Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
HWNT AC YMA. I
HWNT AC YMA. I GAN LVWELYX." EISTEDDFOD PLANT Y PARCH. RHYS J. HUWS. Cymwynaswr gwir i blant Cymru yw y Parch. Rhys J. Huws, Glan- amman. Daeth a'i Eisteddfod plant gydag ef o'r Gogledd i'r De, a diau y gwna lawcr trwyddi i ddiogelu'r Gym- raeg, a meithrin diwylliant gwerinol Cymru mcwn ardal boblog a phwysig. Y mae gweled y rhaglen hon yn iechyd i galon pob Cymro sydd a rhyw- faint o dan Cymreig yn dal o hyd i losgi yn ei fynwes. Dvma raglen Gymreig hollol a theilwng o'n cenedl. Rhoddir cadair dderw, gerfiedig, gwerth pedair gini i'r un dan 21 oe d a ragoro mewn arholiad yng ngweith- iau rhai o'n llenorion a'n beirdd goreu, a choron o arian i'r un dan 18 oed a ragoro mewn cyffelyb gamp. Cynllun I da, ni a dybiwn, i gael gan ein beirdd ieuainc i ganu llai a gwybod mwy am glasuron lien a chan eu gwlad. Pan I genir llai odid na chemr yn well. Athrofa odidog fydd yr Eisteddfod hon i Gymry'r cylch. DEMOCRATAETH YR EGLVYYSI. 1 Dadl ddiddorol gafwyd yn y "Daily Leader," Aber lawe, yn ddi- weddar, ar y cwestiwn hwn rhwng y Golygydd a Mr. Neft, y deintydd o Lanelli. Honna Mr. Neft fod yr eglwysi wedi eu meddiannu gan yr I ysbryd cyfalafol. Dadleuai'r Gol. talentog fod yr eglwysi yn ddemocrat- aidd hoiioi, ac eglurodd ei safle yn ddeheuig. Arweiniodd hyn y ddadl i bwynt. Cydnabyddai Mr. Neft fod yr eglwysi Cymreig yn hollol ddemocrat- aidd eu llywodraeth. Ond felly, medd- ai, y mae Ty y Cyffredin. Etholir Arglwydd Hugh Cecil a Sir Crlstopher Furness mor ddemocrataidd a'r Mri, Hardie a Snowden. Er hynny, y mae Ty'r Cyffredin yn gyf alaiol iawn, am fod y werin o'r un yspryd. Tcyrnasa ysbryd cyfalaf yn yr eglwysi am yr un rheswm, sef fod y werin yn gyfalafol ei hysbryd. Ar gyfrif hyn dywed Mr Neft fod yr eglwysi wedi dewis gwasanaethu Mamon a chym- eryd plaid cyfalaf. Bendithia'r gynnau mawr, a bedyddia'r Dread- noughts, etc. Yn sicr y mae Mr Neft yn cymysgu pethau *a'u gilydd. Teimlem yn falch, er hynny, ei weled yn cydnabod democrataeth yr eglwysi Cymreig mor groew. Pan adnebydd hwynt yn well dichon y daw i synied yn uwch am eu hysbryd a'u gwaith. Nid oes gan yr Eglwysi Rhyddion law mewn amddiffyn milwriaeth na chyfal- af fel eglwysi. Y mae eu llais yn bar- haus yn erbyn milwriaeth ac yn erbyn gorthrwm cyfalaf. Dichon fod ynddynt rai yn credu mewn milwr- iaeth a rhai yn cefnogi cyfalaf. Ond, ag edrych arnynt o safbwynt cym- deithasol, y mae dylanwad yr eglwysi yn gryf o blaid cyfiawnder, heddwch, addysg, a'r rhan fwyaf o bethau sydd a'u tuedd i ddyrchafu safon bywyd. ) DRWS AGORED. I Y mae democrataeth gydnabyddedig I yr eglwysi yn ddrws agored i hyr- .J.vyddiant pob cynnydd a dadblygiad a fyddo er daioni. Gan eu bod yn ddemocrataidd gellir eu gvvella o'r tu fewn. Ofer yw curo arnynt o'r tu allan gan rai nad ydynt yn eu deall nac yn cydymdeimlo a'u llafur. Nid oes a fynno'r Eglwysi a chefnogi un- rhyw blaid Geidwadol, Ryddfrydol, na Llafurol fel y cyfryw, ond dylai aelodau pob plaid fod yn well o'u dylanwad. Ysbrydol