Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BOBL IEUAINC. I

Horeb, Pump Heol.

ARQRAFFWAITH.

IAdolygiaeth.I

Treharris ar Cylch. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Treharris ar Cylch. I GAN CEIRIOSYDD." I Blwyddyn Newydd Dda i berchenog- ion newydd y "Darian," y Golygydd, y Gohebwyr, a'r holl Ddarllenwyr. Aeth y Nadolig heibio yn dawel yn y lie hwn. Cynaliwyd Eisteddfod yn Neuadd y Tabernacl (A.), ac yr oedd yno raglen drefnus, a thestunau chwaethus. Nid oedd y cynhulliadau na rhif y eystadleuwyr yr hyn a ddis- gwylid. Ym Mrynhyfryd (B.) aeth Cor y Plant trwy y gantawd brydferth, Ymgom yr Adar," o dan arweiniad John Be van. Hwn oedd y tro cyntaf i'r brawd ymgy- meryd a gwaith o'r fath, a theilynga ganmoliaeth am y modd deheuig y cyflawnodd ef. Cymerwyd rhan yn y gwahanol gy- meriadau gan Mri. Ted Smith, Christ- mas Thomas, Dd. Wm. Jenkins, Mrs. E. A. Jenkins, a Miss Gladys Drew. 0 blith y plant cymerodd y canlynol ran yn yr unawdau Robert John Evans, Job Bevan, Cyril Bowen, Maud Stephens, Gwawrddydd Mantle, Olwemj Davies ac yn yr adrodd gan Bessie Williams, Thorn Road, a Lizzie Jones, Perrott Street. Dadganwyd triawd gan Mr. Christmas Thomas, Mrs. E. A. Jesnkins a Miss Drew, a bu raid iddynt ail ganu. Cyfeiliwyd gan Miss Gwen Mary Williams. Cadeiriwyd gan Mr. W. R. Thomas, Y.H. Cafwyd cyfarfod da. er mai teneu oedd y cynhulliad. Pleser genym yw llongyfarch y brawd ieuanc gobeithiol Ieuan Evans, pre- gethwr cynorthwyol ym Mrynhyfryd, ar yr alwad i gymeryd gofal gweinidog- aethol eglwys ieuane Beulah, Tyntylla, ger Lhvynypia. Bu y brawd yn Ysgol Ragbarotawl Pontypridd am ddwy flyn- edd. Y mae wedi ateb yr alwad yn gadarnhaol, a Jbwriada ddechreu ar ei weinidogaeth yr ail Sul yn Ionawr, 1914. Llongyfarchwn y brawd ieuanc Daniel Davies, 14 Prosser Street, ar ei lwydd- iant yn enill y radd o A.T.S.C. Pan ystyriom nad yw wedi cyrraedd ei 17 mlwydd oed, a'i fod yn dilyn ei alwedig- aeth yn "siop y gof," y mae ei lwydd- iant yn gryn gamp. Efe yw ysgrifenydd yr Ysgol Sul. Mab ydyw i Mr. Caleb Davies, un o ddiaconiaid Brynhyfryd. Brynhyfryd, Treharris. Cynhaliwyd cyfarfodydd chwarterol mewn cysylltiad a'r Ysgolion Sul perthynol i'r Eglwys uchod Sabbath, Ionawr 4. Llywyddwyd y cyfarfod 11 o'r gloch gan Mr. John Evans, Cardiff Road, fel cynryehiolydd Y sgoI Eben- ezer, Quakers' Yard. Adroddwyd pen- nod gan Mrs. M. Thomas, Perrott St. Cafwyd anerchiad JJyr a phwrpasol gan y cadeirydd. Holwyd y plant o Law- lyfr yr Ysgol Sul gan T. C. Davies, Darren Ddu. Hefyd rhoddwyd anerch- iad iddynt yn Gymraeg gan yr un. Ter- fynwyd trwy weddi gan y llywydd Cyfarfod dau o'r gloch: Adrodd Salm gan Miss Mary Lloyd. Gweddio, Mr. Caleb Davies. Llywydd y cyfarfod oedd Mr. Wm. Thomas Bevan. Adrodd- wyd gan Nancy Thomas, Polly Price, Maggie A. Evans, Annie Rowlands, Em- lyn Jenkins, Olwen Price, Hannah Phelps, Katie Evans. Dadl gan Thos. Stephen a Tom Owen. Cawd unawdau gan Ralph Davies, Annie Rowlands, Lizzie Jones, Jennet M. Stephen, Cyril Bowen. Cor Forest Road, dan arwein- iad Tom Owen. Traddodwyd anerch- iad i'r plant gan D. Iorwerth Gibbon, ysgol feistr. Diweddwyd gan W. R. Thomas, Y.H. Cyfarfod 6 o'r gloch: Llywydd, Mr. Rees Price. Adrodd pennod gan Mrs. Davies, Trelewis. Gweddiodd Mr. Richard Evans. Cafwyd anerchiad byr gan y llywydd. Adroddodd Jas. Jones, Dl. Ll. Owen, Ethel Bowen, Mrs. J. T. Bowen (arolygyddes y plant), Evan Owen. Cafwyd anerchiad doniol gan J. Williams, Edward Street. Unawd ar y crwth, Mr. Daniel Davies, A.T.S.C. Deuawd, Gwawrddyd Hantle a J. Maud Stephen. Unawd, Bessie Williams, Rd. W. Jones. Ton gan y cor, dan arwein- iad C. Williams, A.C. Deuawd, Bessie a Rachel Williams. Cyfeiliwyd gan y Doctor Edwards. Ddiameu dyma y cyf- arfodydd goreu fel cyfarfodydd adrodd a chanu a gafwyd yma er ys blynydd- oedd. Y mae y pedair ysgol berthynol i'r eglwys yn gwisgo agwedd lewyrchus iawn.

I I Bethania, Aberdar.I

Advertising

! Trefforest a'r Cylch.