Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
DYNCSOR DOSBARTH LLANRWST.
DYNCSOR DOSBARTH LLANRWST. Cyfarfu y Cyngor ddydd Mawrth pryd yr oedd yn bresenol, y Parch. H. Rawson Williams (Cadeirydd), John Davies (Gwytherin), Ed- ward Edwards, John Roberts, David Owen, David Lewis, Rowland Hughes, Meredith Owen, R. R. Owen (Clerc), Maurice Roberts (Arolygydd). Yr oedd cwyn nad oedd tai Pendrawllan, Egiwysbach, mewn cyflwr iechydol priodol, ond yr oedd y perchenog wedi dechreu ar y gwaith o wneyd yr hyn a ofynid. Eglurodd yr Arolygydd mai hyny oedd y rheswm paham na fuasai yn gwysio y perchenog yn unol a phen- derfyniad y cyfarfod diweddaf o'r Cyngor.— Cymeradwyodd y Cyngor yr hyn a wnaeth yr Arolygydd yn y mater, gan obeithio y gorphen- id y gwaith yn ddiymdroi i'wfoddlonrwydd heb oedi. Oddiar gofnodion y cyfarfod blaenorol cod- odd y cwestiwn o benodi Arolygydd Iechydol i'r Cyngor fel olynydd i Dr. Peter Frazer. Yr oedd y cyfnodion yn hysbysu y byddai y cyfiog yn £ 35 y flwyddyn.-Mr. John Roberts (cyn- Gadeirydd y Cyngor) a ofynodd beth oedd yn cyfrif am y gwahaniaeth rhwng y swm a ofynid o dan y trefniant newydd rhagor yr hen, gan mai £ 29 a arferid dalu i Dr. Frazer ? Yr oedd Aethwy a'r Dwyrain wedi tori eu cysylltiad a'r cyd-bwyllgor Iechydol. A allai y Cyngorau hyny ymwahanu, ar ol i'r holl Gyngorau syrth- io i mewn i'r trefniant ?-Y Clerc a ddywedodd ei fod ef o'r farn nad allai neb ddadgysylltu oedd mewn undeb yn flaenorol hyd nes y deuai yr amser i fyny (1910). Yr oedd ef wedi cael o Fwrdd y Llywodraeth Leol air yn erbyu ychwanegu at y cyd-bwyllgor presenol ond y gallai y Cyngorau cyfagos ofyn am wasanaeth Swyddog Meddygol y Cylch. Ystyriai ef (y Clerc) os oedd anhawsder gydag uno, yr oedd yn debygol y byddai anhawsder gyda lleihau. —Mr. J. Roberts a ddywedodd eu bod hwy a Llansantffraid wedi gwrthwynebu y cynllun hyd y gallent, am nad oeddynt yn ei ystyried yn deg i Sir Ddinbych dalu am Arolygydd Meddygol i Ysgolion Sir Gaernarfon, a hwyth- au yn gorfod talu am swyddog felly yn eu Sir eu hunain.-Y Clerc a eglurodd y gwahaniaeth oedd in ngwaith Swyddog Meddygol y Cyn- gorau, ac Arolygydd Meddygol yr Ysgolion. Hysbyswyd ef fod Sir Ddinbych wedi penodi Arolygydd Iechydol i'r Ysgolion. Deallai mai y wedd a gymerai y Cyngor ar y mater oedd eu bod yn gorfod talu ddwywaith am yr un gwaith megis: talu dros eu hysgolion eu hun- ain, a thalu dros Ysgolion Sir arall (Caernar- fon).—Y Cadeirydd a deimlai mai penu dau neu dri, gyda'r Clerc. i fyned i mewn i'r mater a fyddai oreu.—Clerc, Oni fyddai yn well i mi anfon at Fwrdd y Llywodraeth Leol i ddywedyd eich teimlad fel Cyngor ar y mater ? — Mr. J. Roberts, Yr ydym yn ymyl y penod- iad, ac y mae gwirionedd yn aros yn wirionedd o hyd.Cadeirydd, "Yr ydych yn iawn, ond beth yw gwirionedd ar y cwestiwn hwn yw y pwngc ? Dylid cael gwybod hyny i ddechreu." —- Cierc, Yr wyf wedi anfon at Fwrdd y Llywodraeth Leol ac y maent wedi ateb fel y dywedais." Mr. John Roberts a ddywedodd fod y Cyd-bwyllgor yn ystyried mai mantais ydoedd cadw yr Undeb er y talu y ddwy bunt ychwanegol.