yw dylanwad a neges eglwys; ceidw ddynion mewn ymwybyddiaeth o'r Anweledig. Nid yw Tadolaeth Duw, Brawdoliacth dynion, ac urddas y natur ddynol wedi eu dysgu yn effeithiolach mewn un- rhyw gylch nag yn yr eglwysi. Gall dynion da iawn gredu yn y drefn gyfalafol a chredu fod angen byddin a llynges. A chariiatau fod y rhai hyn yn cyfeiliorni, dyledswydd y rhai sydd yn credu yn wahanol iddynt nid ceisio eu gyrru allan neu bardduo yr eglwys o'u plegid, eithr yn hytrach yn ysbryd Crist geisio dylanwadu arnynt er gwell. Nid ydym eto wedi gweled neb yn gallu gosod i fvny ddim a ddaw i fynny a'r eglwysi yn eu dylanwad er daioni. Dynion wedi eu meithrin yn awyrgylch yr eglwys yw y rhai croewaf eu llais o blaid diwygiadau angenrheidiol. Y PETHAU SYDD A GWAHAN- j IAETH RHYNGDDYNT. I Y peth a dynn gryn anfri ar yr cglwysi yw y gall y sawl a fynn godi eglwys o'r nodwedd a fynno. Dar- Ilennir am Esgob neu Archesgob yn bedyddio ac yn bendithio llong ryfel, a bydd rhywrai yn codi eu dwylaw ^n synedigaeth ac yn dweyd— yma waith yr eglwysi, i hyn y maent t "?y yn bodoli! Ped elai y beirniaid hyn drafferth i holi ac i chwilio caent allan nad oes gan luaws aelodau'r na chyfran yn  eglwysi na rhan na chyfran yn y re<* ^onn°. Ped elai y rhai a P ,emniant yr eglwysi byth ac v 0 dan y dybiaeth nad ydynt mor  ag 5\ dylasent fod i ryw imudi '"duo1. i'r drafferth I  | eu iwaith a'u Ilaf ur, ??sen/?y?h eu gwa;th a'u llafur, c^-sen all-n yn fuan iawn fod gwa- ?"'aeth ^Uan *awn fod gwa- Caent fod 1 ng e^*wys ac eglwys. ng egl-3-s ae e g lA,y-s. ? a dybiant er* Jn &wneud mwy <??i?eth, a'u t"??ha6ad by?v? d dynotia4 th, au bod Yn deilwng o I ge f noga4etb yn bytracb na'u rhwystro. Y -ae yn ddia. 0 ^diffvgion yn yr eglwysi; o'r byd amherffaith y cant eu defnyddiau ac nid o blith yr angel- ion, ond yn eu hawyrgylch hwy y mae He goreu i ddynion ieuainc a hen hefyd. Ofnwn mai gelyniaeth afresym- I ol sydd wrth wraidd llawer o'r con- demnio sydd arnynt. Methodd ambell un a'u plygu i'w amcanion ei hun, ac o hynny allan nid oes drugaredd I iddynt. Yr eglwysi a'r wemidogaeth yn ddiau fu caredigion mwyaf Cymru yn y gorffennol. Os nad ydym yn camgymcryd y mae'r wlad eisioes yn dechreu agor eu llygaid ar werth eu llafur a'u dylanwad. Y maent yn ystod y blynyddoedd diweddaf wedi llafurio o dan gryn anfantais o herwydd y camliwio sydd wedi bod arnynt. Mantais fydd hyn iddynt yn y man. Dechreua'r cymylau glirio, deuant i ddeall lle'r ocddent yn wan, ac i ganfod eu llwybrau yn gliriach. "JOHN BULL A'R GYMRAEG. Papur cciniog wythnosol yw John Bull," a olygir gan Horatio Bottom- ley. Y mac efc'n adnabyddus fel un I sydd yn gallu gofalu am fusnes pawb ond ei fusnes ei hun, ac y mae yn un o'r engreifftiau goreu o'r Sais ym- erodrol y gwyddom am dano. Yn ei bapur am Ragfyr 27am gwawdia ym- gais Cymrodorion Aber Tawe i gael gan yr awdurdodau i wneud dysgu'r Gymraeg yn orfodol yn yr ysgolion elfennol. Dychryna'r Sion Darw hwn wrth feddwl am y fath beth. Ofna yr arweiniai hynny i ddysgu iaith yr Albanwr yn