Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HYSBYSIAD. YSGDL Y GWYNFRYN AMMANFORD. Sefydlwyd 1880. PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M.A. Anfoner am y Telerau a'r Rhaglen a banes y Llwyddiant at y Prif Athro.
Advertising
I W. Wi LLIAMS, JEWELLER, &c.9 21 Castle St., Swansea. Specialities: l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff. dewob at y Cymro Oe am heirdd fodrwyau aur, Oriaduroo ao awrleiaiau, Gemau a chadwynan ciaer: Yspectol gelfydd, hln-fynegydd, Gwres-fesarydd, cwmpawd mor Geir gan Williams, Heol y CaatelJ Trowch i mewn i wel'd ei stor.
Y CYNBWYSlAD.
Y CYNBWYSlAD. Yn Fan ac yn Amal Tud. 1 Colofn Llaf ur 1 Ar Lannau'r Tawe. 1 Beirniadaethau Merthyr a Bod- ringallt 2 Y Golofn Amaethyddol 3 Y Gweithiwr Amaethyddol 3 Ar y Twr yn Aberdar. 3 Pwnc y Tir yng Nghymru. 3 Nodiadau'r Golygydd 4 Bwrdd y Golygydd 4 Drama Gwyl Ddewi 4 Llith Arthen o'r Barri 4 0 Abertawe 5 Helynt y Co-op. yn y Seven Sisters 5 Llyfroniaeth y Darian 6 Jiwbili Treforis 6 Beirniadaeth Gwili 6 Colofn y Plant 7 Edwart Dafydd y Pererin. 7 Hanes Lleol 7 Rhwng Cloriau'r Wythnos 8 Newyddion Lleol, etc., etc.
Yn Fan ac yn Ami.
Yn Fan ac yn Ami. Yn ol Mr. Llewelyn Williams, A. S., yn Nhreforis, Morgan Llwyd o Wynedd oedd y cyntaf y ysgrifennu llyfr gwr- eiddiol yn y Gymraeg—Llyfr y Tri Aderyn oedd hw-n. Mynodd amryw dystion yn Nhrenghol- iad Senghennydd roddi eu tystiolaethau yn Gymraeg a chyfieithodd y Crwner. Dyma'r fantaiB o gael swyddogion y cyhoedd yn medru yr hen iaith. 0 ba le y ceir ysbrydiaeth ddigonol a pharhaol i gario'r gwaith o ryddhau'r bobl oddiwrth ormes a thralia ? 0 ba le ond oddiwrth gyfriniaeth ? Rhed symudiad dyngarol eia derfyr, buan a thruenue iei -ft. ill.<I; yuigoin mewn tywod os caniateir i gyfriniaeth Gristionogol farw yn y wlad. Yrngil- iodd yr lesu i'r dirgel i waddoli ei Hun a nerth i gyflawnndyledswyddau mawr ei fywyd. Mae Gethsemane o flaen Calfaria,Parch. Rowland Jones yn y "Seren Gomer." Rhaglen a gwedd grefyddol iawn arni sydd newydd ddod allan ar gyfer Cy- manfa Gerddorol Eglwys Bodringallt mis Mawrth nesaf. Sylwn fod anthem- au, yr emyn-don a'r salm-don i'w canu. Peth pwysig arall gynwysa y rhaglen yw holwyddoreg ar "Hanes Moses" gan y Parch. T. D. Jones, y gweinidog. Gwelwn mai swyddogion y Pwyllgor ydynt-Cadeirydd, Mr John Isaac (loan ap Daniel); trysorydd, Mr John Lewis ysgrifenydd, Mr. Enos Davies. Mr. David Davies, L. T.S. C., sydd wedi ei ddewis yn arweinydd am y pedwaredd tro, a Mri. Sam John a W. Harries sydd wedi eu dethol yn organyddion. Bydd i frodyr a chwiorydd o'r eglwys adrodd a chanu. Y Drudwy. Ar y brigyn Clywais nodyn, Drudwy Ion; Er yr. oerni Gwnaeth sirioli Llawer bron. Fel y drudwy Carwn fwy-fwy Roi fy mryd Ar wneud bywyd Pawb yn wynfyd Ar ei hyd. Yn yr "Ymwelydd Misol" barna y Parch. T. C. Williams, M.A., mai ei wraig ddarganfu y Canghellor pan y mynnodd ei briodi ef. Gellir dweud am y darganfyddiad hwn fel y dywedir am bob un arall ein bod yn ei wybod o'r blaen. Ni warafunwn anfarwoldeb i'r gwr enwog o Lan y Fenai am ei dweud. I
Plasmarl.
