Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

DYNCSOR DOSBARTH LLANRWST.

-.-LLANRWST.

VWWVAA»V\^/WWVWWWVWWV BWRDD…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

VWWVAA»V\WWVWWWVWWV BWRDD Y QWAROHEIDWAID I PENRHYNDEUORAETH. Cynhaliwyd yr uchod yn y Tylotty ddydd Mawrth diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. W. Jones, ac yr oedd hefyd yn bresenol Mri. E. Llywellyn, Owen Evans, Robert Evans, John Roberts (Trawsfynydd), William Wil- liams (Trawsfynydd), Jonn Pierce, David Pugh, W. W. Morris, E. M. Owen, Richard Roberts, Richard Williams, William Wil- liams (Ffestiniog), E. W. Morris, 0. H. Lewis, E. Tegid Jones, John Williams Mri. W. Thomas, J. B. Jones, a Richard Parry (Swyddogion Elusenol); Thos. Roberts, (Clerc), a D. Jones (Clerc Cynorthwyol). Y Ty. -_u I Gorphenaf 29, daeth John Williams, gynt o Tyddyngwyn, Ffestiniog i'r Ty trwy archeb Mr W. Thomas, ac yr oedd 5/2J yn ei logell. Awst 1, daeth Margaret Jones, 18 oed, gynt o Tanygrisiau, i'r Ty yn ddrwg ei chyflwr. Daeth yma o Toxteth Park, Lerpwl. Awst 8, aeth Jane Williams, gynt o'r Gelli, allan o'r Ty. Awst 8, symudwyd Richard Williams, gynt o Dolbenmaen i Wallgofdy Dinbych. Awst 2, aeth John Griffiths, 44 oed, allan o'r Ty i chwilio am waith a daeth yn ol y diwrnod dilynol. Awst 6, yr oedd John Jones, o Maentwrog yn ymddwyn yn hollol afreolaidd yn y Ty, tuagat y Swyddogion a'r rhai oedd yn y Ty, a rhodd- wyd ef mewn ystafell ar ei ben ei hun ftm 24 awr ar fara a dwfr, ac yn y diwedd gorfuwyd bygwth myned ag ef o flaen yr Ynadon. Yn y Ty 82 ar gyfer 73 yr un adeg y llynedd, a galwodd 23 o grwydriaid yn y Ty yn ystod y ddwy wythnos ddiweddaf. 01 a Blaen. I Yr oedd dynes o Ffestiniog,\sef Jane Wil- liams, yn myned o'r Ty yn ol a blaen, ac yn camymddwyn at bawb yn y Ty, a phasiwyd os y byddai yn myned allan etc, y byddai raid iddi g)meryd ei lleyn y Ty fel Tramp. Y Swyddog A yw hyny yn gyfreithlon. Y mae yn perthyn i'r Undetir? Y Clerc Gellwch roddi tocyn iddi ddod i'r Ty fel Tramp. Bydd hyny yn gosb arni. YnGwella. I Mr, J. B. Jones Y mae saith o blwyfi yn fy I nosbartb i, ac nid oes ond un o honynt yn gof- yn am elusen (clywch, clywch). Mr. Richard Roberts Gobeithio y bydd y plwyf hwnw heb yr un y tro nesaf, Eisiau dod o flaen y Bwrdd. Gofynai gwraig weddw 31 oed, ac un plentyn am gael dod o flaen y Bwrdd, ac wedi peth dadleu caniatawyd iddi. Dywedai ei bod yn gweini ar hyn o bryd, ac yc cael £4 am hyny bob haner blwyddyn, ac yr oedd yn talu 2/6 yr wythnos at gadw ei phlentyn, ynghyd a rhoddi esgidiai a dillad iddo. -Yr oedd yn wan ei hiechyd neu ni fuasai yn dod ar eu gofyn.- Mr. E. M. Owen a gynygiai roddi elusen os y eaffal dystysgrif feddygol.-Mr. Richard Wil- liams a gynygiai beidio rhoddi. Yr oedd llawer o rai fel hyn yn byw heb gael dim o'r plwyf. Mr. Owen Evans a gynygiai roddi 2/- yi wyth- nos, a chefnogodd Mr. E. Llewelyn, a phas- iwyd bron yn unfrydol.—Yr oedd yn wraig wraig er's dros ddwy flynedd wedi claddu ei gwr yr hwn oedd yn 84 oed. Paham 7 Daeth dyn o Harlech, yr hwn sydd yn aros yn Neheudir Cymru ar hyn o bryd o flaen y Bwrdd, Yr oedd yn talu 2/- yr wythnos at gadw ei fam, a phaham meddai na wnewch i fy mrawd sydd yn ffarmwr dalu hefyd.—Mr. Richard Williams A oes ganddo foddion ?— Y Dyn Y mae eraill yn gwybod ei hanes yn well na fi. Eisiau i chwi roddi ychydig arno fel y finnau sydd arna' i. Gwnewch yn deg. Nid wyf fi yn gwarafun talu, ond dylai fy mrawd wneyd hefyd, pe bai ond chwe' cheiniog.—Aeth y dyn allan, a sylwodd y I Cadeirydd nad oedd gan ei frawd foddion o gwbl, a gadewch i hwn fyned i'r South yn ol (chwerthin) Gwrthod. I I LTwrtnodwyd 1 John iJarry (yr Hen boldier;, ddod o flaen y Bwrdd. Hysbysai y Swyddog fod ganddo ystori newydd y tro hwn, sef fod ei ferch yn foddlon ei gymeryd ati i Sir Fon ond cael rhyw 2/- drosto. Arianol. Talwyd allan yn ystod y ddwy wythnos ddi- weddaf fel y canlyn :-Dosbarth Deudraeth ?70 5s 3c; Ffestiniog ?115 2s 9c; Tremadoc ?78 14s 6c; cyfanswm .?264 3s 6c. Yn eisiau fel y canlyn: Tremadoc £ 78 Ffestiniog [110; Deudraeth £68.

Dyngarwch Cymro Seuangc o…

BETTWSYCOED. I

'''VV'"vvvvv'Vv VV,V"'Y''VV"…

- - -- w-- _- w -I .vvvLiadrata…

r BLAENAU IFFESTINIOG.

Family Notices