Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
OUR.. A I SPECIAL SUI T TO LINE.. MEASURE FOR 23/6 What a man wears is of as much impor- tance as what he eats. Our 23/6 Suit will give him a smart appearance, latest style, fit guaranteed, a variety of patterns to choose from. Transactions in Brief. Pattern Order Delivery Cheque — Satisfaction Another Order, &c., &c. SHOP YR ERYR, CHURCH STREET. 1 CWMNI YSWIRIOL Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). PRIF SWYDDFA: HOLBORN BARS, LLUNDAIN. CRYNHODEB O'R ADRODDIAD GYFLWYNWYD YN Y 57AIN CYFARFOD BLYNYDDOL A GYNHALIWYD AR Y 1AF 0 FAWRTH, 1906 Y GANGHEN GYFFREDINOL.-Yr oedd nifer yr Yswirebau a roddwyd allan yn ystod y flwyddyn yn 75,293, yn yswirio y swm o 7,211, 427p. ac yn cynyrchu Incwm Blynyddol newydd o 395,029p. Swm y Blaendaliadau a dderbyniwyd vn ystod y flwyddyn ydoedd 4,123,318p. yr hyn a ddengys gynydd o 154,302p ar y flwyddyn 1904. Cyfanswm yr Hawliau am y flwyddyn ydoedd I,812,618p. Yr oedd nifer y marwolaethau yn 7437, ac aeddtododd:7775 o Waddol Yswirebau. Ar derfyn y flwyddyn yr oedd 773,051 o Yswir- eban mewn grym. Y GANGHEN LAFURAWL.—Cyfanswm y Blaendaliadau dderbyuiwyd yn ystod y flwydd- yn ydoedd 6,139,050p, sef cynydd o 159,715p. Cyrhaeddodd yr Hawliau am y flwyddyn y swm o 2,261,748p. Y marwolaethau am y flwyfld- yn ydoedd 238,220, ac aeddfedodd 3344 o Waddol Yswirebau. Nifer y Rhydd-Yswirebau ganiatawyd y flwyddyn ddiweddaf i Yswireb-ddalwyr o bOrn' mlynedd o barhad ac uchod, y rhai a ddymnnent beidio talu yn mlaen, ydoedd 123,586, a'r nifer mewn grym ydyw 1,102,267. Daeth 24,689 o Rydd-Yswirebau yn Hawliau yn ystod y flwyddyn Cyfanrif yr Yswirebau mewn grym ar derfyn y flwyddyn ydoedd 16,065,268; ar parhad ar gyfar- taledd ydyw 11 mlynedd. Mae eiddo y Cwmni yn y ddwy ganghen, fel y dengys y fantolen, yn 59,464,376p, yn dangos cynydd o 4,104,871p ar yr hyn oedd yn 1904. Dengys Trysorfa Ddarbodol y Swyddogion, a sefydlwyd yn 1898 er budd y rhai sydd yn gweithio allau, gynydd boddhaol am y flwyddyn. ac y mae y swm o 148,941p yn sefyll i gradid y drysorfa. Er gorpheniad y Prisiad y mae'r Argyfrifydd wedi adrodd fel ei farn y gellid caniatau cynydd cyffredinol o ddau a haner y cant heb barygl, o dan y prif Dalebau yn y Ganghen Lafurawl, os gwneir darpariadau ar gyfer y cyfrifoldeb o 750, OOOp. Mae'r Bwrdd drwy hyny wedi ad-drefnu y Talebau i fod mewn grym o Fawrth laf 1906, ac wedi gwneyd darpariadau i gyfarfod y cyfrifoldeb cynyddol drwy drosglwyddo yn ystod y flwyddyn 750,000p o'r gronfa adgyfnerthol i Drysorfa Bywyd Yswiriaeth yn y Ganghen Lafurawl, gan adael y gronfa adgyfnerthol hon yn 1,000,OOOp. Bydd y Rhanddalwyr yn falch o ddeall fodlyr ad- drefciad hwn yn effeithio