Plasmarl. Diwyd iawn yw y Gymdeithas Ddramodol yma. Bu eu perfforniiad o Rhys Lewis yn llwyddiant mawr. Dy- I wedir fod amryw o'r cymeriadau yn odidog.
0119TEDDFODAU DYFODOL.
0119TEDDFODAU DYFODOL. Sadwrn, Chwef1914.Eisteddfod ^deiriol Cymmer, Porth.  2, .9.4- Eisteddfod Fforestfach. I)ydd Sad-rn, Mehefin 20, 1914.- EIsteddfod Gadeiriol Pontardawe.
I __COLOFN LLAFUH. I
I COLOFN LLAFUH. I I GAN PEREDUR. I Parhau yn eu chwerwder y mae y streics yn Dublin, Leeds a Wycombe. Elfenau cymysglyd a thrafferthus iawn sydd yn nodweddu amgylchiadau y ddau le blaenaf. Y mae yn syndod fod y werin weithgar Brydeinig wedi cynorth- wyo mor sylweddol a brwdfrydig y streicwyr uchod pan gofiwn am weith- rediadau a dywediadau annoeth rhai o'r arweinwyr. I Larkin. ¡ 1 I Y mae yn anodd goddef a chaniatau I rhai o'r pethau a wnaethpwyd gan Mr. Larkin, er fod y pethau hyny, meddir, yn cael eu cynyrchu a'u symbylu gan gydwybod sydd yn fyw i deimladau cref- yddol. Y mae brwdfrydedd gor-gref- yddol o hyd fel yn hanes Saul o Tarsis yn foddion i ladd a dinystrio achosion sydd yn dda a bendithiol yn eu hanfod. Ni wad neb wirioneddolrwydd teimlad I brwdfrydig ac aberth angerddol Jim Larkin dros gyflwr gwasaidd a gorth- rymedig y gweithwyr Gwyddelig ond y mae yr angerddoldeb personol hwn, heb gael ei gydbwyso gyda Jbarn a phrofiad cydswyddogion a gweithwyr profiadol a dysgedig eraill, bron bob amser yn mynd ar gyfeiliorn, ac yn arwain i ddyryswch nas gellir yn rhwydd ymryddhau o hono. I Y Clerigwyr. I Gyda'r un priodoldeb y gellir con- demnio rhagfarn grefyddol eithaiol ar- weinwyr Pabyddol y ddinas Wyddelig. Cynhygiai dinasyddion twymgalon gy- meryd plant bychain diniwed allan o ddylanwadau'r drafodaeth, a'u cynal mewn digonedd o fwyd a .dillad hyd nes y deuid i ben a'r streic. Ond syned y nefoedd, dyma ddynion sydd yu honi pregethu brawdgarwch a ffyddlondeb cymdeithasol, yn protestio, ac yri rwrtbod i'r rhai I-ivehalti hyn J&Kfo, odd i Lioegr,- rhag en troi at Brotenean* iaeth. Dywedwn eto, y syndod yw o dan yr amgylchiadau, fod y werin wedi cyfranu cymaint tuag at streicwyr Dublin. I Leeds. I Dyma streic sydd yn rhoddi bodol- aeth i amgylchiadau cymharol newydd a diethr yn myd llafur. Yma y ceir rhai miloedd o weithwyr trefol yn sefyll allan am godiad'mewn cyflog. Y meis- tri yn yr achos hwn ydyw y trethdalwyr fel Corfforiaeth. Gellir edrych ar y berthynas rhwng meistri a gweithwyr yn ffurf o werin lywodraeth, mewn am- gylchiadau gweithfaol a diwydianol. Cawn fod mwyafrif aelodau y Cynghor Trefol yn Doriaid neu Ryddfrydwyr, a bod y rhai hyn wedi eu hethol gan fwyafrif o'r dineswyr. Felly y mae yr hyn a wnant yn gymeradwy gan y mwy- afrif. Os na, gwylied y gweithwyr pwy a osodant i'w cynrhychiolu ar y Cyng- hor Trefol yn yr