Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
COLOFN Y BOBL IEUAINC. I
COLOFN Y BOBL IEUAINC. Anfoner defnyddiau ar gyfer y golofn hon i'r Parch. J. Dyfnallt Owen, Caer- fyrddin. Y Llyfrau Ddarllennodd Ben Bowen Pan yn Lowr. GAN MYFYR HEFIK. Y llyfr diwinyddol cyntaf a nodir yn y llyfr du yw "Studies in Theology" (Denny). Ysgrifennodd ei nodiadau arno yn Gymraeg gan mwyaf, a gwelir iddo ei ddarllen yn fanwl. Yn nesaf daw Self Culture (Rev. W. Uns- worth). Ysgrifennodd ar hwn amryw dudalennau o nodiadau Saesneg. Cy- merer un frawddeg ar antur—" Many doubts are born of impurity. Breathe on a glass and you cannot see through it." Yna daw The Theology of the Old Testament" gan W. H. Bennet, M.A Ysgrifennodd yn helaeth ar hwn eto yn y Saesneg. Dau lyfr Cymraeg ddaw nesaf, sef "Yr lawn" a "Chysondeb y Ffydd," gan Dr. Edwards, y Bala. Mae'r nodiadau ar y rhai hyn yn Gymraeg, ac yn dangos cryn feistrolaeth ar lyfrau anodd. Yn nesaf daw'r "Natural Law in the Spiritual World" (Drummond), a nod- iadau Saesneg helaeth arno. Llyfr y cofiaf ef yn ei ganmol yn fawr yw. Is God Knowable," gan J. Iverach, M.A. bu darllen hwn yn gadarnhad i'w feddwl. Helps to the Ministry (Rouse, M.A., India) sydd yn dilyn. Y mae'r nodiadau yn Gymraeg. Daeth y llyfr hwn i'w law drwy y Parch. T. E. Waters, Mount Elim, Pontardawe, oedd yn ddyn ieuanc yn y Rhondda ar y pryd. Yna daw "Athroniaeth Trefn Iach- awdwriaeth," gyda nodiadau manwl yn Gymraeg. A'r llyfr olaf a nodwn yn awr yw The Mind of the Master (Ian Maclaren). Ceir ar hwn eto nodiadau manwl yn Saesneg yn dangos craffder mawr. Dyna i ti, ddarllenydd ieuanc, enwau ychydig o ysgrifau cyntaf Ben Bowen ac enwau rhai o'r llyfrau diwinyddol a ddarllenodd ac a fyfyriodd yn fanwl pan yn grwt ieuanc, ac yn gweithio yn galed fel glowr ar y pryd. Ysgrifennodd unwaith ar lyfr o'm heiddo ddihareb Saesneg mewn llaw- ysgrif fras—" Spare moments are the gold dust of time." A hynny oeddent iddo ef mewn gwirionedd. Unwaith y cydiai Ben Bowen mewn llyfr, nis gollyngai ef hyd nes y byddai wedi ei feistroli ac argraffu ei gynnwys ar ei gof. Hoffai lyfr y byddai ymylon y dail heb eu torri, fel y gallai gael trem ar ei gynnwys wrth eu torri un ac un. Dar- llennai lawer yn y cyfnod hwn. Ym- ataliaf rhag enw'r llyfrau barddoniaeth a ddarllenodd. Ni ymhelaethaf ych- waith ar yr awydd llosgedig oedd ynddo am bregethu. Diddorol, er hynny, i lawer fydd gwybod mai'r un a adnabu Ben Bowen fel bardd, ac a broffwydodd yn eglur am y cynnydd a fyddai iddo, oedd y gwr o'r Hendre. Dywedai ef wrthyf ar gae Eisteddfod y Fenni ei fod o hyd yn cael cymaint bias ar ei bre- gethau cyhoeddedig fel nad oedd Sabath yn mynd heibio nad oedd cyfrol "Rhyddiaith Ben Bowen" yn dod i'r bwrdd. Da fyddai gennyf fi yn bersonol pe mynnai llawer Hendre y gyfrol. Dyna beth o gynnwys y "llyfr du." Ai nid yw yn dangos yn eglur y llwybr gwyn i bobl ieuainc ?
Horeb, Pump Heol.
