Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

Nodiadau'r Golygydd. I -I

Dalier Sylw.

Cymdeithas Ddiwylliadol Treharris.

Nodion o RymnL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o RymnL Y dydd i'r blaen claddwyd gweddillion Mrs. Davies, Church Street, priod Mr- D. W. Davies, ym Mynwent y Graig. Gwasanaethwyd gan y Parch. R. W- Davies, M.A., Twyn, yn yr eglwys y bu'r ymadawedig yn aelod dychlynaidd am lawer o flynyddau. Bu ar hyd ei hoes yn ffyddlon i'r alwedigaeth nefol. Cyd- ymdeimlwn yn fawr a'i phriod a'r plant yn eu galar. Dydd Nadolig cafwyd amrywiaeth. Pregethu haner-blynyddol yn y Twyn, a chyngherdd yn Eglwys Penuel. 0 rhan lluosawgrwydd y cynulliad credwn fod y pregethu wedi cario y blaen. Nid rhyfedd hyny pan ystyriwn fod y Penu- eliaid y tro hwn wedi newid o Eistedd- fod i Gyngherdd, i ba amcan ni gwyddom, os nad arian oedd mewn golwg. Dydd Sadwrn hejbryngwyd y brawd hoff John Davies i gladdfa y Graig, wedi chwe' mis o gystudd. Gweinydd- iwyd gan y Parch. R. E. Peregrine, ei weinidog. Gadawodd briod hoff a phlant yn eu galar. Gellir dweyd yn ddibetrus fod ein brawd Davies "Heddyw'n iach uwch poen a chri." Bu yn wasanaethwr difefl yn y winllan. Yr oedd iddo air da yn yr eglwys a'r byd, a chan y gwirionedd ei hun. Nid yn ami y ceir dynion yn dwyn nodweddau y gwir foneddwr yn ein har- daloedd. Wrth ei gweithredoedd yr adnabyddir hwynt. Ceir un o'r cyfryw yn yr rdal hon. Chwilia am le i wneyd daioni ar hyd y flwyddyn. Mae ei hael- ioni yn eithriadol. nid yn ei eglwys ei hun yn unig, ond i bob enwad, a phawb anghenus gura wrth ei ddor. Nos cyn Nadolig rhoddodd wledd i ugeiniau o blant, a Ilonder o'i logell hael. Bendith y nef a'i dilyn hyd derfyn ei ddyddiau. Nid oes achos ei enwi, am fod ei am- lygrwydd megys toriad gwawr ganol haf yn ein tref. GOH.

KISTEODFODAU DYFODOL.