Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Adeg Golchi Defaid. GAN fod yn rhaid Golchi yr oil o'r Defaid eleni DDWYWAITH, y cyfnod cyntaf cydrhwng Mehefin laf ac Awst 31ain, 1908; a'r ail gyfnod o Medi y laf hyd Tachwedd y 30ain, yn ol archeb Bwrdd Amaethyddol, y mae cyflenwad rhagorol o DIP M RI. MC'DOUGALL i'w gael yn Shop Isaf, Maentwrog, wedi eu pacio i fynu mewn ffurfiau hwylus-caceni un pwys a phum' pwys yr un; a Blocks 16eg mewn box pren am 6s. 6c. yr un. Dyma hwyrach y ffurf rataf-daw felly o dan bum' ceiniog y pwys. Eto mewn Tyniau 5 a 10 pwysi; Bwcedi 20 a 25 pwys yr un. Mae y ffurf toesog (Paste) i'w ddefnyddio gyda dwfr poeth. Eto Label Glas i'w ddefnyddio gyda dwfr oer, y mae y ffurf yma yn hwylus yn y mynydd. KHODDIR benthyg Machine at Dippio yn RHAD i bawb a bryno MC'DOUGALL'S DIP genyf eleni, a dymunir ar i'r Ffermwyr GYD-DREFNU i ddefnyddio y cyfryw pan yn eu cymydogaeth er mwyn ei symud i leoedd eraill, fel y gellir gorphen yr oil erbyn diwedd y ddau gyfnod. YMOFYNEB am y Forms priodol i'w rhoddi i'r Heddgeidwaid, a deuer a'r archebion ar unwaith, naill a'i i SHOP-YR- ERYR, Blaenau Festiniog, neu SHOP ISAF, Maentwrog, Tanybwlch. AWST, 1908. T. ROBERTS. Why Pay 01d=Fashioned High Prices for TEA? When the VERY BEST WILL COST YOU, ONLY THE VERY BEST 1/4 WHY PAY MORE? MAYPOLE DAIRY COMPANY, LTD. 12, CHURCH STREET, BLAENAU FESTINIOG. The Largest and Cheapest Retailers. Branches Everywhere. Mr. OWEN, L.D.S., R.C.S., (London), DENTIST, LLYS DORFIL, New Market Square, Blaenau Ffestiniog. Gellir ei weled yn BLAENAU FFESTINIOG, bob Dydd Llun o 10 hyd 8 Boreu Dydd Iau o 10 hyd 1 a Boreu Gwener o 10 hyd 1 o'r gloch. LLANRWST, bob Dydd Mawrth a Dydd Mercher o lleg hyd 5 o'r gloch yn nhy Mrs. Parry, Station Road. ARE YOU V interested in Birthday Cards & Picture PostsCards ? IF SO, we respectfully call your attention to the I HIGH CLASS & ARTISTIC STOCK which we have now on Hand. PICTORIAL LETTER CARDS i Containing 12 North Wales Views, very artistically printed, for ONE PENNY. Post Card Frames & Post Card Blotting Pads, 6d. each. Children's School Bags and all School Requisites. APRON FILES, Is. & 6d. each. ANCHOR FILES, from 5s. 6d. Rhedegydd Office, BI. ffestinio. ASSEMBLY ROOMS, BLAENAU FFESTINIOG, ,FRIDAY EVENING, August 28th, 1908. A GRA:ND miscellaneous Concept will be held at the above place, when the following Artistes will appear « Soprano;—Miss ALICIA M. COVE, Of Colston Hall, Bristol; Soloist with the Royal Welsh Male Choir, and United States Tour, 1906. Baritone :-Mr. JOHN DEVONALD, The Renowned Penillion Singer Winner of Nine Prizes National Eisteddfod of Wales. Ctarionettist :—Mr. L. 0. MORRIS, Principal Soloist to the Aberdare Orchestral Society. Harpist:—Mr. TOM BRYANT, A.R.G.M., Harpist to the Marquis of Bute Winner of 10 First Prizes National Eisteddfod of Wales. Solo Pianist and Accompanist ;-Prof RICHARD HOWELL s ABERDARE. Doors open at 7, to commence at 7-30 p.m. Proceeds to enable the Royal Oakeley Silver Band to compete at Llangollen and Belle Vue Contests. Tickets, 2/ 1/ -/6.