Horeb, Pump Heol. Cynhaliwyd Eisteddfod lwyddiannus yma Rhag 26ain. Mr J. M. Jones, ys- gol feistr, oedd yn y gadair, a Myfyr Hefin yn llywyddu. Eurwedd feirn- iadai'r amrywiaeth a'r adrodd; Mr J. W. Williams, L. T.S.C., y canu; a Mrs. D. Bowen, Horeb, feirniadai'r llaw- ysgrif. Miss A. Thomas, Gelli Hir oedd wrth yr offeryn; Mr. W. Davies, Brynhoulog, yn ysgrifenydd, a Mr. T. Jenkins, Tir Deri, yn drysorydd. reiydrog, Dafen, aeth a'r fedal am delyneg-" DiFgwyl gair o gartref." Madog Fychan, Aberhonddu, gipiodd y wobr am yr englyn i Gapel Horeb. Gwobrwpnvyd Hiss Hanna Richards am adrodd Y Ffoadur," a Miss Irene Davies, Dafen, a Walter J. Jones, Pump Heol, am adrodd "Gwrones Abergarw" (Myfyr Hefin). Am adrodd Gad i'r Eos Ganu (Ben Bowen), rhannwvd v wobr rhwng tri o'r plant, sef S. J Lloyd, Trimsaran; Violet Griffiths a Mary Harris, Troed Sylen. Y pen campwyr yn adran can oedd:- Unawdau: M. H. Jones, Agnes Jones Jack Daniels, Gwladys M. Rowlands Myfanwy Bowen, Lizzie M. Dymmock, M. J. Rowlands, Arthur Jones, Lizzie Rowlands, Idwal Howells. Pedwar- awd, D. Williams a'i gyfeillion. Llaw- ysgrif: laf, S. Williams, Hendy; 2il, cydradd, Sarah A. Harris a Bessie Jen- kins. Cor Plant: Pump Heol. Yr oedd y capel yn orlawn, a gwnaed elw da at godi ty i'r gweinidog. Y Cymdeithas Siom i ni oedd i Gwili fethu cyrraedd yma i ddarlithio ar Fywyd Penhillion Telyn." Daw eto yn nes ymlaen. Llannwyd y bwlch gan Fyfyr Hefin gyda darlith ar Feirdd anghofiedig fy enwad." GOH.
ARQRAFFWAITH.
ARQRAFFWAITH. ymofyner0^ ,S"*L ?W?-ith 1IDofyUer yn S;wyddfa'r "Leader" &'r "Darian," 10 Oardiff Street, Aberdar/
IAdolygiaeth.I
I Adolygiaeth. I I YR YSTORM "-GAN D. JEN- I KINS, ABERYSTWYTH. Mae Cymru yn ddyledus iawn i Mr. David Jenkins am lawer o wasanaeth gwerthfawr ar hyd y blynyddau o blaid cerddoriaeth, ond yn ddibetrus dyma ei ymgais fwyaf orchestrol ac aruchel. Saif enw Mr. Jenkins yn y rheng flaenaf-gydag eiddo Tany- marian, Dr. Parry, Emlyn Evans, ac ereill-fel Cymro sydd wedi cyfoeth- ogi ei wlad a'i genedl a thoraeth o weithiau cerddorol fyddant byw am flwyddi lawer yn gofgolofnau i'w ddiwydrwydd, ei allu a'i genedlgar- wch. Mae amryw o weithiau cerddorol Mr. Jenkins yn dra adnabyddus, megys v cantawdau, "Dafydd a Goliath," "Salm Bywyd," a'r "ora- torios," "Dewi Sant" a "Job," etc. Hir gofir am y perfformiad o'r olaf, sef "Job," roddwyd yn Rhyl yn 1904; ond yn y gwaith presenol, "Yr Ystorm," y mae wedi esgyn i dir uwch nag yn un o'i weithiau blaen- orol. Mae y gwaith presenol yn sylfaen- edig ar "Ystorm y Bardd-bregeth- wr Islwyn, ac at bwrpas y gwaith yma mae y geiriau wedi eu cyfieithu i'r Saesneg gan y Parch. E. O. Jones, M.A., Vicar Llanidloes. Hawdd i'r cyfarwydd ag "Y storm" Islwyn syl- weddoli yr anhawsder o gyfieithu y geiriau i'r iaith fain at wasanaeth y cerddor, ac y mae y Parch. E. O. Jones i'w longyfarch yn galonog iawn ar y modd deheuig a meistrol- gar y mae wedi cyflawni hyn o orch- wyl. Ychydig, os dim, o arucheledd y syniadau sydd wedi ei golli yn y trosiad. I roddi y perfformiad cyntaf o waith mor aruchel, anhawdd fuasai sicrhau gwell cyfrwng na Chymdeith- as Gorawl Castellnedd, o dan ar- weiniad medrus Mr. T. Hopkin Evans. Mae y Gymdeithas yma eisioes wedi rhoddi perfformiadau o rai o brif weithiau cerddorol y dydd. Digon