-Y Cadeirydd, "Y pwngc ydyw, A allwn ni ymryddhau oddiwrth y Cyd-bwyllgor? Nid yw y ddwy bunt yn fater i'w ystyried yn awr: chwe' phunt yw gwahaniaeth, a bod yn fanwl.tdr. John Roberts a ddywedodd fod y mater yn aneglur iawn iddo ef.—Clerc a ofynodd a'i ni ellid trefnu Ilai -i'r Cyd-bwyllgor o'r swm ychwaneg- ol oeddid yn awr yn ei olygu dalu oherwydd y gost o Arolygu Ysgolion Sir Gaernarfon ?—Mr. J. Roberts a ofynodd a wnai hyny ddwyn rhyw fantais iddyut hwy fel Dosbarth ?— Cadeirydd, "Yr wyf yn cynyg iod dau yn cael eu penodi i edrych i mewn i'r mater gyda'r Cierc." Cefnogodd Mr. David Owen, a phenodwyd y Cadeirydd a Mr. John Roberts, at y Clerc i chwilio i mewn i'r mater. Yr oedd Bwrdd y Llywodraeth Leol wedi anfon am gael adroddiad y Swyddog Meddygol ar y gwyn ddaeth oddiwrth Mr. David Hughes, Llythyrdy, Talycafn, am flieidd-dod honedig yn tarddu o garthffos y Gwesty gerllaw.—Yn 01 y Swyddog Meddygol, a'r Arolygydd, nid oedd sail i'r gwyn.—Pasiwyd i anfon adrodd- iad y Swyddog Meddygol yn unol a'r cais Daeth llythyr oddiwrth Mr. Aneurin O. Evans, ar ran David Hughes, ar yr un mater, yn dywedyd yr ymddangosai a flaen y Cyngor i drafod y mater, ond ni ddaeth. Hysbysodd Dr. Frazer i 11 o enedigaethau gael ei cofrestru yn ystod Gorphenaf, a 7 marwolaeth. Yr oedd dau achos o'r Twymyn coch wedi tori allan yn ystod y mis. Cwynid fod y Milwriad Higson, Plas Madog, wedi cau nifer o Iwybrau yn mhlwyf Llan ddoged. Wedi trafodaeth faith ar y mater, dywedodd Mr. David Owen pe buasai ef wedi cau y llwybr buasai yn cael ei orfodi i'w agor yn ddiymdroi. Paham yr oeddynt fel Cyngor yn gwneyd gwahaniaeth gyda dyn cyfoethog.— Clerc Y mae y ilwybrau ydynt yn gyhoeddus yn hoUol eglur ar y map.Mr. John Roberts a sylwodd nad oedd ef o blaid gwneyd dim i gyfreithio yn ei gylch.—Cadeirydd, Gadewch i'r sawl fyn gyfreithio wneyd hyny, ondnis gall wneyd niwed i ni gan mai amddiffyn eiddo y cyhoedd yr ydym."—Pasiwyd i anfon at y Milwriad Higson i ofyn iddo adfer yn ol yr holllwybrau cyhoeddus oeddynt mewn dadl ar ei dir yn mhlwyf Llanddoged. Mr. W. B. Halhed, Pendyffryn, a anfonodd lythyr yn gofyn i'r Cyngor osod rhybuddion i fyny wrth ei dy i rhybuddio modurwyr i beidio goryru eu moduriau wrth basio. Siarad yr oedd er mwyn ei ddiogelwch personol ei hun. —Y Clerc a ddywedodd mai mater i'r Cyngor Sirol oedd rheoli cyflymdra y moduriau ar y prif-ffyrdd. Rhoddodd y Clerc gynhodeb dyddorol o ffigyrau Iechydol am y Sir allan 6 adroddiad Dr. R. Stenhouse Williams. Ar fater yx poblogi, yr oedd pedwar yn mhob ty yn Llan- rwst ar gyfartaledd, tra yr oedd 6 yn mhob ty yn Colwyn Bay ar gyfartaledd. Felly nid ellid cwyno fod dim gor-lenwi yn nhai y Dos- barth. Ganwyd 105 yn y Dosbarth yn ystod y flwyddyn, ac yr oedd 7 o'r plant yn anghyf- reithlon. Yn hyn eto safai y Dosbarth allan yn bur dda o'i gydmaru a Dosbeirth eraill, megis Uwchaled, lie yr oedd 7 o'r 44 plant a anwyd yno yn anghyfreithlon. Rhagorai Dosbarth Chirk, lie y ganwyd 116 o blant, ac nid oedd ond tri o honynt yn angbyfreithlon.- Diolchwyd i'r Clerc an ei grynhodeb, a'i syl- wadau buddiol ar yr Adroddiad.
-.-LLANRWST.
LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Eglwys Sefydledig. St. Crwst.-10, Parch. D. C. Davies, B.A. 6, Parch. J. Morgan, B.A. St. Mary.—10, Parch. J. Morgan, B.A. 6, Parch. D. C. Davies, B.A. Y Methodistiaid. Seion.Parchn. Morris Morgan, Abertawe, a J. Wilson Roberts, Llundain. Heol Scotland.—Parch. Edward Davies, Llan- rwst. Yr Annibynw-yr. Tabernacl.—10, Cyfarfod Gweddio. 6, Parch. Aeronydd Enoch. Ebenezer.-Parch. J. Arfon Davies. Y Wesleyaid, Floreb.-OeAfaon. St. James (English Chapel).-Rev. M. Luther Mudd, Llandudno. Y Bedyddwyr. Penuel.—Parch. E. Cefni Jones, Blaenas Ffes- tiniog. TRWYDDEDOL.—Bu i'r ynadon yn Llys Trwyddedol Chwefror basio i beidio adnewyddu trwyddedau y Glanconwy Hotel, Cambrian Vaults, a'r Coach and Horses. Eisteddodd y Pwyllgor lawnyddu yn Colwyn Baydro yn ol, a phasiwyd i ganiatau trwydded i'r Cambrian Vaults, ond fod y ddau dy arall i gael lawn. Mewn cyfarfod dilynol o'r Pwyllgor gofynodd Mr. J. E. Humphreys, ar ran Mri. Soames, Wrecsam am £ 1,472 o lawn, a chynygiodd y Pwyllgor £ 500. Wrbyniwyd y cynyg.—Ar ran Mri. Ind, Coope, pSrchenogion y Glanconwy Hotel, gofynai Mri. Chamberlain a Johnson am am il .621 fel lawn, a bod £ 100 o'r swm i fyned i'r tecant, Mr. Thomns Chambers. Cynygiodd, y Pwyllgor £ 850 ar y deall fod y tenant yn cael £ 100 o honynt. tJofynodd y perchenogion am amser i ystyried a allent dderbyn y cynyg. Dydd Iau, eisteddodd y Pwyllgor draehefn, a darllenwyd llythyr oddi- wrth gyfreithwyr y perchenogion yn cydsynio i dderbyn £ 850. Bydd y ddau dy yn cael eu cau y diwrnod y telir yr arian. YR ARDDANGOSFA.—Cynhaliwyd Pwyllgor Gweithiol yr Arddangosfa prydnawn ddydd Mawrth, o dan lywyddiaeth Mr. Roberts, Cae'r Melwr, yr Is-gadeirydd. Gorphenwyd yr holl drefniadau at y dydd. Hysbysodd Mr. Watliag, yr Ysgrifenydd diwyd a difiino, fod y rhagolygon yn eithriadol o foddhaol, a bod yr entries yn dylifo i mewn. Nid oedd arnynt eisiau dim:ond tywydd ffafriol na byddai hon yn Arddangosfa na bu ei thebyg o ran llwydd- iant yn mhob ystyr. Teimlai y Pwyllgor yn galonog iawn wrth glywed y newyddion hyn gan yr Ysgrifenydd, Cynhelir yr Arddangosfa ddydd Iau nesaf ar Bare Gwydyr, a gwasan- aethir gan Seindorf ertwog Oakeley. Cafodd Mr. Hugh Pierce, cynhebrwng lluosog nodedig ddydd Iau diweddaf, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Edward Davies; Peter Jones Roberts, Cadeirydd yr Ail Dalaeth Weeleyaid Cymreig; a John Gower, Rheithor Trefriw. Wrth y bedd gan y Parchn. John Morgan a D. C. Davies. Yr oedd yn hawdd gweled fod gwr mawr ac amlwg wedi ei dori i lawr yn y dref, a bod galar mawr am dano yn mhlith y trigolion. Heddwch i'w lwch yn mynwent St. Mary hyd ganiad yr udgorn. YMGYRCH ADLONOL.—Dydd Iau, ar Gae Careg Ednyfed, roddwyd yn fenthyg gan Mr. William Jones, The Hand, cynhaliwyd Ym- gyrch Addlonol (Fete) lwyddianus er budd Trysorfa Organ Capel Seion. Cafwyd tywydd nodedig o ffafriol, a chymerodd tua chwe' chant ran yn y gweithrediadau. Yn mhlith y rhai oedd yn bresenol, yr oedd y Milwriad Higson, Mrs. Priddle, Sir John Herbert Roberts, ac Arglwyddes Roberts. Yr oedd Seindorf Arian Oakeley yno yn dyddori y dorf fawr gyda'u chwareu chwaethus a choeth trwy y prydnawn, a rhoddasant foddhad cyffredinol. Y Milwriad Higson wrth ddatgan yr Ymgyrch yn agored, a alwodd sylw at y pwysigrwydd o gael undeb rhwng yr holl Eglwysi Protestanaidd a'u gilydd, a'r boddhad oedd iddo ef roddi ychydig gynorthwy at wneyd y mudiad yn llwvddianus. Rhoddodd Syr John air uchel i'r Milwriad, a datganodd ei foddhid ei hun ac Arglwyddes Roberts i fod yn bresenol.