Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNHWYSIAD.

COLOFN LLAFUR.

!| ! Tanchwa Eto.j

0 Dre'r Darian-Aberdar.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Dre'r Darian-Aberdar. I Cydnabod Gwroniaeth. Derbyniodd dyn ieuanc o'r enw Ben- jamin D. Lewis, crythor, o'r lie hwn, dystysgrif am neidio i'r mor yn Awst diweddaf i achub dyn mewn cyfyngder. Llwyddodd i dynnu'r dyn o'r dwfr, ond bu farw o ddolur y galon. Nid oedd y weithred o herwydd hynny yn llai, a chydnabu y Gymdeithas Frenhinol e-f yn deilwng o'r thystysgrif. I "to ¡ I Marw Dinesydd Blaenllaw. Bu farw Thos. Rhoderick, prif gyfar-- wyddwr Cwmni John Morgan a'i Feib- ion, Sul, Rhag. 22il. Brodor o Ferthyr ydoedd. Cafodd annwyd pan yn cyf- lwyno allwedd i agor Iechydfa Merthyr, a brofodd yn angeu iddo. Yr oedd yn Rhyddfrydwr brwdfrydig, a bu unwaith yn ysgrifenydd y Clwb Rhyddfrydol. Dygai sel dros Ddirwest. Gwasanaeth- odd Eglwys Calfaria am flynyddoedd fel diacon, a bu yn ysgrifennydd Cwrdd I Dosbarth y Cwm. Efe oedd is-gadeir- ydd y bwrdd hwnnw yn bresenol. I Bwrdd y Tlodion. Cwyna'r Gwarcheidwaid y telir gor- mod o arian i bobl dlodion mewn out- door relief. Ar yr un pryd y mae y Bwrdd hwn yn gwario degau o filoedd ar adeiladu palasau. Adeiledir Tloty yn Aberdar, a chartrefi yno, palas gwych i'r dyn sydd yn edrych ar eu hoi, a'r bwyd gore i ddegau o swyddogion a chwn, tra y cwynir fod ein hen bobl a'n tlodion gwirioneddol yn derbyn ychydig sylltau or arian a gesglir yn eu henw hwy, sef Tal y Tlawd. Awgrymwn enw newydd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid, sef Y Bwrdd Adeiladu. I Cinio Nadolig yn yr Homes. Rhoed cinio i blant y Cartrefi dan nawdd Gwarcheidwaid Merthyr ar Ddydd Nadolig. Addurnwyd yr adeil- adau ag arwyddion yr wyl flynyddol, ac edrychent yn siriol dros ben. I Y Wraig o Samaria. Perfformiwyd y gwaith uchod gan y Gymdeithas Gorawl sydd yng Nghwm- aman yn y Neuadd Gyhoeddus yno Ddydd Nadolig. Caed cynhulliad rhagorol a chanu da. Arweinid yn fedrus gan Mr. Ed. Lewis. I Cwrdd Ebenezer. I Cynhaliwyd Cwrdd Blynyddol Eben- ezer, Trecynon, Ddydd Nadolig. Gwas- anaethai y Parchn. Emrys James, Pontypridd. a W. J. Rees, Porth. Yr oedd yn gwrdd poblogaidd iawn. I Cor Calfaria yn Perfformio Heseciah. i Canwyd gwaith Benson gan y cor i uchod dan arweiniad Mr. Dl. Griffiths, nos Wener, Gwyl y Bane. Cymerwyd rhan yn y Gyngherdd gan amryw ddat- ganwyr lleol. Gwnaeth pawb eu rhan yn dra chamnoladwy.

Difyrion y Nadolig ar Lanan…

Cymanfa Ddirwestol Penygraig…

ICrynhodebI

[Nodion Heolycyw.I

Advertising