IlultODIADAU WYTHNOSOLI
IlultODIADAU WYTHNOSOL I Y Brenin a'r Ymherawdwr. I I Boreu ddydd Mawrth, bu i'r Brenin, ar ei ffordd i Marienbad, yn Awstria, alw i edrych am Ymherawdwr yr Almaen. Aeth yr olaf i orsaf Cronberg i'w gyfarfod, ac aethant ill dau ynghyd i gastell gerllaw lie y trigai un o dywysogion brenhinol yr Almaen. Mae Hawer o ffolineb wedi ei draethu yn ngholofnau rhai o'r newyddiadur- on dyddiol yn nghylch y mater. Myn rhai o'r bobl sydd yn gwybod y cwbl fod y cyfar- fyddiad wedi ei drefnu er mwyn i'r ddau deyrn ddyfod i gytundeb ynghylch materion sydd yn peri rhyw gymaint o chwerwder teimlad rhwng Prydeinwyr ac Almaenwyr. Tybiant y gallai y Brenin a'r Ymherawdwr mewn haner twr benderfynu materion an- hawdd a dyrus iawn. Hyd yn oed pe buasai ganddynt allu, nid oes ganddynt awdurdod. Yr unig beth sydd yn hollol sicr ydyw na chyll y Brenin Iorwerth yn un cyfle a ddichon gael i weithio ymhlaid heddwch a chymdog- aeth dda. Os ydyw yr Ymherawdwr Gwil- ym o'r un yspryd ag ef, ni ddichon niwed, ond gall rhyw gymaint o les ddeilliaw o'u hymgyffathrach.
Ewyllys -Pendefig.-1
Ewyllys Pendefig. -1 Yr wythnos ddiweddaf profwyd Ewyllys Iarll Derby, yr hwn a fu farw ddau fis yn ol, a phrisiwyd yr eiddo a adawodd yn R3,777, 139. Gan ei fod yn arferiad i brisio yn isel iawn pan y prisir er mwyn jprofi ewyllys, gellir bwrw fod yr eiddo yn werth, o'r hyn lleiaf, £ 4,000,000. Rhaid fydd i'r cymun- weinyddwyr (diolch i'r diweddar Syr Wil- liam Harcourt) dalu toll o P,500,000 i'r LIywodraeth, ond bydd gwerth y gweddill yn dair milliwn a haner o bunau. Veddill arferthol ymatelir ychydig gymunroddion i rai oec'dynt yn ngwasanaeth yr Iarll, a rhenir y gweddill rhwng ei berthynasau. Cofier fod y gwr a adawodd y swm yma ar ei ol wedi etifeddu rhan ohono ac wedi cael y gweddill yn ffurf rhenti ffermydd, seil-renti, &c. Ni enillodd ond ychydig iawn o filoedd o bunau y rhai a dalwyd iddo fel cyflog. Ni farnodd yn briodol adael cymaint a cheiniog i Gym- deithas grefyddol, na chymdeithas elusengar. na chymdeithas ddyngarol; gadawadd y cwbl i ychydig bersonau er mwyn rhyddhau y ffordd iddynt gael byd da yn helaethrwydd beunydd, a. threulio eu hamser i ymddifyru. Ni ddylai peth fel hyn fod yn bosibl. Nid yw'n rhesymol ei fod yn bosibl i un dyn ben- tyru cymaint o gyfoeth, hyd y nod pe buasai ganddo ewyllys i'w ddefnyddio yn y modd mwyaf manteisitil i gymdeithas a chan ych- ydig iawn o gyfoethogion y mae ewyllys i wneyd hyny. Mae un ffaith fel hon yn dra effeithiol i barotoi ffordd Sosialaeth, a chofier fod Sosialaeth yn dyfod. Pan y daw gwna beth fel hyn yn 4nmhosibl, a goreu po gyn- taf y gwna hyny. Mae yn ein gwlad ormod o gyfoeth yn nwylaw ychydig bersonol a gormod o dlodi yn agos atynt. Confucius (os ydym yn cofio yn iawn) a ddywedodd mai un o'r arwyddion sicraf o gamlywodraeth mewn gwtad yw fod ynddi gyfoeth mawr a thlodni mawr. Mae y ddau beth yma yn agos iawn at eu gilydd yn ein gwlad ni, a goreu po gyntaf i'n gwladweinwyr edrych yn ngwyneb y ffaith a'i hystyried yn ddwys. Trwy ddiwygiad mewn pryd yn unig y gellir rhwystro chwildroad.