-Ar gynygiad Mr. William Hughes, U.H., a chefnogiad Mr. D. J. Wil- iams, pasiwyd pleidlais o ddiolch cynes i'r Milwriad, Syr "John ac Arglwyddes Roberts, am eu presenoldeb a'u cefnogaeth. Wedi i nifer o enethod ddatganu, a'r Seindorf chwareu, agorwyd y gweithrediadau o ddifrif. Deallwn i'r Boneddigion Anrhydeddus gyfranu yn syl- weddol at y drysorfa, a chafwyd cryn garedig- rwydd gyda rhoddion o Flodau at y Stall. Gweithiodd Mr. W. Lloyd Roberts, yr ysgrif- enydd, yn ddiwyd iawn er dwyn pobpeth i derfyniad llwyddianus, ac y mae dod mawr yn ddyledus iddo am hyny. Cymerodd y rhai canlynol ofal o'r Stalls:- REFRESHMENT STALL,—Mrs. Thomas, Frondeg (Llywyddes); Mrs. Rogers Jones (Trysoryddes) Mrs. Owen, Greenwich House, a Mrs. Williams. Gwynfryn (Ysgrifen- yddion); Mrs. Pierce, Dyffryn Aur; Mrs. Roberts, Fron; Mrs. W. H. Williams; Mrs. T. R. Jones; Mrs. Mosses Evans Mrs. Wil- liams, Preswylfa; Mrs. Hughes, Cambrian Vaults; Mrs. Roberts, Eagles Hotel; Mrs. D. J, Williams; Mrs. W. Hughes, Gwernfor; Mrs. H. Hughes, Dolwar; Mrs. Jones, The Hand; a Mrs. Jenkins, George Street. t Flower Stall. Mrs. Owen, Bodynyr (Llywyddes); Mrs. J. Hughes (Ysgrifenydd- es) Mrs. Evans, George Street; Mrs. Jenkins, Eirianfa; Mrs. Roberts, Cartrefle; Mrs. Dr. Lloyd Williams; Mrs. Chambers, Minafan; a Mrs. D. Jones, Watling Street. Flower Girls,—Misses Gwydeth Roberts, Madge a Florie Jenkins, Menai Williams, Madge Chambers, Jennie Evans, Mona Wil- liams, Kate Hughes, Doris Roberts, Mary Owen, a Maggie Jones. Shooting Gallery,—Mri. R. G. Owen, a J. Williams, Gwynfryn. Field Stewards,-Mri. D. J. Williams, E. Hughes, Evan Pughe, Tudor Williams, a John Hughes. Troes y Cyngerdd gynhaliwyd yn yr awyr agored yn llwyddiant mawr, a threfnwyd ef gan Mr. Lloyd Roberts. Cyfeiliwyd gan Mr. D. D. Parry. Datganwyd gan Mr. Fred Roberts, Lerpwl; Miss Jones, y gantores aur- dlysog o Ty Newydd, Llanfaelog, Mon; Miss Louisa Roberts, Caergybi; a Mr. Watkin Williams, Caernarfon. Chwareuwyd y Man- doline gan Mr. Banks, Porthmadoc; a chymerodd parti o Nantlle ran yn y Cyngerdd. Cafwyd hwyl neillduol gyda'r chwareuon oeddynt o dan ofal Mri. O. Isgoed Jones, J. Jenkins, Ll. Humphreys, Dennis Jones, a J. R. Chambers (Ysgrifenydd), a chafwyd achos mawr i chwerthin gyda'r ymladdfa glustogau. Enilliwyd fel y canlyn: —Neidio uchel (bechgyn), Dyfed Roberts. Eto (agored), Norman R. Jones. Can' Hath o redeg (i fechgyn), Frank Lloyd. Rhedeg gyda llwy ac wy (i fercbed), Miss Leta Rogers Jones. Manx Race (i fecbgyn) Owen Parry a D. Pritchard. Eto (agored), Arthur Richards, ac A. Jones. Ymladd gyda chlustogau, A. Richards. Cloch a chlustog, Dyfed Roberts. Manx Race (i ferched), Nora a Nancy Jones. HEDDLYS.—Dydd Llun, o flaen y Milwriad Johnstone, Dr. Jones, L. W. Jelf Petit, Wil- liam Hughes, Edward Mills, W. J. Williams a J. R. Williams, Ysweiniaid. Mary Knowles, Pentai, Glanconwy, a Jane Knowles, Bryn Rhys, Glanconwy, a gyhudd- wyd o fod yn feddw ac afreolus. Yr oedd y ddwy yn hen ffrindiau, ac wedi bod yn Llan- dudno gyda'u gilydd. Pan ddycbwelasant yr oeddynt yn bur gwerylgar.—Dirwywyd Mary i swllt a'r costau a Jane i haner coron a'r costau. Yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd Ellen Mullens, Scotland Street, Llanrwst, o arfer iaith aflan, a'i gwr Richard Mullens, o fod yn feddw ac afreolus.—Tystioddy swyddog fod Ellen yn tyngu a rhegi am awr heb ymatal, a chyfranai Richard ran helaeth o iaith aflan.- Dirwy haner coron yr un a'r costau. Boreu ddydd Mawrth, o flaen Mri. Isgoed Jones a William Hughes, cyhuddwyd Mary Walls, heb gartref sefydlog, o fod yn feddw ac afreolus, a thori ffenestr y gell.—Anfonwyd hi i garchar am fia.
