Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Ymrysonfa Aredig Eglwysbach.…

Marwolaeth Adfydus MeddygI…

Pwyllgor Addysg Llanrwst a'r…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pwyllgor Addysg Llanrwst a'r Cylch. Cyfarfyddodd y Pwyllgor ddydd Mawrth yn y Town Hall, pryd yr oedd yn bresenol Mr W. J. Williams fcadeirydd) Parchn. H. Rawson Williams, W. Cynwyd Wil- liams, Mri J. R. Will;ams, Llwyndu W. G. Owen, Bark W. Hughes, Gwernfor, Llanrwst; J. E. Humphreys, clerc Elias Thomas, clerc cynorthwyol; a Thomas Williarr.s, swyddog gorfodol. Capel Garmon a Nebo. I Hysbysodd y Parch. Rawson Williams iddo ef a Mr David Roberts, Capel Garmon, ymweled a'r ysgolion yn Capel Garmon a Nebo, ac fod y gwaith angenrheidiol yn cael ei wneyd. I- Cwynion. I Yn ngivyneb fod cwynion parhaus fod rhywrai yn tori ffenestri Ysgol y Cyngor yn Llanrwst, yr oedd yr heddgeidwaid yn gwneyd ymchwiliad. Dod yn ol. I Yr oedd llythyrau oedd wedi eu hanfon gan y Clerc wedi eu dychwelyd o'r Llythyr- dy fel heb hysbysrwydd digonol o'r cyfeir- iadau, gan fod y cyfryw yn hysbys i'r aelodau, pasiwyd i Mr W. Hughes wneyd ymholiad am y rheswm o'u dyehweliad yn y Llythyrdy. Glanhau yr Ysgolion. I Darllenwyd adroddiadau am y modd y cerir y gwaith o lanhau yr ysgolion yn miaen, ac ar y cyfan yn dra boddhaol. Gofynai Mrs Davies, Llanddoget, am ychwaneg, yr oedd y pris wedi ei ostwng. Yr oedd y swyddog gorfodol yn tystio ei bod yn gwneyd gwaith ardderchog. Methai yr aelodau a deall sut y bu i'r Awdurdodau Addysg ostwng y pris, a phasiwyd i'r Cadeirydd a'r Parch. Cynwyd Williams edrych i mewn. Esgusodion. I Yn ngwyneb y rhybuddion anfonwyd i rieni, darllenwyd rhai esgusion doniol. Yr oedd un meddyg wedi arwyddo tystysgrif fod geneth o Eglwysbach yn wael ar$27ain o Chwefror. Yr oedd yr eneth mewn cyfarfod canu 9-30 y noson ddilynol, ac yn Eisteddfod Llandudno y laf o Fawrth. Nid oedd hyn yn foddhaol, a phasiwyd i erlyn amryw os na cheir gwelliant. Ddim am fod yn galed. I Yr oedd y Pwyllgor mewn anhawsder gyda phlant i wragedd gweddwon, yr oedd rhai eisiau cael dod o'r Ysgol, ond gan eu bod yn mhell o dan yroed nis gellid caniatau, ond pasiwyd i'r Swyddog gasglu enwau yn y gwahanol ysgolion o blant cyffelyb er cael trefnu arholiad iddynt, yr hon os pasir hi a rydd ganiatad. Codi y Cyflog. Darllenwyd llytnyr oddiwrth Glerc Pwyll- gor y Sir fod yr awdurdod hwnw wedi pasio i. godi yn nghyflog dau o P.T's y dref; ond eu bod i fyned allan i gynorthwyo pan fydd galwad. Ysgol Nantyrhiw. Gan fod adeiladu Ysgol yn y lie hwn yn yr arfaeth, pasiwyd mae teimlad y Pwyllgor oedd cael adeilad partiaol ac nid un dros dro. Barnai rhai o'r aelodau y gwellhai presen- oldeb ysgol y dref yn fawr ar ol cael hon.

Advertising