Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

_Y CYNNWYSIAD. I

-PERCHENOGAETH TIROEDD YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PERCHENOGAETH TIROEDD YN NGHYMRU A LLOEGR. Ymhwiliad Hanesyddol a Beiritiadol, wedi ei ysgrifenu yn arbeniyol i FANER AO AMSKBAU CYMBU. ERTHYGL IX. WEDl i HENRY a'i bleidwyr ("free compan- ions") gymmeryd iddynt eu hunain gyfran ddirfawr o eiddo eglwysig, y gorchwyl mawr nesaf i'w gyflawni ydoedd gwneyd eu medd- iannau mor ddiogel ag oedd yn bossibl. Yn ystod y teyrnasiad blaenorol-fel y dangos- wyd eisoes-yr oeddynt wedi dirgymmhell y gfcneuthuriad o ddeddf i sicrhau prydlesoedd meithion, ac hyd yn oed i'w galluogi eu hun- ain i adael mewn ewyllys eu tiroedd i'w haerod. Daethant yn fwy taer a phendant ar ddech- reuad teyrnasiad HENRY VIII., gan achwyn o herwydd anwadalwch ac anniogelwch eu medd- iannau tirol, ac afreoleiddiwch yr olyniaeth etifeddol. A llwyddasant gydag ef, fel y gwnaed deddf (yr 21ain HENRY VIII.), yn eu cynnysgaeddu a'r breiniau a'r hawliau a ofyn- ent; sef, rhoddi iddynt fwy o sicrwydd perch- enogaeth, a phrydlesoedd meithach, &c. Pa fodd bynag, nid oedd dim a foddiai draohwant y barwniaid heb iddynt gael meddiant cwbl a hollol, gydag awdurdod cyfraith, i adael trwy ewyllys, neu Illythyr cymmun," i'w hetifeddion, neu i'w haerod, yr holl arglwydd- iaethau a'r maenorfeydd a feddent hwy eu hunain. 0 ganlyniad, gwnaed deddf arall (y 32ain HENRY VIII.) ar yr 20fed o Orphenaf, 1540, yn rhoddi iddynt yr holl allu a'r anni- byniaeth a chwennychent, ac a geisiwyd gan- ddynt gyda'r fath daerineb a haerllugrwydd. Dygodd y gyfraith hon i mewn chwyldroad ulåwr yn nhrefn ac ammodau perchenogaeth tiroedd yn ein teyrnas. Sylwa BLACKSTONE fod yr amryfal arglwyddiaethau a'r maenor- feydd—y rbai, hyd hyny, a ddelid yn gyffelyb fel y delir prydlesoedd yn ein dyddiau ni, dan ardreth ac ar ammodau pennodol—yn cael eu troi, 0 dan y ddeddf hon, i fod yn berchen- ogaeth cwbl a hollol, gan roddi; gallu ac awd- utdod llwyr i'r tirfeddiannwyr mawrion i adael y tiroedd, y rhai a ddalient o'r blaen fel tenantiaid i'r Goron, i'w hetifeddion trwy lythyr cymmun; yr hyn na bu gyfreithlawn erioed hyd nes y pasiwyd y ddeddt' a enwyd Dyma ddechreuad "perchenogaeth tiroedd" y wlad yn ol y drefn bresennol. Yn ol hyn, llwyddodd y barwniaid i gyf- lawn a diogel sefydlu eu meddiant a'u har- glwyddiaeth personol ar diroedd y wlad, y rhai oeddynt o'r blaen yn eiddo y Goron, neu, y doyrn-as-ac y mae yn eglur fod hyn yn chwyldroad diymwad ar y gyfundrefn flaen- orol. Wele hwynt, mewn gwirionedd, yn dir- feddiannwyr ac yn meddu gallu i'w gadael i'w haerod, a hwythau drachefn i'w haerod, 0 genhedlaeth hyd genhedlaeth, nes dyfod yn unig berchenogion y tir, heb gymmaint a thalyi treth i gynnal y llywodraeth a ganiata- odd iddynt freiniau mor anferth, ar draul ffyniant ac iawnderau