Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

PREGETH Y PARCH EVAN WATKIN.…

[No title]

[No title]

g dolefu (SirDtJffroL I

g (Solofn ^Mr&restoL !

[No title]

[No title]

I_CYFRIF 0 AMRYW FESURAU.I

I MR CHAMBERLAI A RHAGLEN?…

CYMHU YN 1886.-.

[No title]

Y GORNANT. - I

-WALTON. I

golofm g(tugbbiatit. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

golofm g(tugbbiatit. I Hanes yr ??Jt e't-M?M?<? drwy y Bya, I 0 ?/<MMM yr 4Vostf^ hyd yn 6M- o g;lddi?,it David Griffith, DoigeIIau. Caernarfon 0. R. Owen. Y mae cyfnewidiad amlwg a phwysig wedi cymeryd lle yn nodwedd y llyfrau a ddanfonir allan gan y wasg Gymreig yn "ctM V hlvnvddoedd diweddaraf hyn amgen ?' i'r peth oeddynt. Hyd yn gydnmrol ddi- wetldar o'r braidd y meiddid ag antuno dim uwchlaw llyfryn chwech cheiniog, neu swllt, y fan bellaf; a byddai yn ofynol i'r awdwr ei hun ymgymeryd & theithiau blinion er ei hocian ar hyd a lied y wlad rhagbod yn golledwr. Dir yw, fod pethau wedi newid yn ddirfawr erbyn hyn. Y mae genym gyhoeddwyr parchus ac anturiaethus, y rhai drwy eu gwaith yn dwyn allan lyfrau ar raddfa uwchraddol sydd wedi rhoi syrnbyl- iad iachus a nerthol i awduriaeth yn ein plith. Pan y mae dynion astudgar, ysgoleig- aidd a meddylgar yn gweled rhyw obaith i'w gweithiau gael eu liargraphu yn chwaethus a'u gwerthu heb iddynt hwy orfod ymdrafferthu mewn ffordd boenus, ac yn fynych begerllyd, i'w gwerthu, anturiant roi egni ati i anrhegu eu hoes a u cenedl a ffrwyfli addfcd eu meddylian mewn gwedd niwy llafurfawr a thebygol 0 sierhau iddynt safle uwchraddol. yn nheml Ilonyddiaeth. Cyfrifwn y gyfrol hon o eiddo Mr Griffith, Dolgellau, yn un o'r cyfryw. Delia a mater sydd wedi bod braidd yn esgeulusedig gan v Cymry, o leiaf, yn ei wedd mwy gwyddonol, Hanesiaeth Eglwysig. Y mae genym amryw 0 hanesion da a' safonol o'r gwabanol gytun- debau Efengylaidd, eu dechreuad a'u gweith- rediadau; ond y mae braidd bob peth sydd yn yr iaith yn delio a hanes yr Eglwys gy- ffredinol yn dra anfoddhaol. Nid ydynt, i fesur helaeth, ond cymvsgedd anwyddonol 0 festir holaeth, ond ewyie nljloniaeth h b soiliau draddodiadau a chwedloniaeth heb seiliau yn y byd iddynt ond dychymygion yr hen fonachod, y rhai na feddent ddim arall i'w wneyd A'u hamser ond creu dychymygion, nac unrhyw amcan wrth hyny ond mawr glodi eu hurddau. Yn awr fodd bynag, cydrhwng y gyfrol hon gan Mr Griffith, a Hanes yr Athrawiaetk gan Dr Hughes. Liverpool, y mae y Cymro uniaith, ond cfrydg £ u\ wedi ei osod ar dir teg i gyr- haeddyd gwybodaeth weddol gy?r a chyf- lawn yn y maes toreithiog 0 ddyddorol a phwysig hwn. Y mae cynllun Mr Griffith 0 drafod y pwnc yn un hapus iawn i'n bryd ni. Delia â phob canrif ar ei phen ei hun, gan roi penod i bob un. Hefyd trefna bob amgylch- iad yn baragraph rhifedig. Rhydd hyn fath 0 grynodeb a thaclusrwydd i'r matenon au gwnant yn hawdd i'w hamgyffred a'u cofio a chyfeirio atynt. Ceir i ddechreu gyfres 0 ddygwyddiadau cyffredinol yn hyn a hyn 0 baragraphiau rhifedig; yna, yn dilyn, ceir crynodeb o ddygwyddiadau neillduol ac arbenig y ganrif. Cymerer, er enghraipht, y chweched gannt (aewisir non neD un amcan neillduol yn ein cymhell i hyny). Wedi delio & dygwyddiadau cyffredinol y cyfnod mewn 22 0 baragraphiau aiff yn mlaen i nodi dan rif 23, Crefydd yn Nghymru yn y cyfnod;" 24 "Enwogion y cyinod;" 25. C nghoi-'fiiauhyn(,dyganrif;" 26, Hereticiaid." Fel hyn, caiff y dar- llenydd olwg gryno ar bob canrif fel darlun a'i outlines yn glir a phenodol. Ysgrifena yr awdwr mewn arddull brydferth cyfan- soddiad tlws a llyfn yn denu y darllenydd; iaith chwaethus a dullweddau Cymreig. Y mae yr ysbryd yn ddefosiynol, a'r sympathies yn gwbl Efengylaidd. Dyfynwn yr ls-bara- graph canlynol ar y Seintiau, dan brif baragraph 23, sef Crefydd yn Nghymru:" (2.) Y Seintiau. Crybwylla awdwr Hanes y Brytaniaid a'r Cymry fod saint yr Y sgrythyrau a saint' eglwysig yn ddau fath o boblhollol annhebyg i'w gil dd. 