yw enwi y "Messiah," yr "Elijah," "St. Paul," "Song of Destiny" (Barhms), Dream of Gerontius (Elgar), ac Omar Khayyam (Bantock), i brofi eu medr a'i gallu i wneud perffaith gyfiawn- der a'r gwaith yma-campwaith yr awdwr yn ddiddadl. Cynorthwyid y Cor ar yr achlysur presenol gan gerddorfa linynol ar- dderchog, yn cael eu cynorthwyo gan Seindorf y 1st Life Guards. Yr un- awdes oedd Miss Jennie Ellis. Ni raid iddi hi wrth ganmoliaeth. Rhenir y gwaith i bum rhan:- (1) Byd heb Storm; (2) Storm Pechod; 1(3)Storm Enaid; (4) Storm Natur; (5) Y Storm Olaf. j (1) Byd heb Storm.—Yma y dar- lunia y bardd greadigaeth y byd, a thrwy gyfri a threfniad cywrain yr offerynau, awgrymir a chanfyddir trefn yn ymddadblygu allan o'r annhrefn-cosmos o'r chaos. Effeith- iol iawn ydyw y rhanau unseiniol y Cor, ynghyd a'r unawdau dyddorol yma a thraw gan yr unawdes. Gorphenir y rhan yn y ppp ar y geiriau, Blagurai, ymagorai, medd- wl dyn," etc.—yr oil yn cyfleu y syn- iad o dangnefedd, hapusrwydd, a diniweidrwydd perffaith ein rhieni cyntaf yn Mharadwys. Ond yn sydyn clywir sain anhyfryd. Mae yna anghydsain y gynghanedd. Mae pechod wedi dyfod i mewn ac wedi newid y cyweirnod, ac i unwaith cyflwynir i'n sylw Rhan 2, "Storm Pechod."—I osod allan hagrwch ac erchylldra yr annhrefn a achoswyd gan bechod, gwna yr awdwr lawer o ddefnydd o'r hyn a adnabyddir gan gerddorion fel y 7fed lleiaf, a dwyseiddir yr effaith gan brudd-der poenus yr offerynau, yn neillduol y trombone a'r symbal. Ond yng nghanol y tryblith a'r cythrwfl a achoswyd gan hen elyn y ddynoliaeth, wele gwawr gobaith pethau gwell yn tori gyda'r geiriau, "Ymostyngodd Duw, Fe ruddodd y melldigaid bren a'i waed ("God came down from Heaven, His blood was shed upon the cursed tree"). Dwys ac effeithiol iawn yw y rhan yma, ac arweinia i ddiwedd- glo gorfoleddus ar y geiriau, "Digon yw." Terfyna y symudiad yn swn banllefau gorfoleddus ac aruchel, Yn unig cred (" Believe in God "). Rhan 3: "Storm Enaid."—Mae y rhan yma wedi ei hysgrifennu i'r soloist yn unig a'r gerddorfa. Mae y gerddoriaeth yn dyner ac arddunol iawn. Dygir i gof weddiau arteithiol y Gwaredwr anwyl ar lechweddau y mynyddoedd; ei waith yn "tawel huno jar -<• mor, a'r mor yn huno yn dawel gydag Ef"; yr Olewydd a'i hadgofion cysegredig, a therfyna yn ymyl Cedron, "Cofiedydd hawddgar ei ddiweddaf ing." Tlws a barddonol ydyw saerniaeth y symudiad tyner yma, a rhoddodd Miss Ellis ddat- ganiad hvnOO o effeithiol o hono. Rhan 4, "Storm Natur."—Fel y gellid disgwyl, dramatic" iawn I ydyw nodwedd yr ymdriniad yn yr adran yma o'r gwaith. Dibyna yr i awdwr bron yn llwyr ar ei adnoddau dramayddol i gyfleu ei syniadau. Egyr gydag unawd ar y geiriau, J "Fry chwith y gwynt yr udgorn lond y Nef, gan alw y bryniau i'w addoli Ef." Yna daw y Cor i fewn gyda brawddegau nodweddiadol o'r "staccato" ar Yt geiriau, "Gyrrwcb wyntoedd, ar eich hyntoedd, dros y llyn, dros y glyn, dros y bryn, a thros Alp-for gwyn." Yn raddol cynhyrfa'r elfenau, chwydda'r gwynt a'r storm, cynddeirioga'r tonnau, a rhua'r taranau. "Berwed moroedd, brynied byd Lie mae'r tonnau llawna'u Hid." Yn y berw dychrynllyd mae y Cor a'r gerddorfa yn annibynol ar eu gilydd ond defnyddia yr awdwr holl adnoddau y naill a'r llall o honynt i roddi portread byw a chyffrous o ddychrynfeydd