etholiadau nesaf. I Cais am Godiad. I Yr oedd cais y gweithwyr i bob ym- ddangosiad yn eithaf rhesymol-codiad o ddau swllt yr wythnos-pan gofiwn taw dim ond un swllt ar ugain a phed- war ar ugain pr wythnos oedd cyflog y mwyafrif, ni all neb wadu rhesymoldeb y cais. Ond heth yw yr amgylchiadau? Iseled ydyw syniadau, hyd yn od athrawon y colegau, am hawliau llafur, fel y cymeradwyant ymddygiad myfyr- wyr annystyriol yn cynyg eu hunain i gymeryd lleoedd y gweithwyr oeddynt allan ar streic. Dywedant fel esgus- awd, bod yn ddyledswydd arnynt am- ddiffyn llesiant y llusaws dineswyr. I Efrydwyr yn Actio Coesau Duon. I Os yw llesiant y mwyafrif unrhyw amser yn cael ei enill ar draul gorth- rymuy gweithwyr nis gall y cyfryw well- iant fod yn welliant gwirioneddol. Yn sicr y mae egwyddorion gwirionedd a chytiawnder yn pallu yn eu grym, ac yn ddiffygiol yn eu hanfod, os nad yw eu dylanwad yn gyson fydweithredol (uni- versal). Beth bynag y mae yr am- gylchiadau yn ddyddorol bruddaidd, ac yn wers bwysig mewn llywodraeth gym- deithasol. Gobeithio na chollir y wers gan y gweithwyr. I Trengholiad Senghenydd. I Dechreuwyd y trengholiad i achos y danchwa uchod yr wythnos ddiweddaf. Ciwylir buddiannau y meistri. y gweith- wyr a'r perthynasau gan ddynion o allu a chymwysterau neillduol. Gwel- wn fod y goruchwyliwr a'r is-swyddog- ion eraill wedi cael myned trwy oruch- wyliaeth lem yn ystod y croesholi. Dengys Mri. W. Brace a Tom Richards allu neillduol ac ymarferol yn y gwaith o holi. Mor belled, y mae cyfaddef- iadau y swyddogion yn ddiddorol iawn. Buddiol fydd i'r gweithwyr i sylwi yn fanwl ar gwrs yr ymchwiliadau hyn i amgylchiadau y danchwa ofnadwy hon. Ymchwiliad Aral.1 Y mae yr ymchwiliad i amgylchiadau y cynwrf (riots) a ddigwyddodd yn Dublin Sadwrn, y 30 o Awst diweddaf, wedi dechreu yr wythnos ddiweddaf. Anfoddhaol iawn yw ymddygiad y Twrne Powell-yr hwn sydd dros y Cwnstabliaid. Dywedir yn y papurau llafurawl nad oes gobaith cael ym- chwiliad clir a diduedd i'r amgylchiad- au, o herwydd y modd trahaus a thram- gwyddus gyda pha un yr ymddygir tuag at y tystion sydd yn wrthwynebol i'r Cwnstabliaid. Galwodd y Twrne hwn 'blackguard' ar Mr. Handel Booth, j A. S., ac fel protest yn erbyn y sarhad a'r tramgwydd gwrthododd dystiolaeth pellach, ac ymadawodd a'r llys. Par- j hau yn ei erchylldra poenus y mae y streic yn y ddinas hon, ac yn sicr y mae y dibddefaint yn ofnadwy. Pa cyhyd, O! Arglwydd, pa cyhyd." j Arferion Americanaidd. Oddiwrth gylchlythyr anfonir i Gym- deithasau Llafurawl y dyddiau hyn, cawn fod Swyddfa wedi ei sefydlu yn y wlad yma sydd yn cynyg gwasanaeth swyddogion, yn meddu ar gymhwys- derau neillduol, i sylw perchenogion a goruchwylwyr gweithfeydd. Oynyg- iant wneyd ymchwiliad cuddiedig i hanes