Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

YDAU. _j

--ANIFEILIAID.__I

Family Notices

GALARWISGOEDD.I

Advertising

Advertising

AT EIN GOHEBWYR. I

Advertising

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ymosododd milwyr Osman Digna ar Suakim ddydd Gwener, ond gyrwyd hwy yn ol yn bur rhwydd. Bwriada Mr Jesse Collings fyned ar daith drwy y siroedd canolbarthol, er agor llygaid y bobl ar gwestiwn y tir. Dirwasgwyd y Hong forfilawl "Nap- oleon," perthynol i New Bedford, gan rew, a chollodd 22 o'r dwylaw eu byw- ydau. Dydd Sadwrn, claddwyd gweddillion y Cadfridog Grant yn New York. Dilynid yr elorgergerbyd gan oddeutu 100,000 o beraonait. Dedfrydwyd Charles Harry Boydell i chwe' mis o garchar yn Vienna, ddydd chwe' mis o 1, Sadwrn, am geisio cael arian oddiar Mr Gladstone drwy fygythion. Boreu Iail bu y Parch David Williams, rheithor New Market, farw yn bur ddi- symwth. Gweinyddai yn ei eglwys y Sabboth blaenorol yn ei gynefinol iechyd. Dywedir fod y Cadfridog Booth, o Fyddin yr Iachawdwriaeth, yn bwriadu safyll fal ymgeisydd Radicalaidd dros ran- barth o ddinas Llundain yn yr etholiad nesaf, Achoswyd cryn ddychryn yn Bristol yr wythnos ddiweddaf gan farwolaeth morwr a gyrhaeddodd yno yn ddiweddar o Marseilles. Ofnir iddo farw o'r geri marwol. Dywedir fod brycheuyn a fesura oddeutu 20,000 o filltiroedd ysgwar i'w ganfod y dyddiau hyn ar wyi3L3b yr haul. Gellir ei weled yn rhwydd a gwydr mygedig. Mae tenantiaid Arglwydd Devon yn swydd Limerick, yn bygwth sefyll allan rhag talu eu hardrethoedd iddo, am y 1 heswm na chant ostyngiad o 30 y cant, tra y cynygia yntau 10 y cant iddynt. Tra yr oedd dau foneddwr o'r enwau William Mills a David Mason allan yn saethu colomenod yn Tipton, dydd Iau, aeth yr ergyd allan yn ddamweiniol o un o'u drylliau gan ladd Mr Mills yn y fan. •Cyflwynodd Mr Stuart Rendell, A.S., ddeiseb ar ran rhai o drigolion Llanfyllin yn erbyn Mesur Addysg Ganolradd Cymreig. Feallai eu bod yn glynu wrth yr hen air mai anwybodaeth yw mam- maeth duwioldeb." Yn ychwanegol at ddyrchafiad Cymro yn gadeirydd y Gynhadledd Wesleyaidd, da genym ddeall fod ein cydwladwr y Parch Ishmael Evans wedi ei ethol yn un o'r chwech i lanw y gwagle ar y bwrdd a elwir y legal hundred." Tra yr oedd Mrs Edwards, amaeth- wraig, yn dychwelyd i dy perthynas iddi yn Aberaeron, He yr oedd yn treulio ei gwyliau, syrthiodd i lawr yn farw ar y ffordd. Bernir mai clefyd y galon oedd yr achos o'i marwolaeth. Doallvvn fod pwyllgor Prif-ysgol Aber- ystwyth wedi cymeryd gwesty eang y Queen's Hotel tuag at ddwyn gwaith y coleg yn mlaen tra y bydd yr adeilad a losgwyd yn cael ei adgyweirio. Ystyrir y lie hwn yn fwy manteisiol at y gwaith hyd yn nod na'r hen adeilad. lOs metha—ac y mae hyny yn ddios— I Syr Watkin Williams Wynne a chael eis- teddle yn Nhy y Cyffredin fel cynrychiol- ydd dwyreinbarth sir Ddinbych, sibrydir y ceisir gwellhau ei glwyf drwy ei ddyrch- afu i iarllaeth. Pwy bynag o'r etholwyr a ddymunant roddi yr anrhydedd hon arno bydded iddynt bleidleisio dros "yr ymgeisydd Rhyddfrydol. l.W- Hysbyswyd yn nghynhadledd flyn- yddol y Wesleyaid, yr wythnos ddi- weddaf yn Newcastle, fod 311 o gapelau wedi eu hadeiladu gan y Cyfundeb yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, yn nghyda Y 436 o adeiladau ereill cysylltiol i'r Cyfundeb, y rhai, cyd-rhyngddynt, a gostiasant 646,000p. Hefyd, penderfyn- wyd codi cronfa o 50,000p er sefydlu gorsafoedd cenhadol yn rhanau isaf dinas Llittidain. bu Mr James Lowther yn anerch yr etholwyr yn Barkwith, ac ar ol i un o'i gefnogwyr gynyg pleidlais o ymddiriedaeth ynddo fel eu cynrychiol- ydd, cyfododd amaethwr ar ei draed i gynyg gwelliant pa un oedd i'r perwyl nad oedd gan y cyfarfod ymddiriedaeth yn Mr Lowther, Arglwydd Salisbury, na'r Llywodraeth bresenol, ond yn hy- trach yn Mr Gladstone, y Llywodraeth ddiweddar, yn nghyda Mr Otter, yr ym- geisydd Rhyddfrydol. Cariwyd y gwell- iitnt gyda mwyafrif mawr.