'Saint y Beibl,' eb efe, 'yw dynion crefyddol, Crist- lonogion, y rhai a sancteiddiwyd drwy ffydd yn Nghrist; ond Saint Hanes Eglwysig yw nrddo ddynion i wedi eu canoneiddio gan E"lwys Rhufain, a'u galw yn 'Saint' oherwydd rhyw rinweddau oedd ynddynt yn mhell uwchlaw ereill o'u cydfarwolion." Yn ymyl hyn efe a sylwa mai Cristionogion cyffredin ac ymroddgar i ledaenu yr Efengyl oedd y rhai a elwid yn 'saint'wedi'r cwbl, ac mai ychydig 0 sylw a delid iddynt yn eu hoes a'u cenedlaeth; ond i rywrai yn mhen oesoedd ar ol i'w hesgyrn bydru, ddyfeisio eu gorchestgampau goruwchnaturiol, a'u cysegru yn saint,' a phriodoli pob gwrhy- dri iddynt." Yn mhell cyn diwedd y chweched ganrif, fel yr awgrymwyd o'r blaen, yr oedd y seintiau hyn wedi dyfod yn llu mawr iawn. Arferid eti dosbarthu 1 wahanol lwythau, oblegid hanent owa- hanol foneddigion; ac am hyny fe'u had- waenid wrth y fath enwau a'r rhai hyn:- Emyr Llydan Cyff Macsen Wledig Cyff Cynedda, Cyn Coel Coed Hebawg, &c. Yr oedd y prif foncyffion yn naw neu ddeg 0 nifer trayr oedd ereill llai mewn enwog- rwydd yn dra lluosog hefyd. Gyda threigl- iad amser daeth eu blagur gyda'u gilydd i orlenwi y tir yn rhyfedd. Ystyrid eu bod agos oil yn feibion 0 waed a bonedd bren- inol. Honid fod amryw ohonynt 0 genedl- iad goruwchnaturiol, yn debyg i Isaac, Sam- son, neu loan Fedyddiwr. Yn Muchedd Beuno," er enghraipht, dywedir am ei rieni mai dynion oedawg oeddynt, fel na fyddai blant iddynt fyth." Ond ar ryw ddydd gwaith, fel yr oeddynt yn ymddy- ddan, hwy a welynt angel yn dyfod atynt, a'i wisg yn gyn wyned a'r eiry, ac a ddywedodd wrthynt, Byddwch lawen a hyfryd, canys gwrandewis Duw eich gweddi! Yn ganlynol i hyn, ganwyd Beuno. Eu holafiaid a briodolent i'r seint- iau hyn bob math 0 ddoniau rhyfeddol. Gellid meddwl fod eySawni gwyrthiau rn waith mor rwydd iddynt ag anadlu. Dim ond i Beuno ewyllysio, a dyna ben Gwen- frewi yn cael ei osod yn ei le ar ei chorph ar ol ei dori ymaith ft chleddyf. Yn ei syched, gweddiai Elian Gainiad, neu Ysgafn- droed, am ffynon, ac yn y fan, wele Ffynon Elian yn tarddu yn ymyl ei droed..Ami oeddynt y ffynonau a ddaethant i fodolaeth yn y ffordd hon ac nid anfynych y byddai eu ffrydiau yn troi yn win neu laeth at was- anaeth y dwyfolion sychedig! Yr oedd amryw o'r seintiau Cymreig hefyd yn enwog fel rhyfelwyr, megys Cynllo Frenin, liltul Farchog, a Gwrthefyr Fendigaid. Saint milwraidd hefyd oedd Clydwyn Rhawin, Rhun a Nefydd. Yr oedd rhai o'r saint penaf wedi dyfod i wladychu yma o fanau ereill. Un felly oedd Emyr Llydan, yr hwn oedd nai i Garmon, ac a ddaethai drosodd gydag ef i'r Ynys hon. Yr oedd gan hwn lawer 0 blant ac wyrion, a phob un, meddai, yn sant dihalog ac epilgar." Rhydd y dyfyniad uchod enghraipht o ddull cynwysfawr yr awdwr o grynhoi ei faterion a'i ffordd ddeheuig o osod llawer mewn cylch byr, ac mewn dull darllengar. Nis gallwn ddyweyd ein bod yn syWMo i mewn ft %rn neu ddadganiad yr awdwr ar bob peth a ddaw dan sylw o ddechreu y gyfrol i'w diwedd, ond y mae y pethau r. gwahaniaethwn oddi wrtho, rha.id addefy, yn ychydig iawn, ac yn y rhan fwyaf o'r esiamplau yn gymharol ddibwy. Er enghraipht, gwahaniaethwn oddi wrtho yn rha o'i ddyddiadau a fabwysiada lie y mae amheuaeth yn eu cyICh. uweiwn, er enghraipht, ei fod yn ei golofn amseryddol o ddygwyddiadau y ganrif gyntaf yn mab- wysiadu y dyddiad diwedaaraf a roir o ysgifeniad llyfr y Dadguddiad, yn hytrach nar un cynarach. Yn hyn barnwn ef yn anghywir; ond mater o opinwn ydyw wedi'r cwbJ. Diolch yn fawr i Mr Griffith am ei gyfrol penigamp. Dymunem gydnabod derbyniad y can- lynol :—" Canmlwyddiant yr Ysgol Sab- bothol," "YrHaul," "Yr Herald Cenhadot," "Dysgedydd y Plant," "Y Drysorfa," "Y Dysgedydd," "Trysorfa y Plant," "Moses a'r Prophwydi," "Yr Eurgrawn Wesley- aidd," "Cydymaith yr Y sgol abbothol,"&e-

PENSARN, GER AMLWCH,I