a gweithrediadau pob dyn sydd yn gyflogedig ganddynt, ac i roddi many lion o'u dywediadau a'u gweith- rediadau yn y cyfarfodydd a'r pwyll- gorau y byddant yn mynychu iddynt, a'r oil gyda'r bwriad o gospi y gweith- iwr a'i gwneyd yn bosijbl i'r meistri i chwynu allan bawb sydd yn ddigon gwrol i ymladd dros ac amddiffyn ei iawnderau. Ysbiwyr cysylltiedig a'r swyddfa hon yn yr Amerig aydd yn gwneyd y fath ddistryw yn rhengoedd llafurawl undebol y wlad hono. Y Piokerton Police fu yn cynorthwyo y Cawnegie Trust yn Pittsburgh flynydd- au ol a pherthynasau i'r rhai hyny yw y giwaid hyn sydd yn cynyg eu hunain i gyfalafwyr y wlad hon yn bresenol. Yn ngwyneb yr amgylchiadau hyn, han- fodol ydyw i'r gweithwyr berffeithio eu hundeb. Cynghor Celf a Llafur. I Gwelwn fod Cynghor Celf a Llafur Aberdar yn bwriadu cynal gwyl o chwareuaethau a gorymdaith yn amser gwyl y Sulgwyn nesaf. Y maent yn ymwybodol o'r angenreidrwydd i ddar- paru pethau ar gyfer anianawd y dyn- I ion ieuanc cysylltiedig a'r undebau. Wrth ddechreu peth fel. hyn gobeith- iant gynyrchu dyddordeb yn y dosbarth ieuanc tuag at waith yr undebau llafur- awl. Llongyfarchiad. I [Llongyfarchwn Mr. John Davies, attendance officer, AJberdar, ar ei etholiad i gadair lywyddol y Cynghor hwn am y flwyddyn ddyfodol. Dyma yr ail waith i Mr. Davies i lanw y swydd bwysig hwn. Efe oedd ail lywydd y Cynghor wedi ei sefydliad yn y flwyddyn 1900, ac y mae wedi parhau yn gynrychiolydd llafurawl ffyddlon ar hyd y blynyddau. Dymunwn lwydd- iant mawr ar waith y Cynghor, ac i lywyddiaeth y llywydd newydd.—Gol.]
Glais. I
Glais. I Cymanfa Ganu'r Plant. I Cynhaliwyd yr uchod yng Xghapel Seion nos Sul, Rhag. 28. Llywydd y cyfarfod hwn oedd y Parch. J. Tywi Jones. Fe hefyd a arholodd y plant ar y pwnc angenreidiol, Gweddusrwydd yn Xhy Dduw." Yr oedd y plant wedi dysgu y wers yn dda., ac yr oeddent yn ateb yn glir, ac wrth eu gwrando allwn ni ddim llai na dymuno y bydd i'r hyn a ddysgasant adael argraff ddofn ar eu meddyliau fel y tyfont i fynny. Hyn yn ddiau yw un o bethau mwyaf pwysig ein crefydd. Arweinydd y cyf- arfod oedd y brawd diwyd a gweithgar R. M. Gwilym, ac wrth glywed y plant yn canu, hawdd oedd deall eu fod ef a'r oantorion yn hoff iawn o'u gilydd. Cawsom unawd dlos iawn gan yr eneth ieuanc o Drebanos (Miss Linda Per- kins), a phan gofiom ei llafur yn ystod y gwyliau yn cystadlu a chynorthwyo, gwnaeth ei gwaith yn ardderchog. Dyma y tro cyntaf iddi fod yma. Go- I beithio mai nid hwn yw y tro olaf. Yr ) oedd y brawd John Humphreys fel arfer yn barod a'i araeth yn bwrpasoh Plant ydym eto dan ein oed" oedd ei desfcyn, ac-er ei fod yn cyfeirio fwyaf neillduol at y plant, yr oedd ganddo awgrymiadau y byddai yn dda i'r canol oed a'r hen eu hystyried. UN OEDD YNO.