Glasgow, a iaith y Gwyddel yn Dublin. Hawlia synnwyr cyffredin, meddai ef, y dylid tros- glwyddo ieithoedd sydd ar ddarfod am danynt i dir hanner-angof i fod yn destynau myfyrdod hamdden y rhai a garant hynafiaethau llenyddol. Ych- wanega, Os oes gan blant amser i ddysgu dwy iaith yn yr ysgol, goreu oil, ond gadawer iddynt fod yn ieith- oedd byw." Gwyddom fod synnwyr cyffredin Sion Darw wedi methu lawer gwaith, ond nid oes byth ball ar ei haerllugrwydd. Gellid tybied oddiwrth ei ymfrost ar adegau ei fod Yn holl- wybodol, ond, wrth gwrs, ni raid i ni ei gymeryd ar ei air. Y mae mor ddiniwed a chredu nad oes ond un genedl yn y deyrnas hon, a honno yn genedl Sion Darw ei hun. Tipyn o chwydd yn y pen sydd yn cyfrif am dybiaeth fel hon. Efallai y daw yr Ymerodrwr hwn i wybod rywbrvd fod y Gymraeg yn iaith lyw, ac yn debyg o fyw; a bydd- ai dysgu ieithoedd sydd ar ddarfod am danynt yn yr ysgolion yn well gwaith na llawer o bethau y mae John Bull wedi wneud ar hvd ei o c- Nid e f el 'ii oes. Nid yw aelod o Sennedd P.rydil1" Fawr ers tro. I
Treforis..I
Treforis. I Salem. I Cynhaliwyd Eisteddfod flynyddol y lie uchod ddydd Nadolig. Daeth tyrfa luosog ynghyd. Y beirniaid eleni oedd- yut Mri. W. Fisher a John Evans. Cyfeilydd. Mr. Daniel Thomas. Llyw- yddion, Mri. J. Williams a Rees Grif fiths. Gwobnvywyd y rhai canlynol ar y gwahanol ddarnau :— Soprano, Miss Maimie Griffiths. Alto, 0 rest in the Lord," Maggie Jones. Unawd tenor. "Holy City," Fred Ayres. Deuawd, Jas. Bendle a Wm. Thomas. Triawd, "Duw bydd drugarog," Jas. Bendle a'i gyfeillion. Pedwarawd. Mr. Tom Hughes a'i gyfeillion (Sciwen). Her Unawd, Miss Maimie Griffiths, Treforis. Awdl. Mr. W. Williams (Gwilym Tawe) testyn. "Yr Ysgol Sul a'i Dy- lanwad." Oadeiriwyd y bardd yn y dydd arferol. Traethawd. "Ilhagoriaeth y Beibl ar unrhyw Ilyfr arall." goreu, "Gwilym Tawe." Prif ddarn, "Be not afraid," tri chor yn eystadlu goreu. cor o'r lie. o dan ar- weiniad Mr. Bees Williams. Cariwyd yr arweinydd adref gyda banllefau o gymerad'.vyaeth. Dyma'r drydedd waith i'r cor enill dan arweinyddiaeth y brawd uchod. Diolcha'r pwyllgor ddiolch i fasnachwyr y lie am y gwobrau a roddwyd ganddynt.
Penderyn.
Penderyn. Tra yn dilyn ei waith fel halier yn N gwarel Llwyn Onn dan Mri. W. P. Powell a'i Gyf., syrthiodd Evan Davies. Rose Arms, Hirwaun, dan y ddram, ac aeth yr olwvn dros ei fraich ac ochr ei ben, gan ei archolli yn en- byd. Yr oedd ei fraich wedi ei gwa- hanu oddiwrth y corph braidd yn hollol a'r archoll ar y pen yn ddwfn. Fe aethpwvd ag cf Yspprtty Aber- dar ar unwaith, a meddylir ei fod mewn sefvllfa anobeithtol. Treuliwyd prvdnawn dydd Nadolig gan y lair eglwys Siloa (B.), Soar (A.), a Jerusalem (M.C.), trwy roddi tA i.'r plant a deiliaid yr Ysgol Sul, a chyrddau adrodd a chanu yn dilyn. Llywyddwyd cyfarfod Siloa gan Mr. Thomas Jones: yn Soar gan Mr. John Harris, Trebanog, ac yn Jerusalem gan y Cvnghorw r T. Mellte Morgan. Caf? vd hwy\ wrth wrando ar y rhai bvcha'n yn adrodd a ('hanu am y tro cyntaf lawer o hf?vnt. cyntaf o liNiN-nt.
