Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Y GOLOFN AMAETHYDDOL I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOLOFN AMAETHYDDOL I GAN BRYNFAB. I Mae gennyf ddafad gyrnig, Ag arni bwys o wlan, Yn pori brig yr eithin Ym mysg y cerrig man." Fel y gwyddoch, mae Bwrdd Amaeth- yddiaeth y Deyrnas Gyfunol yn gofyn am gyfrif pob math o anifail, a phob math o gnydau ar y pedwerydd o Fe- hefin, bob blwyddyn. Dyna sut mae y Llywodraeth yn medru deall sefyllfa y wlad. Trwy gyfrwng yr hysbysrwydd a geir felly y gwelir pa un ai lleihau neu gynyddu y bydd y da corniog, a'r defaid gwlanog, ac ni anghofir yr anifail gwrychellog. Mae efe wedi bod yn un arbennig i'w gyfrif yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, am nad oedd creadur mewn ystabl na beudy mor brisfawroag ef, fel y gwyr pob un sydd yn gorfod prynu y Chwiwgi brwnt, ham a chig bras." Ond dyna oeddwn yn mynd i'w ddweyd wrth son am y "ddafad gyrnig "—mae yr awdurdodau yn awr yn gofyn pa faint o wlan a gynyrchodd pob diadell Wyl Ifan diweddaf. Gofynir beth oedd cyfartaledd pwysau y cneifiau, yng nghyd a'r prisiau am y gwahanol fath- au o wlan. Mae yn llawn mor bwysig i'r Llywodr- aeth gael many lion fel hyn ag oedd iddi gael y cyfrifon a ofynid yn flaenorol. Yr ydym yn prynu cannoedd o dynnelli o wlan bob blwyddyn, ac yn ei ddarifon drachefn wedi ei weithio yn frethynau a gwlaneni. Trwy y daflen newydd a ofynir y ceir gweld i ba raddau y mae y wlad hon yn ymddibynnu ar wledydd ,eraill am ddefnyddiau i'n cadw yn glyd. Trwy gyfrwng y cyfrifiad newydd, bydd y ffermwr yn medru proffwydo yn lied sicr beth fydd pris y gwlan yr haf nesaf. Mae y gwlan wedi bod yn druenus o isel yn ei bris yn ystod y deng mlynedd diweddaf, ond mae wedi' dyblu yn ei werth yn ystod y blynyddau sydd newydd fynd heibio, a hynny heb gymhorth Bwrdd Cymmodol. Gofaled pob amaethwr am lanw ei daflen, fel y geill y Llywodraeth gyfrannu gwybod- aeth fydd yn fuddiol pan yn cneifio y tro nesaf. Bu rhai yn hwyrfrydig iawn i roi cyfrif cywir yn y tafleni Jblynyddol, rhag ofn y buasai perchen y nenbren, neu fwgan y Dreth yn cymeryd mantais i grafangu gormod arnynt. Gellir ym- ddiried pobpeth yn y cyfeiriad hwn, a gobeithio na fydd neb yn esgeuluso y daflen ddaeth i law diwedd y flwyddyn. Profwch Bob Peth. I F, ystyrir yr amaethwyr yn ddos- parth o ddynion llygadog, ac yn medru gwneud y goreu o bob bargen. Ond rhyngoch chwi a minnau, nid oes nemawr ddosparth mor esgeulus o fuddianau eu hunain wrth, beynif pob ,math o nwyddau y gwyddant fod cryn lawer o gyfrinion yn eu gwneuthuriad. Nid oes ond ychydig yn cymeryd y dra- fferth i ystyried beth yw y sylweddau sydd yn y gwahanol nwyddau a brynir i dewhau pob math o anifeiliaid. Mae y gwahanol fathau o flawd a theisienau sydd yn y farchnad yn cynnwys ychydig o bobpeth nas gwyddom beth yw eu defnydd na'u gwerth. Cymysgir y gwahanol ddefnyddiau gan ddynion sydd yn gwbod y ffordd i wneud arian, a phrynir y cyfryw ar air y gwerthwr, heh ystyried yn amI nad ydynt yn werth yr arian a delir am danynt. Mae y Gyfraith yn gorfodi y gwneuthurwr i nodi y gwahanol sylweddau cynnwysed- ig yn y nwyddau yn ddigon