dinystyriol y Storm ddifaol. Cyrhaedda ei chlimax mewn symudiad offerynol sydd fel corwynt ysgubol, ac yna pan ym- ddengys holl bwerau natur fel pe wedi eu dihysbyddu, gostega yr el- fenau, a cheir tawelwch. Melus, ar ol y dwndwr cynhyrfiol ac ofnadwy, ydyw yr unawd ar y geiriau- "Yn nyfnder nos, y lleuad dlos Dan wylo fyth yn welw ei gwawr Dramvvya yr eangder mawr I geisio gloewach nen," etc. Rhan 5, "Y Storm Olaf." Y ma y cyrhaedda y bardd uchafnod ei am- gyffrediaeth. Ceir yma y syniadau a'r drychfeddyliau mwyaf gwreiddioI. a beiddgar, ac y mae y cerddor wedi ei ysprydoli i gymaint graddau a'r bardd. Yn araf, araf, canfyddir Gorsedd Barn yn ymgodi, yn cael ei hamgylchyni gan "y gosgorddawg lu." Arafa olwynion amser, a'r jhaul a gyfyd fel pe i farw. Mae y byd yn parotoi i "derbyn lor i'r farn," a'r bryniau yn cenhedlu yn eu bri elfenau eu dymchweliad." A phan dyr y "dymhestl olaf"; y fflam las yn dringo pileri y byd," a "seiliau'r mynyddoedd tragwvddol yn llaesu"; lor a ysgydwa yng ngwynt ei ddigofaint, y bydoedd fel cawod o eira drwy'r Nen." Ac yn ddiwedd- glo i'r alanas "taniwvd y byd i oleuo yr eglwys, trwy wagle'r greadigaeth i mewn i Baradwys." Terfyna y rhan yma mewn climax aruchel a mawreddog ar eiriau yr hen emyn Cymreig- "Fe welir Seion fel y wawr Er saled yw ei gwedd," etc. Nid ydym yn cofio ein bod erioed wedi cyfarfod a'r awdwr mewn awyrgylch fel hwn o'r blaen. Gellir gyda phriodoldeb gymharu gweledi- gaethau a drychfeddyliau rhyfeddol y bardd yn y rhanau yma i eiddo Milton a Dante, ac mae y cerddor wedi ym- golli yn llwyr yng nghyfaredd ac ysplander y golygfeydd. Mae yr awdwr yma wedi cyrhaedd uchafnod ei fywyd, ac y mae'r dylanwad yn ysgubol; yn enwedig pan y darlunir pangfeydd gwallgofus yr hen fyd yn y rhyferthwy olaf, a mynediad buddu- goliaethus "Merch yr Amoriad" i'r trigfanau fry. Dyna, yn fyr ac amherffaith iawn, fraslun o'r gwaith. Edrychid ymlaen gyda llawer o hyder am wledd, gerdd- orol o ardd uchel, ac yr oedd y ban- llefau cymeradwyaethol ar derfyn y perfformiad yn profi yn ddiamheuol na siomwyd neb. Rhoddodd y cor, y gerddorfa ardderchog, a'r unawdes o'u goreu, a choronwyd eu hym- drechion a llwyddiant perffaith. Caf- wyd perfformiad a fydd byw yn hir yn ein cof. Er hyny, geilw tegwch arnom i gydnabod mae i'r arweinydd medrus y rhaid priodoli yn benaf llwyddiant yr anturiaeth. Mae Mr. T. Hopkin Evans yn adnabyddus fel cerddor o fri, ac yn un o arweinydd- ion corawl goreu y genedl. Ar yr achlysur presenol hawdd oedd canfod ei feistrolaeth perffaith ar y cor a'r gerddorfa. Mae clod mawr yn ddyl. edus iddo am ei ymdrechion diflino i godi safon cerddoriaeth ein gwlad. Bwriedir yn mis Ebrill nesaf roddi perfformiad eto o'r Veil gan Syr Frederick Cowen. Ar gynig Maer y dref, yr Henadur W. B. Trick, penderfynwyd anfon pellebyr o longyfarchiad i Mr. David Jenkins ar lwyddiant y gwaith. Ffolineb fyddai ceisio dweud nad oedd brychau i'w canfod, ond gymaint ein llawenydd yn ymddangosiad llwydd- ianus cyntaf waith o safon mor glas- urol-a hyny gan un o'n cyd wlad- wyr-fel nad oes ynom awydd na ,chalon ar hyn o bryd i sylwi arnynt. Eiddunwn i Mr. Jenkins adferiad buan i'w iechyd, a blwyddi lawer eto i wasanaethu y genedl a gar mor fawr. THOS. POWELL. Clairwood, Castellnedd, Rhagfyr 2ofed, 1913.