Ar Lannau'r Tawe.
Ar Lannau'r Tawe. Cafodd aelodau Ysgol Sul Cangen Hebron; Ynystawe, eu cyfarfod blyn- yddol o wledd a chan nos Sadwrn diweddaf. Llywyddodd y Parch. D. Eiddig Jones y cyfarfod gynhaliwyd ar ol y wledd. Cymerodd y rhai canlynol ran ynddo: Hannah Williams, Gwladys Davies, Blodwen Thomas, Gwendo John, Nellie Davies, Sarah Dilys Davies, Ethel Williams, Sarah Morcam, a'r brodyr J. Lewis Jenkins, William D. Davies, Brynmor Evans, J. Edwin Jack- son, Albert Davies, a J. Bytheway. Cystadleuaeth Unawd i fechgyn Rhanwyd rhwng y brodyr W. D. Davies, J. E. Jackson ,a Tom Grove. Darllen cerddor aeth: Rhanwyd rhwng Brinley Lloyd a Emrys Thomas. Adroddiad: ¡ Rhanwyd rhwng Katie Grove a Gwenda John. Darllen ar y pryd: Rhanwyd rhwng David Evans a Tom P. Williams. Cymerodd y brawd Gwilym Grove rhan fel cyfeilydd. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r brawd William Hill j am ei garedigrwydd arferol fuag at y j plant, ac i bawb a gynorthwyasent. Mewn cyfarfod o gynrychiolwyr dy- lanwadol y cylch gynhaliwyd yn Neuadd Gyhoeddus, Clydach, nos Fercher di- weddaf, penderfynodd y pwyllgor ddangos eu gwerthfawrogiad o wasan- aeth y chwaer Ann Davies, bydwraig ar- dystiedip (certified midwife), Rockfield House, Clydach, ar ei hymneillduad o'i galwedigaeth trwy gyflwyno iddi dysteb (testimoaial). Y mae y chwaer uchel ei pharch a phoblogedd hon wedi gwasan- aethu yn ei swydd dros dymhor o tua deugain mlynedd. Trysorydd y mudiad ydyw'r Parch. T. Valentine Evans, Clydach. a derbynnir gyda diolch un- rhyw gyfran tuag' at yr amcan mewn golwg. Mewn cyfarfod gynhaliwyd o dan nawdd I ;yrndeithas y Bojbl leuainc yn Ysgold; Moriah, Ynystawe, nos Fercher diwedu.* darllenwyd bapur da iawn gan y hr rtwd Daniel Phillips ar y testun eang, Iesu Grist." Llywyddodd y Parch. Thomas Thomas (gweinidog), a llefarodd y brodyr W. Aaron a D. H. Lewis ychydig eiriau cymhwys a phriodol ar y testun. Da ydyw gennyf weled Pwyllgor Heol- ydd a Phontydd y Cynghor Sir yn symud 1 wneud heolydd Cwmtawe—ac enwedig Clydach-yn gysurus i'r bobl. Ychydig iawn o fanteision a gwelliantau o'u cymharu a'r dreth a delir ddaw oddi- wrth y Cvnghor hwn i'r rhan hon o'r sir. Melus ydyw clywed sain y rholfaen ager (steam roller) yn chwythu yn ein invsg. Ychydig wythnosau yn ol appel- iodd Cynghor