Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BOBL IEUAINC. I

Horeb, Pump Heol.

ARQRAFFWAITH.

IAdolygiaeth.I

Treharris ar Cylch. I

I I Bethania, Aberdar.I

Advertising

! Trefforest a'r Cylch.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trefforest a'r Cylch. Dydd Llun diweddaf agorwyd y Cecil Cinema yn y He hwn. Clywsom fod yno lawer wedi troi fewn o 7 o'r gloch hyd 10.30. Mae'r Cinemas yn amlhau a'r tyrfaoedd yn tyrru iddynt. Mae gweithio mawr ar bont newydd ger yr hen Bwysdy. Mae y bont ar waith er's tro, ond wedi bod yn sefyll. Gwelaf fod paratoadau ar gyfer cysylltu y Tramroad a Gwern-y-gelwrn trwy gael y cars i rhedeg dros y bont. Nos Fawrth, Rhag. 23, cafodd Eglwys Ebenezer, Rhydfelen, noson lawen i an- rhegu Mr. Samuel Jones o'r Fferm am ei wasanaeth fel trysorydd ffyddlon yr eglwys am 19eg o flynyddau. Cymer- odd y Parch. E. Jones, gweinidog, y gadair. Cafwyd annerchiad ganddo ef ar natur y cwrdd, a chan y brodyr Daf- yddd Williams, Rhyfelen; Efan John, Trefforest; Wm. Thomas, Ebenezer Street; Harri Roberts, baker; W. Wal- ters, Glyntaf. Canodd Miss John a'i pharti yn swynol. Aeth y brawd Ifor Williams, Gwernygelwrn, trwy oruch- wyliaeth yr anrhegu yn fedrus. Cyf- lwynodd i'r brawd oriawr aur gwerth deg gini. Diolchodd Samuel Jones yn gynnes i'r frawdoliaeth. Ei olynydd ef fel trysorydd fydd D. Williams, grocer. Mae cyfrinfa Craigyfforest wedi pen- derfynu anrhegu Thomas Lewis, New- town, yr hwn sydd wedi gwasanaethu yn drysorydd y Gyfrinfa am 25 a flyn- yddau. Fu erioed well trysorydd. Nid wyf yn credu iddo fod yn absenol un nos Cyfrinfa am y tymhor uchod. Mae Mr. E. Hopkins, ysgrifenydd y Gyfrin- fa, a Mr. David Lewis Davies, trysor- ydd y dysteb, yn sicr o wneud y peth yn llwyddiant. Cawd perfformiad rhagorol yn Liban- us o "Playmates" gan y plant, dan ar- weiniad Mr. Archie Lane. Dafydd Evans, Cymmer, Porth. Yn ddiweddar cdllwyd tri o hen berer- inion-y cyntaf oedd Dafydd Evans, Cymmer, Porth, Cwm y Rhondda. Brawd o ardal Penybont-ar-Ogwy oedd. Bu yn y Maesteg, ond treuliodd ef a'i briod flynyddau lawer yn y Porth a'r Cymmer, ac yn aelodau hardd yn Salem. a hefyd yn Pisgah, y Cymmer. Yr oeddynt yn cychwyn yr achos yn Pis- gah. Bu Dafydd yn arolygwr yr Ysgol Sul o'r cychwyn hyd derfyn ei daith, ac yn drysorydd a diacon ffyddlon. Brawd rhagorol oedd Dafydd Evans, efe a'i deulu mewn parch ac anrhydedd gan I bawb yn y cylch. Claddwyd ei weddill- ion yn Llethrddu, yn nghanol cawodau o ddagrau hiraeth. I William Lewis, Groesged. Ganwyd a magwyd ef ar y Groesged, Llanilltyd Fardref, lle treuliodd ei fIyn- yddoedd dros bedwar ugain. Yr oedd yn hen aelod ffyddlon yn y Bryntirion. Yr oedd yn weddiwr melus, athraw da, ac yn hen frawd difyr-un o hen ser y Bryn oedd Bili. Adnabyddir ef fel Bili o'r Groesged. Claddwyd ef yn Myn- went y Bryn. I William Thomas, Llwyn Crwn Ucha. Yr oedd ef yn agos 85 mlwydd oed, ac wedi treulio y tymor uchod yn y ddwy fferm, Llwyn-crwn-isa a Llwyn-crwn- ucha. Yn y cyntaf y magwyd ef, ac yn yr olaf y bu o'r pryd y priododd hyd derfyn ei hoes, sef cyfnod o tua 62 o flyn- yddau. Yr oedd ef a'r teulu yn adna- byddus i gylch eang ac yn barchus iawn yn yr ardal. Claddwyd ei weddill- ion yng Nghladdfa Gyhoeddus Llan- trisant. I Pisgah, Cymmer. Agwedd lewyrchus sydd ar yr achos yma. Mae tua deg neu ddeuddeg yn aros am fedydd, eraill yn dyfod odre. Mae yma gynnulleidfa siriol o bob! | ieuainc. CYFAILL JOHN.