VWWVAA»V\^/WWVWWWVWWV BWRDD…
VWWVAA»V\WWVWWWVWWV BWRDD Y QWAROHEIDWAID I PENRHYNDEUORAETH. Cynhaliwyd yr uchod yn y Tylotty ddydd Mawrth diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. W. Jones, ac yr oedd hefyd yn bresenol Mri. E. Llywellyn, Owen Evans, Robert Evans, John Roberts (Trawsfynydd), William Wil- liams (Trawsfynydd), Jonn Pierce, David Pugh, W. W. Morris, E. M. Owen, Richard Roberts, Richard Williams, William Wil- liams (Ffestiniog), E. W. Morris, 0. H. Lewis, E. Tegid Jones, John Williams Mri. W. Thomas, J. B. Jones, a Richard Parry (Swyddogion Elusenol); Thos. Roberts, (Clerc), a D. Jones (Clerc Cynorthwyol). Y Ty. -_u I Gorphenaf 29, daeth John Williams, gynt o Tyddyngwyn, Ffestiniog i'r Ty trwy archeb Mr W. Thomas, ac yr oedd 5/2J yn ei logell. Awst 1, daeth Margaret Jones, 18 oed, gynt o Tanygrisiau, i'r Ty yn ddrwg ei chyflwr. Daeth yma o Toxteth Park, Lerpwl. Awst 8, aeth Jane Williams, gynt o'r Gelli, allan o'r Ty. Awst 8, symudwyd Richard Williams, gynt o Dolbenmaen i Wallgofdy Dinbych. Awst 2, aeth John Griffiths, 44 oed, allan o'r Ty i chwilio am waith a daeth yn ol y diwrnod dilynol. Awst 6, yr oedd John Jones, o Maentwrog yn ymddwyn yn hollol afreolaidd yn y Ty, tuagat y Swyddogion a'r rhai oedd yn y Ty, a rhodd- wyd ef mewn ystafell ar ei ben ei hun ftm 24 awr ar fara a dwfr, ac yn y diwedd gorfuwyd bygwth myned ag ef o flaen yr Ynadon. Yn y Ty 82 ar gyfer 73 yr un adeg y llynedd, a galwodd 23 o grwydriaid yn y Ty yn ystod y ddwy wythnos ddiweddaf. 01 a Blaen. I Yr oedd dynes o Ffestiniog,\sef Jane Wil- liams, yn myned o'r Ty yn ol a blaen, ac yn camymddwyn at bawb yn y Ty, a phasiwyd os y byddai yn myned allan etc, y byddai raid iddi g)meryd ei lleyn y Ty fel Tramp. Y Swyddog A yw hyny yn gyfreithlon. Y mae yn perthyn i'r Undetir? Y Clerc Gellwch roddi tocyn iddi ddod i'r Ty fel Tramp. Bydd hyny yn gosb arni. YnGwella. I Mr, J. B. Jones Y mae saith o blwyfi yn fy I nosbartb i, ac nid oes ond un o honynt yn gof- yn am elusen (clywch, clywch). Mr. Richard Roberts Gobeithio y bydd y plwyf hwnw heb yr un y tro nesaf, Eisiau dod o flaen y Bwrdd. Gofynai gwraig weddw 31 oed, ac un plentyn am gael dod o flaen y Bwrdd, ac wedi peth dadleu caniatawyd iddi. Dywedai ei bod yn gweini ar hyn o bryd, ac yc cael £4 am hyny bob haner blwyddyn, ac yr oedd yn talu 2/6 yr wythnos at gadw ei phlentyn, ynghyd a rhoddi esgidiai a dillad iddo. -Yr oedd yn wan ei hiechyd neu ni fuasai yn dod ar eu gofyn.- Mr. E. M. Owen a gynygiai roddi elusen os y eaffal dystysgrif feddygol.-Mr. Richard Wil- liams a gynygiai beidio rhoddi. Yr oedd llawer o rai fel hyn yn byw heb gael dim o'r plwyf. Mr. Owen Evans a gynygiai roddi 2/- yi wyth- nos, a chefnogodd Mr. E. Llewelyn, a phas- iwyd bron yn unfrydol.—Yr oedd yn wraig wraig er's dros ddwy flynedd wedi claddu ei gwr yr hwn oedd yn 84 oed. Paham 7 Daeth dyn o Harlech, yr hwn sydd yn aros yn Neheudir Cymru ar hyn o bryd o flaen y Bwrdd, Yr oedd yn talu 2/- yr wythnos at gadw ei fam, a phaham meddai na wnewch i fy mrawd sydd yn ffarmwr dalu hefyd.—Mr. Richard Williams A oes ganddo foddion ?