ar bron dair miliwn ar ddeg o Yswirebau, ac o'r rhai hyn y mae dros 10 miliwn o Yswirebau yn derbyn cynydd ar un- waith yn y swm yswiredig. MANTOLEN GYFFREDINOL CWMNI YSWIROL Y PRUDENTIAL (CYF,), SEF ORYNHODEB O'R DDWY GANGHEN, AR Y 31AIN 0 RAGFYR, 1906. CYFRIFOLDEB. YR EIDDO. x s. c. Diogeliadau y Llywodraeth X s. Cyfalf y cyfranddalwyr 1,000,000 0 0 Brydeinig 3,352,182 IS g ] Cronfa. Adgyfnerthiad reserve Diogeliadau Llywodraetb, India Fund) 2,700,000 0 0 a'r Trefedigaethau 5 292 '114 14 2 Cronfa y Bywyd Yswirebau 55,633,131 14 10 Cyfranau BlaenhawBol mewn Hawliad cydnabyddedig o dan Rheilffyrdd, ac ymrwymiadau Fywyd Yswirebau 131,244 10 8 mewn aur, &c.. fi ias 'Wi 5 1 Benthycion nr Drethi Cyn hor- au Sirol, Trefol, ac eraif 13,819,468 10 2 Ardoreth Eiddo Rhydd-ddal- iadel a Thollau yn Ysgotlana 3,860,399 6 4 Eiddo Rbydd-ddaliadol a Phrydlesol 3,685,339 4 2 Gwystloa ar eiddo o fewn y Deyrnas GyfucoJ 7,609,760 5 ? Cyfranau mewn Rheilffyrdd Gweithydd Nwya Dwfr 7,581,357 0 4 Cyfranau Camlas Suez 164,883 9 4 Cyfranau y Pellebyr ac erafll. 97,628 6 4' Cyfraisau soddedig yn Nghyllid v Britddinas ac ymrwymiadau Dinas Llivadain it. 2.58,717 2 11 Cyfranau yn AriandV Lloegr. 200,559 IS 6 Cyfranau mewn Corphoraethau Tramor a Threfedigaethol 1,419,012 13 6 Diogeliadau Llywodtaethau f' Tramor 1,294,215 0 ? Atchweliadam ac Oesfuddiantau 1,161,978 18 5 Benthyciadau ar Yswirebau y Cwmni 2,134,509 8 7 Hawliau Ardrethol 2Q7,298 2 4, Blaenclaliadau allan a <?weddill oddiwrth Qruehwylwyr 425,667 18 2 Lloga-,i t),r !t%,rjirethi Dyledrs 508,403 10 9 Arian yn DWyIaW yr Arolygwyr 34.653 11 5 Ariau cyfrifon agored ac mewn j lliW 132,406 4 1 £ 59,464,376 5 6 X59,464,376 5 6 I HENRY HARBEN, Cadeirydd. FREDDRICK SCHOOLING, Argyfrifydd. WJL??STER} ? Cy?rwyddwyr. D W. STABLE, Ysgrifenydd. W. E. HORNE, Y rWJ Wlr. M Y^-ydVm  ^rCh Gweithrediadau Arianol (Derbyn?dau a ThaHari:iu? cy?-Htiad? ?r MTvred/dianau a 'Wr 8BtF uddsod^diKad? au am y flwyddyn yn diweddu Rhagfyr 31am, 1905, ac T?? cXe? cyawrdaacy?bTiodol. Archwiliwyd genym hefyd yGweithredoedd, Diogal?d? &c., agyurvchioIa?yr?-oiddo &'r  eucah- y' eyf.-if ?choa, ae yr ydym yn aicrhaueubodmewQmedd{aatg!).?ary3lMQoRagfyrl905 c??. ??'-? ?-? ———?,???, Chwcfror 143g, 1906. Cyfrit?Wyr Trwyddedtg. Cyngor Plwyf Penrhyndeudraeth.1 ^WAHODDIR Oynygion am Adgyweirio yr HALV-G e "I' I cael ccpl o'r Spec- ification gaa yr Ysgrifenydd.—Rhaid i'r oynygion fod yn Haw yr Ysgrifenydd erbyn nos FERCH'R, M:awrth 28ain. M iwrth 13, 1906. JOHN JONES, j RHAG-HYSBYSiAD. HHRADDODIR DAR 1,1 TfI yn Nghapel Ebenezer, Lianrwst, Nos FAWRTH EbriH 17eg, 1906, ar "Yr Hen Bwerau." gan DYFED, (Arch-dderwydd Cymru,)
AT EIN GOHEBWYR. I