Ferndale.I
Ferndale. I GAN 10 AN. I Cwmni Newydd y "Darian." Yn ol hysbysiad welais yn y "Darian" I ddiweddaf bydd y nodiadau yr wythnos hon yn myned i ofal Cwmni a Golygydd Newydd. Dymunaf i'r Cwmni, gan nad pwy ydynt, bob llwyddiant yn eu han- turiaeth. Addysg. Rhagfyr 17eg y cvnhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Workmen's Hall i an- rhegu ysgolheigion yr Ysgol Ganrol- radd gan y Cynghorwr Abel Jacob, Ferndale. Wedi sylwadau arweiniol galwodd ar Mr. G. Chi!ds, B.Hc., yr ysgolfeistr, i roddi adroddiad o weith- rediadau y flwyddyn. Sylwodd fod yn llawen ganddo fod yr adeilad eang wedi ei orlanw. Yr oedd yn dda ganddo ei i hysbysu fod yr ysgol y flwyddyn hon I wedi cadw ei safle. Nifer yr ysgolheig- ion yn ferched a bechgyn ydynt 265— ychydig o gynydd er y flwyddyn o'r blaen. Y mae llwyddiant arholiadol yr ysgolheigion yn galonogol. Itfrvj. Tri wedi pasio arholiad Matriculation Prif- Yagol Cymru; deg wedi pasio arholiad lleol i Rydychen yn y dosbarth henaf naw yn yr un arholiad yn y dosbarth ieuengaf. Enillodd David Evans, Fern- dale, a phedwar eraill, anrhydeddau. Enillodd Mr. William George Jenkins ysgoloriaeth o Y,30 y flwyddyn i Brif ysgol Caerdydd. Cafwyd anerchiad ) gan Mr. D. Lleufer Thomas, Prif Ynad j Pontypridd a'r Rhondda. Efe rannai | y gwobrwyon i ymgeiswyr llwyddianus. I Yr oedd ei anerchiad yn llawn o anog- aethau chalondid i athrawon, ysgolheig- ion, y Pwyllgor Addysg, a rhieni y plant. Siaradwyd yn mhellach gan y Parch. R. Hughes, C.D., Tylorstown, a T. W. Berry. Diolchwyd yn gynes i Mr. Thomas am ei anerchiad, ac i'r llywydd. Treuliwyd y gweddill o'r eyf- arfod i fwynhau canu yr ysgoleigion. Y mae clod mawr yn deilliaw Mri. Fred Williams, M.A., a G. T. Parry am eu dysgu i ganu mor rhagorol. Llwyddiant. I Pleser genym llongyfarch y chwaer ieuanc Miss Annie Davies, 21 Dyffryn Street, merch Mr. a Mrs. T. Davies, ar ei llwyddiant yn ennill tystysgrif Inter- mediate yn y gradd laf mewn chwareu ar y Jberdoneg. Nid yw eto onu deu- ddeg oed, a adlewyrcha hyn glod arni hi a'i hathrawes, Miss M. E. Davies, Brooklands, Porth. I Nadolig. I Bore Nadolig, am 7, cynhaliwyd eyfar- fod crefyddol dan nawdd Cymdeithas Diwylliadol Penuel (M.C.). Llywydd, Mr. John Edwards. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. John Evans, New Street. Darllenwyd papyr gan Mr. Jonah Howells, Union Street, ar Awr gyda'r Iesu." Cafwyd papyr cynwysfawr. Siaradwyd yn mhellach gan amryw. yr oil yn edmygu y papur a gawsid. Diweddwyd y cyfarfod gan y Parch. B. Watkins, Penuel. Cymanfa Ysgolion. I Rhagfyr 26 cynhaliodd Method Dosbarth Uchaf y Rhondda Fach eu Cymanfa Bwnc yn ol y drefn a ganlyn: Bethania, Mardy, am 9 y boreu, yr oedd eyfarfod neillduol i athrawon ac athraw- esau y Dosbarth. Darllenwyd papyr gan Mr. John Rees Jones, Ebenezer, Mardy, ar y gynadledd a gynhaliwyd yn Switzerland. Cafwyd papyr rhagorol, a cha sylw pellach yng nghyfarfod dau- fisol y dosbarth. Llywydd y cyfarfod ydoedd Mr. John Lewis, Bethania. Ar- weiniwyd mewn gweddi gan Mr. David Burrell. Am hanner awr wedi deg yn Bethan- ia, Mardy. Llywydd, Mr. J. Timothy