Treharris ar Cylch. I
Treharris ar Cylch. I GAN CEIRIOSYDD." I Blwyddyn Newydd Dda i berchenog- ion newydd y "Darian," y Golygydd, y Gohebwyr, a'r holl Ddarllenwyr. Aeth y Nadolig heibio yn dawel yn y lie hwn. Cynaliwyd Eisteddfod yn Neuadd y Tabernacl (A.), ac yr oedd yno raglen drefnus, a thestunau chwaethus. Nid oedd y cynhulliadau na rhif y eystadleuwyr yr hyn a ddis- gwylid. Ym Mrynhyfryd (B.) aeth Cor y Plant trwy y gantawd brydferth, Ymgom yr Adar," o dan arweiniad John Be van. Hwn oedd y tro cyntaf i'r brawd ymgy- meryd a gwaith o'r fath, a theilynga ganmoliaeth am y modd deheuig y cyflawnodd ef. Cymerwyd rhan yn y gwahanol gy- meriadau gan Mri. Ted Smith, Christ- mas Thomas, Dd. Wm. Jenkins, Mrs. E. A. Jenkins, a Miss Gladys Drew. 0 blith y plant cymerodd y canlynol ran yn yr unawdau Robert John Evans, Job Bevan, Cyril Bowen, Maud Stephens, Gwawrddydd Mantle, Olwemj Davies ac yn yr adrodd gan Bessie Williams, Thorn Road, a Lizzie Jones, Perrott Street. Dadganwyd triawd gan Mr. Christmas Thomas, Mrs. E. A. Jesnkins a Miss Drew, a bu raid iddynt ail ganu. Cyfeiliwyd gan Miss Gwen Mary Williams. Cadeiriwyd gan Mr. W. R. Thomas, Y.H. Cafwyd cyfarfod da. er mai teneu oedd y cynhulliad. Pleser genym yw llongyfarch y brawd ieuanc gobeithiol Ieuan Evans, pre- gethwr cynorthwyol ym Mrynhyfryd, ar yr alwad i gymeryd gofal gweinidog- aethol eglwys ieuane Beulah, Tyntylla, ger Lhvynypia. Bu y brawd yn Ysgol Ragbarotawl Pontypridd am ddwy flyn- edd. Y mae wedi ateb yr alwad yn gadarnhaol, a Jbwriada ddechreu ar ei weinidogaeth yr ail Sul yn Ionawr, 1914. Llongyfarchwn y brawd ieuanc Daniel Davies, 14 Prosser Street, ar ei lwydd- iant yn enill y radd o A.T.S.C. Pan ystyriom nad yw wedi cyrraedd ei 17 mlwydd oed, a'i fod yn dilyn ei alwedig- aeth yn "siop y gof," y mae ei lwydd- iant yn gryn gamp. Efe yw ysgrifenydd yr Ysgol Sul. Mab ydyw i Mr. Caleb Davies, un o ddiaconiaid Brynhyfryd. Brynhyfryd, Treharris. Cynhaliwyd cyfarfodydd chwarterol mewn cysylltiad a'r Ysgolion Sul perthynol i'r Eglwys uchod Sabbath, Ionawr 4. Llywyddwyd y cyfarfod 11 o'r gloch gan Mr. John Evans, Cardiff Road, fel cynryehiolydd Y sgoI Eben- ezer, Quakers' Yard. Adroddwyd pen- nod gan Mrs. M. Thomas, Perrott St. Cafwyd anerchiad JJyr a phwrpasol gan y cadeirydd. Holwyd y plant o Law- lyfr yr Ysgol Sul gan T. C. Davies, Darren Ddu. Hefyd rhoddwyd anerch- iad iddynt yn Gymraeg gan yr un. Ter- fynwyd trwy weddi gan y llywydd Cyfarfod dau o'r gloch: Adrodd Salm gan Miss Mary Lloyd. Gweddio, Mr. Caleb Davies. Llywydd y cyfarfod oedd Mr. Wm. Thomas Bevan. Adrodd- wyd gan Nancy Thomas, Polly Price, Maggie A. Evans, Annie Rowlands, Em- lyn Jenkins, Olwen Price, Hannah Phelps, Katie Evans. Dadl gan Thos. Stephen a Tom Owen. Cawd unawdau gan Ralph Davies, Annie Rowlands, Lizzie Jones, Jennet M. Stephen, Cyril Bowen. Cor Forest Road, dan arwein- iad Tom Owen. Traddodwyd anerch- iad i'r plant gan D. Iorwerth Gibbon, ysgol feistr. Diweddwyd gan W. R. Thomas, Y.H. Cyfarfod 6 o'r gloch: Llywydd, Mr. Rees Price. Adrodd pennod gan Mrs. Davies, Trelewis. Gweddiodd Mr. Richard Evans. Cafwyd anerchiad byr gan y llywydd. Adroddodd Jas. Jones, Dl. Ll. Owen, Ethel Bowen, Mrs. J. T. Bowen (arolygyddes y plant), Evan Owen. Cafwyd anerchiad doniol gan J. Williams, Edward Street. Unawd ar y crwth, Mr. Daniel Davies, A.T.S.C. Deuawd, Gwawrddyd Hantle a J. Maud Stephen. Unawd, Bessie Williams, Rd. W. Jones. Ton gan y cor, dan arwein- iad C. Williams, A.C. Deuawd, Bessie a Rachel Williams. Cyfeiliwyd gan y Doctor Edwards. Ddiameu dyma y cyf- arfodydd goreu fel cyfarfodydd adrodd a chanu a gafwyd yma er ys blynydd- oedd. Y mae y pedair ysgol berthynol i'r eglwys yn gwisgo agwedd lewyrchus iawn.
