Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Y CYNHWYSIAD.

COLOFN LLAFUR.

!| ! Tanchwa Eto.j

0 Dre'r Darian-Aberdar.

Difyrion y Nadolig ar Lanan…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Difyrion y Nadolig ar Lanan y Cynon a'r Aman. j y Cyno a'r Aman. I GAN "COCH Y BERLLAN." Di-dwf oedd Die Shon Dafydd—a'i enw Heb un yn olynydd I A mwy o'r swyn i Gymru sydd Y daw yn hau'r ddramod newvdd. < Noson Ion yn llawn o ddysg a I doniolwch Cymreig a gaed y Nadolig gan Gwmni Dramyddol Saron, Abet I Aman. A'r trydydd eynyg- oedd hwn [ i'r Celtiaid yma-i droi allan Die Shon Dafydd yn y lie. Ac hawdd ddeall wrth wladgarwch y gynulleidfa fod y ddrama eisioes wedi gwreiddio yn eu serch, a phris isel fydd ar snobydd. ( iaeth Seisnigol yn y cylch hwn os try y Cwmni eu talent i roi rhagor o ddramodau i'r werin. Adwisgwyd y cymeriadau gan y Celtiaid yma —Die Shon Dafydd, Tom Evans; Wil y Crydd, Tom Ed- wards; Beto Wil y Crydd, C. A. Davies; Jac Dafydd, T. J. Phillips; Sion Huw, Ben Stephens; Sion Dafydd, Tad Die, Oakley Rees; Sioned Dafydd, ei fam, Sarah Wil- liams; Angharad Lloyd, Lizzie Ann James; Let, ei morwyn, C. A. Wil- liams; Mari William Dafydd, Anne Jane James; Sian Morus, A. M. How- ells; Dau Seguryn, T. Lloyd a J. Perkins; Clercdod, D. J. Phillips a D. R. Phillips; Heddgeidwad, D. E. Davies; y Llwyfanwr, yr awenydd cain Dewi Aeron, etc. Chwareuwyd rhan y penbwl snob- yddol gan Die yn eithriadol o dda, ac eglurwyd iddo drwy brofiad tost fod gwerthu iaith a byw ar fradwriaeth yn magu poenedigaeth ddi-fesur. I'r dim oedd portread Mr. Jenkyn yr ¡ ysgolfeistr o'r trybestod sydd wedi ei wneyd yn Nghymru ar egin y Genedl ynglyn ag addysg. Ach a fi, y mae penbocthiaid fel hyn wedi bod ac yn bod fel Cantre'r j Gwaelod yn cadw y Ilif-ddorau ar agor i iaith a gwladgarwch a chrcfydd y Genedl i soddi i waradwydd oesol. Camp oedd Wil y Crydd. Crydd gonest, ac yn Gelt i'r earn. A Beto ei wraig cystal ag yntau, ac yn cario llond calon o garedigrwydd. Profodd Jac Dafydd ei hun yn impyn o ysgolor penigamp, ac iaith ei fam wedi cael y lie goreu yn ei galon ac yn ei barabl. Trodd Sion Huw mas gydag ysbryd losgedig, ac fel bollt o fo'n y clawdd i fesur yr ysgolfeistr am orfodi ei grotyn bach i beidio arfer y Gym- raeg. Penigamp tybiwn i oedd Sion Dafydd. Tad Die, a Sioned ei fam. Yr oedd yn eu goslef a'(i hymadrodd drwch o brofiad henaint, a theimlad fel tad a mam digellwair. Angharad Lloyd, blodyn Bryn- gwyddon, oedd y rhian yma, a chad- wodd urddas y teitl i'r lan yn gamoi- adwy yn ei hymadrodd a'i hymddos- iad. Ysgarmes flin fu rhwng Jac Dafydd a Richard Jones Davies am galon a llaw Angharad. Ond y mae hanes y "Ferch o Gefn Ydfa" a'r Ferch o'r Seer yn bethau byw o hyd, ac felly y bu yn