amlwg. ,Ond nid ydym yn gwybod y peth nesaf 1 ddim am y ffigyrau sydd yn dangos .cyfansoddiad y nwyddau. Rhaid bod yn dipyn o ysgolhaig i bwyso a mesur gwerth y gwahanol nwyddau; a phan yn medru gwneud hynny, ni wyddom beth yw gwerth y sylweddau hynny cyn .eu cymmysgu at wasanaeth yr amaeth- wr. Gwyr Hyfforddwr Amaethyddol pob Sir beth yw gwerth masnachol pob awydd ar ei ben ei hun, felly gwyr beth ddylai gwerth bwyd yr anifail fod wedi el gymmysgu. Byddai yn ddoeth i bawb anfon y manylion a geir oddiwrth y gwerthwr i Hyfforddwr Amaethyddol y Sir, a byddai y wybodaeth a geid gan- ddo yn foddion i'w hamddiffvn rhag cael eu plua gan yr heidiau o 'agents' sydd ar hyd y wlad. Twyllolr Tir. Mae yr un anwybodaeth a'r dibrisdod ;ar ein rhan yn cael ei ddangos yn v modd yr ydym yn prynu pob math o wrteithiau fferyllol. Yr ydym yn ami iawn yn talu am sothach y byddai eu taflu i'r afon mor llesiol a'u hau ar wyne.b y tir. Nid ydym yn ystyried fod llwch a lludw yn rhatach na'r nwyddau fferyllol a ddylai fod yn y gwrtaith, a thrwy hynny yn talu am gymeryd ein twyllo. Nid ydym hefyd yn ystyried mai nid yr un sylweddau sydd yn taro pob math o dir, a phob math o gnwd. Mae y meddyg yn ceisio darganfod beth yw y clefyd cyn cymhwyso ei feddygin- laeth. Felly y dylai pob amaethwr ei wneud hefyd. Wedi gwneud hyny, dylai ofalu fod y moddion a ddefnyddir i geisio gwella yr hen ddaear, y moddion iawn, ac yn werth yr arian a delir am ano. Mae digon o gyfleusderau bell- ach i gael gwybod sut mae cadw y tir rhag cael ei dwyllo, a chadw llawer o arian yn y llogell yn y fargen. Gonest Pob Lleidr nes ei Ddal. I Yr oedd rhyw ddyn yn gwerthu oSer- ynau ntfx 1 ^^chnaJ Pontypridd y ddoe, ac wrth wthio bethau i syl ^61 hau 1 s^lw- dywed? y dylainovTr) un o honynt dyn ^d,ynes brynu siopwr, pwyaw? ???? au 01 eich Pwyswch?n? ?,? h cigydd, "oherwyddJdo? ?? meddai, wahaniaeth rhwng ruasnachwr goneso ° ma.snachwr t a'r un anonest heddyw." "Cheap Jack" oedd yn dywedyd felly; ond, yn wir, nid oedd ei bregeth mor rated, chwaith. Pe byddai pob un yn pwyso yr hyn a bryno yn ystod y flwyddyn byddai y I swm a arbedid n fwy nag y meddylir. Cymerwch Fantais o'r Gyfraith. I Mae y Gyfraith yn gwasgu ar war y ffertnwr yn ddigon ami, ond gadewch i ni gymeryd mantais trwyddi yn amlach i amddiffyn ein hunain. Mae y gyfraith yn barod i'n cynorthwyo pan mae mas- nachwyr am fynd yn rhy ddwfn i'n llogellau. 0 dan y Food and Drug Act, ac o dan y Fertilizer's Act," gelilr galw ar yr heddgeidwad agosaf, a cheisio ganddo roi spigot y gyfraith ar waith trwy gymeryd cyfran o unrhyw nwydd i'w brofi gan Ddadansoddydd y Sir, ac os na fydd y nwydd i fyny a'r sicrwydd amheus a roddir ini ar bapyr, ca y sawl sydd am ein pluo dalu yn ddrud am ei lafur. Mae y peth yn ddigon didrafferth, ac ni chyst y diogel- iad hwn i ni yr un geiniog. Rhown chwareu teg i'r gyfraith i'n hamddiffyn. Os profir ein bod yn prynu gan fasnach- wyr gonest, goreu i gyd. "Ni waeth y gwir o'i chwilio."

Cymry Cymreig AbertridwrI

Soar, Aberdar.I I- I

Advertising

Drama Gwyl Ddewi i'r Plant.

ILlythyrra Sion Sana.I

Bethesda, Abercwmboi.

Bethlehem, M.C.j Mountain…

Advertising