Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Beirniadaeth.I

Advertising

Eisteddfod Bodringallt Nadolig,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eisteddfod Bodringallt Nadolig, 1913. BEIRNIADAETH BODFAN. DICTESION CYMRAEG. Er yr holl ddwli siaredir am farw'r Iaith Gymraeg, derbyniais wyth cynnyg o un eglwys mewn bro Seisnig- aidd. Genethod yw saith o honynt, a sillebant oil yn well na'r cyffredin o ddynion, ag eithrio ein llenorion pro- ffesedig. Rhagora'r goreuon ar ein pre- gethwyr anllenorol. Synnais weled cyrraedd safon mor uchel. Bydd y fam- iaith yn famiaith mewn gwirionedd o hyn allan. Ceir gwell cystadleuaeth fyth y tro nesaf, ond ymarfer y plant ambell waith, .a dysgu tipyn iddynt Hyderaf y bydd fy Ngeiriadur newydd allan ymhell cyn hynny; yna bydd safon i apelio ati pan fo amheuaeth. Ond wrth feirniadu y rhai hyn nid wyf wedi cyfrif yn wallau ddim a gydna- byddir yn gywir gan un ysgol. Y pech- odau mawr yw anwybyddu'r sillgoll, cymysgu'r i a'r u," a rhoi ei yn lie eu." Pethau yw y rhai hyn y gall pob plentyn eu dysgu ond eu dysgu iddo. Y tro hwn, ni wyr hyd yn oed yr oreu fod rhagor rhwng yr unigol a'r Iluosog. Awgrymwn iddi hefyd mai gwell peidio dyblu'r "m" un amser. Ni wneir mohono gan ein llen- orion goreu. Haedda Mabon yr ail ganmoliaeth am gynnvg. Y mae Mary a Maud ac Annie a May i'w llongyfarch ar wneud cystal, ac i'w hannog i ddyfalbarhau. Am Ethel, Margaret, a Rhoda, y mae pob un o'r tair yn hen ddigon da i ennill, ond y mae rhai damweiniau blinion wedi digwydd i ddwy o honynt. Bu Rhoda mor anffodus a rhoi a'm yn lie am," ac ar foment wan newid- iodd cynefino i "cynefuno." Y mae hul ganddi yn lie hil hefyd. Hawdd iawn y gallasai Margaret fod wedi ennill. Hen dro fu iddi faglu ar draws y gair "cynefino," a rhcrY'dyfol" am ddynol." Camp fu i Ethel ennill ar ddwy mor dda, ond hi sydd wedi ennill, serch hynny. Y DARN ADRODDIADOL I RAI I DROS UN-AR-BYMTHEG OED. Derbyniwyd tri-ar-hugain o gyfan- soddiadau ar y testyn hwn, a phrin y dywedwn ormod pe dywedwn eu bod oIl yn rhagori ar y cyffredin o adroddiad- au a glywn yn fy nydd. Y mae'r mwy- afrif mawr yn rhagorol, ac amryw o honynt yn benigamp. Nid wyf yn tyfried v bu beirniad mewn mwy o ben- bleth erioed i wybod pwy i'w wobrwyo. Bu'r temtiwr yn sibrwd fwy nag un- waith am rannu'r wobr, ond deliais yn ddiysgog; oblegid pa reswm fyddai mewn rhannu gwobr rhwng dwsin, a pha werth fyddai mewn ffon ar ol ei thorri i gynifer o gatiau? Ni wn pa gynifer fu'n fuddugol gennyf yn eu tro, a theimlwn ar yr un pryd y byddai cynifer arall a gwahanol pe ceid beirniad arall. Felly, os oedd buddug- wr i fod o gwbl, teiinlwn nad oedd dim am dani ond i mi foddio fy chwaeth fy hun, a dyfarnu'r wobr i'r un a garwn oreu. Erbyn dyfod i'r penderfyniad yna, cefais fy ngwared