Davies, Penuel. Arholwr, Mr. John Lewis, Bethania. I ddechreu canwyd ton, ac adroddwyd 153 o adnoddau o "Hanes Moses" gan Miss Sarah Ann James. Dechreuwyd drwy weciui gan Mr. Thomas Jones, Carmel. Holwyd plant y dosbarth dan 13eg oed ar Hanes Moses. Cafwyd anerchiadau i'r plant gan y llywydd, Mri. Gomer Jones, Car- mel W. Thomas, Calfaria, Porth, a'r Parchn. W. E. Williams, B.A., Bethan- ia, a B. Watkins, Penuel. Am ddau yn Penuel, Ferndale. Llyw- ydd, Mr. Griffith Evans, Carmel. Ar- holwyr, Mr. Jonah Howell, Penuel, a'r Parch. W. E. Williams, B.A., Bethania. Arweiniwyd y canu gan Mr. John Thomas, Penuel. Canwyd ton i agor y eyfarfod. Adroddwyd 15 o adnoddau o Hanes Josuah gan Mr. Thos. R. Evans, I Ebenezer. Gweddiwyd gan Mr. Evan I Morgans, Bethania. Holwyd y dos- barth dros 13eg oed a than 21ain oed yn y bennod laf o Lyfr Josuah gan Mr. Jonah Howells. Holwyd dosbarth hen- af Ysgol Penuel yn y 5ed bennod o'r Epistol at yr Hebreaid gan y Parch. W. E. Williams, B.A., Mardy. Diweddwyd drwy weddi gan Mr. D. Davies, Salem Newydd. Cyfarfod yr hwyr yn Penuel. Llyw- ydd, Mr. D. Burrell. Arholwr, Parch. B. Watkins, Penuel. Arweinydd y canu, Mr. Jonah Howells, Penuel. I Adroddwyd 15 adnodau gan Mr Osborne Hughes, Penuel. Dechreuwyd drwy weddi gan Mr. Edward Hughes. Hoi- i wyd y dosbarthiadau yn y 6ed bennod o'r Epistol at yr Hebreaid. Diwedd- wyd y cyfarfod gan y Parch. W. E. Williams, B.A. Er fod yr hni yn am- ffafriol i gynulliad lluosog, cafwyd Cy- i manfa o safon uchel, a llawer o ddull a hwyi.yr hen Gymanfaoedd.
IPontardulais.I
I Pontardulais. Llewyrchus iawn yw Cymdeithas y Cymrodorion y tymor hwn. Daw cyn- ulliadau rhagorol ynghyd a cheir hwyl fawr. Y prif-fardd Sarnicol agorodd y gweithrediadau eleni, a chafwyd araeth ddyddorol ganddo ar "Y Cywair Lion." Nos Wener wythnoR i'r diweddaf bu Crwys yma yn traethu ar y gwladgar "Tom Ellis," a disgwylir y Parch. Philip Jones i'r cwrdd nesaf i roddi ffrwyth ei sylwadaeth ar ei bererindod "0 For Hyd For." Dechreuir parotoi eisoes gogyfer a dathlu Gwyl Dewi, a gobeithir sicrhau presenoldeJj un o oreugwyr y genedl ar yr achlysur. Araeth lied blaen gafwyd gan Mr. W. F. Phillips yng nghwrdd y Rhydd- frydwyr leuainc nos Lun diweddaf. Golchwyd "dillad budron" arosent heb eu golchi er yr Eitholiad diweddaf yn Gower, a theimlai amryw yn anghy- fforddus yn y cyfarfod. Dichon fod yn ofynol peth fel hyn ar adegau. Cwynid mai teneu oedd y cynhulliad nos Fawrth diweddaf yn gwrando ar y Parch. Daniel Hughes (dan nawdd yr I.L.P.) yn myned trwy ddrama Dickens ar y "Carol Nadolig." Ond gwnaeth yr areithydd ei ran yn feistrolgar iawn. Efallai fod rhai yn absenol o ofn y "morthwyl." Aeth y Nadolig heibio yn ddymunol yn y Bont. Cyfarfod gweddi ym mhob addoldy y boreu, ac un o nodwedd ad loniadol yr hwyr. Trefnodd Eglwys yr Hope (A.) gyngherdd ar raddfa pur eang. a chynhaliwyd Eisteddfod lwydd ianus iawn yng Nghalfaria (B.). Gresyn fod 'rhai Cymry yn ymuno a thramor- wyr i halogi y dydd. a chwareuon isel- wael. Dymunir i Olygydd newydd y "Dar- ian" bob llwydd yn ei gadair. Caffed flwyddi lu i wneyd ei waith heb chwen- ych ffafr nac ofn gwg neb. CELT.