Plwyfol Rhyndwyclydach i'r Cylitihor Sirol i godi rhyw ddau neu dri o arwydd-byst perygl mewn mannau ar hyd prif ffordd y pentref er mwyn sicrhau diogelwch mwy i blant a phobl mewn oed rhag gorgyflymdra llawer o'r rnoduron sydd yn teithio trwy'r lie. Yr oedd yr Automobile Association wedi datgan eu parodrwydd i roddi'r arwydd- byst angenrheidiol ar yr amod fod y Cynghor Sir i'w gosod i fyny. Atebodd y Cynghor Sir nad oedd hawl ganddynt i wneud hynny. A glywyd erioed am ateb mor blentynaidd oddiwrth Gynghor cryf a chyfrifol? Dyma Gynghor sydd yn gyfrifol am brif-fyrdd sir yn cyfaddef nad oes ganddo hawl i chwario ychydig sylltau er sicrhau dio- gelwch y bojbl! Os nad oes hawl gan y Cynghor Sir ar y brif ffordd, pwy ynte sydd a'r hawl 1 Gobeithiaf nad budd, cysur a. phleser perchenogion cerbydau modur yn unig sydd yn peri i'r Cynghor beidio codi'r arwyddion perygl' Traddododd y myfyriwr ieuanc a dys- glaer, D. Emrys Evans, M.A. (Rhyd- ychen), ail fab i'r Parch. T. Valentine Evans, Clydach, ddarlith ragorol ar y testun, Teithiau Paul," i Gymdeithas y Bob] leuainc mewn cyfarfod a gynhal- iwyd yn Festri Calfaria, nos Fawrth di- weddaf. Y mae y brawd ieuanc yn llefarwr dymunol, eglur ac hyawdl, ac er mwyn gyru ei wers adre eglurodd deithiau Paul trwy dywys ei wrandawyr ar y darlunlen ar hyd taith yr Apostol. Dadblygodd yn ei ddarlith lawer o ffeithiau hanesyddol nas ca'r dyn cyffredin gyfle i wybod am danynt. I Cynnygiwyd pleidlais o ddiolch iddo gan y brawd D. Christopher Davies (cen- hadwr o Yalemba, ar lanau'r Congo) eiliwyd gan y brawd E. Owen Jones, a chefnogwyd gan y chwaer Elizabeth Roderick, a'r brodyr George Davies, ( Samuel Boundy, Samuel C. Jones, a Dd. Roderick. j Cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol diddorol iawn o dan nawdd y Gymdeith- as Diwylliadol yn Ysgoldy Carmel nos Fawrth diweddaf, pan a daeth gyn- ulleidfa luosog iawn ynghyd. Llywydd- odd y cyfarfod gan y Parch. J. M. Wil- liams (gweinidog). Gwasanaethodd y cyfaill ieuanc Llewelyn Davies (Man- chester House) fel cyfeilydd. Cafwyd noson o fwynhad o dan nawdd y Gobeithlu yn Ysgoldy Hebron, Clyd- ach, Mawrth diweddaf. Daeth tyrfa o blant bychain ynghyd, a diddorwyd hwy yn fawr wrth edrych ar nifer o ddarluniau prydferth dafhvyd ar y lien gan vr hud-lusern. LLEW.
