Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

I Nodiadau'r Golygydd.I i

Bwrdd y Golygydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd y Golygydd. Ap Rhidian. Cydnabyddwch eich camarwain gan frawd o Dreherbert parthed y cyfeiriad wnaed mewn pre- geth at Ole Coch, ond gwell peidio cy- hoeddi eich llythyr. Tybed, gan fod y brawd hwnnw wedi darllen eich llyfr, nad oedd yn bosibl iddo yntau fod dan gamargraff ar y pryd gyda golwg ar y defnydd wnaeth Mr James o'r frawddeg. Gwell gadael y mater bellach. Aronfa Griffiths.-DioIch. Carem gael ychwaneg gennych ar y cwestiwn hwn a chwestiynau tebyg. Y mae gan lawer o honom, er hynny, adgofion melus am yr hen wely gwellt yn y "bing" rhwng pennau y gwartheg. Treuliwyd llawer awr yn ddifyr yn y lleoedd hyn gyda chymdeithion llawen. Pwy rydd i ni ychydig ar ochr oleu yr amser hwnnw? Cysgodd Gol. Darian mewn amryw o'r gwelyau gwellt hyn, a chysgodd wedi hynny mewn lleoedd gwychach ond llai cysurus. D. Arthen Evans.—Bydd y Darian at wasanaeth Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. Galwch sylw'r plant at lith "Moelona" yn y rhifyn hwn. H.G.-Yr oedd breuddwyd Gole Coch yr Iwerddon yn ddiddorol iawn i ni er nad oeddem yn credu nemor ddim o hono. Gadewch lonydd iddo gresyn fyddai ei chwalu. Yr oedd yn well o lawer na'ch beirniadaeth chwi. Gwyliwr: Ni chaniatawn ar un cyfrif ymosodiadau o dan ffugenwau ar oheb- wyr cyson ac adnabyddus y Darian. Nid yw'r un yr ymosodwch arno yn elyn i grefydd; y mae yn weithiwr egniol gyda hi. Ai ni ellwch weled fod cryn wahaniaeth rhwng condemnio crefydd a chondemnio llawer o bethau a wneir yn ei henw? D. E. Evans, Gwernogle.—Nid nyni oedd gyfrifol am y Darian pan ym- ddanghosodd gohebiaeth Aronfa Grif- fiths ynddi. Gwelwch ein bod eisioes wedi bod yn Darian i chwi rhag ymosod- iad un arall. Gwell gennym beidio cy- hoeddi eich llith chwithau. Gadawer i'r ystormydd dawelu gyda gwawr y flwyddyn newydd. Mae eich llith hefyd yn rhy faith. Bydd croeso i lithiau byr- ion o'r eiddoch ar unrhyw bwnc. I Law: Beirniadaethau Caerfyrddin, Caerdydd a Bodringallt; Oswal, Dal Signo. Darn Adrodd, Fforestfach: Daw hwn yn y "Darian" nesaf. D.8.: Carem i'n gohebwyr beidio anfon, o hyn allan, ddarnau o farddon- iaeth gyda'u gohebiaethau. Anfoner y cyfryw i'r gwr o'r Hendre.

iHWNT AC YMA. !

IAt Gymry'r Cyngrair.

Nodiadau am y Sydd.