AT EIN GOHEBWYR. I CARWR CVFIAWNDER-Yn ein nesaf. Amryw ddarnau barddonol wedi eu cysodi. I
AT EIN DERBYNWYR. I
AT EIN DERBYNWYR. I Hysbyswyd yn Y GLOCH yr wyth- nos bon fod y cyhoeddwyr yn bwriadu cysylltu y papur hwnw a'r RHEDEG- YDD o hyn allan felly dymunwn i'n darllenwyr wneyd sylw o'r ffaith fod y rhifyn olaf o'r GLOCH fel papur ar wahan wedi ei gyhoeddi; bellach gwa- hoddwn ein derbynwyr i roddi eu cefn- ogaeth i'r I I RHEDEGYDD. Y rheswm dros wneyd y cyfnewidiad hwn yw fod pwysau gwaith arall y ddwy Swyddfa yn gofyn mwy o amser nag sydd at ein galwad tra yn dwyn allan y ddau bapur. Yr ydym wedi penderfynu rboddi sylw arbenig i'r I JOBBING DEPARTMENT, a gwnawn ein goreu i foddloni ein cws- meriaid lluosog a gwaith da am brisiau rhesymol. Dymunwn ar i Hysbysebwyr gofio fod cylchrediad y "RHEDEGYDD" yn FWY NAG Y BU ERIOED, ac yn cynyddu o hyd; ei fod yn cyrhaedd cyrion o sir- oedd Dinbych, Meirion ac Arfon na chyffyrddir mohonynt bron gan un papur arall-Cymraeg na Saesneg; a'i fod yr unig bapur teuluaidd mewn canoedd o dai yn y cylch. Dyma'r cyfrwng goreu o ddigon i wneyd unrhyw beth yn bys- bys yn y cylchoedd hyn. Diolchwn yn gynes i'r lluaws ewyllyswyr da sydd wedi datgan eu dymuniad am ein llwyddiant yn yr anturiaeth hon. Gellir cyfeirio pob archebion a goheb- iaethau naill ai i Swyddfa y" Rhedeg- ydd neu i Shop y Gloch."
INODIADAU WYTHNOSOL.
I NODIADAU WYTHNOSOL. I AH-ddarlieniad Mesur Rhesymol. Dydd Gwener, yn Nhy y Cyffredin, cyn- ygiodd Mr. Agar-Robartes ail-ddarlleniad mesur a'i ddyben penaf i roddi sicrwydd llawn i denantiaid yn ymadael o'u ffermydd am iawn am welliantau a wnaed ganddynt. Buasem yn disgwyl i bawb gydnabod fod hyny yn hollol resymol a chyfiawn. Os bydd dyn tra yn dal fferm wedi gwario arian ac amser, ac felly wedi ei gwneyd yn werth mwy nag a fuasai amgen, dylai ar bob cyfrif, pan yr ymedy o honi, gael iawn teg am hyny pa un bynag a'i o'i wirfodd a'i o'i anfodd y bydd yn ei gadael. Bydd sicrwydd am iawn felly yn gymhelliad iddo i drin y tir yn y modd goreu oni chaiff sicrwydd, nid yw yn rhesymol disgwyl iddo roddi mwy ar neu yn y tir nag a all gyfrif ar ei gael o hono. Gwrthwynebwyd y mesur gan amryw aelod au. Toriaid oeddynt oil, ac os wad ydym yn camgymeryd, yr oeddynt oil yn dirfedd- ianwyr hefyd. Yr oedd tri o honynt yn Arglwyddi. Cymerwyd rhan yn y ddadl ?&n amryw Ryd&rydwyr newydd-etholedig, a gwnaethant eu rhan yn effeithiol anghy- ?redin hefyd. Ar ran Bwrdd Amaethydd- ?eth rhoddodd Syr E. Strackey gymerad- wyaeth lawn i'r mesur, a phan ranwyd y Ty, pfeidleisiodd 334 dros ei ail-ddarlleniad, tra nad oedd ond 81 yn ei erbyn. Yna pender- fynwyd ei gyflwyno i Bwyllgor Safydlog Ipasnach i'w ystyried ac adrodd arno. dwnaed gwaith da iawn mewn ptlmJ awr.