I Ewyllys A rail.-----1----.-…
Ewyllys A rail. -1 I Y mae yn ewyllys y diweddar Filwriad, I Pilkington, o St. Helens, rai pethau hynod ac awgrymiadol hefyd. Yr oedd ef yn berch- enog gweithfeydd glo, etc., yn yr ardat hop, a gadawodd ar ei ol eiddo gwerth £ 692,858' gan adael y cwbl i'w weddw a'i feibion. Er hyny, dangosodd fod ganddo ryw gymaint o ofal am fuddianau y cyhoedd. Gadawodd ei diroedd i'w fab hynaf ar yr amod nad yw i ganiatau i neb godi arnynt yr un dafarn, nac unrhyw adeilad o unrhyw fath He gwerthir, neu y derbynir archebion am, ddi- odydd rneddwol. Tystia ei fod fel un yn cyflogi Hawer o weithwyr, ac fel Ynad Heddwch, wedi ei hvyr argyhoeddi fod y cyfleusterau geir i brynu ac yfed diodydd meddwol yn dra niweidiol i foesau ac am- gylchiadau lluaws mawr, os wedi sicrhau ei fab nad heb resymau digonol y gosododd yn ei ewyllys yr amod a grybwyllwyd, erfynia arno wneyd yn ol ei gais nid yn hwyrfrydig ond o lwyrfryd calon. Os yw ei fab yn ddoeth yn ei genhedlaeth," gwna felly, ob- legid trwy wneyd chwanega at werth ei eiddo yn ogystal ag at gysur y cyhoedd.
'Tlodi. 'I
Tlodi. I Cyhoeddodd Bwrdd Llywodraeth Leol adroddiadyn dangos nifer yrhai oeddynt yn derbyn cymorth plwyfol y tri mis yn di- weddu Mehefin 30, 1908. Yr oedd yn 76, 872, sef 22 o bob mil o boblogaeth y deyrn- as. Felly yr oeddynt ychydig yn llai (yn agos i 5 y cant) nag oeddynt yn y tri mis cyntaf o'r flwyddyn hon, ond yr oeddynt yn 2 y cant yn fwy nag oeddynt am yr ail chwarter o'r flwyddyn diweddaf. Nid yw hyn yn beth i ryfeddu ato er ei fod yn beth i oifidio o'i blegid. Oblegid y mae masnach gyffiredinol y deyrnas yn Ilawer mwy marw- aidd nag oedd flwyddyn yn ol, a'r canlyn- iad yw fod gwaith yn llawer prinach. Gwaetha'r modd parhau i farweiddio mae masnach, ac ofna y rhai y tybir eu bod yn gwybod nad yw y gwaethaf drosodd eto. Ond ceisiant ein cysuro drwy ddywedyd na phery'r marweidd-dra yn hir, a galwant ein sylw at ffaith fod ein masnach ni yn well nag eiddo gwledydd y cyfandir. Gellir bwrw na wel diffyndollwyr yn dda ddywedyd gair am hyny.
Codi Bwganod.I
Codi Bwganod. I Pan y bydd y llynges Brydeinig yn myn'd trwy ymarferladau o fath arbenig-pan y bydd er engraifft yn ymranu yn ddwy, ac yn ymladd ffug frwydrau ar y mor, cyhoeddir rhybuddion a'u dyben i gadw llongau mar- siandol rhag niwed. Hysbysir hwynt y byddai yn beryglus iddynt geisio myn'd yn y nos i borthladdoedd a enwir, a nodir ar- wyddion a ddangosant mai o'r braidd y mae'n ddoeth fyn'd iddynt unrhyw ddyben arall heblaw diogetu llongau marsiandol. Yehydig ddyddiau yn ol cyhoeddodd Lly- wodraeth yr Almaen rybuddion o'r natur yma, ac y mae rhai ynfydion wedi brysio i i haeru fod y Llywodraefh hono yn gudd yn gwneyd parotoadau i ryfel, a hwnw yn rhyfel yn erbyn Prydain Fawr. Yn naturiol yr ydym yn dwyn sel dros ryddid y Wasg. Dywedwn yr un pryd na ddylid goddef i rai newyddiaduron gamarfer y rhyddid hwnw trwy fanteisio arno i gamliwio ffeithiau syml, ac i godi bwganod sydd nid yn unig yn dychrynu pobl ddiniwed, ond hefyd yn cyn- yrchu drwg deimlad a ddichon arwain i ryfel rhwng teyrnasoedd nad oes reswm yn y byd dros iddynt fpd yn elynion a cheisio niweidio eu gilydd tra y mae rhesymau lawer dros iddynt fod yn gyfeillgar a cheisio gwneyd daioni i'w gilydd. Mae'r rhai sydd yn gwneyd drygwaith felly er mwyn budr-elw yn haeddu eu cosbi yn drwm.
