Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Nodiadau'r Golygydd.-I

Drama Gwyl Ddewi i'r PlantI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Drama Gwyl Ddewi i'r Plant I (Parhad.) [Seiliedig ar yr hanes fel y'i rhoddir gan Owen Rhoscomyl yn ei lyfr bach, Saint David."] ACT II. I Golygfa: Ar y ffordd i Dy Gwyn ar Daf. Dewi a Paulinus yn cyfarfod a mintai o blant-tair neu bedair o ferched, a thua'r un nifer o fechgyn. Y plant yn dawnsio a chwareu, wedi eu gwisgo yn arddull y cyfnod gyda bwa saethau bychain yn hongian wrth eu hochrau. Un yn galw sylw y lleill at ddynesiad Paulinus a Dewi. Un o'r Bechgyn: 0, gwelwch acw (yn cyfeirio gyda'i fys). Pwy yw y rhai hyn? Merch: Ol'r anwyl, lleidr ydyw, yn dwyn bachgen bach oddiwrth ei dad a'i fam. Bachgen: Na, Mynach yw y dyn, ac y mae y Mynachod yn ddynion da. Merch: 0, dyna fachgen pert ydyw. Dyna wisg Ian. Dyna gapan hardd. Y mae hwn yn fab i frenin, yn sicr. Dowch i ofyn iddo chwareu gyda ni? (Dewi a'r Mynach yn dyfod i fewn yn hamddenol.) Paulinus: Ha, fy mhlant bychain, yr ydych yn chwareu. Peidiwch ofni. Ewch yn mlaen a'r chwareu. BaChgen: Nid ydych yn mynd i wneyd niwed i ni, ydych chwi? Paulinus: Na, fy rhai anwyl, ni wnaf niwed i neb. Os caiff y bachgen bach hwn chwareu gyda chwi, mi eisteddaf innau ar y twmpath fan hyn, i edrych arnoch. Dos i chwareu gyda'r cyfeillion bychain, Dewi, a mi orphwysaf innau. Merch Ie'n wir, dewch 1 (Yn cydio yn llaw Dewi, ac yn ei arwain i ganol y cwmni. Yn ff urfio'n ddwy restr, neu yn gylch. Yn chwareu, neu yn mynd trwy ddawns syml, fel "Sir Roger," neu ryw fydr-ddawns Gymreig. Wedi ych-ydig o chwareu, daw mintai o bedwar neu chwech o Wyddyl (Goidels) yn sydyn i'r golwg. Dychrynir y plant, a redant, gan waeddi tuag at Paulinus. Merch: 0, dyma'r Gwyddyl gwyllt! 0, achubwch ni, achubwch ni! (Yn am- gylchynu Paulinus.) Gwyddyl: Ha, ha, dyma gyfle iawn i ddal y cywion cyn iddynt dyfu yn ieir a cheiliogod. Cydiwch ynddynt, frodyr. (Dewi yn neidio'n mlaen, ac yn sefyll rhwng y plant a'r Gwyddyl. Yn codi ei law.) Dewi: Safwch, safwch, O! frodyr a Gwyddyl. Paham y byddweh yn greu- lawn wrth blant? Chwareuwch gyda ni7 (I barhau.)

Y Barri—Y Cymrodorion, &c.

Bwrdd y Golygydd.

1 I Cymry Cymraeg, Abertridwr

Advertising