Pwysig I Uudebau Llafur.
Pwysig I Uudebau Llafur. Rhoddodd y Bamwr Owen ddedfryd fiDewn achos pwysig iawn i U ndebau LIafur yn Llys Manddyledion Caerdydd ychydig dldyddiau yn of. Dygodd Alfred G, Steels, aelod, o Gyngrair Glowyr Deheudir Cymru, ^yngaws yn erbyn ei swyddogion gan hawlio yn ol bedwar swMt oedd wedi ei dalu iddynt meg ks trwy orfod. Yn y flwyddyn 1901, penderfynodd yr aelodau trwy fwyafrif mawr fod pob aelod i dalu ceiniog y mis fel. toN (lev,) seneddol, a bod yr arian hyny i gael eu talu drosodd i gronfa, o'r hon y teJir i Aelodau LIafur yn Nhy y Cyffredin. Pleidleisiodd 247 dros a 13 yn erbyn hyn, a daliai Steele fed y mwyafrSf wedi gwneyd peth nad oedd ganddynt hawl gyfreithiol i'w wneyd. Buwyd yn gwrando yr achos am rai dyddiau, ac wrth symio i fyny aeth y Barnwr i fewn i'r mater yn fanwl iawn, ac eglurodd yn llawn ei resymau dros y dded- fryd a roddodd. Daliodd nad oedd dyben y doll (levy) yn anghyfreithlon, a bod yn rhaid iddi, mewn canlyniad, sefyll. Felly rhoddodd ei ddedfryd dros y Cyngrair, ac archodd' i Steele dalu y costau. Dichon yr apelir at Lys Uwch. Nid yw yn debygol fod Steele wedi gweithredu ar ei gyfrifoldeb ei hun yn yr achos, a dyddorol fyddai cael gwybod gan bwy y dygir traul y rhyfel." Naturiol ydyw credu mai i'r meistri y para- sai ei lwyddiant y llawenydd mwyaf. Da genym mai gan Undebau Llafur y mae achos i lawenhau hyd yn hyn, beth bynag.
Masnachu ar y Sut. [
Masnachu ar y Sut. [ Galwodd Arglwudd Arebury (y gwr a adwaenom gynt fel Syr John Lubbock) sylw Ty yr Arglwyddi at y mater hwn dydd Gwener. Dywedodd-a gwyddom ei fod wedi dywedyd ylgwir-fod y drwgsyn myned ar gynydd, ac yn effeithio yn niweidiol ar iechyd, cysur, a chymeriad y wlad. Mae masnachu.ar y Sul yn drosedd o'r gyfraith wladol yn awr, ond nid yw y dirwy am droseddu yn ddigon trwm i'w gwneyd yn effeithiol i atal y drwg. O'r rhai a gymeras- ant ran yn y ddadl ni chafwyd un i geisio amddiffyn neu gyfiawnhau yr arferiad; dywedodd yr oil o honynt yn ei erbyn. Drwg genym weled mai y wanaf o'r areithiau oedd eiddo gwr eglwysig, Archesgob Caer- gaint. Tra y cytunai ag eraill fod gwir angen am wneyd rhywbeth, daliai gyda phwyslais trwm ar amlder yr anhawsderau a amgylchant y cwestiwn. Dywedodd yn erbyn gwneyd dim yn frysiog, heb wneyd ymchwiliad trylwyr a phwyllog i'r mater yn ei holl gysylltiadau. Dyma arfer Dr Randall Davidson. Anmhosibl iddo, dybygwn, deimlo yn frwdfrydig yn mhlaid yr achos goreu, ac y mae yr un mor an- mhosibl iddo danio gan ddigofaint yn erbyn y drwg gwaethaf. Dichon fod hyn yn rhagoriaeth mewn Archesgob cyfrifwn ei fod yn ddiffyg pwysig yn mhawb eraill. Ar gynygiad Arglwydd Tweedmouth pender- fynwyd dewis cyd-bwyllgor o aelodau Ty'r Arglwyddi a Thy'r Cyffredin i edrych i fewn i'r mater. Gobeithiwn na bydd yn hir gyda'r gwaith.
