Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

I Y Golofn Amaethyddol. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Golofn Amaethyddol. I GAN BRYNFAB. Dyma ni yn cychwyn ar linell new- ydd, o dan yr oruchwyliaeth newydd. Sicrheir fi gan y Gol. newydd fod llawer o amaethwyr yn ddarllenwyr cyson o'r Darian," ac y byddai yn fuddiol ac yn deg darparu rhywbeth yn arbenig ar eu cyfer. Ceir rhai o'r wythnosolion Seisneg yn arlwyo yn ar- fcenig iddynt hwy er's blynyddoedd lawer. Paham lai, ynte, na cha yr amaethwr Cymreig yr un chwareuteg yn ei iaith ei hunan ? Amcenir gwneud y golofn hon yn fuddiol i lawer heb law yr "hen ffermwr"-fel y gelwir ef tua- chymoedd Morganwg yma. Mae gen- ym ni fel amaethwyr lawer i'w ddysgu eto, er ein bod yn credu ein bod yn gwybod pobpeth am drin y tir, codi cnydau, a magu anifeiliaid. Mae y "Manddaliadau" hefyd wedi dyfod i fodolaeth ym mhob sir, a llawer o'r rhai hynny wedi troi yn fethiant, oherwydd nad oedd yr ymgymerwyr yn gwybod nemawr o ddim am y gorchwyl oedd o'u blaen. Ceir rhai o'r "Manddaliadau" mewn lleoedd gwledig, lie mae y bobl- ogaeth, hyd yn hyn, heb anghofio mai Cymry ydynt, nac ychwaith wedi eu diddyfnu oddiwrth lenyddiaeth Gym- raeg. Ym mhlith y rhai hyny, y dis- gwyliaf y bydd i'r golofn hon ,fod yn ddyddorol ac addysgiadol. Nid yw trin gerddi eto, ond megys am y clawdd a maes yr amaethwr, a bydd yn y golofn rywbeth na wna ddrwg i'r tyddynwr, nad yw yn awdurdod ar ddim ond tyfu tatws a bresych. Nid wyf am honni fy mod yn gwybod pobpeth am fyd yr amaethwr, na byd y tyddynwr, ond mae genyf gyfleusderau wrlh law. i ddadrys pob pwnc yn y naill a'r llall. Nid wyf yn bwriadu cadw y golofn hon i mi fy hun chwaith. Os bydd gan rywun gweatiwn amaethyddol, ag eis- iau ei wyntyllu, neu un o'n darllenwyr ag eisiau goleuni ar ryw fater, bydd y golofn hon at ei wasanaeth, a cheisiaf finnau ateb unryw gwestiwn a ofynir. Mae genyf ddrws agored at yr Hyffordd- wr Amaethyddol sydd yn gwneud gwaith mor dda o dan Gyngor Sir Morganwg, ac hefyd at yr Hyfforddes sydd o dan yr un Awdurdod. Mae ,y naill a'r llall wedi gwneud gwaith rhagorol yn barod ym mhlith meibion a merched amaethwyr y Sir. Mae rhai o Siroedd eraill Cymru yn gofalu am y Ganghen Amaethyddol o Addysg, ond credaf fod Cynghorau Siroedd Morgan- wg a Mynwy ar y blaen i holl Gynghoiv au Cymru yn y cyfeiriad hwn. Mae Mr. Hedger Wallace wedi chwyldroi llawer ar yr hen drefn "pen bawd" fu gan amaethwyr y dyddiau gynt; a dyn- ion ieuainc yn dod yn gyfarwydd a dir-j gelion daear ac anifail na freuddwyd- iodd ein tadau erioed am danynt. Mae Miss Edwards, yr Hyfforddes, dra- chefn, wedi chwyldroi y gelfyddyd o wneud caws ac ymenyn, fel y mae merched Morganwg yn cipio y gwo- brwyon trwy yr oil o