o bob petruster. Gwna ba un yw"r goreu yn fy marn bersonol i fy hun, ac y mae'n gwella o hyd wrth gynefino ag ef. Na chyfrifed un cystadleuydd iddo gael cam, oblegid yn y gystadleuaeth ragorol hon, gall y mwyafrif mawr gyfrif iddynt ennill mewn ystyr foesol; rhennir yr anrhyd- edd rhyngddynt oil, er mai i un ohon- ynt y dyfernir y wobr. Byddwn yn llawer sicrach o wneuthur cam pe ceisiwn feddwl beth ddylwn ei hoffi vn hytrach na dywedyd yn onest beth wyf yn ei hoffi. Prin y rhaid i mi ddywedyd i mi gadw mewn golwg yn wastad gym- hwyster y darnau i'r diben mewn gol- wg, a da gennyf ddywedyd fod y cyfan- soddiadau yn hynod lan o ddim tramgwyddus. Gresyn nad ellid ar- graffu'r goreuon yn llyfr gyda'u gilydd, er mwyn mantais i'r adroddwr gael digon o ddewis o ddarnau da a chym- wys. Yn wyneb rhagoriaeth y eyfansodd- iadau, tybiais mai'r ffordd rwyddaf fyddai pigo allan yn gyntaf y rhai y cyfrifwn nad oedd siawns iddynt ennill, am fod eu gwell yn ddiamheuol i'w cael. Y mae rhyw ragoriaethau yn yr ychydig hyn, ond y mae ynddynt ddi- ffygion llenyddol sydd yn eu gosod dan anfantais lie mae'r safon mor uchel. Gellid adrodd llawer ohonynt yn effeithiol er hynny. Un felly yw ad- roddiad Gwynfryn ar Y Ddaear- gryn." Addysg dda a theimlad dwys sydd ym Merthyr yr Oes Amos. Purion, ond undonog, yw "Glowr Annychwel Helygen. Adroddiad da, ond wedi ei weithio allan yn amher- ffaith, ac yn myned yn feinach tua'r bon sydd gan Swn y Don i"Arwres Abergarw. Dywedaf "Amen" gydag I fyny fo'r Nod a'i "Dring I Fyny," ond nid wyf yn meddwl y deuai yn boblog- aidd gydag adroddwyr, ac y mae arnaf eisieu i'r darn buddugol fyw ar ol ei wobrwyo. Y mae mwy o osgo adroddiad ar "Suddiad y Titanic" gan Hen Adroddwr. Y mae ynddo rai llinellau da, ond gwanha tua'r diwedd. Bellach dechreua'r ymryson o ddifrif. Nid wyf yn amcanu rhestru'r cyfan- soddiadau yn ol eu teilyngdod cym- harol. Lie y mae cynifer yn ymarferol gyfartal, amhosibl yw hynny. Yr wyf o'r un farn a'r Cadgloddiwr yn ei sylwadau ar "Gymru Fydd," ond heb gael clywed adrodd ei adroddiad, ni allaf farnu pa faint o fynd a fyddai ynddo. Y mae'n gystal darn, sut bynnag, a'r darn cystadleuol, ac y mae yn ei ddiwedd gan dlos odiaeth. Dylid cyfansoddi cerddoriaeth fachog iddi yn ddioed. Y mae'n ychwanegiad gwir" bwysig at ein llenyddiaeth wladgarol. Llongyfarchaf yr awdwr a'r Eisteddfod ar y fath gyfansoddiad. AnamI y gwelir gwell adroddiad na "Galwad y Mor gan Llwvdfab. Y mae ynddo fywyd a theimlad dwys. Adroddiad da i bobl feddylgar a chre- fyddgar yw Petr a loan Gerbron y Cynghor gan Galilead. Dileer y forychau. Gellid gwefreiddio cynulleid- fa a'r "Carcharor gan leuan. Darn dwys iawn ydyw. Cywired yntau ei wallau. Gwareder ni rhag byw na marw yn gybyddion" yw'm teimlad wrth ddarllen am "Y Cybydd yn Marw" gan y