I Y Darllaw-wyr mewn caledi.I
I Y Darllaw-wyr mewn caledi. Aeth dirprwyaeth oddiwrth Gymdeithas y Darllaw-wyr at Ganghellydd y Trysorlys dydd Gwener i geisio ganddo ysgafnhau y baich sydd arnynt-baich sydd (fel ydywed- ant) yn peri i'r rhai cryfaf o honynt riddfan ac yn llvswr lethu y rhai gweiniaid yn eu plith. Ceisient gan Mr Asquith symud y doll chwanegol a osodwyd ar eu cynyrch- ion yn 1900 gan lywodraeth Mr Balfour. Gosodwyd eu hachos i lawr gan Syr John Brickwood, ac mae'r ffeithiau a adroddodd yn haeddu eu cofnodi. Dywedodd fod pobl Cymru a Lloegr wedi yfad llai o 919,663 baril o gwrw y llynedd nag a yfasant y flwyddyn o'r blaen, a llai o 2,097,595 galwyn o wirodydd poethion, ac yr oedd y cwrw a yfwyd y llynedd yn llai o 275,000,000 baril nag a yfwyd yn y flwyddyn 1899-1900. Mae'r wlad yn gwario llai o 21,750,000 yn y flwyddyn ar ddiodydd meddwol nag a wariai chwe blynedd yn ol, ac y mae hyn yn golygu i'r darllawyr (meddai Syr John Brickwood) y gwahaniaeth sydd rhwng llwyddiant ac aflwyddiant, ac yn golygu methdaliad i rai o honynt. Gan feddwl cyffwrdd a chalon. Canghellydd y Trysor- lys galwodd ei sylw at y ffaith fod y tollau a delir i'r Llywodraeth yn awr yn' llai o C5,000 000 nag oeddynt chwe blynedd yn ol. Ychydig iawn o gydymdeimlad a gafodd y gwyr trallodus gan Mr Asquith yr hwn a'u hysbysodd fod Ilai yn cael ei yfed, nid am fod y tollau yn uehel, ond yn benaf am fod dirwest yn enill tir, ac yna am fod rhyfel y Transvaal wedi myn'd a chymaint o arian o'r wlad. Ni roddodd iddynt ddim cysur, na lie i obeithio am waredigaeth. Nis gall- wn ninau ddweyd 6\Ïn bod yn cydymdeimlo a hwy. Er nad yw eu helbul ynddo ei hun yn peri hyfrychych i ni, yr ydym yn Ilawenhau am fod yr aches o hono yr hyn ydyw. Gwelaom yclaydig ddyddiau yn ol fod cyfran- daliadau u-pewn darllawdai yn Hawer iawn is eu pris yn y farchnad nag oeddynt ac mai i lawr y m^ent yn myn'd yn gyson. Dengys hyn oll'fod ym d rac h ion d dNyn n g y son. Dengys hyn oil fod yradrechion dyngarvtyr yn mhlaid sobrwydd yn tycio, a bod amser i ddyfod pryd na bydd Prydain yn Brydain faddw mwyach.