I I Bethania, Aberdar.I
I I Bethania, Aberdar. I Cynaliwyd Eisteddfod flynyddol dydd Gwener, Rhagfyr 26, am ddau a chwech o'r gloch. Yr oedd cyfarfod y prydnawn yn gyfyngedig i'r plant. Y swyddogion oeddent: Beirniaid Y Gerddoriaeth, Mr. Abraham Wat- kins, G. & L.; llenyddiaeth, adrodd, etc., Parch. W. Margam Jones, Llwydcoed; gwnio, Mrs. Powell, Danygraig, a Miss N. Jones, Ys- golion Capcoch; arluniaeth, Mr. D. G. Davies, Ysgolion Pare. Llywydd y dydd, Parch. W. Davies, M.A.; ysgrifenydd, Mr. Tom Evans; trysoryddes, Miss Annie Jones, Gwersyll; cyfeilydd, Miss Jane Young. Gwobrwywyd yn y pryd- nawn:- Canu i ferched dan 10 oed, "Y Gwcw Fach," iaf, Hannah Jenkins; 2il, Matie Evans. Bechgyn dan 16eg, "Robin Goch," William Henry Jones. Merched dan i6eg, "Suo Gan," iaf, Jones; rhoddwyd gwobr hefyd i Annie Jenkins a Gertie Davies. Dar-- llen Sol-ffa dan 16eg oed, William Henry Jones a Olwen Evans yn gyfartal. Adroddiadau: Dan 7 oed, Muriel Jones. Dan 21eg oed, iaf, Annie Daniel; 2il, Mattie Evans. Dan 21, Edith Jenkins. Arholiad Ysgrifenedig Dan 16, David Eynon. Dan 13 oed, John Jenkins ac Annie Daniel yn gyfartal; 2il, Annie Jenkins a Katie Ann Eynon yn gyfartal. Dan 10 oed, iaf, Mattie Evans; 2il, Bessie Roderick a Bessie Ray Jones yn gyfartal. Plant dan 8 oed, ateb cwestiynau, iaf, Bessie Ray Jones; 2i1, Mervyn Walter Davies ac Agnes Lamford yn gyf- artal. Gwnio: Merched dan 9 oed, iaf, Agnes Lamford; 2il, Hannah Jen- kins. Dan 13 oed, iaf, Gertie Davies; 21I, Lizzie James. Dan 16 oed, gwneud "Cas Coban Nos," iaf, Ol- wen Evans. Cafwyd can agoriadol gan Miss Ann Mary Jones yng nghyfarfod yr hwyr, a dyfarnwyd y rhai canlynol yn fuddugol:- Traethawd, "Cymeriadau amlwg Bethania am yr haner can mlwydd cyntaf," Mr J. W. Young. Y delyneg oreu ar unrhyw destyn, Mr John Price (loan Eithrin). Traethawd goreu ar "Lwyr Ym- wrthodiad," iaf, Mr J. W. Young; 2il, Miss M. Williams. Arholiad ysgrifenedig dan 21 oed, iaf, Miss Mary A. Davies; 2il, Miss Ethel Powell. Adroddiad i rai dros 21, "Yr Amser Gynt," Mr. Tom Evans. Crayon Drawing, Santa Clos," iaf, David Thomas; 2il, Willie Jen- kins. Cerddoriaeth.— Unawd Contralto, "W oe, woe unto them," Miss Annie Thomas. Unawd Tenor, "Be thou Faithful unto Death," Mr Tom Evans. Unawd Bass, "Lead Kindly Light," Mr Rees Evan Price. Deuawd, Gwys i'r Gad," Mri Tom Evans a R. E. Price. Wythawd, "Ti Wyddost beth ddywed fy Nghalon," Mr Tom Evans a'i gyfeillion. Darllen Sol-ffa ar y pryd, Mr David Jones. Alaw Ton Gynulleidfaol, Mr Joshua Davies. Gwnio.—Crotchet Doyley, iaf, Miss Winnie George; 2il, Miss Jane Young. Fancy Table Centre: iaf, Miss Lizzie Edwards; 2il, Miss Gwen Davies. Frock fer i baban, iaf, Miss Annie Roderick; 2il, Miss Gwen Davies.