Eisteddfod Bodringallt.
Eisteddfod Bodringallt. Cynhaliwyd yr 21ain Eisteddfod dydd Nadolig yn nglyn ag Eglwys Gynulleid- faol Bodringallt. Y Cynghorwr T. A. Thomas, Ton, oedd y cadeirydd, ac ar- weiniwyd gan y Parch. T. D. Jones, y gweinidog. Y beirniaid oeddent: Can- iadaeth, Miss Nita Powell, Mus. Bac., Caerdydd; yr amrywiaeth, y Parch. J. Bodfan Anwyl, Pontypridd; adrodd- iadau a'r pencil drawing, Mr. E. Ogwen Williams, Aberdar celfyddid nodwydd, Miss M. Williams, Pontypridd. Uyfeil- wyr, Mri. Sam John a W. Harries. Enwau'r Buddugwyr:— Cyfarfod y Prydnawn: Adroddiad i rai dan 10 oed, "Paid tynu Nythau'r Adar" 1, Miss Nana Davies, Bodring- allt; 2, Miss E. S. Jones, Tonypandy. Unawd i fechgyn, "To Chloe in Sick- ness" 1, Master Christmas Owen, Llwynypia; 2, Master Ifor Gwyn Owen, Treherbert. Adroddiad i rai dan 16 oed, "Paentio'r byd yn goch," Gwladys Davies, Pentre. Unawd y berdoneg, cyfyngedig i rai dan 15 oed, Rondo Sonatino" Rhif 5 (Clementi) Cyd- radd. Master Archie Davies, Ystrad, a Gethin Jones, Bryncethyn. Tea Cosy, Miss Olwen Lewis, Pentre. Cymru Rydd." i denor na enillodd dros 10/6 o'r blaen, Mr. David Evans, Pentre. Pen- cil drawing o Mr. W. Abraham, A.S. (Mabon), cydfuddugol, Mri. B. Mills Thomas, Aberdar, a David Walters, Gelli. Dictation Cymraeg i blant dan 14 oed, cyfyngedig i Ysgol Sul Bodring- allt, Miss Ethel Hughes, Ystrad, Rhon- dda. "Pinacl Anrhydedd" i'r basswr na enillodd dros 10/6 o'r blaen, Mr. Samson Rosser, Pentre. Cyfansoddi darn adroddiadol i rai dros 16 oed, heb fod dros 80 llinell, Mr. Henry Lloyd (Ab Hevin), Aberdar. Englyn, 'Gwniadur,' Parch. J. Gwrhyd Lewis, Tonyrefail. "Dyffryn Clwyd" (unawd) i ferched dan 25 oed, Miss Arianwen Pugh, Ys- trad. Cynyrchu darn adroddiadol i rai dan 16 oed, ac heb fod dros 40 llinell, I Mr. John Phillips (Treforfab), Treforis. Gwneud bara gwyn heb fod dan bedwar pwys, yn gyfartal, Miss Mary Jones a Mrs. Nancy James, y ddwy o Ystrad Rhondda. To cross-stitch on linen the word, "Eisteddfod Bodringallt, 1913," i blant dan 15 oed, cydfuddugol, M.J. a M. I Unawd soprano, "I know that my Redeemer liveth." yn gydradd, Master Christmas Owen, Llwynypia, a Miss, Margaret Jenkins, Ystrad, Rhondda. "Glyndwr yn anerth ei Filwyr" (adrou< iad Oymraeg), Mr. Thomas Harry, Gar- nant. To hem stitch square of linen about 9 in. and embroider a design in I colour in one corner: 1, Miss Olwen Lewis, Pentre; 2, Miss Maggie Bum • ford, Ystrad. Unawd tenor, "Gwlad y Tywysog," rhanwyd rhwng Mri. Davie i Lougher. Ystrad, a Phil Jones, Tonyr- j efail. Her adroddiad i rai dros 16 oe. I' yn Gymraeg neu Saesneg, Mr. Eben ezer Rogers, Porth. Return unto I Thy Rest" (unawd contralto), Miss Maggie Jones, Treorchi. Adroddiad Saesneg, yn gyfartal, Mri. Ebenezer Rogers, Porth, a Gwilym