Nos LAM yn Nky y CyVredHa.-I…
Nos LAM yn Nky y CyVredHa. I -1 1 ? I 1"(00 I-VAN, cynygroaa i»yr James Kitson benderfyflSad yfi yr hwn y cydnabyddid fod y wlad yn yr etbohad wedi dangos ei lrym- lyniad wrth egwyddorion Masnaeh Rydd, ac y datgenid bwriad penderfynol y Ty i wrthwypebu hyd yr eithaf bob ac unrhyw ymgais i ad-sefydlu Diffyn-dollaeth. Tradd- ododd y cynygydd araeth ag y cydnabu Mr. Balfour ei rhagoriaeth, fel y gwnaeth yn achos ei eilydd hefyd, Mr Austin Taylor. Yn mhfith yr aelodau aewyddion a gymerasant ran yn y ddadl yr oedd Mr. F. £ Smith, yr aelod Toriaidd dros Walton, i araeth yr hwn y rhoddodd Mr. Lloyd-George ganmoliaeth uchel iawn, a Mr. Llewelyn Williams, yr aelod Rhyddfrydol dros Gaerfyrddin a Llan- elli. A»1 ei araeth ef dywed gohebydd LIun- deinig y "Liverpool Dflily Post and Mercury', el hyn :Vr oedd araetfi yr aelod anrhyd- eddus a dysgedig dros Fwrdeisdrefi Caer- fyrddin yn un o'r traethiadau mwyaf egniola nerthol a glybuwyd yn Nhy y Cyffredin." Wedi hyn, disgwyliwn lawer oddiwrth Mr. Llewelyn Williams. Siaradodd Mr. Balfour (at yr:hwn y cyfeirir isod) a Mr. Chamber- lain hefyd, a thradododd Mr. Lloyd George araeth, nodwedd benaf yr hon oedd cryfder. Nid oedd ynddi nemawr ddim ffraethineb na donioldeb, ond yr oedd yn araeth anhawdd awn i'w hateb.
Mr. Phillip Snowden.
Mr. Phillip Snowden. Nid oes eisiau dywedyd mai un o brif gynrychiolwyr Llafur ydyw Mr. Snowden, a'i fod yn Sosialydd hefyd. Cyfrifir ef yn un o'v siaradwyr mwyaf hyawdl yn yr holl wlad. Mae yn ddyn o feddwl diwylliedig. iawa, mae wedi cymeryd trafferth i gael gwybodaeth o'r gwirionedd am gyflwr cym- deithas, ac wedi cymeryd poen i gael allan pa foddion yw y moddion mwyaf effeithiol i'w weilhau. Mae sel dros ryddid a chy- fiawnder yn ei ysu, ac y mae ganddo grefydd a'i ffrwyth yn sancteiddrwydd a gweithredoedd da. Cafodd wrandawiad hynod astud pan gododd i gymeryd rhan yn y ddadl yr ydym wedi son am dani. Er ei fod yn pleidio Masnach Rydd, daliai fod yn rhaid cael rhywbeth at Fasnash Rydd i ddwyn y wlad i'r cyflwr y dylid ei dwyn iddo. Mae'r cyfoethogion yn myn'd yn gyfoethocach, a'r tlodion yn myn'd yn dlotach-byther y rhyfel mae mwy o dlodi, ac mae gwaith yn brinach. Ond gyru pethau o ddrwg i waeth wnai Diffyndollaeth. Rhaid newid cyfundrefn dirol y wlad o'r gwaelod i fyny, a rhwystro Cwmniau'r Rheilffyrdd rhag cludo nwyddau tramor am dal llai nag a godant am gludo nwyddau cartrefol, &c. Yr oedd dull traddodiad, cynwys ac eglurder araeth Mr. Snowden yn gosod angenrhaid ar yr holl aelodau i'w wrando yn astud, ac yr oedd yno lawer yn cytuno yn Ilawn a rhan helaeth o'r hyn a ddywedodd.
I Mwyafrif Mawr.
