Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Y GOLOFN AMAETHYDDOL I

Cymry Cymreig AbertridwrI

Soar, Aberdar.I I- I

Advertising

Drama Gwyl Ddewi i'r Plant.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Drama Gwyl Ddewi i'r Plant. Dewi Sant.—Seiliedig ar yr hanes fel y'i rhoddir gan Owen Rhoscomyl yn ei lyfr bach, Saint David." Act 1. Golygfa: Cartref Ceredig a Nonn, tad a mam Dewi. Gweslan, yr ewythr, yn eistedd ar ystol, ac yn diwyd naddu lledwad neu lwy bren. Dewi, yn fach- gen bach 10 i 12 oed, yn sefyll ar ei bwys, ac yn naddu. Dewi: Dywedwch i mi, fy ewythr, pa- ham y mae nhad yn myned oddicartref mor ami? Gweslan: Ha, fy machgen i, y mae dy dad yn hoff o ymladd. Dewi: Ymladd 1 Gweslan: Ie, Dewi bach. Efe yw'r brenin, a rhaid i'r brenin ymladd yn ddewr, i arwain ac amddiffyn ei bobl. Dewi: Pwy sydd yn ymladd ag ef, newythr ? Am ba beth y maent yn ym- ladd 1 Gweslan Yr yspryd drwg 'sydd yn myned i galonau dynion o hyd, fy mach- gen i, ac yn gwneyd iddynt gasau eu gilydd a thrachwantu yn eiddo eu gil- ydd. Dewi: A yw fy nhad i yn gas a thrach- wantus '1 Gweslan: Drwy ymladd a chongcwest y daeth dy dad i feddiant o'r tir hwn, a thrwy ymladd y ceidw ef. Dewi: Pe gwrthodai ymladd, beth a ddeuai o honom ni? Gweslan: Ha, fy machgen, dyna sydd yn ddrwg. Efallai y cymerid ni yn gar- charorion a'n lladd. Dewi: Ai ni allai y Duw Mawr y dysg mam i mi am dano, ein ddiogelu a'n hamddiffyn 1 Gweslan: 0, gallai, fy machgen i. Efe sydd yn rhoddi bywyd ac iechyd i ni yn awr. Efe roddodd fam dda i ti. Ac y mae yn sicr ei fod am i ti dyfu i fyny yn was teilwng iddo Ef, i wella dynion a'u dysgu i garu eu gilydd, a rhoddi diwedd ar frwydro a lladd. Dewi: 0, f'ewythr anwyl, y mae mam yn dweyd o hyd y caf fi fod yn fynach, ac yn was i Iesu Grist. Gweslan: Y mae genyt fam dda. Dewi: 0, mi hoffwn weld yr amser yn dod i mi gael mynd at yr hen Fyn- ach Paulinus i ddysgu pob peth am Dduw a Iesu Grist. Gweslan: Amen, 'y machgen I. Os gallaf fi berswadio dy fam, ti gei fynd yn fuan. Ond beth a wna dy golomen wen big felyn hebot ti? Dewi 0 !'r anwyl, caiff hi gario neges bob dydd i mam, a chwi, tra fyddaf fi yn dysgu gyda'r Mynach anwyl. Gweslan: Da iawn, 'y machgen i. Dyma dy fam yn dod gyda'r gair. (N onn yn dyfod i fewn.) Dewi: Mam anwyl, pryd y caf fi fynd i ysgol y Mynach 1 Yr ydych wedi dweyd lawer gwaith y carech i mi fod yn was ac yn Fynach i Iesu Grist. Nonn: 0, fy machgen bach anwyl, beth wnawn ni hebot ti yma 1 Pa fodd y gallaf dy adael i fynd o'm golwg? Gweslan: Nonn, Nonn, cofia dy addewidion. Ni ddylet adael i'th deim- lad mamol gael y goreu ar dy addewid i Dduw. Addewaist er's blynyddau y cai dy fachgen wasanaethu Duw y Nef- oedd. Nonn Digon gwir, Gweslan. Ond yn awr pan mae yr adeg wedi dod, mor anodd yw boddloni gadael i'm bach- gen fyned o'm golwg. Dewi: 0, mam, caiff fy ngholomen wen big felyn gario neges i chwi bob dydd, ac fe ofala Duw am dana i, a chwithau, a newythr, am tad bob dydd. Dywedwch eich bod yn foddlon i mi fynd. Nonn: Ti gei fyned, 'y machgen i, a bendith Duw fo arnat ti a ninau. Dewi: Ha, dacw y Mynach yn dad, mam. Y mae yn sicr i Dduw ddweyd wrtho eich bod yn boddlon i mi fyned. (Dewi yn rhedeg allan i gwrdd a'r hen Fynach.) I N onn: 0, Gweslan anwyl, dyma yr awr a'r brofedigaeth a ofnwn wedi dod. Pa fodd y gallwn ymfoddloni heb lais a chwerthiniad iachus Dewi bach yn y ty ? Beth a wnai di heb ei gwmni difyr a melus 1 A'i dad ? Aiff yntau yn wylltach nag erioed heb bresenoldeb y bachgen yn y ty. Gweslan Y mae y bachgen i ddod yn fawr, Nonn. Try ein gofid a'n hiraeth ni yn llawenydd a bendith i lawer. (Dewi a'r Mynach yn dod i fewn.) Dewi: Dyma fe, mam. Y mae yr hen Fynach anwyl wedi dod o'r diwedd. Nonn: Dydd da i chwi, Fynach. Paulinus: Dydd da i chwi, fy mhlant, dydd da. A yw y nefoedd yn gwenu arnoch ? Gweslan: Y mae pob peth yn dda yn y ty hwn, Fynach anwyl, ac y mae yn dda genyf ddweyd fod y bachgen yn disgwyl yn hyderus am dderbyniad atoch i'r Mynachdy. Paulinus: Ha, diolch. Cawsoch ras i ollwng eich gafael o hono. I'w geisio ef y daethum heddyw. Nonn: 0! Fynach anwyl, chwi ofal- wch am dano i mi, oni wnewch chwi? Oblegyd fy machgen anwyl, anwyl i ydyw. Paulinus: Bydd nawdd y Duw Mawr o'i amgylch trwy ei holl fywyd; bydd son am dano am oesoedd lawer, a daw bendith Duw ar y teulu hwn am byth. (Wrth Dewi) Tyrd, fy mab bychan, mi a geisiaf dy wneyd yn was teilwng i'r Duw Goruchaf. (Ei ewythr yn ei gusaou, a'i fam yn ei gofleidio, a'r Myn- ach yn gafael yn ei law i'w arwain ymaith.) (Y Lien i Lawr.) (I barhau.) JOHN DAVIES, « Aberdar. Attendance Officer.

ILlythyrra Sion Sana.I

Bethesda, Abercwmboi.

Bethlehem, M.C.j Mountain…

Advertising