t I ! Hirwaun.j
Hirwaun. j Bu glowyr yr ardal hon yn croesawu dau atal-bwyswr newydd i'w plith nos Iau diweddaf yn Festri Ramoth. Ar ol bod am flynyddau allan o Un- deb y Glowyr, ymunodd gweithwyr (yr ardal hon ag ef yn ddiweddar. j Gwnaethant hyn yn wyneb bygythion chwerw o eiddo rhai a honent yr: adwaenent berchenog y gwaith. Caf- wyd y flwyddyn oreu yng ngh6f heb; sy'n fyw mewn ystyr fasnachol yn yr j ardal hon y flwyddyn ddiweddaf, a bellach bydd yr atal-bvyswyr yn gofalu am hawliau'r gweithwyr. Y ddau wr a ddewiswyd i'r swydd hon allan o nifer fawr ydoedd Mr. Goodall, o Ebbw Vale, a Mr Rich- ards, o Flaengarw. Y maent yn ymddangos yn wyr doeth a phwyllog, ac er nad yw Mr Goodall yn deall Cymraeg hyd yn hyn, da gennym gael ar ddeall ganddo ei fod wedi trefnu i gael gwersi yn yr hen iaith gan athraw cymwys o'r ardal, ac hydera allu annerch y gweithwyr yn Gymraeg yn fuan. A ni yn son am yr hen iaith, llaw- enydd yw meddwl am ei chyflwr iach yn y gymdogaeth hon. Yn Gymraeg yr addola mwyaf'f mawr gwyr Hir- waun, ac hyderwn y bydd i "Darian y Gweithiwr" gael croeso brwd i lawer aelwyd yma. Deallwn mai gwan yw cefnogaeth Eglwyswvr yr ardal i'r hen iaith, er fod y Ficer, y Parch. Dewi Williams, B.A., yn Gymro pybyr. Cafwyd rhagor nag un bregeth Gymraeg yn yr Ystafell Blwyf yn ystod y flwyddyn ddiweddaf heb ond un neu ddau yn ei gwrando, ac yn Saesneg y dygir ymlaen y rhan fwyaf o ii-4th Eglwys Loegr yn Hir- waun. Pasiodd Cyngor Eglwysi Rhydd- ion yr ardal hon yn ddiweddar i anfon gwrthdystiad cryf i Gyngor Dosbarth Aberdai, vn erbyn caniatau cais Ficer y plwyf hwn am ran o'r Gladdfa Newydd i'w chysegru at wasanaeth yr Eglwys. Apelid gydag unfrydedd I mawr at y Cyngor i beidio a gwaddoli I un sect grefyddol trwy gyflwyno I eiddo'r trethdalwyr iddi, heb ofyn yn gyntaf farn y trethdalwyr ar y cwesti- wn. Hysbysid y Cyngor hefyd mai un o bob ugain o'r ardalwyr sy'n Eglwyswr, tra y mae un o bob ped- war yn Ymneilltuwr. Poenir yn fawr y rhai a barchant f ddydd yr Arglwydd yn yr ardal gan y ducdd i'w sarnu sydd yn mynd ar j gynnydd parhaus yma. Agorir am- ryw o'r siopau bach am ran o'r Dydd Sanctaidd, ac yn ddiweddar agorir un masnachdy drwy y dydd, a thyrra (-in pobl ieuanc yno. DeaUwn fod i hybudd wedi ei roi yn un o Eglwysi Y mneilltuol y cylch y bydd unrhyw, aelod a welir yn myned i fasnachdy I ar Ddydd yr Arglwydd yn cael ei ddiarddel, ac y diarddelir unrhyw aelod a egyr ei fasnachdv ar y Sabboth. Gofid calon i garwyr y Sabboth oedd gweled y gorymdeithio diystyr drwy heolydd Hirwaun y Sul diwedd- af. Cerddai clwb svdd vn arfer a dwvn ei weithrediadau ymlaen yn un o dafarndai yr ardal yn cael ei flaen- ori gan y Seindorf drwy y gymdog- aeth, ac wedi dangos digon arnynt eu hunain aethant i'r Eglwys. Blin gennym weled rhai Ymneilltuwvr yn ymostwng i blentyneiddiwch fel hyn. Y mae mwy o adeiladu tai yn yr ardal hon nag a gofia neb sydd yn lyw. Arwydd dda yw hon, a chredir fod dyfodol gwych o flaen Hirwaun. Dioddefodd gweithwyr yr ardal lawer mewn blynyddau a fu, ond dywed y rhai a adwaenant arwyddion yr am- eroedd v gwelir Hirwaun eto yn ,yrchfan llaweroedd. PANT-Y-G^\rCW.