Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

IlultODIADAU WYTHNOSOLI

Ewyllys -Pendefig.-1

I Ewyllys A rail.-----1----.-…

'Tlodi. 'I

Codi Bwganod.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Codi Bwganod. I Pan y bydd y llynges Brydeinig yn myn'd trwy ymarferladau o fath arbenig-pan y bydd er engraifft yn ymranu yn ddwy, ac yn ymladd ffug frwydrau ar y mor, cyhoeddir rhybuddion a'u dyben i gadw llongau mar- siandol rhag niwed. Hysbysir hwynt y byddai yn beryglus iddynt geisio myn'd yn y nos i borthladdoedd a enwir, a nodir ar- wyddion a ddangosant mai o'r braidd y mae'n ddoeth fyn'd iddynt unrhyw ddyben arall heblaw diogetu llongau marsiandol. Yehydig ddyddiau yn ol cyhoeddodd Lly- wodraeth yr Almaen rybuddion o'r natur yma, ac y mae rhai ynfydion wedi brysio i i haeru fod y Llywodraefh hono yn gudd yn gwneyd parotoadau i ryfel, a hwnw yn rhyfel yn erbyn Prydain Fawr. Yn naturiol yr ydym yn dwyn sel dros ryddid y Wasg. Dywedwn yr un pryd na ddylid goddef i rai newyddiaduron gamarfer y rhyddid hwnw trwy fanteisio arno i gamliwio ffeithiau syml, ac i godi bwganod sydd nid yn unig yn dychrynu pobl ddiniwed, ond hefyd yn cyn- yrchu drwg deimlad a ddichon arwain i ryfel rhwng teyrnasoedd nad oes reswm yn y byd dros iddynt fpd yn elynion a cheisio niweidio eu gilydd tra y mae rhesymau lawer dros iddynt fod yn gyfeillgar a cheisio gwneyd daioni i'w gilydd. Mae'r rhai sydd yn gwneyd drygwaith felly er mwyn budr-elw yn haeddu eu cosbi yn drwm.

Y Fasnach Lechi.-1

Toriad gwawr yn Twrci.

GwastrafF Ofnadwy.

-.-;- . Ymfudwyr.

Qwaith y Barnwr Vaughan Wil--liams.-