Y Fasnach Lechi.-1
Y Fasnach Lechi. -1 Haedda'r ffigyrau a ganlyn sylw ac ystyr- iaeth y rhai a haerant (ac mae'n ddiameu a gredant) fod y dirwasgiad presenol yn marchnad y liechi i'w briodoli bron yn gyfangwbl i ddadforiad llechi tramor. Yn 1903 dygwyd o honynt yma 119,800 tunell, a chyfrifir eu bod yn werth £ 467,000. Y llynedd (1907) ni chludwyd ond 37,500 tunell, a gwerth hyny oedd £ 131,000. Fe iy ni ddadforwyd y llynedd y drydedd ran o'r llechi a ddadforwyd bedair blynedd cyn hyny. Yn 1903 yr oedd y llechi tr imor yn 221 2 y cant o'r llechi a gynyrchwyd yn ein gwlad ni ein hunain y llynedd nid oeddynt ond 8 y cant. Dengys hyn nad cystadleu- aeth gwledydd tramor sydd yn cyfrif am fod y fasnach yn y cyflwr y mae ar hyn o bryd. Mae'r cyfrif am hyny i'w gael yn nes atom. Gydweithia amryw bethau i leihau'r galwad am lechi, ac o'r amryw bethau hyny y penaf ydyw'r ffaith mai ychydig iawn mewn cyd- mariaeth o waith adeiladu sydd yn cael ei wneyd yn ein gwlad er's amser be!lach. Mae'n rhesymol credu na phery felly yn hir eto.
Toriad gwawr yn Twrci.
Toriad gwawr yn Twrci. iviae rnesymau yn amlhau dros gredu tod dyddiau llywodraeth gyfansoddiadol mewn gwirionedd wedi dechreu yn Twrci. Nid yn unig rhoddir i'r bobl gyfle i ethol gwyr i'w cynrychioli mewn senedd; heblaw hyny y mae Kiamil Pasha (yr hwn sydd mewn cyd- ymdeimlad a'r diwygwyr) wedi cael ei adael yn rhydd i ddewis y gwyr a wel ef yn oreu fel aelodau o'r cyfringylch, neu o'r Llywod- raeth. Da yw deall fod y diwygwyr" yn edrych ar Brydain Fawr fel y wlad sydd tu hwnt i bob gwlad arall yn teimlo'n garedig atynt, yn llawenbau yn Ilwyddiant rhanol eu hymdrechion ac yn deisyf eu llwyddiant Ilawn. Ychydig ddyddiau yn ol, cyrhaedd- odd Syr Geraid Lowther, y Llys-genad Prydeinig newydd, i Gaergystenyn, ac ym- dyrodd y bobi ynghyd i roddi iddo dderbyn- iad cynes dros ben. Nid yw'n debygol y gwna peth fel hyn Ymherawdwr yr Almaen fymryn fwy hydriu, oblegid y mae'n ddigon gwybyddus ei fod wedi gwneyd ymdrechion egniol iawn i gryfhau ei ddylanwad yn Nghaercystenyn. Ond da yw gweled fod y Tyrciaid yn adnabod eu cyfeillion, ac yn gwybod pwy yw noddwyr rhyddid.
GwastrafF Ofnadwy.