y gweddill o'r deiliaid. YN 1692, yn nheyrna-siad WILLIAM a MARY, y gosodwyd y dreth dirol o bedwar swllt y bunt ar werth y tir ar yr adeg hono; ond bu Mnryw gyfnewidiadau pwysig ynglyn a'r dreth hon y ceir eu nodi rywbryd etto. Gwnavra yma adolygiad byr ar yr hyn a Mwnwyd:-Wyth can mlynedd yn ol, daeth haid o ysglyfaethwyr penrhydd a ".edlyd i'r wlad hon, gan gymmeryd medd- lnt o'r tiroedd trwy orthrech, a'u rhatiu eyd. r rngddynt, a pharhasant, mewn cynghrair a minteioeddereill o gyfryw ysglyfaethwyr tramor, o bryd i bryd, i dori gyddfau eu gilydd mewn ymgiprys am y tir, a hyny am dros bum can mlynedd, nes or diwedd i heddwch gael ei sefydlu rhyngddynt, trwy gyttundeb a alwent hwy yn "act of parlia- ment!" Ond senedd ydoedd yn gyfansoddedig o'r barwniaid eu hunain!—yr hon a gyhoedd- odd fod y tiroedd a ddygasant felly i fod yn eiddo personol iddynt eu hanain o hyny allan; ac fod gan eu hetifeddion, neu eu haerod, hawl i'w gadael yn eiddo llwyr i'w haerod hwythau. Ond or:cymmaint o ddiogelwch a gafwyd i berchenogaeth etifeddol trwy actau HENRY VIII., nis gallai y tirfeddianwyr fod yn dawel heb dywallt gwaed ac ysbeilio eu gilydd, mwy nag yn yr hen amseroedd. Cyflawnwyd gweithredoedd gwaedlyd cyffelyb yn nheyrn- asiad EDWARD VI., a'r ddwy frenhines MARY (yr hon a elwir "MARI Waedlyd") ac ELIZA- BETH. Aeth yr holl eiddo eglwysig yn mron i ddwylaw ereill yn amser MARY, yn gystal a pheth anferth o eiddo gwyr lleyg; yr hwn, fel rheol, a ranwyd rhwng y rhai oedd yn ffafr y llys. Ond pan yr esgynodd ELIZABETH i'r orsedd, 'dirymwyd yr hyn a sefydlwyd gan MARY, a rhoddodd hithau feddiannau yr Eglwys, a llawer o eiddo'r gwyr lleyg, i'r blaid fuddugol—i'r clerigwyr a'r lleygwyr. Anfarwolodd JAMES I., yr hwn a ddilynodd ELIZABETH, ei hun trwy afradlonedd ei roddion o diroedd y goron; ac er mwyn chwanegu at gyllid ei drysorgell, efe a greodd gant o farwn- iaethau, am yr hyn y derbyniai dal o swm pen- nodol o arian, i ddisgyn fel teitlau etifeddol, o dad i fab. Hefyd, efe a greodd ddwy a thrigain o 'arglwyddiaethau'—gan nad oedd ond un ar ddeg a deugain o arglwyddi yn y deyrnas pan yr esgynodd efe i'r orsedd. Gwerthai y teitlau o Iarll,' Is-iarll,' a I Barwn,' am wahanol brisiau, yn Lloegr, Cymru, Ysgotland, a'r Iwerddon; a dygwyd oddi ar ereill, ac oddi ar y goron, diroedd lawer i gyfoethogi ychydig o ffafr-ddynion diwerth y Ilys. Dywed Syr JOHN SINCLAIR, yn ei "History of the Revenue," fod JAMES wedi oodi saith gant a phymtheg a thrigain o filoedd o bunnau, trwy werthu teitlau a thiroedd y goron! O'r diwedd, blinodd rhai dynion call ar ei ymddygiad, a ffurfiwyd dwy blaid, y rhai a elwid, Plaid y Llys a Phlaid y Wlad," (Court and Country Parties.) Mewn un ddadl, aeth yr Arglwydd SPENCER i amddiffyn gweithrediadau y llY8 trwy ddyfynu hanes- yddiaeth; ond attebwyd ef gan Iarll ARUN- DELL, yn y geiriau