydd o ymosodiad gan yr Awstriaid a'r Bwlgariaid yn Salon- ica, bu i'r Ffrancod chwythu pont reilffcrdd bwysig a groesai y Struma ar linell Salon- ica-Caercystenyn. Parheir i anfon adgyfnerthion i Salonica, ac os daw'r gelyn yno cant dderbvniad brwd. Newyddion drwg sydd am y Caesar. Anfonwyd am Specialists, ac hefyd am Frenhines Groeg, ei chwaer. Bu i ymgyrch Rwsia yn Bukovina fod yn llwyddiannus iawn. Ail gymerwyd tref Tsartorysk, ond erbyn hyn pentur o adfeilion ydoedd. Hawlia Mr Redmond ymchwiliad manwl i'r ymgyrch ym Mau "Suvla. Yn wyneb yr adlewyrchiadau ar arweinwyr a byddin, cred na bydd dim yn foddhaol end llwyr ymchwiliad i'r mater. Dywedir fod 15,000 o Tyrciaid yn dod o Bagdad i gyfeiriad Kut-el-Amara i gyfar- fod a'r fyddin sy'n prysuro i ryddhau ein milwyr ni yno. Dydd Sadwrn, lonawr 15 Bu i Submarine Ffrengig suddo rhyfel- long Awstriaidd yng nghymdogaeth Catt- aro. Hawlia'r Awstriaid fod Cetinje, prif dref Montenegro, wedi syrthio i'w dwylaw heb ei dinistrio. Unwaith y collwyd Mynydd Lovtchen, ychydig o obaith oedd am Cetinje. Gryn ddyrnod i'r Cydbleidwvr yw hyn, yn enwedig i Itali, ond pie y buont heb estyn cynorthwy. Dywedir fod Awstria wedi cynnyg amodau heddwch i Montenegro, ar yr am- od fod Mynydd Loytchen yn mynd i Awstria, a Scutari i Montenegro. y mae'r Groegiaid yn teimlo'n ddig iawn oherwydd fod y Cydbleidwyr wedi meddiannu Corfu, ac edrychant arno vn gyfartal trosedd i eiddo Germani ym Mel- gium. » Y mae'r awdurdodau milwrol wedi cymeryd drosodd brif reilffyrdd yn yr Aifft, o Cairo, Port Said, Suez, ac Ismailia. Paratoi rhag ymosodiad y maent. Parheir i dan-belenu safleoedd y gelvn yn Ffrainc, ac ni chant lonydd na dydd ha nos.
[No title]
Y mae eynnydd mawr wedi bod yn rhif y priodasau yn Edinburgh yn ystod y flwyddyn derfyna heddyw (Gwener) o'u cymharu a'r priodasau fu y llynedd. Yr oedd y eyfanswm yn 3,979, o'u cymharu a 3,376 y Ilynedd. Priodolir y eynnydd i'r priodasau ymysg milwyr a morwyr, ac yr oedd mwyafrif y rhai hyn yn briodasau o flaen y sirydd. Rhifant 1,690 o'u cymharu a 892 yn 1914.
NODIADAU CYFUNDEBOL.
a gynhaliwyd yn ddiweddar llwyddwyd i gasglu'r swm teilwng o L140. Darfu i r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., gasglu 170 yn y ffordd o roddin arbn- nig ymysg aelodau yr eglwys ei hunain, a gwnaed y gweddill i fyny yn y Sale of Work a Social Teas ar hyd y misoedd diweddaf. Atgofiodd y Manchester Guardian," am ddydd Gwener diweddaf, fod y "Watch-night Services" wedi cael eu dechreuad gan John Wesley fel y can- lyn :—" Some Kingswood colliers who who were accustomed to sitting up late drinking on Saturday nights became re- formed, and transferred their meeting to the school-house, where they sang hymns until the early morning. Asked to put a stop to this, Wesley could see no reason for action, and approved cer- tain midnight services. Out of these has survived the one held all over the ceuntry in the last hour of the old year and the first hour of the new." Wedi darllen o honom yn y Beirn iad" gyfieithiad y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., o gan-glasurol ac anfarwol Frances Thompson ar "Bytheiad y Nef," nid ydym yn rhyfeddu am yr hyn y dywed yr ysgolhaig mawr, a beirniad o safle'r Athro J. Morris Jones, M.A., yn y geiriau canlynol:—" Gwaith anarferol iawn o anodd oedd cyfieithu'r gerdd hon ond yn ddiameu y mae i'r cyfieith- iad hwn deilyngdod uchel iawn." A dyma farn y prifardd a'r beirniad cen- edlaethol o athrylith a phrofiad Pedrog yn y Brython Credwn ddarfod i'r cyfieithydd gyflawni gorchest fawr iawn, ac un na allai neb ei gwneuthur heb gymwysterau eithriadol. Wrth gwrs, gofynnid ysgolhaig o radd uchel; ond heblaw hynny, gofynnid meddwl galluog, treiddiol, i ddeall yr holl gerdd gyfrin ac at y cwbl, awen farddonol. Yr ydym wedi ymdroi a'r gwaith hwn, ac am ddau reswm,—rhagoroldeb eithriadol y cyfansoddiad gwreiddiol, a theilyngdod uchel y cyiieithiad ohono. Diolcha pob Cymro liengar i Tecwyn am gyflwyno'i alluoedd disglair i waith. mor anodd a gwerthfawr." Am yr unfed flwydd ar ddeg ar hugain diweddaf mae Meistri Horace Marshall & Son, cyhoeddwyr y Methodist Times," wedi anfon eu rhodd ardderchog o £ 420 i drysorfa y Gweinidogion Meth- edig yr wythnos ddiweddaf. Mewn canlyniad anfonwyd y diolchgarwch canlynol i'r cyhoeddwyr:— Dear Mr Editor,—For thirty-one years the Publishers of your excellent paper have donated their profits to the Worn-Out Ministers' Fund. The aggre- gate of these profits is close on £ 11,000 —a handsome contribution to a cause which deserves and greatly needs finan cial assistance. I cannot sufficiently thank Messrs. Horace Marshall & Son for their prac- tical sympathy but I trust the Metho- dist public, both readers and advertisers, will note that in supporting The Methodist Times they are helping the Methodit Church to provide for the aged and sick among her ministers, and for the widows of ministers who have passed away. Permit me in a concluding sentence to allude to the attractive programme for 1916 which you have announced, and the promising start already made. That your paper, which ,has rendered many and great services in the past, may be progressively useful in future is the sincere wish of yours faithfully, ENOCH SALT, Secretary W.-O.M. and M.W. Fund." I