Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AT BIN GOHEBWYR.I

-O-I *, Nesur Addysg Rhif…

Esiampl Dda y Llywodraeth.…

Treuliau Llyngesoedd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Treuliau Llyngesoedd. Yn yr araeth y cyfeiriwyd ati uchod, eg- lurai Mr Edmund Robertson gyniluniai y Morlys ar gyfer y flwyddyn sydd yn awr yn dechreu cyn belled ag y mae a wnelont ag adeiladu cadlongau o wahanol fathau. Dy- wedodd fod y cynlluniau wedi eu tynu allan ac amcan-gyfrif o'r draul wedi ei pharotoi gan ei rag-flaenorydd, fel nad oedd ganddo ef, yn ymarferol, ddim i'w wneyd ond eu mabwysiadu a gweithredu yn gyson a hwynt. Y draul o gynal a chwanegu at y Llynges, fel yr ymddengys y draul ar bapyr, ydyw E31,869,000; ond mynai Mr. Robertson i'r ty ddeall fod y draul wirioneddol yn zC,33,57,3, 000. Cyfeiriodd at y cynydd aruthrol sydd wedi cymeryd lie er 1894 yn nhreuliau Llynesol y Prif Alluoedd. Yn y flwyddyn hono,f gwariodd Ewrob a'r L'noi Dalaethau S48,500,000 ar eu llyngesoedd. Erbyn 1899 yr oedd y swm yn P,68,500,000, a chynhal- iwyd Cynhadledd Heddwch yr Hague mewn gobaith y gellid, yn mhlith pethau eraill, ddyfod i gytundeb i roddi atalfa ar y draul a'r gwastraff ofnadwy yma. Y llyn- edd-yn mhen pum mlynedd wedi cynhaliad y Gynhadledd hono-yr oedd y swm yn £ 100,500,000. Felly, dyblwyd y draul, a mwy, mewn ugain mlynedd. Pa ryfedd fod Syr Henry Campbell Bannerman wedi dywedyd yn y cyfarfod mawr hwnw yn Llundain fod peth fel hyn yn beryglus i heddwch y byd, ac wedi "gofyn beth yn fwy ardderchog allai Prydain Fawr ei wneyd na chymeryd y flaenoriaeth yn y gwaith o ffurfio Cyngrair Heddwch Cyffredinol ? Os gwel ei ffordd yn glir i arwain yn y gwaith da hwnw, bendithir ei enw yn mhob gwlad gan genhedlaethau lawer ar ol hyn.

Mr. Lloyd George yn Nghaerdydd.…

I Dedfryd Ankygoel. I

I Mr. Austin Taylor, A.S.

Deddf Estroniaid, I

Costau Etholiadol Seneddol.…

IO—I ILlys y Manddyledion.…

Y Barnwr Cymroaidd. I

I Corwen. I

Advertising