Soflyn Sych, ac mae'r ffaith iddo allu gyrru ias drwy'r beirni- ad, ac yntau wedi ei galedi gan gynifer o ddarnau cyffrous, yn ganmoliaeth iddo. Y mae grym yn y darn i "Danch- wa Senghenydd" gan Ap Galar, a diwedda yn benigamp. Y mae rhagor- iaethau neilltuol iawn yn perthyn i'r darn hwn, ac nid y lleiaf yw ei gyn- llun. Cyffwrdd hwn a'r teimlad i'r byw. Cywirer y gwallau. Llwyddianus nodedig fu Hen Ad- roddwr gyda "Gorlifiad Glofa Car- adog Vale." Braidd yn anwastad yw ei gelfyddyd, ond nid oes amheuaeth am ei rym a'i ddwyster. Teimla dyn gyw- ilydd o losgi tan glo ar ol darllen darn cyffrous fel hwn. Sicrha Tra Mor Tra Brython ni mai darn i'w adrodd sydd ganddo i'r Ddadl Fawr," sef leuan Gwynedd yn ei lesgedd. Dichon hynny. I mi, pryddest brydferth a barddonol dros ben yw. Hoffaf y meddyliau, yr iaith, a'r my dr, ond teimlaf mai o'i dar- llen yn bwyllog ac ystyriol, yn hytrach nag o'i hadrodd y mae oreu. Felly, dyna ddarn buddugol arall wedi colli'r dydd! "Nid da lie ceir gwell" yw'r cwbl a allaf ei ddywedyd am Y Crwydryn, Newynog ar Ddydd Nadol- ig" gan Yr Alltud Prudd. Darn da iawn, wedi ei gyfansoddi yn dda, ac yn meddtj apel dda sydd gan Ystyriol i Danchwa Waftstown." Darn Saes- neg sydd gan Asser i "The Pit-shaft Hero." Ni welaf fod dim yn ei erbyn yn ol yr amodau, ond y mae Cymraeg mor ragoral gan yr ymgeiswyr eraill fel mai da gennyf mai dyma'r unig un yn Saesneg. Y mae ring adroddiad Seisnig gan hwn i'r dim, ond gresyn fod ynddo wallau. "Besought" a ddylai "beseeched fod, ac "abyss yw'r acen i fod ac nid "abyss." Gwell fyddai gennyf iddo beidio galw ar y Mawredd. Ni ddylid rhoddi llwon yng ngeneuau adroddwyr. Felly, dyna ym- gais lew arall wedi methu. Gyr "Oriau Ola'r Bradwr" gan Caiaphas iasau drwom. Darn grymus yw hwn, ond yn arogli braidd o frwms- tan. Adroddiad crefyddol o nodwedd dra gwahanol sydd gan Andreas i "Y storm Tiberias." Braidd yn aml- eiriog a thrwm yw gennyf fi, a phe gwo,brwvwn ef, amheus gennyf a geid llawer o adrodd arno; ond cymeradwy- af ef at gyfarfodydd ysgolion. Y mae gennyf gryn ffansi at "Y Cybydd gan Morgannwg. Diwedda yn ddymunol iawn. Gwir adroddiad, ond wedi ei weithio allan yn anghyfartal, sydd gan I Afaon i "Suddiad y Titanic." Lied wan y gorffenna. Dyma gyfansoddiad y teimlwn yn euog braidd am beidio ei wobrwyo. Ni erys bellach ond un cyfansoddiad, sef "Ysbryd y Danchwa" gan Cenydd Sant. Y mae sangiad cadarn gan hwn o'i ddechreu i'w ddiwedd. Nid oesdim yn wan nac yn anghyfartal ynddo. Un mesur, a hwnnw braidd yn undonog, sydd ganddo, ond y mae rhyw wefr a hyawdledd annisgrifiadwy yn y darn. Nid oes un yn y gystadleuaeth yn meddu'r un gyfaredd, ac ni welais er- ioed ei hafal yn ei ffordd ei hun. Gwobrwyer Cenydd Sant gan hynny. I (I barhau.)

Advertising

IDosbarthwyr y 'Darfan.'

ARGRAFFWAITH.