Phillips, } Aberaman. Cyfieithu o'r Gymraeg i'r I Saesneg, ac o'r Saesneg i'r Gymraeg, Mr. John Rees, Trealaw. Deuawd, j "Planty Cedyrn," Mr. Stephen James. Cwmparc, a'i gyfaill. Unawd i sal aw (bass), yn gydradd, Mri. Ben Devonald, Ton, a Evan Evans, Pentre. Pedwar- awd, Y Daln Od" (The Snowdrop), Mri. Joe Jones, Ton, a'i gyfeillion. Parti Meibion, The Little Church," Blaenclydach yn oreu o bedwar. ,° Swyddogion y pwyllgor Cadeirydd, Mr. John Isaac (loan ap Daniel) try- sorydd. Mr. T. M. James, Penrhys Rd.; ysgrifenvdd, Mr. John Lewis, William Street, Ystrad. Yr oedd nifer y cys- tadleuwyr yn lluosog, a chafwyd prawf amlwg fod yr Eisteddfod yn creu lies a dvddordeb. EOS HAFOD. I
-Treforis. I
Treforis. I DIFYR NADOLIG. I Perfformiodd Gobeithlu Seion, dan arweiniad Mr. Henry Thomas, y gantawd boblogaidd, Baban Bethle- hem," o waith y Cynghorwr dawnus, Mr. David Griffiths, Aber Tawe. Cawd hwyl ar y gwaith, a gofynnir am berfformiad arall yn fuan. Y cadeirydd oedd Mr. D. Mathias. Gall yntau- wneud rhywbeth heblaw gwerthu nwyddau o'r siop. Cawd ami stori go ddoniol ganddo. Wele engraifft Yr oedd par ieuanc wedi priodi, ac er mwyn bod yn sicr o'i safle a'i awdurdod, rhoddodd y gwr ieuanc ei droed i lawr yn awdurdodol, a dywedodd, "Cofiwch nawr taw fi yw'r llywydd yma." "Eithaf da," ebai'r wraig ieuanc, "rwy'n foddlon i chwi fod yn llywydd ac yn is-lywydd, ond cofiwch chwithau taw fi vw trysorydd y cwmni." Bo Peep's Picnic" oedd y gan- tawd fach ddifyr fu'n diddori pobl Soar. Y Gobeithlu fu'n ei pherfformio o dan arweiniad Mr. Benjamin Rees. Gwnaethant eu gwaith yn odidog. Miss Rachel Anne Davies oedd yr organvddes, a Miss Rachel Bowen yn J arweinydd yr "action songs." Llyw- yddwyd yn fedrus iawn gan Mr. David Henry Edwards. Lie da gafwyd ym Methania, a cbor y plant dan arweiniad Mr. John Dennis yn canu Plant y Nefoedd." Ychvvanegodd y Mri. Bodycombe a James Watts, Madam Hall a Miss Francis at y wledd, a Mr. Fisher gyda'r offeryn. Llywyddwyd gan Mr. David Harris: Coeden Nadolig gafwyd yng Nghal- faria, a honno yn Ilawn teganau hudol i blant. Darparesid y goeden a'i llwyth gwerthfawr yn hollol gan Mr. David Harris, Crown Villa, a Mrs. Harris pan ddaeth yr amser a ddat- ganodd fod y goeden yn agored i gym- eryd o'r hyn oedd yn grogedig arni. Caed cwrdd cystadlu yn yr hwyr. Prif at-dyniad Treforis yn ystod Gwyliau'r Nadolig yw Eisteddfod y Tabernacl. Cynhelir hi yn flynyddol. Yr oedd hon yn fyedwaredd Eistedd- fod a deugain. Lied dda, Gymry Treforis Estynai yr Eisteddfod eleni dros dri niwrnod. Dywedai Dr. Christmas Williams, un o'r beirniaid cerdd, fod angen rhoddi mwy o sylw i Alawon Cymreig. Tvstiai mai miwsig Cymru oedd y ceinaf yn v byd, ac mai Cymry yn ddiameu oedd y canwyr goreu. Yr oedd "Dyfnallt" yn ei hwyl oreu fel arweinydd.