canlynol:—" Digwyddodd hyny, fy arglwydd, pan oedd eich henafiaid chwi yn bugeilio defaid: a!ch henafiaid chwithau," attebai SPENCER, "yn deori ar frad wriaeth." Yn ystod teyrnasiad CHARLES I., daeth afradlonedd anghyfreithlawn y LIywadraeth mor anfad a dinystriol i lwyddiant y wlad nes achosi math o ddaeargryn gwleidyddol trwy y deyrnas; a buasai y canlyniadau yn dra niweidiol pe na ddaethai CROMWELL yn mlaen, gan achub y wlad rhag distryw. Ac y mae yn ffaith nas gaU un enaid byw mo'i gwadu, mai y tirfeddiannwyr mawrion oedd gelynion y ffurf-lvwodraeth newydd, ond y Cadfridog MONK. Ond cymmerodd yntau hefyd ddigon o ofal i fargeinio am deitl ac ystad eyn iddo fradychu y fyddin a'r wladwr- iaeth yr oedd efe wedi tyngu ll* 0 ffyddlon- deb iddi. Pan esgynodd CHARLES II. i'r orsedd, gofal- odd y pendefigion am freiniau newyddion iddynt eu hunain. Gorfodasant CHARLES, fel ammod yr Adferiad, i ddiddymu y symiau o arian a elwir yr aids and dues y buont am ganrifoedd yn eu talu i'r Goron fel cydnab- yddiaeth o'u rhagorfreintiau. Gwnaed hyny ac er mwyn gwneyd i fyny y diffyg a ddilyn- odd y cyfnewidiad hwn yn y cyllid, gosod- wyd trethi a thollau newyddion ar y bobl. Hyd yn hyn-sef hyd wneuthuriad y ddeddf 12 CHARLES II.-yr oedd breninoedd a bren- inesau Lloegr yn cynnal ac yn cadw ea tai, a'u teuluoedd, a'u gweinidogion eu hunain, yn gystal a cbadw urddas a rhwysg y Goron, allan o'r cyllidau tirawlj ac nid yn unig hyny, ond yr oedd gwaddol priodas merch hynaf y brenin, yn ol y Magna Charta, yn cael ei gymmeryd oddi ar y tiroedd, ac nid o'r drysorfa wladol. 'Modd bynag/nid oedd un beiddgarwchyn ormod i CHARLES II., a'i blaid dirfeddiannol yn y senedd, i'w gyflawni. Nid yn unig hwy a dynasant yr hen gyllid oddi ar y tiroedd, gan wneyd i fyny y diflyg trwy feichio y cyhoedd, end pasiasant ddeddfau ereill oedd yn caniatau gwerthiad tiroedd y cyhoedd a'r Goron. Yn unol a'r deddfau 22ain a 23ain CHARLES II., gwerthwyd llawer odir y Goron, a'r rhenti a dalwyd i'r Goron am y tiroedd, a elwid y Fee Farm Rents, am brisiau isel i rai uchel mewn ffafr. Hefyd, rhoddwyd teitlau ac etifeddiaethau i bump o blant ordderch CHARLES II., sef y Dueiaid o Cleve- land, Richmond, Grafton, St. Albans, a Monmouth. Heb law hyny hefyd, gosodwyd treth arbenig ar y cyhoedd er mwyn cynnal rhai o honynt mewn mwy o rwysg:—er esampl, codwyd un swllt y cauldron ar 16 yn yr afon Tyne, a rhoddwyd y doll i'r Due o Richmond. Parhaodd "toll Richmond" hyd y flwyddyn 1831, pan brynwyd hi i fyny gan y Llywodraeth, ar draul y cyhoedd. Can- fyddir, fel hyn, fod meddianniad y tiroedd gan y tirfeddiannwyr, a gormes, bob amser o'r bron wedi-myned law-law a'u gilydd yn yr hen amseroedd; a chawsant o'r diwedd fudd- ugoliaeth derfynol yn nhrawsfeddiant y tir, a throsglwyddiad y gofynion oedd arno ar ysgwyddau y cyhoedd. (Fw orphen yn ein nesaf,)

I lMthM M p