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID GOFALU AM Y RHAF HYN. Esgeulusdod o unrhyw lIiwed I rkal hyn drwy ddamwain neu Ilet,It aclioti Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddyginiaeth Efelthiol. Er mwyn ysgol Perygl rhali II ymarfar mewn pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIANU* A SICR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn cael ei gydnakei gan filoedd fel y meddyglin mwyaf sicr a diogel a ddargonfyddwyd erioed at ischau Ctwyfau, A > chol lion, Tardd- iantau Y  Eczema, Craoh A Nedd ,II M h a n a u ^d^^ Liosgiad- AU, Yapl. d a n a u S a u r v Y. I L I ugr ad P I a n t Benywod a ???j j c ?A Babanod, Tarwden, C a u t Cymalau Peenus, Qheumat. k5eUpoen Yr oedd pen fy mlea- r?n Pt? ?° mewn '?? echry»lo*. ?nd i Owellbaoàd Gcmer'. ?t-  ? y'- fu:,r." at ClWYFAO ar COESAU. Wiloodd yn tystiol'w Effeith/au RhyfotkM* RHODDWCH BRAWFARNO Gwailhad sydd sfor Ar werth zan bob Chemi't a StcrMtm Amr ? S?Ser am Comer's Balm. My. ?chweS enw Jacob HughM ? ho?_ b'wct- Heb hyn Vv.jr.Sw.. gywir. b" danfoner ei gwerth (P.O. neu Stamp.) at Jacob Hughes, Manufacturing Cljjj 1st, M.P.S., L.D.S., Penarth, Cardl*. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL.
pontycymmer.
pontycymmer. Cynhaliodd Cymrodonon Glenydd v Garw eu cyfarfod nos Wener di- weddaf, Ionawr 9, yn Neuadd y Gweithwyr, dan lywyddiaeth y Parch. T. Jones, Pontyrhyl, un o fechgyn Vberaman; mae hynna yn ddigon er dangos y gall lanw cadair. Arwr y tioson oedd y Parch. Eleazer Davies, Salem, Pantygog, Pontycymmer. Testy n/ei bapur oedd 'Argra? > i?cha/ aryMawr." Cafwyd nodiad- au b dio! mewn gwahanol gyietnaa' au-natur, bywyd, celfau. Tram- wvodd dros dipyn o dir gan roddi Hachiadau tanbeidiol. Dadlenodd hanesiaeth am genedloedd bychain yn adael argraff ar genedloedd mwy- l-alcstina, Groeg, Cvmru. L > hwvl pan yn son am Dr, K Price, Tyn-Ton y cwm hwn. Hav,:1iai t-fe sylw y cenhedloedd mwyaf ?cdig. Byddai Pitt yn gofyn ei frn pan oedd Pitt yn ei r?ysg, a d?§.c?ai?;' ion Ffrainc hefyd. Cawsom tyned i'r Amerig. Cymru fu yn Sy'»enl dedd' au y werin-lywodracth  ,j henwi cyflymai ein gwaed, a thclmlem vn ddiolchgar ein bod yn ?Y" Cawsom ysbrydiaeth i ? yn fw?? tevrngar i'n ?viad, a'n iaith, ? cenedl. Priodol ar|j^ffu papur hwn, a'i roddi yn Haw pob Cvmro difater a d, ra- Yr ydvm wedi bod yn cysgu yn rhy hir, ond diolch am v cynhwrt sydd yn y ?wersyll. Mae'r esgyrn yn (fcchrcu :incswvtho pan ddaw yr anadl. Fe ?tvwh- canu gvda'r ddyn-hen garol- au Cymru Fu, ond credw) 1 fod carol- au Cymru Fydd i fod yn -,veil. Yii mlaen y mae gogoniant Cymru, nid vw eto ond dechreu tefori. Cafwyd hwvl. SiaraAodd Mri. J. D. Owen, Sanitary Inspector; Dafydd ihomas, ?, g r i fen\- d (i, J. J. Morgan, B.A., yr ysgrifenydd, a'r Parch. W. Saunders. 'BERDAR BACH.