— Y Dyn Y mae eraill yn gwybod ei hanes yn well na fi. Eisiau i chwi roddi ychydig arno fel y finnau sydd arna' i. Gwnewch yn deg. Nid wyf fi yn gwarafun talu, ond dylai fy mrawd wneyd hefyd, pe bai ond chwe' cheiniog.—Aeth y dyn allan, a sylwodd y I Cadeirydd nad oedd gan ei frawd foddion o gwbl, a gadewch i hwn fyned i'r South yn ol (chwerthin) Gwrthod. I I LTwrtnodwyd 1 John iJarry (yr Hen boldier;, ddod o flaen y Bwrdd. Hysbysai y Swyddog fod ganddo ystori newydd y tro hwn, sef fod ei ferch yn foddlon ei gymeryd ati i Sir Fon ond cael rhyw 2/- drosto. Arianol. Talwyd allan yn ystod y ddwy wythnos ddi- weddaf fel y canlyn :-Dosbarth Deudraeth ?70 5s 3c; Ffestiniog ?115 2s 9c; Tremadoc ?78 14s 6c; cyfanswm .?264 3s 6c. Yn eisiau fel y canlyn: Tremadoc £ 78 Ffestiniog [110; Deudraeth £68.
Dyngarwch Cymro Seuangc o…
Dyngarwch Cymro Seuangc o ] Lanrwst. Yn y Daily News Advertiser," Vancouver, British Columbia, am Gorphenaf 21, gwelwn hanes damwain ddifrifol ar y Rheilffordd rhwng Vancouver a Seattle. Tua 3,,o'r gloch boreu Sul aeth y tren ar draws tfiyw berson anffodus gan ei ladd yn y fan. Yr arwydd gyntaf gafwyd fod dim allan o le ydoedd i'r tren stopio yn sydyn, a'r peirianydd yn gwaeddi fod rhywun wedi neidio o flaei y peiriant. Aethpwyd i chwilio am y creadur anffodus, a chafwyd ei aelod tu ol i'r cerbydau, a'r corph wedi ei wasgu i fyny o dan un o'r cerbydau. Y fath oedd grym y llusgo ofnadwy fu arno ar hyd y llawr a'r rheiliau fel ac i rwygo ymaith bob edefyn o ddillad oedd am dano. Yr oedd Mr. Louis Roberts, Myfyriwr Medd- ygol ieuangc, mab Mr. W. Lloyd Roberts, Avondale, Llanrwst, yn digwydd bod yn y tren, a lapiodd y corph mewn coat i'w ddwyn i Bow i gael treDgholiad arno. Canmolid y weithred ddyngarol hon yn fawr gan y cyd- deithwyr.
BETTWSYCOED. I
BETTWSYCOED. At Drigolion yr ardal a'r amgylchoedd. Y mae Wm. Williams, Pontypair Shop yn dymuno hysbysu ei fod wedi cael pob math o BATRYMAU newyddion at y tymhor dyfodol mewn Siwiiau dynion a bechgyn am brisiau hynod o resymol. Siwtiau i ddynion am 18/- i fyny. Trowsusau o 6/6 i fyny. Hefyd mewn amrywiaeth mawr i blant am brisiau rhesymol. Gwarentir fit a'r Style diweddaraf. Gellir eu cael ar fyr rybudd. Hefyd Job math o Grysau, Hosanau dynion a Scarfs. Dymunem eich cefnogaeth.—ADV. HEDDLYS.—Dydd Sadwrn, o flaen y Mil- wriad Johnstone, ac ynadon eraill. William Jones, Pentredu, Bettwsycoed, a ,gyhuddwvd o fod yn feddw ac afreolus.— Dirwy 5/- a'r costau, neu saith niwrnod o garchar. Caniatawyd trwydded arbenig i Mr. Edward Bickers, New Inn, Llanrwst, i werthu diodydd ar gae Arddangosfa Llanrwst, Awst 20. Cyhuddwyd George H. Harvis, 11, Breck- nach Road, Kentish Town, Llundain, o fethu dangos ei drwydded modur, ac o fod heb oleu o'r tu ol i'w gerbyd.-Taflwyd yr achos allan ar daliad y costau. Kate Ann Evans, Pontypant, Dolwyddelen, gynt yn gwasanaethu yn Pengwern, Bettws- ycoed, a ofynodd am archeb yn erbyn Robert Hughes, Mill Street, Bettwsycoed, i'w orfodi i dalu at fagu ei phlentyn anghyfreithlon o hono.—Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros. yr Hawlyddes, a Mr. E. Davies-Jones dros y Diffynydd.-Galwyd nifer fawr o dystion, a gwnaeth y Faingc archeb am 2/6 yr wythnos a'r costau.