Mwyafrif Mawr. Parhaodd y ddadl dros brydna-vn ddydd Mawrth, pan y cynygiodd Mr. Stuart Worlley, un o saith o welliantau ag y rhodd- asid rhybudd o honynt gan yr VV rthblaid. Cafodd y Toriaid anhawsder anghyffredin i siarad ar y gwelliant hwn crwydrent oddi- wrth y cwestiwn yn barhaus, a galwodd y Llefarydd y naill a'r Hall o honynt i drefn drachefn a thrachefn. Pleidleisiodd 118 dros y gwelliant a 446 yn ei erbyn. Cyn- ygiwyd y gwelliant nesaf, a'r olaf hefyd (oblegid gadawyd y lleill) gan Mr. Wynd- ham, yr hwn a fynai adael allan o gynygiad Syr James Kitson y geiriau a ddywedent fod y wlad wedi datgan ei hymlyniad wrth egwyddorion Masnach Rydd. Efe yn unig a siaradodd. Gan fod yn amlwg nad oedii parhad y ddadl yn ddim amgen na gwas- traff a'r amser, cynygiodd y Prif-weinidog y cloadur, a phasiwyd hyny gan 471 yn erbyn 123. Yna pleidleisiwyd ar gynygiad Syr James Kitson, ac yn mhlith y 474 oedd drosto, cafwyd wyth o Undebwyr Rhydd" fasnachol Arglwydd Robert Cecil, Syr Seymour King, a'r Mri. Lambton, W. Rothschild, Thornton, A. Cross, Cameron Corbett a Stewart Bowles (mab Mr Gibson Bowles). Gan nad oedd ond 98 yn ei erbyn yr oedd mwyafrif y Llywodraeth yn 376.
IY DIWEDDAR BARCH. DAYID -ROBERTS,…
Y DIWEDDAR BARCH. DAYID ROBERTS, RHIW. Anwyl Frodyr.-Ar ran Swyddogion ac Eglwys y Rhiw dymunaf hysbysu y pasiwyd penderfyniad unfrydol gan yx Eglwys, ein'bod yn datgan ein diolchgarwch mwyaf cynhes aIIJ y cydymdeimlad cyffredinol ddangoswyd*,tuag atom fel Eglwys yn ein colled a'n galar ar;ol ein diweddar anwyl a pharchus Weinidog y Parch. D. Roberts. Y mae llythyrau eydymdeimlad sydd wedi eu derbyn oddiwrth liaws o bersonau unigoI, oddiwrth Eglwysi o bob enwad crefyddol, ac oddiwrth wahanol Gymdeithasau eraill yn profi yn amlwg pa mor uchel ydoedd sercb, parch ac ymddiried ein cymydogaeth a'r wlad yn ein diweddar Weinidog, fel dyn pur a chywir, fel boneddwr cristionogol, ac fel Gweinidog cymhwys y Testament Newydd. Ac y mae'r Eglwys yn rhoddi mawr bris ar hyn fel y peth mwyaf gwerthfawr yn nesaf at gydymdeimlad Pen Mawr yr Eglwys Ei Hunan. Derbyn ied yr oil y perthyn iddynt etv. diolchgarwch mwyaf diffuant.— Ydvtyf dros yr Eglwys, THOMAS J. ROBERTS, Ysg.
Advertising
FESTINJOG URBAN DISTRICT COUNCIL. RENDERS are invited for the under- mentioned goods and work for the year commencing April 1st next. COAL. (a) Ordinary House Coal for the Libraries- (Central & LIan) Public Offices and Market Hall; Quality or Seam of Coal and name of Colliery, to be specified; price to. include delivery as directed. (b) Steam Coal for the Staam Roller in small quantities as reqmred; mice to include delivery as directed. jjr (e) Coal for the Gasworks; aixxit 800 tons required during the year Analysis of coal together with, the name of pit and seana must accompany tender; price to include delivery at the Great Western Railway Station, Blaenau Festiniag1 as directed. CARTAGE. (a) For carting coal and other naterial from the Great Western Railway Station to Gasworks. (b) For carting Macadam to and from various parts of the district (for full particulars apply to the Surveyor Mr W. E. Alltwea Williams, C.E. CARTAGE and SCAVENGING. For the removal of house refuse, closet pails and other matters from the various scavenging districts (for full particulars apply to the Sanitany Inspector, Mr George Davies. Tenders properly sealed and endorsed to be sent to the undersigned on or before March 24th. The Council does not bind itself to accept the lowest or any tender. R. 0. DAVIES, Clerc and Solicitor to the Council. Public Offiices, Blaenau Festiniog, March 9th, 1906.