Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AT BIN GOHEBWYR.I

-O-I *, Nesur Addysg Rhif…

Esiampl Dda y Llywodraeth.…

Treuliau Llyngesoedd.

Mr. Lloyd George yn Nghaerdydd.…

I Dedfryd Ankygoel. I

I Mr. Austin Taylor, A.S.

Deddf Estroniaid, I

Costau Etholiadol Seneddol.…

IO—I ILlys y Manddyledion.…

Y Barnwr Cymroaidd. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Barnwr Cymroaidd. Dydd lau, yn Llys y Manddyledion, yr oedd arwyddion digamsyniol o deimladau gwladgarol a chenedlgarol. Gwisgai holl Swyddogion y Llys a'r Barnwr Anrhydeddus y Geninen. Gwelwn fod ysgolfeistr o Dre- ffynon yn dadleu yn fympwyol mai Cenin Pedr (Daffodil) yw yr arwydd cenhed!aetho! ac nid y Geninen (Leek), a hyny, meddai ef, am mai "cenin y gelwir y ddau lysieuyn. Os felly, dalai cyngrair y Brielli wisgo Brielli yr ardd (Polianthus) ac nid Brielli y Clawdd (Primrose), am eu bod yn cael eu galw yn Frielli. Y Geninen yw yr un ddaeth i lawr i ni fel ein harwydd Cymreig, ac nid Cenin Petr; a'r Geninen oedd gan y Barnwr Evans ddydd Iau yn ei got. Y fath wahan- iaeth sydd yn awr yn y Llys hwn a'r hyn ydoedd yn amser y Barnwr Homersham Cox. Yr oedd hwnw yn camddeall achos- ion oherwydd nad oedd yn hyddysg yn ein hiaith a'n harferion; ond yn awr y mae genym Farnwr sydd yn teimlo dros ei gyd- genedl a'u hanesion torcalonus adroddir o'i flaen, ac y mae caniatau i'r achosion gael eu trafod yn Gymraeg, a sieryd yntau Gymraeg a'r, Cymry uniaith ddeuant i'w Lys. Mae'n amhosibl peidio edmygu ei ddull tawel a ddeg a'r drafferth anferth a gymer i geisio cael allan y gwirionedd yn mhob achos ger ei fron.

I Corwen. I

Advertising