'''VV'"vvvvv'Vv VV,V"'Y''VV"…
'VV'"vvvvv'Vv VV,V"'Y''VV" 'V V V vV" v v"y v LIanc o'r Blaenau a'i Goliedion. Yn Heddlys Gwrecsam, ddydd Mawrtb, cyhuddwyd un Samuel Hughes a'i wraig Margaret Hughes o ladrata watch arian berthynol i Robert Jones, Dolgarregddu, Blaenau Ffestiniog. Cyrhaeddodd Robert Jones i Wrecsam ychydig ddyddiau yn ol, i edrych am waith. Dydd Gwyl y Banciau, bu'n ymddiddan a'r ddau garcharor, a chawsant amryw laseidiau o ddiod gyda'u gilydd. Cychwynodd y tri ar ol hyny am Brymbo, ac ar y ffordd troesant i gae i gysgu. Yr oedd Jones yn feddw. Pan dde- ffrodd o'i gwsg yr oedd y carcharorion wedi myned i ffwrdd, ac yr oedd ei Watch, ei esgid- iau, a phethau eraill oedd ganddo wedi diflanu. —Anfonwyd y ddau i sefyll eu prawf, AA.
- - -- w-- _- w -I .vvvLiadrata…
w- w -I v v v Liadrata Deugain Punt. v v Yn heddlys Wrecsam, ddydd Mawrth, cy- huddwyd glowr o'r enw John William Welch, weitbiai hyd yn ddiweddar yn Nglofa Gwer- syllt o ladrata deugain punt o'i lety. Yr oedd yn lletya gyda Albert Edward Parsonage, yn Summerhill hyd Ebrill, pan y diflanodd yn ,sydyn. Yr oedd Parsonage wedi cael iawn o £ 240 am golli aelod, a dod- odd hwy yn yr Ariandy. Cododd beth o honynt, a chadwodd hwy mewn cash box yn y ty yn bunoedd, ganl ei ddodi yn y drawer. Diflanodd Welch un diwrnod pan oedd gwr a gwraig y ty yn Nghaer, a chafwyd fod yr arian wedi eu lladrata. Wedi ei gymeryd i'r ddalfa addefodd y carcharor iddo ddwyn yr atian, a'u gwario am ddiod a gamblo.-Anfonwyd ef i sefyll ei brawf. #
r BLAENAU IFFESTINIOG.
r BLAENAU FFESTINIOG. FFRWYTHAU.-Stoc newydd o Ffrwythau Ffresh rhagorol. Egg Plums am 2g. y pwys. Plums goreu 4c. yr wythnos, hon, gan E. B. Jones & Co., Canton House. Y mae pob math o Picture Post Cards i'w cael yn Shop Y Rhedegydd" am lg, yr un. NOFF-L.-Gellir cael y Nofel newydd bob- logaidd Arwriaeth John Anthony, neu Ramant Bywyd Cymro" gan Lyfrwerthwyr y dref. Myned pawb oiwg ar y llyfr hynod hwn. CADAIR ETO.-Y mae genym i longyfarch ein cyfaill talentog Bryfdir yr wythnos hon etc ar ei waith yn enill Cadair gwerth pedair punt, a phum' punt o wobr yn Nghastell Newydd Emlyn, gyda Phryddest ar Hydref Einioes." Y Beirniaid oeddynt Gwylfa a Brynfab. Hir oes iddo eto i ddwyn anrhydedd pellach i'n plith. PREGETHU.—Nos Wener diweddaf, yn nghapel Trefeini, traddododd y Parch. D. Hoskins, M.A., Bethesda, bregeth ragorol i gynulleidfa dda. Y SEINDORF .-Dydd Iau diweddaf, aeth Seindorf Arian Oakeley i lawr i Lanrwst i wasanaethu mewn Ymgyrch Adlonol. Rhodd- odd eu gwasanaeth foddlonrwydd llwyr i bobl y dref ac edrychir yn mlaen am eu dyfodiad yno eto i chwareu i Arddangosfa Fawr Nant Conwy, a gynhelir ar yr 20fed o'r mis hwn. AR EU GWYLIAU.—Y mae liu mawr o drig- olion yr ardal yn awr yn treulio eu gwyliau ar hyd glanau y mor, ac yn mwynhau eu hunain yn iawn. CYNGHERDD.—Nes Iau diweddaf, yn y. Neuadd Gynull, cynhaliwyd Cyngherdd er budd Mr. Edward Parry, Tyddyn Dewyn, Dorvil Road, pryd y gwasanaethwyd gan y datganwr poblogaidd Mr. Emlyn Davies, A.R.C.M Cefnmawr; CorMeibiony Moelwyn yn cael eu cynorthwyo gan amryw o dalentau lleol mewn canu ac adrodd. Llywyddwyd gan y Parch. T. H. Hughes, Ficar St. Dewi; ac arweiniwyd gan Mr. H. Jones, (Bryfdir). Dilynwyd y cantorion ar y berdoneg gan y cyfeilyddes medrus Miss A. E. Owen-Davies, A.R.C.M. Cafwyd Cyngherdd rhagorol iawn. Y CYNHAUAF GWAIR.