Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

YN NGHWMNI NATUR. I

- - --I 0 yGADAJR YNYS FADOO.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 y GADAJR YNYS FADOO. y Y Yr wythnos hon derbyniwyd newydd am farwolaeth Mr. Robert Roberts, mab y diwedd- ar Mr. John Roberts, New Street, Porthmad- og, gynt o Hir Ynys. Cymerodd y ddamwain le yn Corlise, Wisconsin. Ymddengys ei fod mewn gwasanaeth yn y rhan hono, ac iddo fyned i Corlise i fwrw Sul. Tua deg o'r gloch yn yr hwyr, dychwelai adref ar hyd llinell y rheilffordd, ac wrth csgoi un gerbydres, aeth i gyfarfod un arall, pa un a'i tarawodd i lawr gan ei ddrylho a'i ladd mewn moment. Yr oedd wedi t re alio 15 mlynedd yn y cylch yno gan wasanaethu gyda gwahanol amaethwyr, etc. Diau y cofia llawer am yr ymadawedig cyn ei ymadawiad i'r Unol Dalaethau pan y dilynai yr alwedigaeth o gigydd. Yr oedd tua 54 mlwydd oed. Y mae yn ei olynu ei frawd, Mr. John Roberts, athraw, Llanaelhaiarn a'i chwaer, Miss Roberts, New Street. CYNHEBRWNG CADBEN 0. MORRIS.— Dydd Gwener claddwyd gweddillion Cadben Morris (" Albert Baltzer ") yn Llanbedr. Gwasanaethid gan y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon). Y Galarwyr oeddynt.— Mri. Gth. Evans, sEvan Lloyd, Wm. Powell, neiod; Wm. Jones, David Morris, R. J. Morris, :D. 0. M. Roberts, cefndryd David Davies, brawd-yn-nghyfraith David Williams ac R. Roberts. Yn marwolaeth Cadben Morris collwyd un o forwyr mwyaf llwyddianus Porthmadog. Dywedir iddo wneyd i'r Albert Baltzer" dalu am dani ei hun bedair gwaith drosodd. Yr oedd Cadben Morris yn graff ei lygad ac yn gywir ei farn. DAL LLEIDR YN NOF-TH.-Darfu i T. Kew- ley, 19 oed, brodor o Lerpwl, ddwyn oriawr ymdrochwr yn y Garreg Goch, yr wythnos ddi- weddaf. Pan awd ar ei ol, diangodd i'r dwfr, a thynodd am dano. Ceisiwyd ei ddal ond nofiai ymaith. Gorfu iddo fyned ar ddarn o graig yn ymyl y Borth, ac aeth John Williams, pilot, mewn cwch ato, a thvnodd ef i'r cwch. Ymgasglasai canoedd o bobl ar ben y graig uwchben John Williams. Taflodd boneddiges ei Mackintosh i Kewley, a rhoddodd J. Williams fenthyg ei got iddo, er mwyn iddo guddio ei noethni. Llwyddwyd i gael rhai o ddillad y llanc. Cludwyd ef i Benycei, acynoeymerwyd gofal o hono gan y Rhingyll D. M. Jones. Dygwyd ef o flaen yr ynadon pryd y dywedwyd fod y carcharor wedi bod yn y Clio ac wedi methu cael lie fel morwr yn herwydd nas gallai glywed yn dda. Elai oddiamgylch i chwareu 'fflute', ac yr oedd yn dlawd iawn.-Dywedodd y carcharar ei fod heb fwyd er's tri diwrnod. Yr oedd ei fam ac un o'i frodyr yn nhlotty Ler- pwl. Nis gwyddai lie yr oedd ei dad a'i frodyr eraill.—Gohiriwyd yr achos er mwyn i'r heddgeidwaid wneyd ymchwiliad i hanes y diffydydd. CYFARFODYDD CENHADOL.—Y Sabbath diweddaf cynhaliwyd cyfarfod cenfiadol awyr- agored yn Nghlog-y-Berth pryd y pregethwyd gan Mr. Wm. Roberts, Maentwrog. Y WYDDFA.-Rhed char-a-banc modur rhwng Tremadog a'r Wyddfa bob dydd. YR YSGOL UWCH SAFONOL.—Rhaid i bobl Tremadog foddloni ar y cynllun wthiwyd dros- odd i sefydlu yn Mhorthmadog Ysgol Uwch Safonol. Bydd raid i blant y Dref gerdded bob dydd i Borthmadog o hyn allan. Nid yw pobl y dref heb ddisgrifio y cynllun mewn geirian beirniadol cryfion iawn, ac an- hawdd ydyw peidio cydymdeimlo a hwynt. Y mae materion Addysg Dyffryn Madog er's hir amser yn nwylaw person au ag sydd wedi profi eu hunain y blynyddoedd diweddaf yn dra anfedrus i'r gwaith. Aeth y trigolion i gredu nas gallai eu harweinwyr gyflawn camgymer- iadau, a'r canlyniad yw y sefyllfa anfoddhaol sydd a'i bethau yn awr. Gresyn yw cadw yr un dosbarth o bobl mewn swyddi yn hir. Collant gydymdeimlad i'r werin, ac ant yn fwy o Swyddogaethwyr nag o ddyngarwyr. YSGOL GOLAN.-Bydd yr Ysgol hon yn barod yn fuan. Mr. W. Davies, cyn-athraw Ysgol Tremadog fydd y Prif-athraw. Brodor o Borthmadog yw efe. PRIODAS.-Dydd Mercher, yn Eglwys Sant loan, gan y Parch. J. E. Williams, ficar, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. S. Hughes, curad, priodwyd Mr. John Hughes, gynt o Blaenau Ffestiniog, ond yn awr yn Tonypentre, Rhondda, D. C., a Miss Maggie Ellis, merch Mr. a Mrs. Griffith Ellis, Glan Llyn Farm, Morfa Bychan. Y gwasanaethyddion oeddynt Miss Sarah Ellis (chwaer) a Mr David Hughes (brawd). Ar ol mwynhau boreufwyd, aethant i dreulio eu mis mel yn nghanol dymuniadau da eu cyfeillion. Cic GAN GEFFYL.—Dydd Sadwrn, darfu i geffyl perthynol i Sipsiwns, tra mewn cae, gicio Mrs. Ann Roberts, Tanycoed, Penmorfa, gan achosi ciweidiau difrifol. FFORDD HAIARN BEDDGELERT.—Gwnaed cais at berchenogion rheilffordd Beddgelert i ofyn iddynt ganiatau i gerbydau yn cael eu tynu gan geffylau, redcg ar y rheilffordd hyd nes y gorphenir hi i gyd. MOEL Y GEST.—Bwrieoir gwneyd rhod- feydd prydferth i ben Moel-y-Gest, ac ar hyd ei ochrau. Byddai hyny yn gaffabliad gwerth- fawr iawn, a gwnai ddaioni mawr i'r ardal fel lie i ddieithriaid.

[No title]

--------- ---- - --- --------…

wvwwwwwwwwwvwww IAchos John…

IDedfryd am Warcheidwaid MileI…

IY Prif-fFyrdd a'r Moduriau.…

[No title]

O'R PEDWAR CWR.

GLANCONWY.

PENRHYNDEUDRAETH.

LSadrata oddiar Lei dr.

ILLANBEDR.

- - ............................................................…

-DOLWYDDELEN.

Bwrdd Llywodraethwyr YsgolionI…