Advertising
A DDARFU I CHWI AMEU EICH ARENAU ? rrfi W /a 1? M? ) ? ,? J J-?. ? ?/_? ,? daW?n ?' ?-?? j ddywed ?m????????? (7 ?   > II r= Ii I I( I I A ydych yn bruddglwyfus, yn gyffrous, neu yn blino yn fuan ? A ydych wedi rhedeg i lawr, neu yn gymalystog (rheumatic) ? Effeithia Blinder Arenol ar yr holl gorph. Ullwer svdd yn dioddef oddiwrth yr an- hwylderhwn nad amheunsant erioed eu harenau (kidpiegs), ae eto yr arenau ydyw yr organau mwyaf tebyj^ol i wnelu, oblegid ganddynt hwy y mao y gwaith mwyaf i'w wneyd. Dydd a nos, o'n genedipieth hyd 'ddiwedd ein bvwydau, mac-nt ar waith yn gwahanu v lleisw ('trii,f) oddiwrth y gwaed, ac yn hidlo allan y <r\venwyiiau sydd yn achosi y fath anhwyldorau a'r rhai hyn:- Poen yn y cofn, poonau yn yr vstlysau a'r llwynau, jirydiau pensyfrdanol, afreoleidd-dra | troethol (urinary irregvlarities)y Anhwyj.i>er Pi.KixtKNOi, [bladder disease), grafel. care, imfuinodd (.<!et>ples.<ne ,"s). cryd cym mala II, UwMtwst f/?M</o), ehwyddiadau dyfrol dyt'rylwvf (drops;/), calon afreolaidd, nnnhrefn- ait gieuol, a Bri</h€s Mae blinder arenol yn effeithio yn wahanol ar bobl, ond os ydych yn dioddef oddiwrth un o'r argoelion uchod, gellwch sicrhau fod genych atiechyd yu yr arenau. Maent yn syrthio yn ol gyda'11 gwaith, ac yn aiialluog i gadw o'ch corph v curiii dyfrol a'r gwenwyruiu arenol sydd yn deohreu cymaint o afk-chydon. Mae gwaith yr arenau mor fawr ac mor "tldiorphwys fel, pan unwaith y gwaelant, nis gallant byth wellhau heb gvnortliwv. Cynoriliwy neillduol vr arenau vdyw I'klkxiAkkxav■ Ckfnboks DOAX (Doaii^ ]iacl:<fcheKaJnejf 't(h) £ \\neiir hwynt 0 wreiJdiull pllr a lIyiHII a iachâllt fiC a adfvwiaut vr arenau mewn ftordd natunol. Gwelihant bob matli o anliwyider yn yr arenau ac vd v bledr(,.n :t ia(-.IiRtit boenau vu vr llwynau, cywirant annhrefnati troethol {unnnry grafel: Imy n'cit ni.Ki.IiffyiK.nt rhag balhant[ gwaed, rhag iVlnn.eg Cvjhimmatyn y bledren, wia. dyfrgiwyf. trwytlil.f (dia- Nid ,c,, ?,qii d d %Iut ??,a?/?-.<.?'<< s ut utirlin-w ,tr%- Un ade!-? tYbidma(-anuhretna.:tr?h<dyn'ac!hd eu priod?i i'r arenau, ond mae uwvddoniaefh ? ddiwcddar vn proti fod y rhan iwvaf o ahech- vdon vu cael eu dechreu.xl Yn vr organau pwvsiti hvn. Felly, os ydych yn wae!, ni waeth beth a fedd>liweh y«" y nuiter, dech- reuwch ar uiiwai;h gyda I'iim-Kni Arkxau Cki N'uokx Doax x Bacl"¡,c Kidn('!J Pills), a cheiMwd. gael eich arenau yn wch vna Invvtlmu a d'lyuant yn yr hojl organau ereill. Nid drwy yr un ftordd arall y'ch hadferir. I 0 a ,BacAache- f Backache Kidn   ? jrXA?y???? n?  ?a w   \????*????'? ??"? ?' ? \\W  &?? Z  ?\?/c??T?\??j)?M?/t/y/y?\i?  YR UNIG FLWCH DIDWYLU. (ian lioll fl'eryllwyr ac ) n y Stores am 2/t» y blweli 0 blwch 13/9 neu yn ihydd drwy y post vn svth oddiwrth y iMcCi.KLi.AN Co., 8, Wells Street. Oxford Street. London, W.
! Trefforest a'r Cylch.