-Prysurdeb mawr a welir y dyddiau hyn mewn amryw leoedd yn y Cylch gyda'r Cynhauaf Gwair. Pawb wrthi a'u holl egni yn ceisio ei gael i ddiddosrwydd, cyn i lawer o wynt Awst a'i lifogydd ymarllwys ac anadlu arno. YR ARDDANGOSFA ARDDWROL.-Fel y mae yn wybyddus i bawb erbyn hyn, y cynhelir Arddanghosfa Arddwrol Ffestiniog, ar y 29ain o'r mis hwn, yn Ysgol y Cynghor, Ffestiniog. Dymunai yr Ysgrifenyddion ar i bawb gofio y bydd yr Entries yn cau ar y 15fed o'r mis hwn, sef y Sadwrn nesaf. YN DYCHWELYD.—Ddechreu yr wythnos hon, dychwelodd llu o'n dynion ieuainc yn ol am y Pyllau Glo, wedi bod adref yn treulio ychydig o wyliau. Bydd y gweddili yn ymad- ael o hyn i ddiwedd yr wythnos hon. Dym- unwn iddynt oil tra oddicartref bob dedwydd- wch a llwyddiant. AR EU GWYLIAU.-Y mae llu mawr o dri- golion yr ardal yn awr yn treulio eu gwyliau ar hyd glanau y mor, ac yn mwynhau eu hnnain yn iawn. Y DIEITHRIAID.—Ni welwyd cymaint o ddieitbriaid yn ein hardal er's llawer blwyddyn ac a welir y dyddiau hyn, a golwg arnynt eu bod yn mwynhau eu hunain yn fawr yn awelon iach y mynydd. CERDDOROL.—Llawen genym gael llon- gyfarch Mr. D. R. Jones, Birkenhead, gynt o'r Swyddfa hon, ar ei lwyddiant eithriadol yn Eisteddfod Newmarket Gwyl y Banciau. Enillodd y wobr gyntaf gyda'i Gor Cymysg, yr ail gyda'i Gor Meibion, y cyntaf gyda'i Barti Cymysg. Cyntaf ar Unawd Baritone ac ar y Ddeuawd, Anaml iawn y clywir am y fath lywydd wedi disgyn i ran yr un un mewn cynifer o gystadleuon yr un dydd. Dymunol iawn oedd genym weled yr hanes am dano fel un o fechgyn y Blaenau. LLYTHYRAU.—Y mae ein Postfeistr poblog- aidd wedi cydsynio i ddodi box llythyrau gyferbyn a Chapel Bethania, lle'r oedd yr hen bwmp." Bydd hwn yn sicr o fod yn hwylus iawn i'r rhan hon o'r ardal. MODDION Y SABIBOTH.-YN y Capel Seisnig, gwasanaethir y Sabboth nesaf, gan Dr. Egryn Jones, Llundain; ac yn Calfaria gan Mr. Iorwerth Hughes, Blaenau Ffestiniog, ac nid fel yr hysbysir genym yn ngholofn y Cyhoedd- iadau.
Family Notices
Gonedigaethau. DAVIES.-Y 9fed cyfisol priod Mr John Davies, Llys Alaw, Wynne's Road,—ar fab cyntaf- anedig) EVANS.-Dydd Sul, Awst 9, priod Mr. Evan Evans, Tai Isaf, Tanygrisiau, ar ferch. Priodasau. HARGRAVES—ROBERTS.—Awst 1, yn Nghapel Calfaria, Blaenau Ffestiniog, gwasanaeth- wyd gan y Parch. E. Cefni Jones, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. Hugh Roberts, B.A. (brawd y priodferch), yn mhresenoldeb y Cofrestrydd, Mr. Richard Jones, Mr. James Hargraves, Blackburn, a Miss Alice Roberts, 11, Leeds Street, Blaenau Ffestiniog. Gwas- anaethwyd fel gwas gan Mr. Albert Har- graves (brawd y priodfab), ac fel morwyn gan Miss Elizabeth Roberts (chwaer y priod- asferch). Ymadawsant am Aberystwyth i dreulio eu mis mel. JONES—HUGHES.—Awst 7, yn Nghapel Maen- offeren, gan y Parch. R. R. Morris yn mhresenoldeb Mr. Richard Jones, Cof- restrydd, Mr. Lewis Jones, Cromwell Street, a Miss Edith Hughes, Hope Villa, Cwm- bowydd Road:—y ddau o Blaenaa Ffes- tiniog (y Farddoniaeth yn ein nesaf).