Gymru, a rhai o honynt yn medru enill y gwobrwyon a'r anrhydedd ym mhrif Arddangos- feydd Amaethyddol Lloegr. Ysgotyn yw Mr. Hedger Wallace, ac fel llawer o'r genedl honno, nid oes llawer o bethau nad yw yn gwybod pob- peth am danynt. Un o ferched Sir Aberteifi yw Miss Edwards, ac, wrth gwrs, yn Gymraes lin loew. Fel y nodais, y mae wedi gwneud ei hoi ar ferched Amaethyddol Morganwg, ac yn gwneud mwy na gwerth ei harian i'r Cynghor Sir. Mae Mr. Hedger Wallace yn barod i ymweled ag unrhyw le, o fewn y Sir, i draddodi darlith ar unrhyw desfyn amaethyddol. Nid yw yn gofyn am gynorthwy llogell neb mewn unrhyw ardal. Sicrhewch ystafell iddo, a dyna yr oil a gyst y wybodaeth a gyfranna. Cymered rhywun ran flaenllaw i dref- nu cyfarfod iddo ym mhob ardal, a bydd yn falch o gael hyfforddi yr hen a'r ieuainc, a sicrhaf y bydd pawjb a'i gwrendy yn falch o'r wybodaeth a geir ganddo. Gellwch osod y testyn a fyn- noch iddo, oherwydd y mae pob gwy- bodaeth amaethyddol ar flaenau ei fys- edd. Os bydd rhyw bwynt ganddo yn ei ddarlith ag eisiau ei egluro yn fwy trwyadl, gofynwch iddo rhagblaen, o herwydd mae yn hoffi cael ei gwestiyno, ac yn ei atebion y mae yn rhagori. Yn annibynol ar fynd ar draws gwlad i gyfrannu gwybodaeth amaethyddol, bydd ganddo ddosparthiadau yng Nghaerdydd—i ferched a bechgyn, yn rhydd ac yn rhad. Ymgvmered rhyw- un a chasglu enwau deg neu ragor o ddisgyblion ac anfon at Ysgrifenydd Addysg y Cynghor Sir, a threfnir y dos- parth yn ddiymdroi. Cynhelir y dos- barthiadau hyn am bythefnos, a thelir y cludiad o ben pellaf y Sir i bob dis- gybl neu ddisgy,bles a fynycho yn gyson. Felly, chwi welwch nad vw Cynghor Sir Morganwg yn hollol ddibris o hawliau Addysg Amaethyddol; ac nad oes un esgus i fab neu ferch fod yn amddifad o bob cyfrinach amaethyddol. Rhai lled anhawdd i'w gwthio ym mlaen Syda r amserau yw y ffermwyr, ond cred f f d  d ,t f symudiad mawr wedi cymer- ^rT n ? eu P? yn y?od y deg mlyn- edd d' d ???i.weddaf; ac ym Morganwg, i Mr H I W Hedger Wallace perthyn y clod mwy- af am yr ymddadebriad. Heblaw cyf- ranu addysg trwy ei ddarlithiau, ae"vn el ddo' th' d ei ddosparth ia d au, fe drefna y Cynghor I r i  Hedger Wallace fynd a chwm- m 0 f/ugyn ar ymweliad a rhai o rli 0 fechgyn ar y mwehada ?ai o 'SefYdliadall A-aethyddol y Cyfandir, un flwyddyn a 'hnvmni o ferched y R-yddyr, 1 yno Ond d I'd cofio ?? dim oud y h' ?