Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

I Nodiadau'r Golygydd.I i

Bwrdd y Golygydd.

iHWNT AC YMA. !

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HWNT AC YMA. GAN LYWELYN." Cyhoeddiad misol newydd ydyw y. "Welsh Outlook ei olwg yn dden- iadol a'i gynnwys yn ddiddorol. Ceir ef am dair ceiniog. Saesneg yw ei iaith. Ceir ynddo ysgrifau diddorol ar "Ragolygon Crefydd yng Nghymru," Llenyddiaeth Gymreig Ddiweddar," "Y Ddrama," a llu o bethau eraill. Y mae amrywiaeth y rhifyn hwn yn atyniadol, a'r darluniau geir ynddo yn wir dda. Daeth chweched adroddiad blyn- yddol Amgueddfa Genedlaethol Cymru i law. Bydd yn yr amguedd- fa hon le iawn i gael cipdrem ar y gorffennol. Ceir yma ddarluniau da o rai o'r cywreinion, ymhlith y rhai y mae crochan, er y "late bronze age," a glodaiwyd i fyny yn Llynfawr. Am ddeng mlynedd a rhagor, y mae gan Urdd y Graddedigion mewn bwriad gyhoeddi geiriadur safonol a chyflawn o'r Gymraeg. Yn ystod yr wythnosau diweddaf cyhoeddodd y Western Mail" golofnau ar y mater yn rhoi gwahanol opiniynau ar yr anturiaeth fwriadedig. Tybiwn y gall- ,,wn roi'r mater i gyd mewn paragraff rhesymegol. Y mae gan y mwyafrif o'r graddedigion ymenydd, ond dim arian. Y mae gan rai gwladgarwyr lawer o arian ond ychydig o ymen- ydd (ieithegol). Elai cyhoeddi geiriadur cenedlaethol a phris dau neu dri motor- car da, neu bedair neu bump o giniawau. Cymrodorion. Y mae Syr Ivor Herbert yn iawn mater o arian ydyw. Yn y cyfamser y mae'r ym- ennydd yn disgwyl-yn Aberystwyth, —O'r "Welsh Outlook." Ar derfyn gwyliau llawen y Nadolig N sy'n coffa geni Tywysog Tangnefedd, ac ar wawr y flwyddyn newydd, gwnaeth rhywrai ddarganfyddiad sydd yn deilwng fyth o honynt eu hun- ain. Hysbys yw fod y draul aruthrol ar y Llynges yn fater sydd yn pwyso yn drwm ar feddwl Mr. Lloyd George. Cyfeiria yn ami at y gystadleuaeth mewn darpar arfau rhyfel fel gwall- gofrwydd. Datganodd ei farn yn bur groew yn ddiweddar i'r un cyfeiriad. Synned nefoedd a daear Gwelodd y Toriaid yn sylwadau Mr. Lloyd George fater y gellid apelio at y wlad arno. Credant ond iddynt allu ar- graffu ar y bobl ei fod yn "liitle Navy man," na fyddant yn hir cyn cael y Llywodraeth i'r llawr. Gresyn na adawsent i ganiadau'r Nadolig ddis- tewi cyn bytheirio cymaint yn y fath ysbryd rhyfelgar. Dalied Lloyd George ati. Y mae nnym amhniacth- nacl i'n hamddiffyn y gwerir y fath swm anferth ar y Fyddin a'r Llynges. Ca rhywrai fyd da yn helaethwch beunydd ar draul y bobl..10 Pan ddaw yr amser, wedi cael pethau eraill o'r ffordd, bydd y wlad yn disgwyl wrth Lloyd George ar iddo ddweyd yr hyn a wyr am y modd y gwerir yr arian.

IAt Gymry'r Cyngrair.

Nodiadau am y Sydd.