ngharwriaeth Angharad; dewisiodd gymeriad a gwybodaeth yn hytrach na dwli a ehvtfoeth. A Let, morwyn Angharad, oedd yn llawr asbri fel morwyn ac yn cadw trefn yn y Plas. A Mari AMlliam Dafydd oedd yn llawn bywyd a gwaith, a lliw yr afal ar ei gruddiau. A Sian Morus yn ei gwisg Gymreig yn dangos fod cenedlgarweh v Celt heb farw, ac fod ystyr i'r ddrama vn nyfodol Cymry. Doniol i'r pen fu y Ddau Seguryn, a'u harebedd yn cario llonaid col o gymhorth i chwerthin. A di-dr\vst ond gofalus oedd yr Heddgeidwad, ac yn chwilota am ladron ar lwybrnu Llanfynyddog. Difyr dros ben oedd caneuon y plant, a dysger rhagor. o alawon Cymry iddynt. Llanwyd y gadair o fraich i fraich gan y Parch. T. Jones, Pontyrhyl, un o fechgyn Aber Aman trwyddo. A chafwyd cnwd o benillion telyn gan y Fonesig ieuanc Nellie Jones, Cwm- aman, a'i brawd Evan Jones yn taro v tanau, ynghyd a chan Gymreig lan gan James Davies. Diolchodd John Davies, o Goleg Aberhonddu, i'r ead- eirydd am ei rhan, ac eiliwyd gan Gwynwawr. Diweddwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." "SANTA CLOS" YN YSGOLDY SILOA. Noson ddifyr Ion gafwyd nos dranoeth i'r Nadolig gan Geltiaid ieuainc y lie hwn. Rhan o esgobaeth y proffwyd a'r gwreiddiol Silyn Evans sydd yn cadw Gair Duw yn uchaf yma. Ac mae prydferthwch Rhosyn Saron yn ei dwf a'i liw yn y Taber- nacl hwn trwy y blynyddoedd. Dyma enwau y rhai fu yn noddi y plant yn feibion a merched cerdd, ac yn rhoi dwy awr o fiwsig calon i'r dorf:—Ar- weinydd, T. Parry; D. Stephens, G. Parry, J. Parry, F. John, S. James, Mrs Griffiths Mrs Parry, S. A. Wil- liams, M. A. Jones, L. M. Phillips, a A. James. Camp o beth fyddai erbyn y tro tiesaf i'r plant i ddysgu rhywbeth Cymreig, a lliw y rhedyn a'r grug arno yn lie gadael i fywyd Hengist i flaguro fel y lawryf gwyrdd yn ein capeli, a Phantycelyn yn gwywo fel blodeuyn y glaswelltyn. Mor o gan yw Cymru i gyd yw hen arwyddair Celtiaidd Cerdd Cwm Aman. Y Nadolig cafwyd datganiad gan Gymdeithas Gorawl y lie o'r "Woman of Samaria" (Bennett); Hear my Prayer (Mendelssohn) a Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw. Israel (John Thomas). Pen y gan oedd Mr. Edward Lewis, ac yn cyn- orthwyo oedd Miss F. Hilda Richard- son, Madame Hambly Spry, Mr. Ben Davies, Mr. D. Bodycombe. Wrth y tanau yr oedd Miss Morfydd Lloyd a Mr. Austin H. John, ynghyd a cherddorfa gref. Cafwyd gwledd uchelryw, a nawddogaeth lwyr i'r cor i droi allan eto doraeth o fiwsig fel yn y blynyddoedd a fu. Ai nid mor hawdd yw cael cwmni ar lanau yr Aman i gwympo i fewn i'r dvffroad ynglyn a'r ddrama Gymreig? Gwn fod digon o athrylith yn yr hen Gvvm Gymreig, dim ond i'r ysbryd ddechreu symud ar wyneb y dyfnder.

Cymanfa Ddirwestol Penygraig…

ICrynhodebI

[Nodion Heolycyw.I

Advertising