Calfaria, Rhigos. I - i
Calfaria, Rhigos. I i Cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn y lie uchod nos Nadolig. Clorianwyd y cantorion a'r llenorion gan Mr. D. Davies (Dewi Cynon), Penderyn, a'r "pencil sketch" a'r llaw-ysgrif gan Mr W. J. Mears, ysgolfeistr y lie. Wele rhestr o'r buddugwyr:— Adroddiad, dan 10 oed: Miss Ceinwen Edwards. Adroddiad, dan 16 oed: Miss Gweno Harries. Rhoddwyd gwobr hefyd i Miss Sarah Morgan. 'i Adroddiad i rai mewn oed: Miss I Matilda Morgan. i Araetth o bum munyd ar "Fynydd yr 'I Olewydd" Mr. J. Richards. Llythyi "Morwyn at ei hen Feistres" I Miss Annie Richards. Ysgrif ar "Jeremiah": Mr. J. Davies. "Pencil Sketch" Mr. J. T. Jones. Llaw-ysgrif Miss Mona Jones. Unawd Soprano Miss A. Richards. Unawd Tenor: Mr. Dd. Harries. Unawd baritone: Rhanwyd rhwng Mri. P. Jenkins a M. E. Jones. Her Unawd: Rhanwyd rhwng Mri. I E. R. Morgan a M. E. Jones. Unawd i bedwar Rhanwyd rhwng Mr G. Morgan a'i gyfeillion a Miss M. Mor- gan a'i chyfeillesau. Triawd: Miss Blodwen Morgan a'i pharti. I Pedwarawd: Mr. G. Morgan a'i Jbarti. Yn ystod y cyfarfod cafwyd deuawd j swynol gan Mr. E. R. Morgan a Miss A. j Richards, hefyd ddeuawd ar y berdoneg i gan Mr. Tom Richards a Miss Olivia I Gwen Howells, yn dangos gallu uwch- raddol. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. W. J. Morgan (Gwilym Alaw). I Y cyfeilydd oedd Mr. Tom Richards, L.L.C.M. Yr ysgrifenydd oedd Mr. All-. B. Thomas, a'r trysorydd oedd Mr. W. J. Davies. Siaradai y gwobr-gydau heirdd oedd i yno yn uehel am garedigrwydd meTched i ieuainc a gwragedd yr ardal. Diwedd- j wyd cyfarfod a hir gofir yn swn gwlad- < garol "Hen Wla dfy Nhadau." i I GLAN GWRANGON. r I I
[No title]
Tr.rris a'r Oylch.- Y nodion yn rhy ddiweddar yn dod i law y tro hwn. Hefyd, Bethania, Aberdar.
Advertising
CYMERWCH HYN YN DDIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich hunain pa un a ddylai Parotc .d, gan ba uo y mae Enw da yn ei wlad ei hun, ac yit mhlith ei bobl ei hun yn mhob man, bwyso gyda chwi fel prawf o'i Werth Gwirioneddol a'i Adnoddau Iachaol ar ol ugain mlynedd o Boblogrwydd cynydd- ol, neu feddyginiaeth ddieithr wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidio rhoddi enw i'r cyfansoddiad, a dim ond dirgelwch i'ch harwain? Y PWNC 0 J ECHYL> Y mae hyn yn fater sydd yn sicr o fod a fynoch chwi ag ef ryw am- ser neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor gyffre- din, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er cadw ymosodiad o'r anhwylder mwyaf gwanhaol hwn ymaith, ac i frwydro ag ef o dan ei ddylanwad helbulus, ac yn neillduol ar ol ymosodiad, oblegid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr gymaint fel ag i'w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus o anhwylderau. Mae Quinine BITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawb, sydd wedi rhoddi prawf teg iddi fel y feddyginiaeth hysbysol oreu er delio a'r Anwydwst yn ei wa- hanol ffurfiau, gan ei bod yo Barotoad sydd wedi ei barotoi ya fedrus a Quinine yn nghyd a phethau cyfoethogol a Gwaed- burol ereill, addas i'r Afu, Treul- iad, a'r holl anhwylderau sydd yn galw am Adgyfnerthydd cryf- haol ac adnoddau giaugynyddol. Y mae yn anmhrisiadwv pan yn dioddef gan Anwyd, Pneumonia, neu unrhyw afiechyd difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddiffyg cwsg neu bryder o unrhyw fatb, pan y mae teimlad cyffredin (Jo wendid a lludded ar y corff. pEIDWCH OEDI. YSTYRIWCH YN awr t Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yn dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy agos- af, ond pan yn prynu mynwch weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn wirion- eddol. GWERTHIR YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN Mewn Potelau, 2s. gc. a 4s. 6ch. yr us Unig Berchenogion: VHMfffi BITTERS f4ANUFACTURINIW CUPANY, LIMITED, LLANELLY. South WatM.