GwastrafF Ofnadwy. Mae traul byw Prydain Fawr yn rhywle tua £150,000,000 y flwyddyn o'r swm yma y mae mwy na'r haner yn myn'd yn union- gyrchol i dalu am ryfel a pharotoadau ar gyfer rhyfel. Gwelsom ychydig ddyddiau yn ol fod y swm a werir felly yn £ 90,000,000. Os ydyw hyny yn wir, y mae JE9 allan o bob JE15 a delir genym yn flurf tollau, rethi&c., yn myn'd i dalu dyled yr aed iddi trwy ryf- ela ac in gwneyd yn barod i ryfela eto os bydd angen, neu os cawn esgus a rhyw ychydig o liw yr hyn a gyfrifir yn rheswm arno. Dyma un o'r ddau fater y gwnai Plaid Llafjur a Sosialwyr yn dda i dalu mwy o sylw iddynt. Tra y bydd ceiietil yn myt- elgar, ac yn feddw ni !wydda, ac ni ddichon lwyddo. Oni bae am y ddau ddrwg yma buasai ein gwlad yn baradwys a'i chydmaru ar hyn ydyw yn awr. Ar y naill- law ni fuasai ond ychydig iawn yn sefyll mewn angen am gael blwydd-dal henaint. Ar y llaw arall, hawdd fuasai darparu deg swllt yn yr wythnos i bawb dros 60 mlwydd oed, ac i bawb afiach o ba oedran bynag.
-.-;- . Ymfudwyr.
Ymfudwyr. Tra y mae llawer iawn o ymfudo o'r wlad hon i wledydd eraill, y mae nid ychydig yn ymfudo o wledydd eraill i'r wlad hon. Rhwng y dydd cyntaf o Ionawr a'r 30ain o Fehefin daeth o'r cyfandir i Brydain Fawr gynifer a 162,223. Yn ein cyfnod y llynedd daeth 226,878. (Nifer yr ymfudwyr y tri mis diweddaf oedd 102,830, ac o'r rhai hyn yr oedd 15,997 yn myn'd oddiyma yn ddi- ymdroi i wledydd eraill). Rhwystrwyd 343 rhag glanio naill am nad oedd ganddynt ddim moddion cynhaliaeth neu am eu bod yn afiach. Y mae myn'd a dwad rhyfeddol yn y byd yma, a rhaid credu fod Ilawer a hono yn ddigon ddi-alw-am-dapo. Myn pobl gredu ei bod yn well yn mhob man o'r bron na'r lIe maent hwy, a gwaith ofer ydyw ceisio eu darbwyllo. Mae'n ddigon amlwg fod gwledydd eraill yn y rhai y mae mwy o le a mwy o ddrysau newyddion yn agoryd nag sydd yn y wlad hon, ond yn chy fynych esgeulusa pobl holi eu hunain a ydynt hwy yn meddu y cymhwysderau rheidiol i'w galluogi i fanteisio ar hyny. Dylid ceigio i wybodaeth lawnaf ac arfer yr ystyriaeth fwyaf gofalus a phwyllog cyn newid gwlad.
Qwaith y Barnwr Vaughan Wil--liams.-
Qwaith y Barnwr Vaughan Wil- liams. Hysbysir ni fod y Bamwr Vaughan Wil- liams, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Ddirprwyaeth Eglwysig (sydd wedi profi amynedd rhai hyd yr eithaf, ac wedi peri i eraill wawdio wrth eu hewyllys) yn gweithio y aled gyda'r adroddiad y disgwylir i'r Ddirprwyaeth ei gyflwyno ar fyrder. Haera rhai ei fod yn parotoi adroddiad a bair syndod i gynifer ag a'i beiasant am y modd yr ymddygai yn ei gadair, ac y ceir ef yn pleidio dadgysylltiad. Hyd y sylwasom ni ddywed neb y ceir ef yn pleidio dadwaddol- iad yn ogystal a dadgysylltiad. Gyda Lrolw-a ar y modd y gwnaeth ei waith fel Cadeirydd, ni newidir ein barn am dano gan unrhyw adroddiad, boed a fyddo. Dywedwn yn hollol ddifloesg nad a'r un mesury mesurodd gyfiawnder i dystion yr Eglwysi Rhyddion ag i dystion yr Eglwys Sefydlodig. Cafodd cryn lawer o dystion yr Eglwysi Rhyddion ef yn drahaus ac anfoesgar, ond cafodd tystion yr Eglwys Sefydledig ef yn hollol foesgar, yn fwyn dros ben, ac yn hynod ddall i'w ffaeledd- au. Os ceir ef yn pleidio dadgysylltiad, gwna,