Trefforest a'r Cylch. Dydd Llun diweddaf agorwyd y Cecil Cinema yn y He hwn. Clywsom fod yno lawer wedi troi fewn o 7 o'r gloch hyd 10.30. Mae'r Cinemas yn amlhau a'r tyrfaoedd yn tyrru iddynt. Mae gweithio mawr ar bont newydd ger yr hen Bwysdy. Mae y bont ar waith er's tro, ond wedi bod yn sefyll. Gwelaf fod paratoadau ar gyfer cysylltu y Tramroad a Gwern-y-gelwrn trwy gael y cars i rhedeg dros y bont. Nos Fawrth, Rhag. 23, cafodd Eglwys Ebenezer, Rhydfelen, noson lawen i an- rhegu Mr. Samuel Jones o'r Fferm am ei wasanaeth fel trysorydd ffyddlon yr eglwys am 19eg o flynyddau. Cymer- odd y Parch. E. Jones, gweinidog, y gadair. Cafwyd annerchiad ganddo ef ar natur y cwrdd, a chan y brodyr Daf- yddd Williams, Rhyfelen; Efan John, Trefforest; Wm. Thomas, Ebenezer Street; Harri Roberts, baker; W. Wal- ters, Glyntaf. Canodd Miss John a'i pharti yn swynol. Aeth y brawd Ifor Williams, Gwernygelwrn, trwy oruch- wyliaeth yr anrhegu yn fedrus. Cyf- lwynodd i'r brawd oriawr aur gwerth deg gini. Diolchodd Samuel Jones yn gynnes i'r frawdoliaeth. Ei olynydd ef fel trysorydd fydd D. Williams, grocer. Mae cyfrinfa Craigyfforest wedi pen- derfynu anrhegu Thomas Lewis, New- town, yr hwn sydd wedi gwasanaethu yn drysorydd y Gyfrinfa am 25 a flyn- yddau. Fu erioed well trysorydd. Nid wyf yn credu iddo fod yn absenol un nos Cyfrinfa am y tymhor uchod. Mae Mr. E. Hopkins, ysgrifenydd y Gyfrin- fa, a Mr. David Lewis Davies, trysor- ydd y dysteb, yn sicr o wneud y peth yn llwyddiant. Cawd perfformiad rhagorol yn Liban- us o "Playmates" gan y plant, dan ar- weiniad Mr. Archie Lane. Dafydd Evans, Cymmer, Porth. Yn ddiweddar cdllwyd tri o hen berer- inion-y cyntaf oedd Dafydd Evans, Cymmer, Porth, Cwm y Rhondda. Brawd o ardal Penybont-ar-Ogwy oedd. Bu yn y Maesteg, ond treuliodd ef a'i briod flynyddau lawer yn y Porth a'r Cymmer, ac yn aelodau hardd yn Salem. a hefyd yn Pisgah, y Cymmer. Yr oeddynt yn cychwyn yr achos yn Pis- gah. Bu Dafydd yn arolygwr yr Ysgol Sul o'r cychwyn hyd derfyn ei daith, ac yn drysorydd a diacon ffyddlon. Brawd rhagorol oedd Dafydd Evans, efe a'i deulu mewn parch ac anrhydedd gan I bawb yn y cylch. Claddwyd ei weddill- ion yn Llethrddu, yn nghanol cawodau o ddagrau hiraeth. I William Lewis, Groesged. Ganwyd a magwyd ef ar y Groesged, Llanilltyd Fardref, lle treuliodd ei fIyn- yddoedd dros bedwar ugain. Yr oedd yn hen aelod ffyddlon yn y Bryntirion. Yr oedd yn weddiwr melus, athraw da, ac yn hen frawd difyr-un o hen ser y Bryn oedd Bili. Adnabyddir ef fel Bili o'r Groesged. Claddwyd ef yn Myn- went y Bryn. I William Thomas, Llwyn Crwn Ucha. Yr oedd ef yn agos 85 mlwydd oed, ac wedi treulio y tymor uchod yn y ddwy fferm, Llwyn-crwn-isa a Llwyn-crwn- ucha. Yn y cyntaf y magwyd ef, ac yn yr olaf y bu o'r pryd y priododd hyd derfyn ei hoes, sef cyfnod o tua 62 o flyn- yddau. Yr oedd ef a'r teulu yn adna- byddus i gylch eang ac yn barchus iawn yn yr ardal. Claddwyd ei weddill- ion yng Nghladdfa Gyhoeddus Llan- trisant. I Pisgah, Cymmer. Agwedd lewyrchus sydd ar yr achos yma. Mae tua deg neu ddeuddeg yn aros am fedydd, eraill yn dyfod odre. Mae yma gynnulleidfa siriol o bob! | ieuainc. CYFAILL JOHN.