-? ?? ??? ?V- yhu ei yddo wedi m.vn- •vchuei ddoSparthiarl ef a ^8B Ed- wards ,ydd i lwynhau Y teitbiau addysg- iadol hynny. Tair nu^ yw cost yr ym- weliad a Ffrainc, yr Allmaen, a'r Isel- diroedd. Cymer bythefnos o gartref yn yr ymweliadau hyn. Wrth gwrs, cyst y wibdaith lawer mwy na'r tair punt, ond rhydd y Cynghor Sir ei bapur ar yr Ariandy i gyfarfod y gweddill o'r costau. Fe ddywedir llawer am ragor- iaeth amaethwyr y Cyfandir ar rai y wlad hon. Ar yr ymweliadau hyn fe ga yr efrydwyr farnu drostynt eu hun- ain, ym mha le mae ein haddysg ni yn colli, ac ym mha le y mae addysg y Cyfandir yn rhagori. Mae yr Hyfforddes, Miss Edwards, yn barod i gynal dosparth i'r merched, mewn unrhyw ardal. Ymgymered rhyw eneth a chasglu deg o enwau, ac yna ohebu ag Ysgrifenydd Addysg y Sir, a bydd yn barod i'w gwasanaethu. Daw a'i holl gelfi amaethyddol gyda hi i'r merched ymarfer yn y grefft o wneud caws ac ymenyn, a daw yr hufen bras- af o Ddyfnaint at eu gwasanaeth yn rhydd ac yn rhad. Yr hen ffordd i wneud ymenyn oedd ei drin i gyd a'r dwylaw, pa un a fyddai y dwylaw hyn- iy yn lan neu beidio. Yn ol y drefn newydd, nid oes Haw yn cyffwrdd ag ef o'r pryd yr aiff i'r fuddau hyd y pryd y rhoddir ef ar y frechdan. Yn ol yr hen drefn pennyd-wasanaeth oedd corddi ar dywydd oer yn y gauaf. Gwn yn bersonol am y pennyd hwnnw, a gwelais daflu y gwaith i fynny heb gael ymenyn o gwbl. Ond mae ein merch- ed, erbyn hyn, wedi cael eu dysgu i wneud ymenyn mewn amser penodol, haf a gauaf. Dim ond dysgu y grefft sydd eisiau, a daw yr ymenyn yn ddi- drafferth. Bob blwyddyn cynhelir ar- holiad mewn lie canolog, a chymer y merched a fynychodd ddosparthiadau Miss Edwards y cyfleusdra i enill Ys- goloriaethau yn rhai o'n prif Golegau Amaethyddol. Cynhelid Arholiad yr wythnos ddiweddaf yng Nghaerdydd, pan y dyfarnwyd deg o Ysgoloriaethau o Xlo yr un, a thair o £20 yr un i ferched oedd wedi enill y deg punau y llynedd. Caiff y rhai llwyddianus ddewis eu colegau, ac wedi iddynt gyrhaedd i'r lleoedd dewisiedig, bydd cyfran o'r deg ar ugain punoedd yn eu dilyn,- a'r gweddill wedi y gorphenont eu cwrs. Feallai y dylwn grybwyll y rhaid i'r ym- geiswyr llwyddianus dalu eu cludiad eu hunain. Nid yw hyn ond swm fechan i'w thalu am yr addysg a geir yn y gwa- hanol Athrofeydd Amaethyddol. Trwy yr Ysgoloriaethu hyn galluogir llawer merch i ymgymeryd a gwasanaeth yn Llaethdai y Pendefigion, lie na rwg- nachir am dalu cyflog dda am wneud caws ac ymenyn. Maent hefyd wedi parotoi y ffordd i amryw o ferched Cymru i gael swyddi anrhydeddus ac enillfawr ar hyd a lied y wlad. Merched yr Ynys Werdd, yr Alban, a Lloegr, sydd wedi bod yn mwynhau y bras der yn y cyfeiriad hwn. Erbyn hyn mae ,u-iei;ched £ !ymru yn (Jechreu gwthio y rllif estronol yn ol, a cheir eu gweled yn meddianu y tir y tu arall i'r Clawdd yn y man. Mae y cyfleusderau yn eieh hymyl, ferched. Cymerwch fantais arnynt. Gadawer i mi eto wahodd eich dar- llenwyr amaethyddol i dalu sylw i'r golofn hon, a gwneud defnydd o honi yn y ffordd y mynont.

I IDatganiadau Dinesydd o…

[No title]

I Taith i Lydaw.

I Llythyrra Sion Sana.

Advertising